Neidio i'r cynnwys

Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig/Penawd 10

Oddi ar Wicidestun
Penawd 9 Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig

gan Lewis Jones, Plas Hedd

Penawd 11


X.

Y VINTAI GYNTAV A'R PAROTOADAU.

Wedi rhoddi allan y cyhoeddiad a'r gwahoddiad uchod trodd y pwyllgor eu sylw at awgrym arall Dr. Rawson, sev eu bod yn awdurdodi rhywun yn Buenos Ayres i gyd—gytuno gyda'r Llywodraeth, a pharotoi i dderbyn yr ymvudwyr. Yr oeddys wedi bod mewn cyvathrach â masnachdy Duguid & Co., ac aelod o'r tŷ hwnw (J. H. Denby) vuasai y cyvrwng rhwng y prwyadon (L. J. a Capt. Jones—Parry) a'r Llywodraeth, ac yr oeddid wedi cael awgrym y disgwylient hwy ranbarth o dir am eu gwasanaeth pan gefid meddiant. Ŏnd pryderai y pwyllgor rhag y digwyddai rhyw ddyryswch yn y parotoadau ar gyver yr ymvudwyr a chan y cawsent broviad o hir oediad pethau yn Buenos Ayres, a deall wrth adroddiad y prwyadon vuasent yn y Chupat o ansicrwydd ac anhwylusdod mordeithiau i lenydd mor anhygyrch a Patagones a'r Chupat—velly, wedi hir ystyried a bwrw penau ynghyd barnwyd mai diogelach vyddai cael gan L. J. vyned drachevn i'r cyfiniau y buasai eve a Capt. JonesParry yn ymgydnabyddu gyda'r bobl a'r wlad a'r dravnidiaeth, a chymeryd Edwyn Roberts gydag ev, vel un proviadol o wlad newydd. Hwyliasant ar y neges hono ddiwedd Mawrth, 1865, a chyraeddasant Buenos Ayres Mawrth 27ain.

Pan aeth L. J. & J. H. Denby i weled y Gweinidog deallwyd na allai y Llywodraeth estyn dim cymorth yn swyddogol, na rhoddion ar gyver yr ymvudwyr—dim ond cwpl o lythyrau swyddol at Vilwriad Patagones a'r masnachwyr Aguirre a Murga yno. Nis gallai sicrhau dim, ond y rhoddai'r peth o vlaen y Weinyddiaeth heb ymdroi cyn y delai'r ymvudwyr. Ond trevnwyd gyda J. H. Denby iddo ev chartro y sgwner "Juno," a meichiavu gyda Moore a Tudor am luniaeth vernid yn angenrheidiol i gyvarvod yr ymvudwyr. Gwnaeth hyny yn anrhydeddus iawn, ac vel yr ysgrivenai 21 Medi, 1875,—10 mlynedd wed'yn,—wrth gyvlwyno ei gyvriv o £750 am hyny—" gwyddoch oni vuasai i mi fyn'd i'r costau uchod y buasai'r ymvudwyr wedi newynu, ac y tervynasai am y Wladva Gymreig.

