Cymru Fu/Cant o Hen Bennillion Cymreig

Oddi ar Wicidestun
Noson yn Yr Hafod Cymru Fu

gan Isaac Foulkes

Twm Sion Catti


CANT O HEN BENNILLION CYMREIG.

CLYWAIS ddadwrdd, clywais ddwndro,
Clywais bart o'r byd yn beio;
Ond ni chlywais neb yn dadgan
Fawr o'i hynod feiau'i hunan.

Pan fo seren yn rhagori,
Fe fydd pawb a'i olwg arni;
Pan ddaw unwaith gwmwl drosti,
Ni fydd mwy o son am dani.

Dacw lwyn o fedw gleision,
Dacw'r llwyn sy'n torri'm calon;
Nid am y llwyn yr wy'n och'neidio,
Ond am y ferch a welais ynddo,

Tros y môr y mae fy nghalon;
Tros y môr y mae foch'neidion;
Tros y môr y mae f'anwylyd,
Sy'n fy meddwl i bob mynyd.


Hawdd yw d'wedyd, " Daccw'r Wyddfa;"
Nid eir drosti ond yn ara';
Hawdd i'r iach, a fo'n ddiddolur,
Beri i'r claf gymmeryd cysur.

Dod dy law, ond wyt yn coelio,
Dan fy mron, a gwylia'm briwo;
Ti gei glywed, os gwrandewi,
Swn y galon fach yn tori.

Ow, fy nghalon! tor os tori,
Pa ham yr wyd yn dyfal boeni,
Ac yn darfod bob yn 'chydig,
Fal ia glas ar lechwedd lithrig.

Trwm y plwm, a thrwm y ceryg,
Trwm yw calon pob dyn unig;
Trymaf peth tan haul a lleuad,
Canu'n iach lle byddo cariad.

Da gan adar mân y coedydd;
Da gan ŵyn feillionog ddolydd:
Da gan i brydyddu'r hafddydd
Yn y llwyn, a bod yn llonydd.

Nid oes rhyngof ag ef heno
Onid pridd, ar arch, ar amdo:
Mi fum lawer gwaith yn mhellach,
Ond nid erioed â chalon drymach.

Hiraeth mawr, a hiraeth creulon,
Hiraeth sydd yn tori'm calon:
Pan f 'wyf dryma'r nos yn cysgu,
Fe ddaw hiraeth, ac a'm deffry.

Tebyg yw dy lais yn canu
I gog mewn craig yn dechreu crygu;
Dechreu cân heb ddiwedd arni;
Harddach fyddai iti dewi.

Brith yw'r ser ar noswaith oleu,
Brith yw meillion Mai a blodau;
Brith yw dillad y merchedau,
A brith gywir ydynt hwythau.

Rhois fy mryd ar garu glanddyn;
Fe roes hwn ei serch ar rywun;
Hono roes ei serch ar araíl:
Dyna dri yn caru'n anghall.


Yn Hafod Elwy'r gog ni chân,
Ond llais y frân sydd amla';
Pan fo hi decaf ym mhob tir,
Mae hi yno yn wir yn eira.

Llun y delyn, llun y tannau,
Llun cyweirgorn aur yn droiau;
Tan ei fysedd, O, na fuasai
Llun fy nghalon union inau!

Awel iachus sy'n mhen Berwyn,
Lle i weled llawer dyffryn;
Ac oni bai'r Arenig ddiffaeth,
Gwelwn wlad fy ngenedigaeth.

Ni chân cog ddim amser gaua',
Na chân telyn heb ddim tanna';
Ni chân calon, hawdd iwch wybod,
Pan fo galar ar ei gwaelod.

Sawl a feio arnaf beied,
Heb fai arno, nac arbeded;
Sawl sy' dan eu beiau beunydd,
Fe eill rhei'ny fod yn llonydd

Dacw'r llong a'r hwyliau gwynion,
Ar y môr yn myn'd i'r Werddon:
Duw o'r nef, rho lwyddiant iddi,
Er mwyn y Cymro glân sydd ynddi!

