Neidio i'r cynnwys

Cymru Fu/Twm Sion Catti

Oddi ar Wicidestun
Cant o Hen Bennillion Cymreig Cymru Fu

gan Isaac Foulkes

Mân-gofion 2


TWM SION CATTI

GWR boneddig, ac yspeiliwr; hynafiaethydd, a chnaf diriaidus; haelionus i'r tlawd, galluog fel ysgolaig, a dychryn pawb yn perchen eiddo. Dyna y cymeriad a rydd traddodiad i Twm Sion Catti, ac er mor wrthgyferbyniol yr ymddengys ar yr olwg gyntaf, nid ydym ni yn myned i wadu ei wirionedd. Ni buasai mwy o son am y Twm hwn mwy na rhyw Dwm arall oni bai fod neillduolrwydd yn perthyn iddo, a dylid cofio nad ydyw hynodrwydd ond esgus gwan dros annghrediniaeth, er fod yn naturiol i'r farn o'i herwydd fod yn fwy gochelgar.

Dywedir mai mab ydoedd Twm Sion Catti i Syr John Wynn, o Wydir; mai ei enw priodol oedd Thomas Jones, ac i'w ffugenw darddu o Twm, mab Sion a Chatti neu Catherine. Blodeuodd tua'r flwyddyn 1590 hyd 1630. Preswyliai mewn lle o'r enw Porth y Ffynon, yn agos i Dregaron, a gelwir y tŷ hwnw hyd y dydd heddyw gan bobl yr ardal yn Blas Twm Sion Catti. Ystyrid ef yn brydydd a hynafiaethydd mor ragorol fel y dywedodd yr enwog Dr. John Dafydd Rhys, ei gydoeswr, am dano:— "A phenaf a pherpheithiaf, a hynny yn ddiamheu, y bernir Thomas Sion, o Borth y Phynnon, yn ymyl Tref Garon. A phan ddarpho am dano, ef a fydd ddigon petrus y ddamwain allu o hono yr hawc adu yn ei ol un cymhar iddo: na chwaith neb ryw achwr a ddichon, o ran bod mor gyphredin ag ef ynn yr wybodaeth honn, wneuthur cymeint a phwyso parth ac atto." Ond er mor bwysig y dichon y deyrnged hon o barch iddo fel hynafiaethydd fod oddiwrth awdurdod mor uchel eto adwaenir Twm Sion Catti yn well ar gyfrif ei ystranciau a'i ladradau. Mor fawr ydoedd ei ddylanwad ar y wlad yn y cymeriadau hyn fel y dynododd rhywun ef gyda y llinellau hyn:

"Mae llefein mawr a gwaeddi,
Yn Ystradffin eleni;
Mae'r ceryg nadd yn toddi'n blwm
Rhag ofn Twm Sion Catti."

Yn awr rhoddwn engraifft neu ddwy o'i ddiriaidau:— Cyfarfyddodd a dyn yn myned i brynu crochan, ac addawodd gael un rhad iddo. Yna hwy a aethant tua masnachdy, a phan oeddynt yn gofyn pris rhai dywedodd Twm wrth y masnachydd fod twll yn un o honynt, yr hyn a wadodd y dyn yn benderfynol. Er mwyn profi yr hyn a ddywedai, dymunodd Twm ar i'r siopwr roddi ei ben ynddo, ac yna y caffai weled, a thra yr oedd pen y masnachydd yn y crochan, arwyddodd ar i'r dyn tlawd gymeryd crochan arall ymaith. Wedi i'r truan graffu ei oreu, tynodd ei benglog gan sicrhau nad oedd yr un twll yn y crochan. "Yna," meddai Twm, "pa fodd y gallit ti roddi dy ben ynddo?".

