Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig/Penawd 25
← Penawd 24 | Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig gan Lewis Jones, Plas Hedd |
Penawd 26 → |
XXV.
OEDI A GWINGO NES CAEL.
Dychwelasai D. Lloyd Jones o'i ddirprwyaeth at y Llywodr aeth yn Awst, 1882, gydag addewidion Dr. Irigoyen i ganiatau lleodraethiad yn ol amlinelliad Cyfraith y Chaco. Ond aeth y vlwyddyn hono heibio heb i ddim gael ei wneud tuag at hyny. Ganol y vlwyddyn ddilynol synwyd y Wladva pan gyhoeddwyd y nodyn canlynol yn newydduron Buenos Ayres oddiwrth y Prwyad:—
At Dr. Irigoyen.—Mae genyv i̇'ch hysbysu vy mod wedi dychwelyd yma yn ddiogel, ac wedi cymeryd eto awenau y brwyadva―am yr hyn y mae'r sevydlwyr wedi eu mawr voddhau, yn ol vel y mae llawer ohonynt wedi vy hysbysu. Yr wyv yn brysur drevnu yr ysgol—sylvaen addysg y bobl, vel y byddo addas i'r hyn y bwriadwyd hi. Yr wyv hevyd yn rhanu y gweithredoedd tir i bawb y perthynant, yr hyn sydd yn dangos y cyvlawnir pob addewid wna y Gweinidog; ac y mae gweled eich enw chwi wrthynt yn brawv o'r sylw ydych yn roddi i'w hachosion lleol, ac yn ernes o'r bwriadau da sydd genych tuag atynt. Digon yw dweud hevyd vy mod yn arolygu y materion lleol—megys fyrdd, maesydd, claddveydd, adeiladau, &c., yn yr hyn y'm cynorthwyir gan bwyllgor o'r sevydlwyr, tuag at lwyddaint y lle, yr hyn yw vy holl uchelvryd, ac yn yr hyn y gobeithiav lwyddo gyda chevnogaeth grev y Gweinidog. Mae cyfro mawr yma oblegid darganvod aur a glo yn y cyfiniau: llawer wedi rhuthro yno: ond yr wyv vi wedi cymeryd vy mesurau: danvonav adroddiad a samplau i chwi : nid yw ond taith pedwar diwrnod oddiyma: av yno, a chyda mi vwnwr proviadol i archwilio wyv anghredus vy hun, ond y mae yno aur yn ol pob adroddiad ellir gredu. Gorchymynwch eich fyddlon isswyddog—JUAN FINOQUETTO.
Wrth weled adroddiadau mor gamarweiniol, a'r hir oedi cychwyn dim mesurau at roi cyvraith y Chaco mewn grym drwy y rhaglaw Winter, vel yn y Diriogaeth nesav, dechreuodd y Wladva anesmwytho eilchwyl a gwingo, ac velly danvonwyd y llythyr canlynol at y Gweinidog Cartrevol:—
Wedi cael ar ddeall eich parodrwydd i hyrwyddo'r Wladva i gael ei Lleodraeth briodol; ac erchi i'r rhaglaw Winter barotoi etholres gyfelyb ag yn y Chaco o'r rhai a hawlvraint ganddynt i ddewis eu hawdurdodau lleol—bu lawen gan y Wladva. Eithr ysywaeth daeth i'm gwybyddiaeth yn ddiweddar vod hyny eto wedi ei ddyrysu a'i oedi yn amhenodol, drwy drovaus gyvrwysder y prwyad yn dadleu mai nid y rhaglaw sydd i'w orchymyn ev, eithr Swyddva Tiroedd a Gwladvaoedd. Mae hyny, a digwyddiadau croesion beunyddiol y lle, yn peri i mi ovni y bydd i'r prwyad eto vedru dyrysu y bwriadau da ddangosir yn y gyvraith newydd, a'r gorchymyn i'r rhaglaw Winter. A rhag bod oedi ac ystrywiau eto, dymuna'r Wladva awgrymu yn barchus i'r Llywodraeth ar iddi benodi rhyw wr neu ddau o'r brivddinas yn ddirprwyaeth arbenig i sevydlu yn y Wladva y Leodraeth linellir yn y gyvraith newydd. Ac o rhynga vodd i'r Gweinidog, cyvlwynant iddi enwau Don Juan Dillon a Profeswr Lewis, o'r Coleg Cenedlaethol, vel rhai tra addas i'r neges arbenig hono.—Dros y Wladva.—L. J.
