Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig/Penawd 3
← Penawd 2 | Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig gan Lewis Jones, Plas Hedd |
Penawd 4 → |
III.
Y WERINIAETH ARIANIN PAN GYCHWYNWYD Y WLADVA.
I'r darllenydd cyfredin, evallai mai lled ddyrus a niwliog yw hanes y Weriniaeth Arianin (Argentine Republic). Gwyddis, hwyrach, mai yn 1810 y cyhoeddodd y wlad hono ei hun yn anibynol ar Spaen, ei hen vam—wlad,—yn amser rhyveloedd Napoleon Bonaparte, ac y cymerth arni ei hun furv—lywodraeth Werinol. Dair blynedd cyn hyny gwnaethai Prydain ymgais drychinebus i gipio meddiant o'r wlad, drwy y Cadvridog Whitelock a'i 10,000 milwyr. Cyneuodd hyny wladgarwch angerddol y bobl—oeddynt eisoes yn vyw i'r dyhead mawr gychwynasai Chwildroad ovnadwy Frainc—ac yn y brwdvrydedd hwnw y cyhoeddasant eu hunain yn bobl rydd, werinol.
Ond bu cyvnod maith o anrhevn ac ymladd enbydus ar ol hyny. Yr oedd yn 1820 cyn y medrwyd cytuno i lywodraethu y wlad yn ol y gyvundrevn gyngreiriol (federal), sev yw hyny, pob talaeth yn y cyngrair i reoli ei threvniadaeth daleithol ei hun, o vewn rhyw ymrwymiad cyfredinol.
Yn 1826 teimlid vod y 13 talaeth wnelai i vynu y cyngrair yn avrosgo, anesmwyth, ac anghryno, ac velly medrodd Rivadavia ail asio yr elvenau ar y cynllun o un weriniaeth, un bobl. Dewiswyd ev (R.) yn llywodraethwr: gan ystyried talaeth vawr Buenos Ayres yn benav a phwysicav, ac ymddiried iddi y reolaeth dramor.
Eithr yn 1835 daeth Rosas i arlywio yr holl wlad, a gwnai hyny mewn enw o vod yn gyngreiriol, vel cynt. Ond yr oedd berygl bywyd i'r rhai alwent eu hunain yn Werinwyr, neu Unolwyr, ac aeth lluoedd o'r rheiny yn aberth i wleidiadaeth y dyddiau hyny. Parhaodd yr ormes drom hon 17 mlynedd.
Yn 1852—wedi cael gwared o Rosas—eiddigeddodd y taleithau eraill wrth y briv dalaeth (Buenos Ayres), a daeth Urquiza a Derqui i lywodraethu, ar linellau gwerinol mewn enw, ond o ogwydd gyngreiriol, dalaethol.
Erbyn 1861 ovnid vod yr elven gyngreiriol daleithol yn sathru ar uchaviaeth talaeth Buenos Ayres. Y Cadvridog Mitre oedd rhaglaw y dalaeth vawr hono ar y pryd: a rhag ovn i Derqui ac Urquiza dd'od ar warthav ei dalaeth ev, cynullodd vyddin, ac aeth i'w cyvarvod, yn agos i linell dervyn ei dalaeth, lle yr ymladdodd vrwydr Pavon. Oddiar y vrwydr hono y dechreua hanes trevnus y Weriniaeth. Cytunwyd i vyw yn Weriniaeth deuluol o 14 talaeth hunan—reoledig, ond o gyd—ryw drefniadau, a'r oll yn yr un rhwymyn allanol cyfredinol.
Velly, yn 1862, etholwyd Mitre yn arlywydd y Weriniaeth oll—neu yn hytrach, vel y mynid galw y wladwriaeth o hyny allan—" Y Genedl Arianin " — a'i olynwyr rheolaidd i'w hethol bob 6 blynedd. Oddiar hyny hyd yn awr, gwnaed velly yn gyson, er nad heb, lawer tro, chwildroadau a thervysgoedd gwaedlyd mewn amryw ranau o'r wlad.
Tra yr oedd Urquiza a Derqui yn rheoli, dinas Paraná (o'r un enw a'r avon vawr) oedd eisteddle y Llywodraeth; ac oddiyno y bu'r ohebiaeth gyntav ynghylch y Wladva Gymreig. Ond pan ddewiswyd Mitre yn arlywydd, cymerid mai Buenos Ayres oedd y briv ddinas—er y bu blyneddoedd cyn y cytunwyd i hyny yn furviol. Yn ystod yr arlywyddiaeth hono—tra'r oedd yr elven gyngreiriol eto'n grev yn y taleithau allanol—pasiodd y Gydgynghorva (Congress) ar i Rosario gael ei neillduo a'i chydnabod vel priv ddinas y Genedl; ond dodes yr Arlywydd ei nage (veto) ar hyny, a gadawyd i dalm o vlwyddi vyn'd heibio cyn i'r mater dd'od ger bron drachevn. Eithr yn y 7—degau etholwyd Dardo Rocha yn rhaglaw talaeth Buenos Ayres, ar y ddealltwriaeth y dewisid dinas Buenos Ayres yn briv ddinas. Gan hyny, yn ystod ei raglawiaeth ev y troswyd y ddinas yn eisteddle a chartrev y Llywodraeth Genedlaethol; a'r un adeg, wrth gwrs, y crewyd dinas newydd "La Plata"—40 milltir o Buenos Ayres—i vod yn briv ddinas y dalaeth. Yr oedd yn perthyn i ddinas Buenos Ayres lawer o adeiladau cyhoeddus ac eiddo a buddianau eraill amrywiol. Gwerthwyd y rhai hyny i'r Llywodraeth Genedlaethol yn adeg y trosiad; a chyda cynyrch y gwerthiant hwnw yr adeiladwyd dinas rwysgfawr La Plata. Ve ddeallir, vel yna, mai oddiwrth y ddinas henav a phenav y cymerth y Dalaeth vawr ei henw: ond dealler eto vod tervynau, neu finiau y briv ddinas vel y maent yn awr, yn cynwys y maes—drevi cylchynol, nes vod yr oll yn gwneud priv ddinas eang—a'r cyvan dan reolaeth uniongyrchol y Llywodraeth Genedlaethol, megys ag y mae Washington a'i chylchynion dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth yr Unol Daleithau.