Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig/Penawd 26
← Penawd 25 | Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig gan Lewis Jones, Plas Hedd |
Penawd 27 → |
XXVI.
Y LLEODRAETH DAN BRAWVION.
Am bum' mlynedd wedi cychwyn y Lleodraeth elai pobpeth ymlaen yn llyvn a chyson. Ond yn Medi, 1888, ceisiwyd arver y castiau gweinyddol ac etholiadol sydd yn anurddo cymaint ar hanes y Weriniaeth, a rhoddir yr adroddiad yma o'r helynt vel engraift a rhybudd at y dyvodol.
Vel canolvan i'r holl Wladva cytunid ar Gaiman vel eisteddle y Cynghor Lleodrol. Trewrawson oedd eisteddle y Rhaglawiaeth—20 milidir is i lawr na Gaiman; ond y dyfryn uchav toreithiog 15 milldir uwch i vynu (gwel map t.d. 47). Ceisiasid govalu vod aelodau y Cyngor canol hwnw yn cynrychioli y gwahanol ardaloedd yn lled drwyadl. Trerawson oedd y priv le, gan mai yno yr oedd y Rhaglawdy a'r holl swyddwyr, a chyda hyny y lluaws Italiaid ymdyrent yno i vasnachu. Wrth gwrs, yr oedd rhiv yr etholwyr gyda'u gilydd (tua 400) yn peri nad oedd llais y swyddwyr a'u cysylltiadau ond bach o riv yn y cyvriv cyfredinol. Velly, yn Medi 17, 1888, rhoddes y rhaglawiaeth allan gyhoeddeb vel y canlyn: "Gan mai eglur yw vod meithder y sevydliad a'i gynydd yn peri nad ydys yn teimlo hyd yma ddylanwad y Lleodraeth ganolog vel y byddai ddymunol, ac vel y mae angenrheidiol i gyvarvod lluaws galwadau y lle, mae y Rhaglaw yn Erchi: Penoder pwyllgor lleodrol (commision municipal). cyvyngedig i Drerawson, priv ddinas y Diriogaeth. (2) Y pwyllgor hwnw i vod yn gynwysedig o bum' aelod o breswylwyr y drev, a'i awdurdodaeth yn gyvryw ag a roddir gan y gyvraith i gorforiaethau cyfelyb. (3) Penoder i furvio y pwyllgor hwnw y breinwyr canlynol:—G. Mayo, H. Musachio, A. Delaboro, V. Zonza, J. Bollo. (4) Cymhellir arnynt i roi sylw arbenig at iechyd a harddwch y drev.—L.. JORGE FONTANA, Rhaglaw.
Aethai y Rhaglaw ymaith i Buenos Ayres yn union ar ol rhoi allan y gyhoeddeb, gan gadael ysgrivenydd y rhaglawiaeth yn rhaglaw darbodol. Yr oedd cryn wahaniaethau barn parthed deongliad ac efaith y gyhoeddeb. Teimlid vod peth rheswm yn y gŵyn vod y gweinyddiad lleodrol yn arav ac avrosgo oblegid hyd y rhanbarth: ond gwyddid hevyd mai yr amcan oedd rhanu y grym etholiadol, a bachu yr awenau lleodrol gyda'r mwyavriv oedd yn swp gyda'u gilydd yn y pentrev, tra pobl y wlad yn wasgarog, ac heb vod bob amser yn unvryd—unvarn, vel ag i vod yn rymus. Ond colyn y cast oedd datroi etholiad uniongyrchol gan y bobl am benodi yn unbenogol aelodau y Cyngor lleodrol. Nid hir y buwyd cyn canvod mai yr hyn a ovnid a ddaeth arnom. Drwy hollti y rhanbarth yn ddwy barnai y rhaglaw darbodol na vyddai vil o drigolion, vel y govynai'r gyvraith, yn y naill na'r llall, i vedru ethol drwy bleidlais, ac velly mai y rhaglaw oedd i benodi Cyngor am ranbarth islaw mil o bobl. I enhuddo mwy vyth