Neidio i'r cynnwys

Nid wy'n gofyn bywyd moethus

Oddi ar Wicidestun
Da yw bod wrth draed yr Iesu Nid wy'n gofyn bywyd moethus

gan Daniel James (Gwyrosydd)

Hoff yw'r Iesu o blant bychain
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930


765[1]Calon Lân.
87.87.

NID wy'n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na'i berlau mân;
Gofyn 'r wyf am galon hapus,
Calon onest, calon lân.

Calon lân yn llawn daioni,
Tecach yw na'r lili dlos,

'D oes ond calon lân all ganu-
Canu'r dydd a chanu'r nos.

2 Pe dymunwn olud bydol,
Chwim adenydd iddo sydd :
Golud calon lân rinweddol
Yn dwyn bythol elw fydd.

Calon lân, &c.

3 Hwyr a bore fy nymuniad
Esgyn ar adenydd cân-
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi imi galon lân.

Calon lân, &c.

Daniel James (Gwyrosydd)

Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 765, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930