Gyda dim ond addewid voel y Gweinidog yr helpai'r Llywodraeth yr ymvudwyr pan ddelent, wynebai L. J. yr anturiaeth envawr o barotoi a threvnu pethau at dderbyn yr ymvudwyr oeddynt i hwylio o Liverpool ddeuvis ar ei ol. Ni wyddai ond y nesav peth i ddim o iaith nac arverion y wlad, ac nid oedd ganddo vawr ddirnadaeth am helbulon llongwra. Nid oedd ganddo swydd na phenodiad; nid oedd ganddo arian na chredyd; nid oedd ond 28 oed, heb broviad ond y proviad bach Cymreig traferthus a chyvyng. Cychwynai (eve â'i briod ac Edwyn Roberts) ryw ddeuvis cyn yr amser i'r vintai gychwyn: ni wyddai am visoedd ddim o helyntion traferthus y cychwyn hwnw. Cawsai groesaw a charedigrwydd mawr yn Patagones pan oedd yno gyda Capt. Jones—Parry, gan y brodyr Harris oeddynt yn gweithio'r halen yn y cyfiniau hyny: hwy, a rhyw dri eraill, oedd yr unig rai yn y drev a vedrent Saesneg. Yr oedd J. H. Denby wedi hyrwyddo pethau yn rhyvedd hyd i Patagones: yno yr oedd yr anhawsderau yn dechreu; ond trwy y brodyr Harris a'u hewythr Yg. Leon cavwyd pob_hwylusdod ac anhebgorion. Ond y mae eu hetiveddion hwy o J. H. Denby vyth heb eu talu. Gwnaethpwyd dwy vordaith yn y "Juno" gydag aniveiliaid a chelvi a rheidiau o Patagones i Borth Madryn. Gan gychwyn o Buenos Ayres 10ved o Vai, cyraeddwyd Patagones y 24ain—diwrnod cyn y dy'gwyl vawr genedlaethol. Ar gredyd masnachwyr Patagones a llythyr Dr. Rawson, llwythwyd y llong o bob peth vernid yn rheitiol, gyda devaid ar y dec. Mehevn lav bu damwain ddivrivol i Mrs. L. Jones, drwy i gefyl bywiog a varchogai hi redeg ymaith a'i thavlu gan ei niweidio yn ddivrivol: eithr ar y 10ved barnai Dr. Humble ei bod allan o berygl, ac y gallai'r llong gydag L. J. ac Edwyn Roberts hwylio am Borth Madryn. Cyraeddwyd yr havan ar y 14eg, ac oddiwrth y dyvynion canlynol o'r dydd—lyvr ceir rhyw syniad anelwig am y traferthion:—Dod i angor haner dydd, a glanio'r cefylau a'r dynion a'r devaid: difyg dwr yma: gwneud corlanau, a threvnu i'r dynion aros ar y lan.—15: Cael trol i'r lan, ond dim dwr eto.—16: Cael y da corniog i'r lan a choed: y pryder mawr yw methu cael dwr, er vod y dynion allan bob dydd yn chwilio.—17: Cael y drol i gario ceryg tosca: diwrnod gwlawog, a hyny'n codi calon dyn.—18: Y devaid ar goll, ond a gaed erbyn y nos.—19: Wedi codi peth cysgod i'r dynion evo'r byrddau coed.—20: Y bobl yn gomedd gweithio os na chaent ragor o vwyd, er eu bod yn diva dwy ddavad bob dydd; methu cael yr ychain i weithio; y cefylau ar goll hyd haner dydd, yna gwlaw dwys vel na ellid gweithio—21: Cael dwr o drugaredd, er nad yw hollol beraidd rhew ac oerni trwm: dechreu gwneud y tai o vyrddau wrth weled mor arav y mae'r tai tosca yn codi.—25: Y mur tosca godasid drwy gymaint traferth yn cael ei chwythu i lawr.—29: Cael planciau devnyddiol o'r hen rèc; dau gefyl ar goll; dim hanes o'r ymvudwyr. —Gorfenaf 2: Helynt vawr i gael y sachau ŷd i'r lan; yn y dwr at ein haner.——5: Gorfen glanio hyny wnawn yn awr o'r llong, a chymeryd y 4 diocav gyda ni i Patagones. —10: Yn Patagones, ond dim llythyrau am yr ymvudwyr.—18: Cael llythyrau yn dweyd vod mintai yn barod i gychwyn mewn llong arall.—24 : Cyraedd yn ol i Borth Madryn gyda'r devaid a gwartheg a chefylau, a chael Edwyn Roberts yn ddiogel ac iach yno. Gwnaethpwyd dwy vordaith yn y "Juno" ynghydag aniveiliaid a chelvi o Patagones i Borth Madryn cyn i'r vintai gyntav gychwyn. Llogasid long arall ("Mary Helen "') i gludo coed a rheidiau eraill, symud yr ymvudwyr i'r Chupat, ac yna vyn'd i'r arvordir i gasglu guano i'w allvorio ymha orchwyl yr oedd y cadben yn hen gyvarwydd. Rhwng y ddwy long hyny cludwyd i Borth Madryn, erbyn y delai'r ymvudwyr, 40 i 50, o wartheg, cyniver a hyny o gefylau, 1,000 o ddevaid ac aneiriv gelvi. Cychwynasid hevyd dros y tir 600 o ddaoedd corniog a chesyg, y rhai ysywaeth, a darvwyd gan Indiaid yspeilgar y cyvnod hwnw. A hyn oll cyn gwybod a ddelai yr un ymvudwr yno vyth, ac yn rhinwedd yr hyder roddid yn y mudiad a'r goruchwyliwr oddiar gyvlwyniad y gweinidog Dr. Rawson i'r awdurdodau.

HELYNT Y CYCHWYN.