ar y cast gelwid y corf newydd oeddid wedi benodi yn "Bwyllgor Trerawson" (commision de Rawson) ac nid Cyngor Lleodrol (consejo municipal). Yr oedd penodi pump o swyddwyr y Llywodraeth yn draha dybryd, tebyg i'r ormes y buasid dani o'r blaen; ac yr oedd hevyd anwybyddu y gwladvawyr yn newisiad Cyngor yn sarhad ar y Wladva oll—y bobl oedd wedi gwingo nes cael Lleodraeth dêg. Nid oedd bellach ddim i'w wneud ond ymladd gyda'u harvau hwy eu hunain — cyvrwysder a furviau. Nid oedd ond gwasgu clusthyd adeg etholiad. Ni newidiasai y gyhoeddeb ddim ar savle yr Ynadon, ac velly yr oedd hono wrth gevn. Cyn hir estynwyd y bawen i'r boced: archai y "pwyllgor ar i bawb dalu eu trwyddedau olwynion (vel y byddid arver) ar ddyddiad a roddid. Wrth gwrs, rhedodd llawer i dalu yn ebrwydd; ond gwelwyd hevyd vod y ddysgeidiaeth Wladvaol wedi magu asgwrn cevn yn y mwyavriv. Wedi cynull cyrddau cyhoeddus i dravod y mater mewn pwyll, cytunwyd i bawb dalu eu trwyddedau i'r Ÿnadva, o dan wrthdystiad. Dyrysodd hyny beth ar y glymblaid drahaus; a cheisiasant vygylu yr Ynad Lloyd Jones i gymeryd oddiarno swm y trwyddedau dalesid yno dan wrthdystiad. Pan welsant na wnai hyny y tro chwaith, ac vod Ꭹ Wladva yn dechreu gweled sut y byddai pethau heb etholiad lleodrol, galwasant am etholiad dau aelod ar ben y tymor y penodasid hwy. Ond gwnaed hyny mor gastiog ag oedd y cast cyntav: galwyd yr etholwyr i Rawson (rai 18 milldir a fordd) pan oedd pawb ymhen eu helynt gyda dyvrio y cnydau—Medi 26, 1889yr adeg brysurav o'r vlwyddyn—heb rybuddion amserol na chyfredinol, ac heb drevniadau etholiadol ar gyver y rhaniad wnaethid ar y rhanbarth. Cwbl over oedd govyn am ohirio vel ag i'r sevydliad oll gael ethol yn deg: mynwyd cynal etholiad, ac vel hyn y bu'r canlyniad :—Pleidleisiodd 43, tra yr oedd ar yr etholres 377; dewisodd y 43 hyny J. Bollo a V. Zonza: i'r rhai hyny pleidleisiodd 7 o Archentiaid, 25 o Italiaid, 8 tramoriaid, 3 Prydeinwr.
Ve welir oddiwrth y figyrau hyn mor llwyr yr erthylodd yr "etholiad" hono—ond yr oedd yn ol y FURV, a theimlai y glymblaid mor gadarn yn eu sedd bellach, vel yr aethant mor hyv a cheisio diswyddo yr Ynad, am iddo sevyll i beidio cydnabod y glymblaid, a gomedd rhoddi i vynu iddynt arian y trwyddedau roisid yn ei ymddiriedaeth. Tynodd hyny alan y "pendervyniad" swyddol a ganlyn:
Cyngor Lleodrol Rawson, Chwev. 4, 1890.—Yn gymaint ag vod y papurau sydd ymeddiant y Cyngor hwn yn dangos vod yr Ynad D. Ll. Jones wedi troseddu yn ei swydd yn ddivrivol, drwy anwybyddu y Cyngor hwn yn llwyr, yn groes i'r llw gymerodd yr 2 o Vedi diweddav, mae y Cyygor hwn, yn ol y gallu roddir iddo gan penr. 10 o'r Gyvraith, yn Gorchymyn:Darvydded D. Ll Jones vel Ynad Rawson, a phenoder yn ei le Pio Agustin Perez. Pasier i'r Barnwr govnodion o'r hyn barodd y gorchymyn hwn, vel y cosper yn ol yr haeddiant.—G. MAYO, Cadeirydd.
