Da yw bod wrth draed yr Iesu
Gwedd
← Iesu annwyl gwrando fi | Da yw bod wrth draed yr Iesu gan Howell Elvet Lewis (Elfed) |
Nid wy'n gofyn bywyd moethus → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
764[1] Crefydd Fore.
84. 84. 8884.
1 ᎠA yw bod wrth draed yr Iesu
Ym more oes ;
Ni chawn neb fel Ef i'n dysgu,
Ym more oes;
Dan ei groes mae ennill brwydrau,
A gorchfygu temtasiynau―
Achos Crist yw'r achos gorau,
Ar hyd ein hoes.
2 Cawn ei air i buro'r galon
Ym more oes;
A chysegru pob gobeithion
Ym more oes;
Wedi bod ym mlodau'n dyddiau,
Ni bydd eisiau gado'i lwybrau―
Cawn fynediad i'w drigfannau
Ar ddiwedd oes.
—Howell Elvet Lewis (Elfed)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 764, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930