Wel dyma gyfoeth gwerthfawr llawn
Gwedd
← Ymhlith holl ryfeddodau'r nef | Wel dyma gyfoeth gwerthfawr llawn gan William Williams, Pantycelyn |
D A'i 'mofyn haeddiant byth, na nerth → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
111[1] Cariad a Gras yng Nghrist.
M. C.
1.WEL dyma gyfoeth gwerthfawr llawn,
Uwch holl drysorau'r llawr,
A roed i'w gadw oll ynghyd
Yn haeddiant Iesu mawr.
2.Ei gariad lifodd ar y bryn,
Fel moroedd mawr di—drai;
Ac fe bwrcasodd yno hedd
Tragwyddol i barhau.
3.Pan syrthio'r sêr fel ffigys ir,
Fe bery gras fy Nuw:
A'i faith ffyddlondeb tra fo nef,
Anghyfnewidiol yw.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 111, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930