Gosodasai yr Ynad hysbysiad ar bost y bont—y man cyhoeddusav — yn hysbysu y byddai ei swyddva ev yn agored vel arver. Mawrth 6, 1890, ysgrivenodd yr Ynad y nodyn canlynol at L. J. :—Yr wyv newydd gael gwys ymddangos oddiwrth Woodley (Priv Gwnstabl). Nis gwn yr amcan, oddigerth eu bod am vy nanvon ymaith, neu vy nghadw rhag myn'd i Buenos Ayres. Mae Woodley wedi govyn am gael tori i lawr y post ar ba un y mae vy hysbysiad, a'r lle hevyd y mae hysbysiad y "municipalidad." Gwrthododd Gutyn ac Humphreys (adeiladwyr y bont). Ar vy fordd yma cyvarvyddais Woodley a dau blismon yn myned at y bont. Yr wyv yn danvon hyn er mwyn cael trevnu yn ol yr hyn a ddigwydd.—DAVID LLOYD JONES.
Ond yr oedd Lleodraeth wedi costio'n rhy ddrud i'r Wladva i veddwl ei golli drwy gastiau cyvrwys a thraha vel hyn. Cyfrôdd y Wladva drwyddi, vel ag yn adeg carchariad L. J., a chynted y cavwyd egwyl o'r fwdan dyvrhau, cynhaliwyd cyrddau ymhob ardal, ac arwyddwyd gwrthdystiad cyvreithiol grymus yn erbyn y fug etholiad, a'r holl weithrediadau trahaus dilynol. Ymdavlodd L. J. a J. M. Thomas i'r vrwydr o ddivriv, i vod yn gevn i'r Ynad. Y cam cyntav oedd i'r Ynad roddi allan gyhoeddeb yn egluro i'r Llywodraeth ei saviad ev, vel hyn :
D. Ll. Jones, Ynad Gweinran Rawson, yn egluro:—Ddarvod cyhoeddi ysgriv dan y dyddiad Chwev. 4, wedi ei harwyddo G. Mayo ac A. Blancà, ac arni stamp y Cyngor, ac a gevais i y diwrnod hwnw. Hònav vod G. Mayo a dau eraill hònant eu bod yn aelodau o'r Cyngor, yn gwneud hyny'n groes i pen. 22 o Gyvraith rhiv 1532: vod y ddau eraill yn aelodau oblegid pendervyniad y lleill, yn groes i pen. 22, 24 o'r Gyvraith: vod 5 o bob 6 o'r etholwyr wedi gomedd myn'd i'r etholiad, ac wedi cyvlwyno gwrthdystiad rheolaidd yn erbyn, a mynegu eu gwrthdystiad i'r chwilwyr ar y pryd: ddarvod i'r pwyllgor o'r etholwyr aethant i'r Rhaglawdy, gael ar ddeall yno nad oedd y "Cyngor" honedig wedi cael ei gydnabod gan y Llywodraeth: vod y bobl hyn wedi trawsveddianu yr awdurdod lleodrol, i'r dyben o rwystro yr Ynad gyvlawni ei swydd yn briodol. Gan hyny, wrth ystyried mai yr Ynad yw yr unig awdurdod leodrol gyvreithlon sydd yn awr yn y rhanbarth, a'i vod drwy benodiad arbenig yn geidwad y rhestru a phob ysgrivau; nis gall, ond i archeb y Llywodraeth yn unig, drosglwyddo y cyvryw i neb pwy bynag, heb archeb y Rhaglaw.—D. Ll. JONES.