Dro arall, efe a ganfu hen wraig yn y farchnad, a rholyn frethyn wrth ei hochr, ac efe a gydiodd un pen iddo wrth ei ddillad ei hunan; a thrwy roddi tro cyflym efe a gymerodd y brethyn oddiamgylch i'w gorph. Wedi i'r wraig wybod ei golli, hi a edrychodd o'i hamgylch yn graff, a phan welodd Twm hi yn syllu yn ammheus ar y brethyn oedd ganddo ef, efe o ddynesodd ati ac a ffugiodd gydofidio â hi, a gresynu fod cynifer o ddyhirod yn dyfod i ffeiriau, a rhyfeddu iddi fod mor esgeulus, a dywedyd ei fod ef bob amser er mwyn diogelwch yn rholio ei frethyn o'i amgylch ac yn ei wnio wrth ei ddillad.

Un tro arall, efe a gafodd wybod fod lleidr pen ffordd nodedig yn y gymydogaeth, ac efe a benderfynodd roddi cais teg ar ei yspeilio. Tuag at ddwyn hyny oddiamgylch, efe a farchogodd ar hen geffyl gwael druenus i'w gyfarfod, gan gymeryd gydag ef god ledr yn llawn o hoelion. Gorchymynodd y lleidr iddo aros, a rhoddi ei arian i fynu. Ymddangosai Twm yn hytrach yn anewyllysgar i wneud hyn, eithr pan fygythiodd y lleidr ei saethu efe a'i taflodd dros y gwrych. Y lleidr dan ei regi a barodd iddo ddal pen ei geffyl; ond tra y bu efe yn myned dros y clawdd Twm a newidiodd ddau geffyl, ac a garlamodd ymaith nes oedd y ffordd yn gwreichioni o tano.

Ac nid rhyw greadur calon oer, caled, ac amddifad o nwyfiant, ydoedd Twm, a'i ddichellion wedi llwyr fogi ei deimladau caruaidd, ond dygai ei gyfrwysdra gydag ef hyd yn nod i awyr gysegredig serch. Efe a syrthiodd mewn cariad ag etifeddes Ystradffin, yn swydd Gaerfyrddin, ond gydag ychydig o obaith am lwyddiant, a'r gobaith hwnw yn treiddio i'w feddwl trwy ei gynllwynion. Efe a ymwelai â'i anwylyd yn yr hwyr, ac nid allai mewn un modd ei pherswadio i ddyfod allan ato, a hyny o ddiffyg cydsyniad ei rhieni. Un noson hi a wrthododd yn deg wrando arno, ac er o'i hanfodd, gorchymynodd iddo beidio dyfod byth yn agos i'r tŷ drachefn. Wel, os rhaid iddi fod felly, "ebe Twm, "yr ydwyf yn deisyf arnoch roddi imi eich llaw unwaith cyn yr ymadawom am byth." Y foneddiges a ostynodd ei llaw drwy y ffenestr, a Thwm yn uniongyrchol a

. afaelodd ynddi, ac yn lle ei chusanu yn awyddus, tyngodd y torai efo ei llaw hi ymaith, os na phriodai hi ef yn ddiatreg. Yr oedd offeiriad gerllaw, y fodrwy a roddwyd am ei bys, a'r seremoni a gyflawnwyd. Ni wyddom pa beth a ddilynodd briodas mor swta ac annaturiol, ond os oes coel ar dyb gyffredin dynolryw am flaenafiaid priodas, nid ellir casglu i'r ddau fwynhau llawer o hapusrwydd oddiwrth eu gilydd. Pa fodd bynag, dywedir fod cyfnewidiad hollol wedi cymeryd lle yn muchedd Twm Sion Catti ar ol hyn; iddo adael llwybrau helbulus lladrad, a chynghori ei hen gymdeithion i wneud yr un modd. Y mae ogof mewn craig yn agos i Ystradffin, a elwir "Ogof Twm Sion Catti," dywedir mai yno y trigai ein harwr cyn iddo briodi.


Nodiadau

[golygu]