Daff Owen/"Twm Ddwl"

Oddi ar Wicidestun
Ffest y "Farmers" Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Colli a Chael


VI. "TWM DDWL"

OND dacw'r orymdaith yn cychwyn. Yr afr ymlaen y llu a milwr yn ei harwain; wedi hynny y seindorf yn llanw r heol gyda'i drum-major â'i ffon ryfeddol un cam o'u blaen, a gŵr y ddrwm fawr gam o'u hôl. Yna y ficer, a'r 'sgweier, yr amaethwyr, y gof a'r saer gwlad, a gweithwyr eraill yn cerdded yn ddeuoedd ac yn cael eu rhagod yn ofalus gan y Sergeant, a'i ffon hirfain, swyddogol-a'r cynhulliad oll yn bwysig a rhwysgus i'w ryfeddu.

Ni welwyd erioed orymdaith o'r fath yng Nghwmdŵr, a chan fod gwŷr a chariadon y rhan fwyaf o'r rhyw deg yn ei ffurfio, poblogaidd ydoedd gan bawb.

Ond nid gan neb yn fwy felly na'r plant. Cydgerddent â hi bob cam o'r ffordd, a phan drodd gwŷr y seindorf at yr eglwys wedi dibennu ohonynt y canu a thynnu eu hofferynnau i lawr i'w hochrau er myned i mewn i'r adeilad, braidd na byddai i'r plant eu dilyn yno hefyd. Ond wrth y drws safai'r Sergeant, ac nid oedd yr un cleddyf tanllyd a'u hataliai'n well na phresenoldeb y gŵr hwn. Ond gan fod ei angen ef yn y gangell ar fyrder ynglŷn â chanu'r gwasanaeth, fe amneidiodd ar Ddaff a Glyn i fynd ato, ac wedi eu dyfod fe'u gollyngodd i mewn i'r cyntedd. Eu gorchwyl hwy yno oedd gwarchod yr offerynnau, a oedd wedi eu gosod i bwyso yn erbyn y wâl, hyd nes y delai'r milwyr allan drachefn.

Mor falch oedd y ddau grwt o'r ymddiriedaeth! Ni chaffai wybedyn ddisgyn ar y pres na'r ddrwm pe gallent hwy ei rwystro.

Ymhen tipyn gwthiodd Twm Ddwl ei ben i mewn trwy'r drws, ac o weld mai y ddau hogyn yn unig a oedd yno, gwthiodd ei gorff i mewn hefyd, a chan ymlwybro'n gynnil, croesodd y cyntedd tuag at y ddrwm gyda'r bwriad o'i thabyrddu yno, heb ystyried am y gwasanaeth, na'r ficer, na'r ysgwlyn nac arall. Ac onibai i'r ddau lanc ymdaflu yn ei erbyn â'u holl egni buasai wedi llwyddo hefyd, oblegid yr oedd yn hŷn na'r un ohonynt, ac yn gono lled gryf gyda llaw.

Ymhen ychydig diweddwyd y gwasanaeth byr, daeth y bobl allan, ac ail-ffurfiwyd yr orymdaith gyda'u hwynebau yn ôl tuag at y Farmers i fwynhau y wledd ddarpar oedd yn eu haros. Wedi cyrraedd y gwesty yr ail waith dodwyd yr offerynnau mewn gody bychan wrth gefn y tŷ, a mawr oedd balchter y ddau lanc o gael eu galw unwaith eto i ofalu am y pethau gwerthfawr tra bwytâi eu perchenogion wrth y ford fawr yn ystafell hir y llofft.

Ni ddigwyddodd dim am ryw ugain munud, ond pan oedd yr amser yn dechreu mynd yn hir ac undonog, wele Dwm Ddwl yn curo ar wydr y ffenestr ac yn dywedyd wrth Ddaff mewn osgo lled wyllt,—"Mam moyn di!"

Ar hyn caeodd yr hogiau ddrws y gody ar eu holau, ac aeth Glyn gyda Daff i fyny i'r tŷ i weld beth yr oedd Mrs. Owen yn ei ymofyn. Erbyn cyrraedd ohonynt yno cawsant y drws yng nghlo arwydd a brofai fod y fam allan, ac a brofai hefyd mai celwydd a scil Twm yn unig oedd yr alwad wrth y ffenestr.

Wrth dynnu yn ôl tua'r Farmers drachefn, cydiodd Glyn ym mraich Daff yn sydyn gan ddywedyd,— "Ust! Clyw! Dyna'r ddrwm fawr, 'rwy'n siwr!

Rhedasant ill dau ar hyn, ac o ddyfod gyferbyn â'r siop gwelent yn y pellter haid o hogiau, ac yn eu canol rywun yn cario'r ddrwm fawr ac yn ei churo yn egnïol iawn.