Yn Mai dychwelodd y Rhaglaw Fontana o Buenos Ayres, a chavodd y Wladva yn verw bwygilydd oblegid y traha lleodrol. Yr oedd rhoi y Lleodraeth i veddiant penaeth y dollva, clerc y dollva, broker y dollva, meddyg y rhaglawiaeth, a'r athraw cenedlaethol, tra y mynegai'r gyvraith yn bendant nad oedd yr un swyddog taledig o'r Llywodraeth i vod ar y Cyngor, yn beth rhy warthus a beiddgar i'w oddev. Velly, Mai 17, 1890, danvonwyd y nodyn canlynol o'r Rhaglawdy i'r Ynad, G. Mayo, L. J., a J. M. Thomas:—" Yn gymaint ag vod yn well bob amser geisio heddychu drwy deg yn hytrach nag ar hawliau a llythyren, a chyn i'r Barnwr edrych i'r ysgrivau am yr anghydwelediad rhwng y Cyngor ac Ynadva Rawson, mae y Rhaglaw a'r Barnwr wedi penodi y dydd voru, am 2 o'r gloch, i dravod a heddychu y mater, a gobeithir y gellwch chwi, vel arwyddwyr y gwrthdystiad vod yn bresenol.—A. A. CONESA, dros y Rhaglaw.
Yn canlyn wele y covnodion gadwyd ar y pryd o'r ymgomva vu, a'r canlyniad:—"Gwyddvodol: Y Rhaglaw, y Barnwr, Conesa, Mayo, D. Lloyd Jones, J. M. Thomas, L. J.—Agorodd y Rhaglaw y sgwrs drwy roi ar ddeall ei vod wedi ymgynghori â'r Llywodraeth am y peth, ac wedi cael ei gymhell i gyd—ddeall evo'r Barnwr yn yr helynt. Wedi siarad maith a llac, govynwyd i Mayo ei syniad: yntau a gyvlwynai bapur o delerau ar ba rai yr ymddiswyddai eve: (a) Vod yr Ynad i dalu iddo ev arian y trwyddedau dderbyniaai dan y gwrthdystiad; (b) Yr Ynad i roi ei swydd i vynu, ac ymrwymo peidio sevyll ail etholiad pan ddelai yr amser. Gwrthodwyd y vath delerau ar unwaith. Yna gogwyddodd y siarad i ddangos vod y Barnwr yn tueddu i edrych ar ddiswyddiad yr Ynad gan Mayo vel peth byrbwyll ac avreolaidd. Wedi gweled hyny aeth Mayo allan i gydymgynghori â'i bobl, a phan ddaeth yn ol dywedodd eu bod hwy oll yn ymddiswyddo yn ddiamodol. Diolchodd y Rhaglaw yn furviol i Mayo am y gwasanaeth a wnaethai yn ystod y tymor. Dair gwaith yn ystod y sgwrs ceisiwyd dwyn i sylw bwyntiau y gwrthdystiad, yn enwedig am gael un Cyngor i'r weinran oll vel cynt; ond bu raid boddloni ar gadw urddas yr Ynadva, a gobaith cael ethol Cyngor rheolaidd.
