Neidio i'r cynnwys

D A'i 'mofyn haeddiant byth, na nerth

Oddi ar Wicidestun
Wel dyma gyfoeth gwerthfawr llawn D A'i 'mofyn haeddiant byth, na nerth

gan William Williams, Pantycelyn

Mi af ymlaen yn nerth y nef
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

112[1] Awdurdod Crist.
M. C.

1.'D A'i 'mofyn haeddiant byth, na nerth,
Na ffafor neb, na'i hedd,
Ond Hwnnw'n unig gŵyd fy llwch
Yn fyw i'r lan o'r bedd.

2.Mae'n eistedd ar ddeheulaw'r Tad,
Ar orsedd fawr y nef;
Ac y mae'r cyfan sydd mewn bod
Dan ei awdurdod Ef.


3.Fe gryn y ddaer ac uffern fawr
Wrth amnaid Twysog nen;
O! 'r fath ogoniant sydd i'r Hwn
Fu'n dioddef ar y pren.

4.O! Iesu, cymer fi i gyd,
Fel mynnych gad im fod,
Ond im gael treulio pob yr awr
Yn hollol er dy glod.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 112, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930