Vel y dynesai'r dyddiad yr hysbysiadid yr "Halton Castle' i hwylio, anesmwythai y rhai roisent eu henwau i vynd yn y Vintai Gyntav; ac i wneud yr anesmwyther yn vwy, tywalltai gwrthwynebwyr y Wladva eu fiolau i'r newydduron, yn y rhai nid oedd ball o ddonioldeb a chastiau diriaid. Daeth y 25ain o Ebrill, ond dim hanes yr "Halton Castle." Yn y dilema ddyrys hono, yn hytrach na chyvreithio i orvodi perchenogion y llong i gyvlawni eu charter, cytunodd M. D. Jones am long arall, y Mimosa," i vyned a'r vintai i'w taith. Eithr y tro hwn nid oedd y charter ond am gorf y llong yn voel—eve (M. D. J.) oedd i fitio y llong yn addas i'r ymvudwyr ac i gyvlenwi pob rheidiau iddynt; a chan mai pobl gwbl ddibroviad o vasnach y môr oedd y pwyllgor a'r llogwr, diau y bu dilunwch a chamgymeriadau anaele. Tua dechreu Mai, daeth y rhan luosocav o'r ymvudwyr i Liverpool; ond nid oedd y llong agos yn barod, a chan vod y bobl wedi gwario eu harian i

Map yn egluro Cydiadau Porth Madryn (New Bay) gyda'r Avon Chupat a'r Dyfryn.

brynu pethau rheitiol i'r vordaith a'r sevydlu, nid oedd ganddynt ddim ar gyver eu cynal yn Liverpool hyd i'r llong vod yn barod. Cyvarthasai y gwrthwynebwyr mor ddyval a hyv vel y tarvwyd agos yr oll o'r rhai cevnog vwriadent vod yn y vintai gyntav, ac velly nid oedd dim i'w wneud ond mynd i'r prifyrdd a'r caeau, a gwahodd y sawl a ddelai-" heb arian ac heb werth." Nid yn unig yr oedd bywoliaeth cyniver o bobl yn Liverpool yn draul vawr, ond yr oedd eu cadw yn ddiddig a boddlawn hevyd yn vargen vwy na hyny. Y mae dychmygu am yr hybarch M. D. Jones ynghanol y berw a'r traferthion a'r pryderon hyny yn olygva cov anileadwy. Yr oedd Mrs. Jones a bagad o'i evrydwyr fyddlon gydag ev yn yr anoddyvn honoD. Ll. Jones, D. Rhys, A. Matthews, L. P. Humphreys. Boreu Mai 25ain yr oeddys yn barod i wneud rhyw fath o gychwyn: canoedd o bobl ar y lan i'w gweled yn cychwyn, baner y Ddraig Goch ysblenydd ar uchav yr hwylbren, y vintai yn canu "Duw gadwo'r Vrenhines ar eiriau Cymraeg, a llawer o bobtu yn gollwng dagrau yn bur ddiseremoni. Cavwyd mordaith dda o ddau vis, a glaniwyd yn Mhorth Madryn ar yr 28ain Gorfenaf 1865-ac o hyny y mae "Gwyl y Glaniad."

YR YMBLAID.

Yna y dechreuodd govidiau lawer. Am helbulon y glanio yn Mhorth Madryn, a'r crwydro oddiyno dros y paith i ddyfryn Chupat; a'r ceisiadau i dd'od a'r bywydvad llwythog gyda'r arvordir i'r avon; a mordaith y merched a'r plant yn y sgwner "Mary Helen' o Borth Madryn i'r avon, ond yn cael eu chwythu i'r de am agos i bythefnos nes bod prinder dwr mawr ar y llong, a phrinder bwyd ar y Chupat; a'r gwlaw ar ol hyny nes oedd yr "hen amddiffynva," lle y lluestid, yn drybola penglin; vel yr aeth yr holl ddevaid i golli; ac y buwyd hir o amser cyn gallu llusgo dros y paith i'r Chupat yr holl glud a chelvi adawsid yn Mhorth Madryn -ped adroddid yr holl helyntion hyny, nid oes mo'r 30 yn eu covio, ni vyddent ond streuon henavol i'r rhai ddaeth ar ol, ac ni vyddent chwaith ddealladwy i ddyeithriaid heb amgylchu môr a mynydd i egluro holl neillduolion y wlad. Erbyn y Tachwedd dilynol-prin bedwar mis-yr oedd yr helbulon a'r traferthion a'r ymravaelion wedi eu cordeddu yn rhefyn o ymbleidiau vu yn frewyll vlin ar y Wladva hir o amser, ac nad yw y cleisiau oddiwrthynt wedi llwyr wella hyd y dydd hwn.