Mai 14, 1890, galwodd y Rhaglaw am etholiad i ranbarth Rawson, vel y rhanesid hi, a chan y byddai tymor yr Ynad hevyd ar ben, gelwid am ethol Cyngor ac Ynad. Wrth gyhoeddi hono drachevn deuai yr ewin forchog i'r golwg yn y paragraf o'r gwysiad i ethol: "I vod yn aelod o'r Cyngor Lleodrol rheolaidd, rhaid bod yn drigianydd yn y rhanbarth, cyvlawn oed, yn meddu tir, a siarad yr iaith genedlaethol. I vod yn Ynad yr oedd ovynol bod yn vreiniwr (dinesydd). Dodir y bwrdd ethol ymhorth yr Eglwys Gatholig o 9 yn y bore i 4 brydnawn, neu yn neuadd y Barnwr." Yr oedd son am gymwysder tirioz a medru Hispaenaeg yn gwbl ddiwarant wrth gyvraith: ond bwriadwyd y crybwylliad yn ddiau vel math o vygylu a lleddvu tymherau ar ol y frwyno diweddar. Daeth yr un gwingo i'r golwg ymhen blyneddoedd wedyn i geisio cael yr etholiad leodrol ar y Sul, ymhorth yr Eglwys Babaidd, yn ol llythyren y gyvraith: a'r un anach barodd y drilio ar y Sul, nes y medrid newid hyny hevyd. Cynaliwyd yr etholiad hono yn vywiog a manwl yngwydd y Rhaglaw a'r Barnwr, y rhai a dystient na welsent hwy erioed etholiad gwerinol mor ddeallus ac mor anrhydeddus, heb dervysg a chastiau. Ysywaeth, y mae etholiadau y Weriniaeth Arianin ymhell o vod yn addurn i'r Genedl, ac yn aml iawn yn arwain i dervysgoedd a thywallt gwaed, oblegid tymerau nwydwyllt y bobl, a'u dibrisdod o vywydau eu gilydd. Canlyniad y cyfrawd lleodrol hwnw vu ethol pump o Wladvawyr blaenllaw i Gyngor Rawson, a D. Lloyd Jones yn ynad: ac i'r Gaiman gael Cyngor ac ynad iddi ei hun—J. C. Evans yn ynad cyntav, a Huw Griffith ar ei ol. Drwy Gymraeg y mae pob travodaeth yn y ddwy,—a rhoddi cyveithiad Hispaenig i'r Rhaglawiaeth o'r pendervyniadau.
Bu dau brawv arall ar y Lleudraeth—a'r ddau dro daliodd allan yn llwyddianus iawn, dan gryn wasgva ac anhawsderau: a chan eu bɔd yn engreiftiau o'r saviad Lleodrol rhag cael eu 'sigo gan y cawredd Llywodraethol, rhoddir yma adroddiad ohonynt er calondid a chyvnerthiad i'r bywyd lleol yn y Wladva.
Y cyntav oedd parthed y Dreth Dir. Tach. 2, 1893, ysgrivenai L. J. yr hanes i'r Dravod vel hyn :
"Bydd hwn yr 28ain tro i mi vyned at y Llywodraeth Arianin yn swyddol dros y Wladva, a'r 43ain mordaith yno—a gwaith divlas ovnadwy ydyw—croes i'm graen i erioed, ond vel y byddav yn teimlo rheidrwydd dyledswydd yn vy ngyru i geisio hyrwyddo tipyn ar y Wladva. Myvi vy hun, hwyrach, dynodd helvnt y Dreth Dir yn vy mhen y llynedd, drwy ymyryd i geisio cael sawd gweithio i'r Lleodraeth, heb neb yn vy nanvon na vy anos, ond vy neongliad i o'r gyvraith ag y barnwn oedd yn gyvle rhagorol i nerthu breichiau y Cyngor. Gyda'r mymryn cyllid lleodrol sydd genym o £250 y vlwyddyn — a £60 o'r rheiny yn myned am ysgrifenydda—nid oedd obaith gallu GWNEUD nemawr ddim. Mae y Llywodraeth Genedlaethol yn treulio £5000 mewn cyvlogau am ein swyddoga―tra ninau ynHONG-BONT Y GAIMAN
Wnaeth yr ardalwyr wedi cael Lleodraeth i'r rhanbarth hwnw yn benav vel cyvleusdra at y
capel welir yn y darlun.