Danvonwyd nodyn cyfelyb at y rhaglaw Winter, yr un pryd, ac yn ervyn arno vrysio erchi yr etholres. Ond yr oedd y swyddog hwnw yn vawr ei fwdan yn cario allan gynlluniau cadgyrch Gen. Roca ar y brodorion. Yn Awst, 1883, daeth ar y neges hono i'r Wladva, ac arosodd ddeuvis, heb wneud yr un osgo at lunio etholres. Lletyai y rhaglaw gyda'r prwyad, a chymdeithion hwnw, o reidrwydd, oedd o'i gylch. Wrth weled yr hir oedi hwnw wedyn, a gwybod o ba le y delai pob ystryw, furviwyd pwyllgor i vyned at y rhaglaw yn furviol, a chyvlwyno iddo y nodyn welir isod. Deallwyd hevyd y pryd hwnw nad oedd " Rhaglawiaeth Patagones ond peth cwbl ddarbodol—mai ei neges ev oedd milwra y brodorion o'r holl wlad; ac vel milwr byddai ei gydymdeimlad gyda'r swyddwyr. Ond cymerid cysur o'r faith ei vod ev wedi cychwyn Lleodraeth yn ei raglawiaeth briodol ei hun, sev Viedma, o du deheuol yr avon Negro.
At Raglaw Tiriogaeth Patagones.— Dymuna y ddirprwyaeth sydd ger eich bron ddatgan wrthych eu gobaith y bydd i'ch ymweliad presenol â'r Wladva vod yn voddhaol i chwi, ac y bydd i'r croesaw gawsoch yn yr amrywiol ardaloedd eich darbwyllo mai pobl dawel, drevnus, a diwyd yw sevydlwyr Chubut, a'u bod yn caru eu gwlad newydd, vel y dengys eu cartrevi cysurus a'u boddlonrwydd. Disgwyliant hevyd y gwel eich llygaid craf chwi yr amrywiol angenion sydd arnom am welliantau tai, fyrdd, pontydd, fosydd, ysgolion, pentrevi, &c. ——poblogaeth egniol, yn awyddu am welliantau a threvn sevydlog o reolaeth. Gwyddoch vod y Wladva wedi arver gweinyddu achosion y lle, ac iddi yn ddiweddar ddanvon dirprwywr at y Llywodraeth i ovyn am Leodraeth furviol a threvnus, a chael cevnogaeth ac addewid y Gweinidog i hyny, ac i chwithau yn Rhagvyr dilynol erchi i'r prwyad yn Chubut wneud etholres y Wladva yn ol amlinelliad Cyvraith y Chaco, eithr i'r swyddog hwnw godi anhawsderau rhag gwneud nes cael gorchymyn oddiwrth Swyddva Gwladvaoedd. Yn Mehevin diweddav gwybu y Wladva eich bod chwi wedi erchi iddo yr ail waith dynu allan etholres: ac oddiwrth hyny cesglid vod y rhwystr cyntav wedi ei symud. Velly, pan wybuwyd yn Gorfenav eich bod chwi ar vedr ymweled a'r Wladva, gobeithir bellach, tra'r ydych chwi gyda ni, y gwelwch yn dda roi mewn grym y Leodraeth addawedig gan y Gweinidog, am yr hon y mae cymaint disgwyliad.—Y PWYLLGOR.