Gwyn eu byd yr adar gwylltion,
Hwy gant fynd i'r fan a fynon—
Weithiau i'r môr, a weithiau i'r mynydd,
A d'od adref yn ddigerydd.

Dyn a garo grwth a thelyn,
Sain cynghanedd, cân, ac englyn,
A gâr y pethau mwyaf tirion
Sy'n y nef ym mhlith angylion.

Yr un ni charo dôn a chaniad,
Ni cheir ynddo naws o gariad;
Fe welir hwn, tra byddo byw,
Yn gas gan ddyn, yn gas gan Dduw.

Cleddwch fi, pan fyddwyf farw,
Yn y coed dan ddail y derw;
Chwi gewch weled llanc penfelyn.
Ar fy medd yn canu'r delyn.


A mi'n rhodio mynwent eglwys,
Lle'r oedd amryw gyrph yn gorphwys,
Trawn fy nhroed wrth fedd f'anwylyd,
Clywn fy nghalon yn dymchwelyd."

Gwedwch, fawrion o wybodaeth,
O ba beth y gwnaethpwyd hiraeth;
A pha ddefnydd a roed ynddo,
Nas darfyddai wrth ei wisgo?

Blodau'r flwyddyn yw f'anwylyd,
Ebrill, Mai, Mehefin hefyd;
Llewyrch haul yn t'wynu ar gysgod,
A gwenithen y genethod.

Geiriau mwyn gan fab a gerais,
Geiriau mwyn gan fab a glywais;
Geiriau mwyn ynt dda tros amser,
Ond y fath a siomodd lawer.

Mwyn, a mwyn, a mwyn yw merch,
A mwyn iawn lle rhoddo'i serch;
Lle rho merch ei serch yn gynta',
Dyna gariad byth nid oera.

Tro dy wyneb ata'i 'n union;
Gyda'r wyneb tro dy galon;
Gyda'r galon tro d'ewyllys;
Ystyria beth wrth garwr clwyfus.

Lle bo cariad y canmolir
Y rhyw ddyn yn fwy na ddylir;
Ond, le byddo digter creulon,
Fe fydd beiau mwy na digon.

Tros y mor mae'r adar duon;
Tros y mor mae'r dynion mwynion;
Tros y mor mae pob rhinweddau;
Tros y mor ma'm cariad inau.

Melys iawn yw llais aderyn
Fore haf ar ben y brigyn;
Ond melusach cael gan Gweno
Eiriau heddwch wedi digio.

Mae cyn amled yn y farchnad
Groen yr oen a chroen y ddafad,
A chyn amled yn y llan,
Gladdu'r ferch a chladdu'r fam.


Ond ydyw yn rhyfeddod
Bod danedd merch yn darfod;
Ond, tra yn eu geneu chwyth,
Ni dderfydd byth ei thafod,

Robin goch sydd ar yr hiniog,
A'i ddwy aden yn anwydog;
A ddyweda mor ysmala,
"Mae hi'n oer, fe ddaw yn eira."

Caued pawb ei ddrws yn sydyn
Mae'r eira'n barod er ben Berwyn;
Hilyn gwyn i hulio'n Gwanwyn
Ddaw i lawr a rhew i'w ganlyn.

Yn y môr y byddo'r mynydd
Sydd yn cuddio bro Meirionydd:
Na chawn unwaith olwg arni,
Cyn i'm calon dirion dori.

Rhywun sydd, a Rhywun eto,
Ac am Rywun 'rwy'n myfyrio;
Pan f'wyf dryma'r nos yn cysgu,
Fe ddaw Rhywun ac a'm deffry.

Bum yn claddu hen gydymaith,
A gododd yn fy mhen i ganwaith;
Ac yr wy'n anmheu, er ei briddo,
Y cyfyd yn fy mhen i eto.

