Cymru Fu/Y "Wlad" a "Syr Oracl"

Oddi ar Wicidestun
Cader Idris Cymru Fu
Y "Wlad" a " Syr Oracl"
gan Isaac Foulkes

Y "Wlad" a " Syr Oracl"
Dalen o Goflyfr y Marw

Y "WLAD" A "SYR ORACL."

UN o ddyledswyddau cywreiniaf yr hynafiaethydd ydyw olrhain tarddiad enwau lleol; ac o dan rai amgylchiadau, y mae yn ofynol i'r dysgedigion hyn feddu darfelydd lygadog anarferol, canys nid ellir rhoddi eglurhâd yn y byd ar ambell enw heb lusgo gair neu chwedl gerfydd eu clustiau o'r pellderoedd, ac yna eu naddu a'u tacluso modd yr edrychont yn lled drefnus, ac y caffont eu rhwth-lyncu gan y chwilfrydus a'r addolwr Rhyfeddod. Pan na fyddo darnodiad "Syr Oracl" yn ei boddloni, aiff y "Wlad" at y gwaith o ddarnodi ei hunan, ac y mae yn ddifyr sylwi ar y gwahaniaeth barn sydd rhwng y naill a'r llall. Y mae y blaenaf yn credu mai doethineb ydyw ei fympwy ef, a'r olaf yn tybied mai gwirionedd ydyw ei gredoau yntau. Perthyn i ddosparth y "Wlad" yr wyf fi, canys y mae yn dda genyf bobpeth poblogaidd, ac y mae yn hawddach genyf gredu tystiolaethau diymhongar fy nghydwladwyr, na breuddwydion gwagsaw hen fynachod ffug-santeiddiol y Canol Oesau — y mae yn well genyf draddodiadau Cymreig na hanesion Lladin. Gelwir ni gan yr Oraclau "yn werin anwybodus:" gadewch i hyny fod — y mae llawer o ddysg neu rywbeth arall wedi gyru lluaws o honynt hwythau yn dra ynfyd. Barned y darllenydd oddiwrth y ffeithiau canlynol pa un o'r ddwyblaid sydd deilyngaf o ymddiried.


Dyna darddiad yr enw Rhuthyn. Dywed y "Wlad," yn ei dull prydferth ei hun, mai gwraig o'r enw Ruth oedd yn cadw gwesty yn yr amser gynt gerllaw pen y dref hono; a chan fod ymwelyr a theithwyr yn lletya dan ei chronglwyd, ac mai ei thy hi oedd y mwyaf yn y dref (pentref y pryd hwnw), dechreuwyd galw y lle yn "Ruth Inn." Sillebir yr enw gan y "Wlad" a'r Saeson hyd y dydd hwn yn Ruthin; felly nid oes dim cyfnewidiad yn y gair ond fod yr n olaf wedi ei gadael allan er mwyn arbed papur wrth ysgrifenu. Lol oedd peth. fel hyn yn nhyb Syr Oracl; yr oedd basder o'r fath yn wrthun i'r eithaf yn ei olwg. Wedi iddo gynhyrfu y llwch oddiar ei lyfrau Lladin, a manwl gyniweirio ynddynt am hen enw y lle, cafodd nad oedd enw yn y byd arno. Pa fodd bynag, darganfyddodd mai Castell Coch yn Ngwernfor y gelwid castell Rhuthyn gynt. Eithafion anmhosibilrwydd fuasai priodoli enw presenol y dref i hen enw ei chastell; ac o ganlyniad, nid oedd dim i'w wneud ond dyfeisio gwreiddyn newydd spon, fel hyn : — Saif prif ranau y dref ar graig o dywod coch neu rhudd. Oddiwrth hyn, medd y Doethawr Oracl, y tyfodd enw y lle yn Rhuddyn; a rhag i bobl foneddigaidd yslefrian wrth leisio y sain feddal dd, a rhag i'r gwyryfon ieuainc gael esgus i lispian, diswyddwyd yr dd, a'i clìyfnither th a deyrnasodd yn Rhuthyn yn ei lle hi.