Ymarhoid heb wneud dim at gael etholres, ac aeth 1883 i ddivancoll heb i'r Wladva vod vymryn nes o ran cael Lleodraeth. Diddymasid y prwyadaethau drwy'r Weriniaeth oll, ond cedwid Finoquetto mewn awdurdodaeth agored megys cynt: elai a delai ev i Buenos Ayres, gan adael y Wladva i ymdaro drosti ei hun drwy'r misoedd. Aethai y rhaglaw Winter i'w Diriogaeth ei hun, heb wneud un osgo at roi uvudd—dod i orchymyn y Llywodraeth am etholres leodrol—gwesgid clust a goddevid yn daeog: neb ond Finoquetto yn arglwyddiaethu, a'i waseiddion yn casglu clecion at gynud ac ager. Barnwyd ei bod yn hen bryd dwyn yr hen gyvlegr Brydeinig eto i'r vrwydr, ac velly, ar ddechreu 1884, cavwyd gan Syr Love Jones—Parry ovyn yn Nhŷ y Cyfredin, ai ni allai llys—genad Prydain yn Buenos Ayres wneuthur rhywbeth gyda'r Llywodraeth Arianin i liniaru yr ormes a'r avreoleiddwch oedd ar y Wladva Gymreig yn Chubut. Y llys—genad ar y pryd oedd yr Anrhyd. E. Monson. Am ddau vis gwasgai y llys-genad yn ddyval a bonheddig drwy y Swyddva Dramor Arianin, ac o'r diwedd cavodd yr atebiad canlynol:—
I'r Gweinidog Tramor.—Parthed eich nodyn o ymholiad am Wladva Chubut, oblegid cais Mr. Monson, llys—genad Prydian Vawr, mae'n hyvrydwch genyv ddweud wrthych yr edrychir ar ol y Wladva hono megis yr edrychir ar ol holl wladvaoedd eraill y Weriniaeth. Yn adroddiad Swyddva Gwladvaoedd am y vlwyddyn ddiweddav rhoddir adroddiad o lwyddiant y lle a'r gweithiau dyvrhaol llwyddianus wneir yno. Mae ganddynt brwyad yn ol y gyvraith sydd mewn grym, dysg a medr yr hwn sydd yn gwbl voddhaol i mi, a digon yw darllen ei adroddiadau i weled y dyddordeb a gymer a'r gwelliantau a gynygiai: cevnogir ev hevyd gan rai o'r sevydlwyr a gwyddonwyr vu yno yn ddiweddar. Yn aros am gymeradwyaeth y Congress y mae darpariaethau gweinyddol i'r Tiriogaethau sydd yn cyvarvod pob eisieu i hwylio rheolaeth leodrol, creu barnwyr cyvreithiol, ac hyd nod gynrychiolaeth yn y Congres drwy ddirprwyon, yn meddu llais yn y travodaethau. Disgwyliav y vlwyddyn hon weled y cynllun yn cael ei vabwysiadu, ac hevyd y bydd yn cyvarvod yr ymovynion gawsoch chwi oddiwrth lys—genad Prydain Vawr.
Digwyddodd vod L. J. yn Buenos Ayres ar vusnes ar y pryd, a phan wybu y llys—genad hyny, eve a ddanvonodd yr atebiad gawsai i L. J., vel y gwnelai yntau unrhyw nodiadau arno varnai yn addas. Wele y nodiadau wnaed:—
Wrth ddweud vod y Wladva yn cael yr un sylw a gwladvaoedd eraill, mae'n debyg mai cyveiriad ydyw hyny at adroddiadau y prwyad am y Wladva—nid at ddymuniadau a buddianau y sevydlwyr. Tra yr edrychir arnom vel haid o dramoriaid i'w bygylu, ac nid vel deiliaid cydradd, byddwn at drugaredd adroddiadau vel hyn—yn y rhai y mae cred y Gweinidog yn ddirvawr! Ceisiodd y Wladva ddweud ei chŵyn lawer gwaith a llawer modd, ond bu y canlyniad diweddar mor siomedig a chreulon, vel nad oes yn aros ond naill ai gwaseiddiwch ysgymun neu vudandod taeog. Llethir dadleuaeth bwyllus drwy ei alw yn vradwriaeth: deonglir cyd—ddwyn amyneddgar megis divrawder neu gydsyniad. Mae naw mlynedd er pan ymyrodd y prwyad cyntav â'r trevniadau lleol: bu dirprwyon dro ar ol tro yn ervyn cael travodaeth: ni wadwyd erioed yr hawl a'r doethineb: gwnaed addewidion lawer na oedid yn hwy, eithr hyd yn hyn y mae savle leodrol a chyvreithlon y Wladva yn cael ei gwbl anwybyddu. Gall vod adroddiadau a llythyrau yn pasio rhwng yr awdurdodau, ond y mae'r 1,200 gwladvawyr mor anhysbys ohonynt a phe byddent alltudion. (2) Sonir am 'fyniant