Daff Owen/Ymadael a Chyfeillion

Oddi ar Wicidestun
"Ffair y Byd" Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Winnipeg


XXIII. YMADAEL A CHYFEILLION

BORE trannoeth y gystadleuaeth yr oedd archiad i aelodau côr y Rhondda i gyfarfod mewn ystafell neilltuol yn y gwesty, er clywed y trefniadau am gychwyn y daith adref. Dyna, o leiaf, oedd yr hysbysiad, ond mwy priodol a fyddai galw'r cynhulliad yn "seiat longyfarch," oblegid hynny mewn gwirionedd ydoedd.

Aethai heibio y gorfoledd cyntaf—gorfoledd y cofleidio, yr ysgwyd llaw, a'r curo cefn; ac yn ei le yn awr y siarad melys, y gwenu siriol, a'r cydolygiad parod. Diolchodd yr arweinydd iddynt yn wresog am eu hymdrech a'u hufudd-dod drwy yr holl anturiaeth. Mynych y torrwyd ar draws ei araith gan ambell air a brawddeg sydd mor nodweddiadol o'r glowr ymhobman pan yn ei hwyliau goreu. Gwenai y siaradwr ar y "Da iawn, Tom." "Hwre i'r Pentra!" "Or Mabon ag e'!" a phethau cyffelyb a borthai ei air iddynt; ac, wrth gwrs, yr oedd pawb wrth eu bodd, ac yn foddlon i bob trefniad a wnaed."

Cyn dibennu, galwyd o bob congl o'r ystafell am "air bach" oddiwrth Gwilym—"un gair bach, wir." Ef oedd y gwron y gwybu'r byd am ei ddewrder yng Ngorlifiad y Tynewydd yn y '77, ac y seinid ei glodydd ymhob cynhulliad o Gymry am ei ganu rhyfeddol ar unawd y "Pilgrims" yn Eisteddfod Abertawe yn y '91. Dyma'r gŵr a oedd eto wedi troi'r fantol ar yr un darn yn Chicago o fewn corff y diwrnod blaenorol, ac felly nid rhyfedd bod ei gydgantorion yn galw amdano yn awr.

Ond pe dywedid y gwir i gyd, nid ei hanes arwrol, na'i ganu uwchraddol ychwaith oedd wedi ennill calon y bechgyn wedi'r cwbl. Y teimlad o "un ohonom ni," cydlowr gwylaidd, hawddgar, ac iach ei galon,— dyna'r rheswm.

"Fechgyn! ebe fe, diolch am eich teimladau cynnes. Yr ydych wedi ennill brwydr enwog, ond cofiwch mai o drwch y blewyn yr oedd hi. Ymhob gwlad y megir glew, dyna'r hen weddel Gymraeg, on'd iefa? Wrth gwrs, yr ydym i gyd,—Mr. Stephens, ch'itha' a finna'—yn falch iddi droi i'n hochr ni.

Fe awn yn ôl i Gymru'n galonnog, gan obeithio y cyrhaeddwn yno'n sâff. O ia! rych chi'n gwybod, tebig, fod un ohonom, o leia', ddim yn dod 'nol gyda ni. Cyfeirio yr wy' at Mr. Daff Owen, mae e'n mynd 'mlaen i Winnipeg. Dyna'r own i'n ddweud——fy mod yn sicr fod 'n dymuniada' gora ni gydag e' ac y caiff e' lwc a iechyd yn ei fyd newydd."

Gostyngodd Daff ei ben ar hyn, a phan gododd ef drachefn daliodd lygad D.Y. yn syllu,—O! mor gyfeillgar, arno o ochr arall yr ystafell. Bu bron i Ddaff fethu dal ei deimladau ar hyn, ond gwasgodd ei ddagrau yn ôl a'i feddiannu ei hun drachefn.

Wedi i'r cyfarfod ddiweddu aeth pob aelod o'r côr ymlaen ato i ysgwyd llaw ac i ddymuno'n dda, hynny yw, pob un ond Dai'r Cantwr,—yr oedd ef wedi brysio allan yn un o'r rhai cyntaf.

Yn ei ystafell wely eisteddodd Daff wrth y bwrdd bychan yno, gan bwyso ei ben ar ei law, a'i feddwl yn gymysglyd iawn. "Dyma fi bellach," ebe fe wrtho'i hun, "yn llosgi 'madau'n llwyr. Yfory fe fydd fy holl gyfeillion yn troi eu hwynebau'n ôl i Gymru, a finna'n starto'm ffordd at bobl na wela's erio'd 'monyn nhw o'r blân, ac i wlad na wn i ddim amdani."

Ar hyn tynnodd allan o'i logell lythyr ei frawd unwaith yn rhagor, er y gwyddai ar ei gof bob gair ohono'n dda. Yna ysgrifennodd gerdyn ac arno,— "Will leave Chicago to—morrow night's mail, and will arrive in Winnipeg mid—day—the 22nd. Meet me at the Depôt. Your Brother, David Owen."

Wedi cyflawni hynny o waith, wele guro wrth ddrws ei ystafell, a Dai'r Cantwr yn dod i mewn. "Good—bye, Butty bach!" ebe'r gwron hwnnw, "'rwy'n mynd i starto 'nôl heno, gan 'y mod i'n meddwl galw i weld 'ngnithdar yn Scranton, cyn dala'r boys yn New York wetyn. Bachan! wn i ffordd 'n y byd ma' 'matal â ti, a ninna'n hen chums cŷd. Ond good luck, ta p'un!

"Ia un gair bach arall, ma' gen' i bresant bach i ti i gofio amdano i. Dod a yn dy bocad! Dôs gen' i ddim gwraig a phlant, diolch i'r nefo'dd, ac os bydd isha rhwpath arnot ti, rwpryd, al di air bach ato i, a fe 'naf 'ngora' glas i d'helpu. Dyna gyd, ffarwel nawr for good!"

"O na, diaich! fe fuo bron anghofio. Ha! Ha! etrach ar hwn. Fe ddangosa' i i'r gwalch am 'weud 'y mod i'n canu'n sharp!"

Ar hyn tynnodd y Cantwr allan bicture postcard. Arno yr oedd llun mul hynod o anhywaith, yn cnoi ac yn cicio.

O dan y darlun, wedi ei ysgrifennu yn anghelfydd gan y Cantwr ei hun, yr oedd—" The Treorci War Horse. Kind Love. David Young. 'Nawr sgrifenna ditha'r address fel bo Williams y postman yn 'i ddiall."

A phan dderbyniodd Shoni yng Nghwm Rhondda, ymhen oddeutu pythefnos, y cerdyn yn ôl y cyfeiriad— Mr. John Jones, Haulier and Baritone, near the "Red Cow," Treorci, South Wales, mawr oedd ei lawenydd o'i dderbyn, er gwaethaf y sen; a dangosai ef i bawb o'i gydnabod.