Danvonasai y Llywodraeth y Milwriad Murga o Patagones i roddi meddiant furviol o'r wlad i'r sevydlwyr, a chydag ev vesurydd tir o'r enw Diaz i varcio'r fermi. Gyda'r olaf hwn yr oedd gwasanaethwr o Sais vel cyfieithydd-dyn a vuasai mewn sevyllva dda, ond aethai yn aberth llwyr i'r ddiod, ac oedd ar y pryd yn vilwr cyfredin yn Patagones. Yr oedd Diaz yn engraift o Archentiad llyvn a moesgar, a thrwy ei benodiad yn vesurydd tir y sevydliad wedi dod i gysylltiad â'r Llywodraeth, a chan hyny yn gyvarwydd â holl droellau a chelvyddyd swyddoga. Doder at hyn drachevn yr hen ysva wasaidd Gymreig o ystyried pob dyn dyeithr yn arglwydd, a chadwer mewn cov y briwiau a'r pryderon oedd ar bawb, a cheir rhyw syniad o'r an voddogrwydd oedd yn cyniwair y vintai, ac o'r ymbleidio dyvodd o'r vath amgylchiadau. Digiodd L. J. wrth y dilunwch a'r ymbleidio, a thavlodd y cwbl i fynu. Aeth ev a'i deulu am Batagones a Buenos Ayres, ac yn yr un long elai hevyd y mesurydd tir Diaz, meddyg y "Mimosa," y llywydd W. Davies, a rhyw haner dwsin eraill. Ddiwrnod neu ddau cyn hyny cyrhaeddasai llongaid o aniveiliaid a bwyd oddiwrth y Llywodraeth yn ol y trevniadau wnaethai L. J. gydag E. Harris. Ond yr oedd Diaz wedi cael gan y bobl ehud ei benodi ev yn brwyad drostynt at y Llywodraeth, er y penodasid W. Davies yn llywydd." Deallwyd wedyn ddarvod i "bapur vynd yn yr un long—y cyntav o lawer cyfelyb ddilynodd at yr awdurdodau Prydeinig, yn achwyn ac yn govyn cael eu symud o'r lle. Pan ddaeth Diaz i Buenos Ayres ni chydnabyddai Dr. Rawson mohono mewn un wedd. Cymerodd Denby (gwel y cyveiriadau) at hyrwyddo W. Davies ymhob modd, vel dilyniad o'i gysylltiad cyntav ev gyda'r Wladva, gan nad pwy vyddai'r prwyad. Drwy ei ddylanwad ev—a Dr. Rawson yn gweled bellach vod y Wladva'n faith, caniataodd Llywodraeth rodd visol o £140 at luniaeth i'r bobl, ac yna cavodd Denby gan vasnachwyr Prydeinig Buenos Ayres danysgrivio at brynu llong vach o 30 tunell, i vod at wasanaeth y Wladva—yr hon a alwyd "Denby," ond a gollwyd yn drychinebus ymhen rhai blwyddi. Y pryd hwnw gwnaethpwyd peth osgo carbwl i " edrych y wlad." Ond pan ddychwelodd y llywydd o Buenos Ayres gyda'r lluniaeth a'r llawenydd, aeth y llong vach ar draeth aber yr avon, nes bod yn gandryll iawn. Erbyn diwedd yr hav hwnw (1866), nid oedd vawr argoel y ceid cnwd. Deallwyd ymhen hir amser nad oedd cnwd i'w ddisgwyl o'r amaethu a'r bywyd ddilynai y sevydlwyr y pryd hwnw—a hwy heb y syniad lleiav am y weledigaeth vawr o ddyvrhau. Yn y pryder ddilynodd hyny aeth niver o'r rhai parotav i vynu gyda'r avon am ryw 60 milldir i geisio barnu beth oedd rhagolygon y wlad tu vewn. Erbyn adnabod y wlad vel yr ydys yn awr, mae'n hawdd deall i'r daith hono ddychrynu y teithwyr anghyvarwydd, ac vod yr adroddiad roisant yn anobeithiol iawn. Pendervynwyd velly ymadael o'r wlad a thavlu i vynu y syniad o wladychu yno—ac o hyny y bu

YR AIL YMBLAID.

Gwingai y lleiavriv gwladvaol gan ddadleu na wnaethid prawv priodol na digonol: eithr yr un elven ag o'r blaen vu drechav, a phendervynwyd adgyweirio oreu medrid y llong vach ddrylliog oedd ar y traeth: ac i rai vyned ynddi i Buenos Ayres i geisio ymwared, drwy drevnu fordd i vyned i ryw gwr arall o'r Weriniaeth. Galwyd "cwrdd o'r vintai" i ystyried y sevyllva, a daeth eilwaith i'r golwg y gwahaniaethau barn parthed y camrau ddylesid vod wedi gymeryd neu ochelyd: bu etholiad brwd i newid y pwyllgor, a daeth rhai elvenau newydd i'r golwg, gyda Berwyn yn ysgrivenydd yn lle T. Ellis. Dewiswyd gan y mwyavriv 6 ohonynt eu hunain i vyned yn y llong vach vel dirprwyaeth at y Llywodraeth, i ovyn cael eu symud i le mwy boddhaol iddynt at wneud Gwladva Gymreig. Trwsio'r llong vach yn addas i vôr vu gorchwyl mawr y cyvnod hwnw: a chavwyd drwy hyny beth syniad am draferthion Noa i wneud arch i achub ei dŷ: llawer traddodiad rhyvedd sydd yn y Wladva am yr evail ar y traeth, a'r cyrddau yn howld y llong. Bid a vyno, cavwyd hi'n barod i vôr, a chyraeddodd Buenos Ayres yn ddiogel, er mor glytiog y gwaith. Ynddi elai vel dirprwyaeth:—W. Davies, A. Mathews, Edwyn Roberts, J. Morgan, G. Price, J. Roberts, a T. a R. Ellis a'u teuluoedd, ac yn ddwylaw y llong, R. J. Berwyn, D. Jones, G. Jones, a Robert Nagle.