y Wladva, a'r gwelliantau vwriedir." Eglur yw vod y cynllun unbenogol o geisio rheoli yn dallu y Gweinidog i wir gyvlwr pethau. Ysywaeth, nid yw y Wladva yn llwyddo. Drwy ystod y 18 mis diweddav y mae dyvudiaeth o Gymru wedi llwyr beidio: ymadawodd dwsinau o wladvawyr da i vyned i vanau eraill yn wir bu y_cyvnod hwn y caletav gawsid er's blyneddau. Ac eto y mae Dr. Irigoyen yn "voddhaus iawn ar adroddiad ei is—swyddog am y llwyddiant ! Gobeithio y llwydda'r Wladva eto yn y man, ond bydd hyny drwy ymdrechion diwyd a chynildeb tawel y sevydlwyr, ac nid drwy adroddiadau," a'r dull presenol o weinyddu pethau yn y lle. (3) Am y "cynlluniau dyvrhaol," maent yn yr awyr er's 8 mlynedd, a'r Llywodraeth wedi gwario £2,500 i'w "hevrydu," ac yn govyn £4,000 at ddevnyddiau yn awr: tra mae'r gwladvawyr ohonynt eu hunain WEDI gweithio camlesi sydd yn eu gosod o leiav uwchlaw dybynu ar gynlluniau y Llywodraeth. Gwerir £3,000 y vlwyddyn ar swyddogion yn y Wladva, a chyda'r holl gynlluniau mawr yn yr awyr, diau y tybiai'r Gweinidog y dylent vod yn voddlawn iawn, neu eu bod yn aniolchgar iawn; (4) Mae Dr. Irigoyen yn berfaith voddlawn ar adroddion y prwyad. Nid yw wedi covio unwaith mai disgwyl mae y Wladva am weled gweithredu rhywbeth, ac nid adrodda, a threvn weinyddol wedi ei sevydlu yn ol cyvraith. (5) "Mae rhai o'r sevydlwyr yn voddlawn i'r prwyad!" a rhoes y gwyddonwyr Frengig air da iddo! tra yr anwybyddir gwaedd vawr y Wladva pan garcharwyd ei phobl, ac na chymerwyd sylw o'u disgwyl distaw am gyhyd o amser. (6) " Mae cynllun o vlaen y Congres i drevnu gweinyddiad y Tiriogaethau" meddir. Mwynheir Lleodraeth eisoes gan sevydlwyr Rio Negro, Chaco, a Misiones: gallesid er's talm estyn yr un breintiau i Chubut pe mynasid. Yr ydys wedi hir ddisgwyl a govyn am hyny, a chael addewid swyddol gyniver waith vel nad oes genym bellach ond gwenu'n anghrediniol, a dywedyd, "Ni a gredwn pan y'i gwelwn." Bryd bynag y daw hyny, bydd ar y Wladva rwymau i ddiolch i lys—genhadon ei Mawrhydi yn Buenos Ayres am y dyddordeb gymerant bob amser yn ein helyntion ni yn y Wladva, vel dyrnaid o Brydeinwyr yn ymladd am chwareu teg dan anhawsderau lawer. Yn bersonol a Gwladvaol bu dda i mi wrth y dylanwad mawrvrydig hwnw lawer gwaith, a diau vod yr ymdeimlad hwn o nodded i'r gorthrymedig wrth wraidd ein hedmygedd o'r vaner Brydeinig.— L. J.
O hyny allan bu Syr E. Monson yn dyval wasgu ar y Llywodraeth: cawsai gopi o'r ddeddvwriaeth oedd o vlaen y Congres, a danvonodd hi i L. J. i weled a vyddai voddhaol i'r Wladva pe y ceid hi. O'r diwedd, yn Hydrev 16, 1884, ymhen pedair blynedd wedi dechreuad y vrwydr, ac agos i 20 mlynedd wedi sylvaenu y Wladva, cavwyd Deddv y Tiriogaethau Cenedlaethol "magna charta" y Wladva.
Bwriadwyd unwaith roddi yma gyvieithiad llythyrenol o honi; ond gan vod eisoes amryw welliantau neu gyvnewidiadau wedi eu gwneud arni (vel y gwneir yn Mhrydain), ac vod llawer o'r trevniadau yn gyvreithiol, a'r cyvreithiau hyny yn ol y dull Hispaenig, ni roddir ond y crynodeb dealladwy canlynol ohoni:
Rhenir y Tiriogaethau—sev y rhandiroedd eang oedd y tu allan i'r 14 Talaeth gyvansoddent y Weriniaeth—i naw tiriogaeth: Pampa, Neuquen, Rio Negro, Chubut, Santa Cruz, Tierra del fuego, Misiones, Formosa, Chaco. Nodir finiau pob un: finiau Chubut (y Wladva) oeddynt o lanau'r Werydd hyd bigyrnau uchav yr Andes, ac yna ledredau 42 i 46 De—pedair gradd lledred, a rhywbeth tebyg yn hydred—dyweder 240 milldir ddaearyddol bob fordd.