GWNEUD pobpeth erddom ein hunain heb ddimai o'r £5000 fyrdd, camlesi, ysgolion, faldiau, pontydd, glanveydd, neuaddau, capeli, &c. Caniataodd y gydgynghorfa, dro yn ol, i 40 y cant o drwyddedau masnachol y Diriogaeth vyned i'r lleodraethau: ac yr oedd hyny yn davell lled dda. Ond dadleuwn i vod y Dreth Dir leol hevyd yn perthyn i'r Lleodraeth, am vod "yr oll y tu vewn i'r finiau lleodrol yn cael eu nodi yn y gyvraith i vyned i'r Lleodraeth. Elai y $2000 neu $3000 ohono gesglid yma yn vlyneddol i'r llynclyn mawr yn y briv ddinas—ddylasai aros yma. Ond mwy na hyny, byddai cael trethu ein tir ein hunain at ein buddianau ein hunain, yn gafaeliad gwleidyddol gwerth son am dano."
Yna yn Chwev. 8, 1894, rhoddai drachevn yn y Dravod yr adroddiad canlynol:
"Wedi tri mis o bwnio dyval ar yr awdurdodau am y Dreth Dir, debygav i mi gael o'r diwedd o leiav garai o groen y Llywodraeth, os nad hevyd y croen i gyd. Gwingai y Twrnai Cyfredinol drwy ddadleu mai eiddo Tiriogaethol yw y Dreth Dir, ac nid eiddo Lleodrol, ac velly na ellid caniatau onid 160 o fermi "tu vewn i'r fin," y gallai'r Lleodraeth eu prisio a'u trethu. Ond yn swta hollol, pan oeddwn yn y niwl amwys yna gyda'r Twrne Cyfredinol, cevais y nodyn canlynol o swyddva Gweinidog y Cyllid, Dr. Terry:— Ar eich cais, mae genyv yr hyvrydwch o'ch hysbysu vod yma yn aros am arwyddiad y Gweinidog yr ysgriv yn caniatau i Leodraeth Chubut y devnyddiad o Dreth Diriogaethol y rhanbarth hono, yn ol vel y govynai eich ysgriv.'
Gwelodd y Rhaglaw a phenaeth y gyllidva yn y Wladva vod y Llywodraeth yn cydnabod grym y ddadl; a threvnwyd yn ebrwydd i weithredu yn ol hyny, a rhoddi yn ymarverol hawl i'r Lleodraeth brisio y tiroedd, a chodi y dreth leol yn ol hyny. Diogelwyd velly nad elai y Dreth Dir allan o'r Wladva; a diogelwyd hevyd weinyddiad y dreth gan y Cynghorau.
Yr engraift arall a govnodir nid ydyw, evallai, yn vanwl Leodrol, eithr dengys gyswllt y peirianwaith Lleodrol wrth y trevniant Llywodraethol mawr, ac velly y modd i'w hysgogi. Yr eglurhad cyntav ar y mater hwn yw—vod cyvraith y Weriniaeth yn ystyried pob gwryw a enir ynddi (a phob un a ovyna am ddinasvraint) yn agored i wasanaeth milwrol o 18 i 40 oed, a'u bod i vyn'd dan ddysgyblaeth vilwrol ar adegau, ond yn benav ar bob dydd Sul, am 3 mis o'r vlwyddyn: eithr yn ymarverol ni elwir ond ar ddynion sengl yn unig i vyned drwy yr ymarver hon. Yr ail eglurhad yw—Mai y Sul yw diwrnod mawr divyrion a segura y Weriniaeth, ac velly yr hawddav i'w hebgor i gorf mawr y bobl: oddiar y syniad hwnw y trevna'r gyvraith vod yr holl etholiadau, o bob math, i vod ar y diwrnod hwnw. Gyda hyna o eglurhad gellir dilyn pwyntiau yr ysgriv ddilynol gyvlwynodd L. J. i'r Llywodraeth ar ran y Wladva yn Mehevin, 1897, yn nghylch yr ymarver vilwrol ar y Suliau, a'r hon vu lwyddianus i gael newid y diwrnod i hyny :