Dyna Dinbych hefyd, sillebir yr enw hwnw gan un Oracl yn "Dimbach," gan farnu mae yn debyg nad oedd dim bachau pysgota ar werth yno gynt. Oracl arall a'i geilw Dimbech, gan roi ar ddeall nad oedd yno bechod na'i ganlyniadau adfydus. Ond sylwer mor dra rhagorol ydyw syniad y "Wlad" ar darddiad y gair : — -Yr oedd math o ddraig neu sarff asgellog frawychus a elwid Bych, yn llochesu tua Chastell Caledfryn yn Rhos (enw henafol Castell Dinbych), yr hwn a laddai ddyn ac anifail, ac a barai i'r hen dref fod yn annghyfanedd. Ni feiddiai neb a byw fyned yn agos at ffau yr angenfil dinystriol hwn, hyd onid anturiodd un o Salsbris, Lleweni, yr hwn a adwaenid yn mhlith ei gydwladwyr wrth yr enw Syr John y Bodiau, am fod iddo wyth bys a dwy fawd ar bob llaw. Y mae cerflun o hono yn yr Eglwys Wen, gerllaw Dinbych, yn bresenol, a'i ddwylaw yn ateb i'r dysgrifiad uchod. Efe a ornestodd â'r Bych, a bu ymladdfa enbydus rhyngddynt — yr angenfil yn poeri tân, ac â'i gynffon anferth yn gwneud pob ymgais i orthrechu y dewrddyn cyntaf a feiddiodd ei wrthsefyll. Pa fodd bynag, llwyddodd Syr John i blanu ei waewffon o dan ei aden. Syrthiodd y bwystfil ar lawr, a chydag ysgrech ddolefus nes oedd y creigiau amgylchynol yn diaspedain, efe a drengodd. Torodd y gorchfygwr ben y bwystfil, a dygodd ef yn fuddugoliaethus ychydig o'r fan, lle yr oedd lluaws mawr o'i gyfeillion a phobl y dref a'r ardal yn disgwyl yn bryderus am dynged yr ornes; a phan ddaeth i'w golwg, gwaeddodd nerth ei ben, "Dim Bych." Os oes rhyw ddyn nad all weled rheswm mewn peth fel hyn, dywedwch witho am brynu spectol bren a chwilio trwyddynt am gath ddu mewn tywyllwch. Gyda llaw, oddiar yr hanesyn hwn o eiddo y "Wlad" Gymreig y sylfaenodd y Sais ei chwedl yn nghylch " Siôr a'r Ddraig."


Sylwer eto ar farn y ddwyblaid o barth tarddiad yr enw Beddgelert. Y Parch. P. B. Williams, mab y diweddar Barch. Peter Williams (o fendigedig goffadwriaeth), a ddywedai i'r lle hwnw gael ei enwi oherwydd i ryw hen feudwy, ar ol ymgilio oddiwrth y byd, ymsefydlu yn y fan, ac adeiladu bwth; ac yn mhen enyd codwyd eglwys lle y safai preswylfa y meudwy a galwyd y lle Bwlch Cilfach Garth. Llygrwyd yr enw yn Bwlch Cilarth, a llygrwyd y gair yna drachefn yn Bethcelert. Dyna lygriad iawn; ond y mae yn rhaid iddo fyned trwy un radd arall o lygredd cyn y cyrhaedda ei berffeithrwydd llygredig presenol— Beddgelert. Yr hynafiaethydd, W. Williams, Llandegai, a ddywedai i'r lle gael ei enw oddiwrth St. Celer, nawddsant Llangeler, Ceredigion. Gyda phob parch i'r ddau awdurdod blaenorol, rhaid i mi gael tarddiad eglurach. Barna Oracl arall mai ei nawddseintio a gafodd y fan ar fynach o'r enw Celert, un o hynafiaid Serigi Wyddel, yr hwn a breswyliai yn ninas Ffaraon, heb fod nepell o Beddgelert. "Breuddwyd gwrach yn ol ei hewyllys." Clustfeinier ar y " Wlad" yn traethu ei llên: —