Pan gyraeddodd y Denby" i Buenos Ayres, yr oedd L. J. wedi aros yno, er pan ddaethai eve a'r teulu o'r Wladva ddiwedd 1865. Derbyniasai, tra yno y pryd hwnw, lythyrau oddiwrth Berwyn ac Edwyn Roberts, yn datgan syniadau y lleiavriv yn yr ymbleidio oedd yn cyfroi y sevydliad: cawsai hevyd y llythyrau canlynol oddiwrth M. D. Jones a D. Lloyd Jones:

Gorfenav 12, 1866. Derbyniais eich nodyn o Patagones ar eich fordd i'r Wladva. Gobeithio yr erys rhyw ddwsin ohonoch yn nyfryn y Camwy i gymeryd goval yr aniveiliaid y bu cymaint cost a thraferth i'w cael yno—byddant yn ddevnyddiol erbyn dyvodiad pobl briodol. Os oes dwsin ohonoch am aros, daw pobpeth yn iawn. Os nad oes neb yn aros, nid oes ond gildio am dymor i ddyfryn y Camwy, gyda'r llawn amcan i ail ddechreu gynted y gellir. Os ä'r bobl i Santa Fé, ni dderbyniant help oddiwrthym ni yma. Mae'n enbyd vod rhyw ymvudwyr ehud a dibroviad yn cymeryd y mudiad i'w dwylaw eu hunain. At gael Gwladva Gymreig yn Patagonia y rhoisom ni ein harian, ac ni vynwn ni ddim i'w wneud â Santa Fémae'n dro anonest tuagatom i symud o Patagonia.—M. D. JONES.


"Threapwood, Mawrth 8, 1867. Mae drwg yn corddi rhywrai yn y Wladva. Ymddengys i mi nad oes dim rhwystr hanvodol i lwyddiant, ond rhwystrau yn codi oddiar vympwyon, camgymeriadau, gwendidau, neu ddrygioni personau. Yn awr, anwyl gyvaill, hyderwyv y bydd i chwi barhau i amddifyn y Wladva—Y WLADVA. Ymddengys na vydd nemawr neb o'r vintai gyntav ar y Chupat_yn hir. Amddifynwch y Wladva. Gwnewch eich goreu gyda Dr. Rawson; a gwnewch eich goreu yn Patagones. Anvonwch i'r Wladva. Gobeithio yr ewch chwi yno'n ol yn vuan, ac os ewch, y gwnewch adael i amynedd gael ei pherfaith waith—bydd raid i chwi wrth hyny.—D. LL. JONES.

Patagones, Rhag. 6, 1866. Na ddigalonwch—mae hindda ar ol pob drycin. Mae tipyn o ddyryswch gyda'r Wladva yn awr. Ar ol yr helynt vawr a'ch gyrodd chwi ymaith, mae y rhan vwyav yn credu vod L. J. yn Wladvawr trwyadl: coelia W. Davies hyny yn awr: a choelia llawer mai brad vu yn eich gwthio ymaith drwy i Diaz chwythu y gwenwyn—anvad o ddyn oedd eve. Mae tua haner y bobl yn bendervynol o beidio symud; ac mae vy mryd inau ar y Wladva, ac yno y byddav gallwch vod yn siwr, tra gallav. Mae y teulu arlwyddaidd yn colli tir, ond yn glynu wrthym vel gelod. Bu ail etholiad yn ddiweddar, a bu newidiadau lawer—Mathews allan, a minau yn ysg. yn lle Thos. Ellis.—R. J. BERWYN.

Mae'n debyg y synwch pan ddywedav wrthych vod y Cymry sydd yn Patagones wedi danvon cais atom i'n symud oddiyma atynt hwy! Ö ran sport, darllenwyd y llythyr i'r vintai, a bu chwerthin mawr at y syniad i ni adael yma yr holl eiddo sydd genym yn wartheg a chefylau, a chelvi ac eiddo. Nyni, freeholders, vyned i ail ddechreu byw yn Patagones! Pendervynwyd ar i Mathews a minau ysgrivenu llythyr i ddweud mai folineb meddwl i ni symud oddiyma byth—pe na ddelai neb atom na llong vyth.—EDWYN ROBERTS.