"L. J., sylvaenydd y Wladva, Chubut, dros y bechgyn rhestredig yn y cartrevlu tiriogaethol yn cyvlwyno eu dymuniadau aiddgar i'r Llywodraeth i gael newid diwrnod y dríl vilwrol o'r Sul i ryw ddiwrnod arall o'r wythnos. Wrth wneud hyny, hofai yntau gyvlwyno yr eglurhadau canlynol, yn y gobaith y byddant yn ddigonol i gael gan yr awdurdodau ganiatau yr hyn a ovynir mor daer gan y llangciau. 1. Nid yw niver y rhai rhestredig onid 70, ac o'r rheiny nid oes onid 10 neu 12 na waeth ganddynt pa ddiwrnod i ddrilio, tra y mae i'r 60 eraill yn groes iawn i'w syniadau a'u teimladau moesol. Ni ddymunai y bechgyn mewn un modd osgoi eu dyledswyddau gwladol, eithr ervyniant ar yr awdurdodau i drevnu rhyw ymwared iddynt na vo'n sathru eu moesau, na'r eiddo eu rhiaint 2. Mae ein Tiriogaeth mor anghysbell vel y mae unfurviaeth y dydd wedi bod yn anichon droion. Y llynedd aethai 30 neu 40 niwrnod o'r amser penodedig heibio heb i'r rhaglawiaeth wybod am yr alwad. 3. Dair neu bedair blynedd yn ol, archodd y Llywodraeth ar i'r rhaglawiaeth ganiatau i'r Lleodraeth newid dydd yr etholiad o'r Sul (vel y trevna'r gyvraith) i ryw ddiwrnod arall—a gwnaed velly. 4. Mae yr un anhawsder gyda'r etholiadau am Ynadon Dyvrio, yn ol Rural Code y Tiriogaethau. Am y rhai hyny dywedai y Rhaglaw yn ei adroddiad diweddar: 'Mae y gwladvawyr hyn yn gwrthod rhestru eu hunain ar gyver etholiad ynadon dwr. am vod hyny ar y Sul, ac nis gellir yn gyvreithlon eu gorvodi i hyny.' Gweithiasant y tair camlas vawr eu hunain, gwerth tair miliwn o ddoleri, ac arolygant hwy drwy gwmnïau; ond gwrthodant gymeryd arolygaeth y camlesi hyny, am vod 'arver y wlad' yn galw arnynt wneud hyny ar y Suliau. 5. Nid yw devion ac arverion y gwladvawyr mewn un dim yn groes i voes ac anrhydedd gwareiddiad yn hytrach arbenigant hyny, a haeddant velly bob parch a sylw: maent yn vreinwyr da, yn cydfurvio â phob ymarwedd a threvn dda,—nid ydynt yn arosod eu devion ar nebun, a govynant yn unig am oddeviant ar ran y Llywodraeth ynghylch parchu y Sabboth yn ol eu cred hwy. 6. Vel sylvaenydd Gwladva Chubut goddever i mi chwanegu ystyriaeth wladol bwysig, sev yw hyny, yr efaith anfavriol a bar yr anealltwriaeth hwn ar yr ymvudiaeth Gymreig tua'r Diriogaeth hono. Mae y Rhaglaw yn gwaeddi, a chyda rheswm, am sevydlwyr i'w diriogaeth eaug, ac os gall y Llywodraeth yn garedig ganiatau y cais hwn, nid oes ynwyv amheuaeth y byddai yn hwb adnewyddol i ymvudiaeth tua'r Diriogaeth eang a gwâg acw."
Yr oedd dríl y tymor hwnw wedi dechreu cyn i'r ysgriv vlaenorol vyn'd drwy y furviau govynol: eithr wedi y gorfenodd, rhoddodd y Llywodraeth gyhoeddeb (decree) allan yn caniatau i Raglaw y Diriogaeth newid diwrnod y dril o'r Sul i ryw ddiwrnod arall bob tymor.