Pan ddelo poblogaeth unrhyw diriogaeth yn 30,000 bydd mewn sevyllva barotoawl i ovyn cael bod yn dalaeth, ac i gael deddvwrva iddi ei hun nes bod yn dalaeth. Mae y dirprwyon i'r ddeddvwrva i vod yn un ar gyver pob dwy vil o'r trigolion: wedi eu hethol gan y rhanbarthau lleodrol, ac i barhau mewn swydd dair blynedd: yn vreinwyr cyvlawn oed, ac heb vod yn dal unrhyw swydd dan gyvlog y Llywodraeth.
Rheolaeth y Diriogaeth vydd drwy i'r Llywodraeth benodi Rhaglaw, drwy gydsyniad y Senedd, am dair blynedd, ac ymddiried i hwnw "drevniadau diogelwch, gweinyddiad, a dadblygiad y diriogaeth." Ysgrivenydd y rhaglawiaeth a benodir ill dau hevyd gan y Llywodraeth ar gynygiad y rhaglaw: a hwynt—hwy sydd gyvrivol i'r Llywodraeth.
Y Llywodraeth sydd i benodi Barnwr Cyvraith (am ei oes. neu ymddiswyddiad) a chydag ev ysgrivenydd o dwrnai, a dadleuydd a'r gweinyddion llysol arverol.
Y TREVNIANT LLEODROL (municipal) sydd drwy Ynadon Heddwch (taledig) dros bob rhanbarth o wlad y bo mil o drigolion ac uchod ynddi: i'w hethol drwy dugel gan bob un mewn oed vo ar yr etholres, ac i barhau mewn swydd am ddwy vlynedd. Travodant bob achos o hawl ac iawn hyd i werth $200 (yna apel at y Barnwr): mewn achosion troseddol pan na vyddo y gosb yn vwy na 4 diwrnod o garchar, neu $20 o ddirwy:: travodaeth yr ynadon i vod ar lavar ac ar ysgriv, a'r dyvarniad i vod wrth wiredd a dilysedd credadwy, gan ovalu, modd bynag, am furviau prawv a difyn.
Y CYNGOR LLEODROL O bump i bob rhanbarth, a etholir drwy dugel pob etholwr ar yr etholres ar ddydd ac yn ol trevn osodedig, i barhau yn eu swydd ddwy vlynedd, rhan i'w newid bob blwyddyn. Y Bwrdd hwn sydd i drevnu gweinyddiad eiddo a buddianau cyhoedd y lle: pènu y trethi lleol, eu casglu a'u treulio erchi pob gwaith cyhoeddus y gellir ei wneud o'r cyllid lleodrol. Mae trevniadau manwl iawn oddeutu etholiadau a furviau; ond "arverion y Weriniaeth' yn peri traferth ac anhawsderau yn aml.
Y Rhaglaw cyntav benodwyd i roddi y trevniant Tiriogaethol newydd mewn grym oedd yr is—vilwriad Luis G. Fontana, boneddwr goleuedig a thirion, drwy drugaredd, ag a vuasai yn arolygu gwladva Formosa, cwr o eithav arall y Weriniaeth. Gan vod y gwladvawyr yn hen gyvarwydd â Lleodraeth yn ymarverol, ac nad oedd y ddeddv newydd namyn hanvod yr hen drevn, gyda rhyw vanylion a dulliau Arianin, gorweddodd pethau yn esmwyth ar unwaith. Penodwyd L. J. yn Ynad tu gogleddol yr avon, a D. Ll. Jones yn Ynad y tu deheuol; ac etholwyd Cyngor cryv yn cyvarvod yn Gaiman vel y man canolog. Penodwyd Barnwr Cyvraith a swyddwyr i'w lys; a phenodwyd llu o is—swyddwyr i'r rhaglawiaeth a'r llys; a phenodwyd hevyd bost—veistr i'r Wladva—y Llywodraeth yn talu cyvlogau yr oll, oddigerth y Cyngor. Heblaw yr holl swyddwyr hyn yr oedd hevyd eisoes gabden y borth a'i wyr, a penaeth y dollva a'i glercod. Y swyddoga hwn yw malldod y Weliniaeth. Mae anibendod a furviadu hevyd yn dreth drom ar amynedd ac amser, ac yn gancr i ysu busnes ac onestrwydd y wlad.