Yn union ar warthav y llythyrau uchod y daethai'r " Denby" i Buenos Ayres, yn syth o'r Wladva, gyda dirprwywyr symud." Cavodd L. J. velly gyvle i glywed adroddiad o'r helyntion gan y rhan vwyav o'r rhai ddaethent i vynu; ac er nad oedd ganddo savle swyddogol i ddynesu at y Llywodraeth, beiddiodd vyned i weled Dr. Rawson, a chyvlwyno iddo y nodyn canlynol:

Buenos Ayres, Ionawr 30, 1867. Yr wyv newydd dderbyn llythyr oddiwrth M. D. Jones, Bala, hyrwyddwr mawr y Wladva Gymreig, dyvyniadau o ba un a gewch yn amgauedig, yn gobeithio'n ddivrivol na avlonyddir ac na symudir y sevydliad oddiar y Chupat. Yr oedd derbyn y llythyr hwn tua'r un dyddiau ag y cyraeddai yma y ddirprwyaeth o'r Chupat, i ovyn i'r Llywodraeth eu symud i rywle arall, yn ddigwyddiad mor gyd—darawiadol vel nas gallav lai nag edrych arno vel gwrthdystiad ysprydoledig yn erbyn y vath vwriad gan y gŵr sydd wedi aberthu cymaint dros y mudiad Yr wyv wedi gweled y ddirprwyaeth ddaeth i vynu, a chlywed eu cwynion a'u dadl. Ond nid ymddengys i mi vod y sevyllva yno mor anobeithiol ag i gyviawnhau rhoddi cam mor ddivrivol. Nid oedd y prawv a wnaed ar y tir a'r bywyd ond bychan a di—lun iawn; a byddai symud pobl wedi digaloni ac ymranu vel hyn yn eu rhoi mewn anhawsderau newyddion vyddai yn debyg o'u chwalu i bob cyveiriad, a thori i vynu y Wladva yr aberthwyd cymaint erddi, ac y disgwyliasid cymaint oddiwrthi. Sicrheir vi gan y rhai ddaethant i vynu'n awr, yr arosai y bobl i wneud prawv llawnach ped estynai y Llywodraeth iddynt vwyd a chelvi dros dymor neu ddau eto. Ac yn ernes i chwi o vy hyder yn nyvodol y Wladva ac o'r bobl (wedi yr ymadawo rhyw ddau neu dri theulu), boddlonav i vyned yn ol yno atynt, os bydd y Llywodraeth yn dewis hyny. Yr oeddwn wedi trevnu i vyn'd adrev i Gymru; ond arosav yma eto i weled pendervyniad y Llywodraeth ar y mater sydd mor agos at vỵ nghalon.—L. JONES.

Yn y cyvwng hwn daethai i Buenos Ayres ŵr ieuangc oedd yn bugeilo devaid yn y wlad tua Dolores, ond a ddaethai allan ddwy vlynedd cyn hyny, a'i vryd ar vyned i'r Wladva—oedd, yn wir, yn aelod o'r Pwyllgor Gwladvaol cyntav yn Lerpwl— J. Griffith (Hendreveinws wedi hyny). Wedi deall y sevyllva a gweled y dirprwyon, bwriodd ei goelbren gyda L. J. i vyned i'r Wladva yn y llong vach—er y condemnasid hono vel anaddas i vôr ar gais y dirprwyon. Ond medrwyd cael gan Capt. Nagle ventro ynddi gyda dau vorwr amrwd, cogydd o Francwr, a L. J. a J. G. yn griw a theithwyr! Hwyliasai tri dirprwy (Mathews, Berwyn, E. R.), ychydig ddyddiau cyn hyny, i vyned tua'r Wladva, trwy Batagones, a'r gweddill i ymdaro oreu medrent i vynd tua Santa Fé. Nid hwnw oedd y "tro rhyvygus" cyntav yn hanes y Wladva, ac nid y diweddav chwaith. Yr unig awdurdod oedd gan y criw" hwnw i'r vath antur oedd copi o'r llythyr roisai Dr. Rawson i'r dirprwyon elent i lawr i gael barn ysgrivenedig y sevydlwyr—a dyma vo:—