Rhedasant yn gynt ar hyn, a buan yr adnabuant nad neb llai na Thwm Ddwl oedd yr un a gynyrchai'r sŵn.

Ymhen ychydig daliasant ef ac yntau erbyn hyn yng nghwr pellaf y pentref, sef gyferbyn â chroesheol gul y Dyffryn. Pan welodd ef hwy yn ei ymlid taflodd y lloeryn celwyddog y ddrwm oddiwrtho, ac i lawr i'r lôn yr aeth honno gan ymrolio i gyfeiriad yr afon.

Rhedodd Glyn ar ôl y tabwrdd mawr, ond arhosodd

Daff ar ben y lôn i fygwth Twm. Ni wnâi hwnnw

ond chwerthin a churo drwm ddychmygol ar ei ffordd yn ôl ac yngan, Bwm! Bwm! Bwm!"

A Daff yn disgwyl Glyn i ddychwelyd o'r lôn gan adfer y ddrwm, pwy ddaeth i lawr y brif heol yn frysiog iawn ond Smart, y plisman. Pan ddaeth i'w ymyl credodd Daff y byddai i lid y swyddog ei grino yn y man, oblegid rhuai efe,—"Owen, where is that drum? It was in your charge. Answer me this instant!"

Ceisiodd yr hogyn ffeindio ei dafod i esbonio beth a ddigwyddasai, ond cymaint oedd cynddaredd y plisman ac ofn y llanc fel na allai'r olaf ond pwyntio i lawr y lôn (lle'r oedd gwartheg y Dyffryn ar y pryd yn ei chroesi i fynd o un maes i un arall), a dywedyd yn grynedig, "Down there, sir."

Aeth y swyddog ar hyn i gyfeiriad yr afon, ac ymhen ysbaid gwelodd y llanc ef yn dychwelyd gan ddwyn y ddrwm gydag ef. Balch iawn oedd Daff o weld yr offeryn unwaith eto, a chredai yn ei ddiniweidrwydd fod yr helynt ar ben. Ond yn lle hynny dim ond dechreu yr oedd, oblegid yr oedd y ddrwm yn lleidiog drosti, a gwaeth fyth, yr oedd rhwyg mawr yn ei memrwn ar y ddau tu.

Wedi cyrraedd y brif heol unwaith yn rhagor, gafaelodd y swyddog yn chwyrn ym mraich Daff, a chafodd y crwt a oedd mor uchel ei ysbryd awr yn ôl, y profiad chwerw o gael ei dywys yn llaw'r polis yn ôl i'r Farmers drwy ganol y dorf fwyaf a welodd Cwmdŵr erioed.

Ceisiai ddywedyd rhywbeth am ei gydymaith Glyn, ac yr esboniai hwnnw glwyf y tabwrdd, ond fferrai ei waed o glywed mewn atebiad,—" Glyndŵr. indeed! That's all very well! Come along, youngster! You have done it at last!"

Llusgwyd ef i mewn i'r Farmers, lle yr oedd y ficer, yr ysgolfeistr, a "mishtir y band" yn edrych yn sobr iawn uwchben yr offeryn clwyfedig, a'r llanc, druan, yn eu hymyl yn crynu ac yn wyneblasu heb allu i ddim ond i ocheneidio a chrio.

Daeth ei fam o rywle wedi clywed am y trychineb, a chymerth ei mab gyda hi i'w thŷ, â golwg drist iawn ar ei gwedd. Ac nid oedd ei thristwch yn llai o glywed, ar ei myned allan o wyddfod y gwŷr, y swyddog calon-galed yn dywedyd wrthi, "You make him own up, missus! I shall be up there shortly myself!"

Ar yr aelwyd adroddwyd yr hanes gan Ddaff yn union fel y bu, ac ymlonnodd y fam rywfaint ar hyn. Ond crynai Daff wrth bob sŵn troed a âi heibio, a'r lleiaf a ddisgwyliai oedd ei draddodi i garchar Aberhonddu, a'i gosbi yno am drosedd Twm Ddwl. Mae'n wir i'r heddgeidwad alw yn yr hwyr brynhawn, ac iddo dynnu allan ei lyfr a gwlychu blaen ei bensil rhwng ei wefusau yn swyddogol iawn. Ond yr oedd wedi dofi llawer erbyn hyn, ac ym mhresenoldeb Mrs. Owen holai'r llanc yn garedig ddigon. Rhoes hwnnw'r manylion unwaith eto, ac wedi awgrymu ymhellach y dychwelai ar ôl clywed ystori Glyndŵr Jones, aeth y swyddog allan. Cododd hyn galon Daff eto'n fwy, oblegid gwyddai y byddai i'w gyfaill adrodd yr un ystori ag a wnaeth yntau.