Blin yw caru yma ac acw,
Blin bod heb y blinder hwnw;
Ond o'r blinderau blinaf blinder,
Cur annifyr caru'n ofer.

Mi ddarllenais ddod yn rhywfodd
I'r byd hwn wyth ran ymadrodd;
Ac i'r gwragedd (mawr lles iddynt)
Fyn'd å saith o'r wyth—ran rhyngddynt

Lle bo cariad y canmolir
Mwy, ond odid, nag a ddylir;
A chenfigen a wŷl feion
Lle na byddo dim achosion.

Medi gwenith yn ei egin
Yw priodi glas fachgenyn;
Wedi ei bau, ei gau, a'i gadw,
Dichon droi'n gynauaf garw.


Gwae a gario faich o gwrw
Yn ei fol i fod yn feddw:
Trymaf baich yw hyn o'r beichiau,
A baich ydyw o bechodau.

Hwn yw mam y cam a'r celwydd,
Lladd, a lladrad, ac anlladrwydd:
Gwna gryf yn wan, a gwan yn wanach,
Y ffel yn ffol, a ffol yn ffolach.

Tebyg ydyw morwyn serchog
I fachgen drwg mewr tŷ cymmydog:
"A fyni fwyd?" "Na fynaf mono"
Eto er hyny yn marw am dano.

Canu wnaf a bod yn llawen,
Fel y gog ar frig y gangen;
A pheth bynag ddaw i'm blino,
Canu wnaf a gadael iddo.

Llawn yw'r môr o heli a chregyn;
Llawn yw'r wy o wyn a melyn;
Llawn yw'r coed o ddail a blodau;
Llawn o gariad merch wyf finnau.

Yn nglan y môr mae ceryg gleision;
Yn nglan y môr mae blodau'r meibion;
Yn nglan y môr mae pob rhinweddau;
Yn nglan y môr ma'm cariad innau.

Dacw f'anwyl siriol seren,
Hon yw blodau plwyf Llangeinwen;
Dan ei throed ni phlyg y blewyn,
Mwy na'r graig dan droed aderyn.

Ni thoraf fi mo'm calon lawen,
O drymder gwaith a wnaeth un bachgen:
Trech yw natur na dysgeidiaeth;
Rhodiaf beth,—nid wyf ond geneth.

Mi feddyliais ond priodi
Na chawn ddim ond dawnsio a chanu;
Ond beth a ges ar ol priodi,
Ond siglo'r cryd a sio'r babi.

Siglo'r cryd â'm troed wrth bobi,
Siglo'r cryd â'm troed wrth olchi,
Siglo'r cryd yn mhob hysywaeth,
Siglo'r cryd sy' raid i famaeth.


Gochel neidr mewn gardd lysiau,
Gochel fab a'i fwynion eiriau;
Os caiíf hwnw'n llwyr dy feddwl,
Cilio wna fel haul dan gwmwl.

Tri pheth sydd hawdd ei siglo;
Llong ar fôr pan fo hi yn nofio,
Llidiart newydd ar glawdd ceryg,
A het ar goryn merch foneddig.

Mi fûm yn rhodio glan môr heli,
Gwelwn wylan wen lliw'r lili
Ar y traeth yn sychu ei godrau,
Wedi ei gwlychu gan y tonau.

Mi rois fy mhen i lawr i wylo,
Fe ddaeth y wylan ataf yno;
Mi rois lythyr dan ei haden
I fyn'd at f'anwyl siriol seren.

Pa ham mae'n rhaid i chwi mo'r digio
Am fod arall yn fy leicio?
Er fod gwynt yn ysgwyd brigyn,
Mae'n rhaid cael caib i godi'r gwreiddyn.

Mi rois fy llaw mewn cwlwm dyrys;
Deliais fodrwy rhwng fy neufys;
Dywedais wers ar ol y person, —
Y mae'n edifar gan fy nghalon.