Buenos Ayres, Mawrth 6, 1867. Wedi deall am yr anghydwelediad rhwng y sevydlwyr ar y Chupat ynghylch aros yno, neu symud i ryw van arall o'r Weriniaeth, mae y Llywodraeth yn barnu mai goreu vyddai i chwi ddychwelyd i'r Wladva gyda'r agerlong sydd ar vin hwylio i Batagones, a galw cyvarvod o'r sevydlwyr i gael ganddynt yn ysgrivenedig eu barn a'u syniadau hwy ar y mater pwysig hwn. Rhowch ar ddeall iddynt vod y Llywodraeth yn ystyried, oddiar bob adroddiad y maent wedi vedru gael, vod methiant y cynhauav i'w briodoli i'r hir sychder, ac hevyd, evallai, i ddifyg goval a threvn, yn codi oddiar ddifyg moddion neu wybodaeth ymarverol o'r wlad. Wedi yr aberthion mawr wnaed i sevydlu y Wladva, byddai y Llywodraeth yn anvoddlawn i adael y lle heb i vlwyddyn arall o brawv ddangos mai anichon vyddai i sevydlwyr gynal eu hunain a llwyddo yno. Eithr er vod yr ystyriaeth hon ger bron y Llywodraeth, ni ddymunant ar un cyvriv geisio gorvodi y sevydlwyr i lavurio lle maent, os bydd y mwyavriv am ymadael, wrth eu bod wedi colli pob hyder i lwyddo yno. Ni ddylai y sevydlwyr anghovio pwysigrwydd y Wladva vel cyrchva i'w cydwladwyr sydd yn disgwyl mewn pryder am ganlyniad yr anturiaeth, er mwyn d'od a chynorthwy i'r rhai sydd eisoes wedi cychwyn y gwaith. Velly, pa bendervyniad bynag y deuir iddo, dylai yr ymvudwyr ymdrechu peidio ymwahanu, gan govio y collent drwy hyny eu holl bwysigrwydd o savle vel Gwladva, sydd wedi bod bob amser yn ystyriaeth bwysig gan y Llywodraeth wrth eu derbyn a'u cynorthwyo. Os bydd y mwyavriv yn dymuno aros i lavurio ar y Chupat, ve'u cynorthwya y Llywodraeth hwy gyda'r gynhaliaeth reidiol yn ol trevniadaeth y cytunid arni. Danvonir cynhaliaeth dau vis arall, at yr hyn sydd yn Patagones, a chyda'r agerlong sydd yn rhedeg yno danvonir yno gyvlenwad chwanegol bob deuvis, i gyvarvod y llong vach " Denby." Hyderav y bydd i Mathews, Berwyn, a Roberts (Edwyn), gymhell eu cydwladwyr a chydlavurwyr i gyd—ddwyn â'u gilydd, ac i ymarver y teimladau brawdol a Christnogol sydd mor angenrheidiol pan ynghanol anhawsderau natur a difeithwch, y rhai y rhaid ymladd â hwy i sicrhau cartrev iddynt eu hunain a'u plant am genedlaethau eto i ddod.—G. RAWSON.

Vel adroddiad pellach o'r ymdrechva vawr hono—“i vod, neu beidio bod" yn Wladva, rhoddir yma y dyvynion canlynol o lyvr A. Mathews, yr hwn oedd ei hun yn figiwr blaenllaw yn y ddirprwyaeth hono:

"Wedi rhoddi ger bron y sevydlwyr, mewn amryw gyrddau, adroddiad o'r dravodaeth vuasai rhwng y Llywodraeth a'r ddirprwyaeth, y canlyniad oedd—tri theulu am aros ar y Camwy, tri theulu am vynd i Patagones, a'r gweddill am vynd i Santa Fé. Gyda'r pendervyniad hwnw yn ysgrivenedig dychwelai'r ddirprwyaeth i Patagones i vynegu y canlyniad. Ond pan oeddys yn hwylio i vynu'r avon Negro, beth a welem yn dyvod i vynu'n gyvlym ar ein holau ond ein llong vechan "Denby" o Buenos Ayres, gyda L. J., a boneddwr arall o'r enw J. Griffith, ar ei bwrdd. Yr oedd L. J. wedi llwyddo i gael gan Capt. Nagle ventro y llong vach i'r môr eto, (er iddi gael ei chondemnio gan saer y llynges Brydeinig,) am ei vod ev, L. J., mor awyddus i gael gan y bobl aros ar y Camwy. Deallodd y dirprwywr wrth hyny vod L. J. yn bendervynol o vynd i'r Chupat, er iddo wybod vod corf mawr y sevydlwyr am ymadael, a'u bod bellach yn Mhorth Madryn yn aros llong i'w hymovyn. A gwyddai y dirprwy os elai L. J. i lawr, a rhoddi addewidion teg ac esmwyth i'r bobl y byddai yn debyg iawn o lwyddo i berswadio rhai i aros ar y Camwy, ac velly wneud y gweddill yn rhy vychan o niver i long dd'od i'w cyrchu i le newydd. Teimlai y dirprwy mai y peth pwysicav o bob peth oedd cadw y gwladvawyr rhag rhanu, vel ag i'w gwneud yn analluog i furvio cnewyllyn sevydliad newydd, ac os velly nad oedd dim yn eu haros ond cael eu gwasgaru yma a thraw dros Dde Amerig ymhlith cenedloedd ac ieithoedd dyeithr ac arverion paganaidd. Teimlai, gan hyny, er nad oedd L. J. ac yntau yn cydweled, nac yn gyveillion, bod dyledswydd arno i roddi o'r neilldu bob teimlad personol, a gwneud yr hyn oedd oreu er lles dyvodol ei gydwladwyr ar y Camwy. Wedi rhai dyddiau a nosweithiau o veddwl a phryderu beth oedd oreu wneud, pendervynodd weled L. J. a chael siarad ac ystyried y mater yn ddivrivol. Velly y bu, a boddlonodd y ddau i ymgysegru i les y sevydlwyr yn y dyvodol, a dychwelyd eto yn y llong vach i'r Wladva, ac uno i berswadio y bobl i dderbyn cynyg Dr. Rawson, i wneud prawv ar y lle vlwyddyn arall. Erbyn i'r llong gyraedd Porth Madryn yr oedd agos yr oll o'r sevydlwyr wedi gadael y Camwy, & d'od drosodd yno i ddisgwyl llong i'w cyrchu ymaith vel yr oeddid wedi pendervynu. Ar y dechreu teimlent yn gynhyrvus iawn am y siomedigaeth rhai yn ystyvnig iawn am vynd i Patagones, a bu raid cyn hir drevnu i niver o'r rhai taerav gael myned yn y llong vach i weled y wlad y fordd hono, “a chael manylach telerau gan Aguirre a Murga, perchenogion y tiroedd yno. Pan ddaeth yr yspïwyr hyny yn ol, nid oedd eu hadroddiad hwythau yn unol na boddhaol, vel nad oedd dim am dani ond derbyn cynygion Dr. Rawson, a dychwelyd i'r Camwy."

