Daeth Llywydd nef a llawr
Gwedd
← O! Nefol addfwyn Oen | Daeth Llywydd nef a llawr gan Thomas Jones, Dinbych |
Cyfododd Brenin hedd → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
160[1] Ymgnawdoliad Crist.
66. 66. 88.
DAETH Llywydd nef a llawr
I wisgo dynol gnawd;
Wel, henffych, Arglwydd mawr,
A henffych, dirion Frawd;
Henffych i'n Duw a'n Ceidwad hael
A welwyd yn y preseb gwael.
2 Pa dafod neu ba ddawn,
A fedd angylaidd lu,
A ddywaid byth yn llawn
Am ras ein Ceidwad cu?
Ei waed a roes, o'i gariad gwiw,
I gannu'r lleiddiaid dua'u lliw.
3 Mae cariad yn ei wedd
At wael golledig fyd;
Cyfiawnder llym a hedd
Yn ymgusanu 'nghyd;
Trugaredd a gwirionedd pur
Yn ymddisgleirio yn ei gur.
Thomas Jones, Dinbych
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 160, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930