Mi rois goron am briodi:
Ni rof ffyrling byth ond hyny:
Mi rown lawer i ryw berson,
Pe cawn i'm traed a'm dwylaw'n rhyddion.

Pe bai gwallt fy mhen yn felyn,
Fe wnai dannau i'w rhoi'n eich telyn;
Ond am nad yw fy ngwallt ond gwinau,
Rhaid i'ch telyn fod heb dannau.

Yn sir Fôn mae sïo'r tannau;
Yn Nyffryn Clwyd mae coed afalau;
Yn sir Fflint mae tân i ymdwymo,
A lodes benwen i'w chofleidio.

Tebyg iawn wyt i'r ddyllhuan,
O bren i bren bydd hono'i hunan.
A phob 'deryn yn ei churo;
Tebyg iawn wyt ti i hono.


Bum yn caru dau'r un enw,
Un yn lân a'r llall yn salw;
Gyda'r salw y mae'r moddion;—
Bachgen glân a gâr fy nghalon.

Mari lân, a Mari lon,
A Mari dirion doriad;
Mari ydyw'r fwyna'n fyw,
A Mari yw fy nghariad;
Ac onid ydyw Mari'n lân
Ni wiw i Sian mo'r siarad.

Mae yn y Bala flawd ar werth,
A Mawddwy berth i lechu;
Mae yn Llyn Tegid ddw'r a gro,
A gefail go'i bedoli;
Ac yng Nghastell Dinas Brân
Ddwy ffynnon lân i'molchi.

Mi af odd yma i Aberdaron,
Lle mae tyrfa o bobl ffolion;
Os oes cymhar imi ar gerdded,
Dyma'r fan lle caf ei weled.

Fe ellir rhodio llawer ffair,
A cherdded tair o oriau,
A charu merch o lawer plwy',
Heb wybod pwy sydd oreu:
Mae'n anhawdd dewis derwen deg,
Heb arni freg yn rhywle.

Aelwyd serch sy rhwng fy nwyfron,
Tanwydd cariad ydw'r galon;
A'r tân hwnw byth ni dderfydd,
Tra parhao dim o'r tanwydd;

A ffyddlondeb yw meginau,
Sydd yn chwythu'r tan i gyneu;
A, maint y gwres, nid rhyfedd gweled
Y dw'r yn berw dros fy llygaid.

Dwy wefus, Bessi bêr,
Sydd iraidd lruer aeron;
Ac mor felfedaidd, geinwedd, gu,
Fal gweunydd blu dy ddwyfron;
Ond yw ryfedd, teg dy liw,
Mor galed yw dy galon!


Mi af oddi yma i'r Hafod Lom,
Er bod yn drom fy siwrnai;
Mi gaf yno ganu cainc,
Ac eiste' ar fainc y simne';
Ac ond odid dyna'r fan
Y byddaf dan y bore.

Gwedd holl aniau a gyfnewid
Cyn y gwelwyf fy anwylyd,
Bydd y meillion ar y meusydd,
Cân yr adar yn y coedydd:
Ond un peth ni all gyfnewid,
Sef fy nghalon i, f'anwylyd.

Yma a thraw y maent yn sôn,
A minnau'n cyson wrando,
Nas gwyr undyn yn y wlad
Pwy ydyw'm cariad eto;
Ac nis gwn yn dda fy hun
A oes im' un ai peidio.

Rhaid i bawb newidio byd,
Fe ŵyr bob ehud anghall;
Pa waeth marw o gariad pur
Na marw o ddolur arall?

Bu'n edifar, fil o weithiau,
Am lefaru gormod eiriau;
Ond ni bu gymaint o helyntion
O lefaru llai na digon.