"Llywelyn Fawr a gyfaneddai yn ynys Môn, ac yr oedd iddo hafotty yn mynyddoedd Eryri, gerllaw y fan y saif yn bresenol bentref Beddgelert, lle y treuliai efe rai wythnosau yn yr haf gyda'r difyrwch o hela iwrchod, ysgyfarnogod, &c. Gan y tywysog hwn yr oedd milgi rhagorol a dderbyniasai efe yn anrheg oddiwrth ei dad- yn-nghyfraith, loan, brenin Lloegr, ac enw y ci ydoedd Kilhart. Yn gyffredin dygai Llywelyn ryw ran o'i deulu gydag ef i hafota; a'r tro y cyfeirir ato yma, ei unig blentyn a'i famaeth. Cychwynodd allan i hela un bore, gan adael ei etifedd yn ngofal y forwyn hyd oni ddychwelai. Y famaeth yn llawn chwilfrydedd am weled y golygfeydd swynol oddiamgylch, a adawodd y plentyn yn ei gryd, ac a aeth allan i rodiana [Seisnes oedd hi, meddai Glasynys]. Wedi i Llywelyn a'i gymdeithion ddechreu hela, sylwyd fod Kilhart (neu Celert, yn ol dull pert y Cymro o swnio y gair) yn absenol a synai pawb yn fawr at ei absenoldeb. Pa fodd bynag, dychwelodd Llywelyn a'i osgordd yn gynarach nag arfer y diwrnod hwnw, a chyrhaeddasant yr hafotty o flaen y forwyn; a phan yn ymyl cartref, wela Celert yn orchuddiedig â gwaed yn rhedeg i'w gyfarfod, dan ysgwyd ei gynffon, a dangos pob arwydd o lawenydd ar ei ddyfodiad. Prysurodd tua'r tŷ; ac ar ol myned i fewn, O! olygfa dorcalonus! y llawr yn goch gan waed, a'r cryd a'i wyneb yn isaf, heb olwg ar y baban yn un man. Ymsaethodd y drychfeddwl ofnadwy trwy ei enaid fod ei anwylyd wedi ei ladd, ac mai Gelert oedd y llofrudd, ac heb un foment o betrusder, dadweiniodd ei gleddyf, a throchodd ef yn ngwaed calon y milgi diniwaid. Un ddolef, a dyna y creadur ffyddlon yn ysgerbwd. Yna codwyd y cryd, a chafwyd y plentyn yn cysgu yn dawel, a cherllaw hyny genaw blaidd anferth yn furgyn marw ar lawr mewn llyn o waed. Nid oedd gan y tywysog edifarus ddim i'w wneud ond gofidio oherwydd ei fyrbwylldra. Claddwyd Gelert yn barchus mewn llecyn teg gerllaw, a chodwyd tomen o geryg ar ei fedd, ac adwaenir y fan yn awr fel Bedd Gelert. Oddiar yr hanesyn hwn y tarddodd y diarebion Cymreig — "Cyn dial gwybydd yr achos," ac "Ystyr ddwywaith cyn taro unwaith," a "Gwaith byrbwyll nid gwaith ystyrbwyll," a'r wireb, "Mor edifar a'r gŵr a laddes ei filgi."


Dichon fod y tair engraifft yma yn ddigon i brofi trarbagoriaeth y "Wlad" ar "Syr Oracl," ac os na yrr dysg ei berchenog yn ynfyd, ei fod yn lled aml yn ei wneud yn anmhoblogaidd. Yr wyf yn diolch i'r "Wlad" am arbed rhag difancoll luaws o hen hanesion a thraddodiadau gwerthfawr o'r fath yna ag y buasai "Syr Oracl" wedi eu taflu i'r cŵn er's canoedd o flynyddau. Rhwydd hynt i chwithau gyda rhoddi ar bapur yr hyn a fu cyhyd ar Lafar Gwlad. Eich ufuddaf gydwladwr,

Rhys Ddwfn.