Ond buasai aros gyda chant neu 120 o bobl gythruddedig, heb vod darpariad o reidiau ac ofer ar eu cyver, yn vwy o ryvyg nag ydoedd y vordaith o Buenos Ayres yn y llong vach vregus. Velly, trevnodd L. J. gyda masnachwyr Patagones, ar ei gyvrivoldeb ei hun, ac ar bwys addewid Dr. Rawson, i gael cyvlenwad o'r pethau mwyav rheitiol i vyned gyda hwy yn y llong vach pan ddychwelid eto i Borth Madryn.

"Yr oedd y gwladvawyr wedi bod yn Mhorth Madryn am tua deuvis—rai ohonynt wedi lladd a halltu eu haniveiliaid, dan y syniad mai over vyddai myn'd a daoedd mewn llongau i Patagones na Santa Fe; eraill yn mileinio i ddisgwyl “llong o rywle." Tra yr oeddys vel hyn ar draeth Porth Madryn yn ymryson a dadleu, a myn'd drwy wasgveuon yr ymbleidio, daethai yr Indiaid i lawr i'r Camwy vel arver, ac wrth weled y tai yno wedi eu gadael yn wag, rhoddasant dân ynddynt, yn ol arver Indiaid, er mwyn y divyrwch o'u gweled yn llosgi, vel pan ddychwelodd y gwladvawyr nid oedd yno ond murddynau moelion. Aeth y penau teuluoedd unwaith eto drosodd i'r dyfryn, o vlaen y gwragedd a'r plant, i wneud tipyn o drevn yn barod iddynt, a myned a'r clud a'r gweddill aniveiliaid drosodd, vel erbyn diwedd Awst yr oedd bron bawb wedi dychwelyd, ac yn eu cartrevi megys cyn yr ymadawiad. Wrth reswm yr oedd ganddynt fordd vwy dramwyol y tro hwn, wedi yr holl dravaelu a wnaethid i symud, ac wedi cyvarwyddo llawer â'r wlad ac â'r cefylau, vel na vu'r dychweliad y tro hwn mor vlin ac aniben ag oedd y dyvodiad cyntav. Gan mai y bwriad oedd aros am ryw naw mis, i gydfurvio â chais Dr. Rawson, ac yna symud i Santa Fe, nid oedd neb yn teimlo vod y chwalu vu ar bethau, a'r lladd vu ar aniveiliaid yn rhyw golled vawr—dipyn o anfantais am laeth a menyn ar y pryd, dyna'r oll.

"Yr oeddys erbyn hyny wedi colli 44 drwy ymadawiadau, 16 drwy varwolaeth (dau drwy drengu ar y daith, ac un drwy voddi); eithr ganesid 21, a daethai 10 o vanau eraill."

Vel canlyniad yr ymblaid hono savodd yn Patagones deuluoedd W. ap Mair Gwilym, J. Jones, Mountain Ash; E. Price, y gov; G. Solomon, a M. Humphreys, ac yno mae rhai o'u tylwyth hyd heddyw.

Nodiadau

[golygu]