Daff Owen/"Ffair y Byd"
← Dros Iwerydd | Daff Owen gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon) |
Ymadael a Chyfeillion → |
XXII. "FFAIR Y BYD"
"Hoi, boys! shwd ma'r Iankees yn wilia Cwmrâg? 'Rwy'n gwpod shwd ma' nhw'n treio wilia Sisnag," ebe Twm Watkin, un o'r Second Tenors, gan annerch y côr ychydig cyn cychwyn y practis cyntaf yn Chicago. Ac ar hyn efelychodd mor berffaith iaith drwynol "ystiward bwyd" y trên fel y deallodd pawb, ac y chwarddodd pawb hefyd Dechreuodd un ac arall adrodd eu helyntion wrth geisio deall pobl y Taleithiau yn eu siarad, ac aeth yn grechwen fawr.
Ar hyn daeth yr arweinydd i mewn, ac wrth glywed y grechwen, gofynnodd beth oedd yn bod. "O, dim byd, Tom, ond bod Twm Watkin yn mynd i sefyll am fod yn Bresident y wlad y tro nesa', a'i fod wedi dechra' practeiso ishws."
"O, wel, fe all hynny aros. Practis y côr yn awr. Chi wyddoch fod côr o Gaernarfon yma, tebig. 'Rwy' i wedi clywed hefyd 'u bo' nhw'n canu'n neilltuol o dda. 'Nawr, ati, fechgyn!"
Ac ati yr aethpwyd.
Erbyn mynd i'r Eisteddfod nid oedd angen i Dwm Watkin ofyn sut yr oedd Cymry America yn siarad Cymraeg. Yr oedd eu parabl gystal, neu efallai'n well, na'i eiddo yntau. Y canu, yr adrodd, yr areithio, yn dda iawn, ac yn neilltuol Gymreigaidd. Pe ceiid y llygaid, braidd na thybid mai yng "Ngwalia Annwyl ' yr oedd yr Eisteddfod.
A pha ryfedd! Yr oedd goreuon Cymry yr Unol Daleithiau yno—rhai wedi teithio o leoedd pell, gannoedd o filltiroedd i gael clywed yr hen iaith a'i halawon unwaith eto.
Enillasai Dyfed y gadair eisoes, a Watcyn Wyn y goron. Syrthiodd y wobr i gorau merched i gor y De, o dan arweiniad Clara Novello Davies, ac wele, ar y llwyfan, baratoi i gychwyn cystadleuaeth y corau meibion.
Dacw eneth, gynt o Gymru, ond yn awr o'r Taleithiau, yn canu nes gwefreiddio'r bobl, ac yna y cyntaf o'r corau ar eu traed. Gwrandawyd yn astud ar bob datganiad, ond am gorau'r hen wlad y dyheai'r dorf —am chwarelwyr Eryri, a glowyr Morgannwg. Ar esgyn o'r rhain yn eu tro i'r llwyfan, codai'r dorf atynt gyda banllefau.
Ar wahan i'r canu ei hun yr oedd yr olygfa hon yn un gynhyrfus dros ben. Teimlai Daff ei fynwes yn chwyddo yn y syniad mai Cymro oedd ef, a gwelodd yn ei ymyl ambell ddeigryn distaw a ddywedai'n hyawdl am lawer "Uchenaid am Gymru," am lawer atgof mebyd, a llawer tor-calon am yr hen gartrefi.
Canodd un neu ddau o gorau'r Amerig yn dderbyniol, ond amlwg oedd mai rhwng dau gor Cymru y gorweddai'r dorch. Bu ychydig o anffawd tonyddiaeth i gor y Gogledd, er iddynt ganu'n ardderchog. O'r braidd yr oedd côr y Rhondda gystal â hwynt yn rhediad cyffredin y canu, ond yr oedd ei donyddiaeth yn gliriach, a datganiad yr unawd gan Wilym Thomas, Ynyshir, yn orchestol dros ben.
Y wobr flaenaf—Y Rhondda. Yr ail—Eryri.