I ba beth y byddaf brudd,
A throi llawenydd heibio?
Tra b'wyf ieuanc ac yn llon,
Rho'f hwb i'r galon eto;
Hwb i'r galon, doed a ddel,
Mae rhai na welant ddigon;
Ni waeth punt na chant mewn côd,
Os medrir bod yn foddlon.

Tro yma d'wyneb, f'enaid fwyn,
A gwrando gwyn dy gariad;
Gwn nad oes un mab yn fyw
Na sercha liw dy lygaid.


Mi wyf yma, fal y gweli,
Hieb na chyfoeth na thylodi;
Os meiddi gyda mi gydfydio,
Di gei ran o'r fuchedd hono.

Mae llawer afal ar frig pren
A melyn donen iddo,
Na thâl y mwydion tan ei groen
Mo'r cym'ryd poen i ddringo
Hwnw fydd cyn diwedd ha'
Debyca' a siwra' i suro.

Mwyn yw llun a main yw llais
Y delyn fernais newydd,
Haeddai glod am fod yn fwyn—
Hi ydyw llwyn llawenydd:
Fe ddaw'r adar yn y man
I diwnio dan ei 'denydd.

Daw ydyw'r gwaith, rhaid dweyd y gwir,
Ar fryniau sir Feirionydd:
Golwg oer o'r gwaelaf gawn,
Mae hi eto'n llawn llawenydd:
Pwy ddysgwyliai canai cog
Mewn mawnog yn y mynydd.

Er melyned gwallt ei phen,
Gwybydded Gwen lliw'r ewyn,
Fod llawer gwreiddyn chwerw'r ardd
Ac arno hardd flodeuyn.

Mi ddymunais fil o weithiau
Fod fy mron yn wydr goleu,
Fel y gallai'm cariad weled
Fod y galon mewn caethiwed.

Tra bo Môn â mor o'i deutu,
Tra bo dwr yn afon Gonwy,
Tra bo marl dan Graig y Dibyn,
Cadwaf galon bur i rywun.

Meddwch chwi pa oreu im' eto,
Yw bod yn glaf o serch ai peidio?
Nes cael gwybod pwy ennilla,
Ai hi a ga', ai mi a golla'.


Maent hwy yn dywedyd mai lle iachus
Yw glan y môr i eneth glwyfus:
Minau sydd yn glaf o'r achos;
Mi af i lân y môr i aros.

Mi fum gynt yn caru glanddyn,
Ac yn gwrthod pob dyn gwrthyn:
Ond gweld 'rydwyf ar bob adeg,
Mai sadia'r mur po garwa'r gareg.

Maent hwy'n d'weyd na chaf edrych
Ar eich cudyn melyn manwych;
Ni wnaeth Duw mo'r byd cyn dosted
Ni chaiff pawb a'i olwg weled.

Derfydd rhew a derfydd gauaf,
Fe ddaw'r hâf a'i wên dirionaf:
Ond ni ddaw un pêr ddyddanwch
Byth i mi sy'n llawn o dristwch.

Drwg am garu, drwg am beidio,
Drwg am droi fy nghariad heibio;
Drwg am godi'r nos i'r ffenest':
Da yw bod yn eneth onest.

Cwlwm caled yw priodi,
Gorchwyl blin gofalus ydi;
Y sawl nis gwnaeth nis gŵyr oddiwrtho,
Ond caiff wybod pan ei gwnelo.

Blewyn glas ar afon Dyfi
A hudodd lawer buwch i foddi;
Lodes wen a'm hudodd innau
O'r uniawn ffordd i'w cheimion lwybrau.

Nid cymhwys dan un iau y tyn
Ych glân ac asyn atgas;
Dwy natur groes mewn tŷ wrth dân
Ni harddant lân briodas.
Cais i ti ddyn o natur dda
Mewn gweithred a chymdeithas,
Fo'n dilyn ffyrdd gwir deulu'r ffydd,
Cei ddedwydd ddydd priodas.



Nodiadau[golygu]