Daff Owen/Colli a Chael

Oddi ar Wicidestun
"Twm Ddwl" Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Yr Anffawd Fawr


VII. COLLI A CHAEL

ER syndod i bawb nid oedd Glyn, hwyr noson y Ffêst, ar gael yn unlle, er chwilio amdano ymhob cwrr o'r pentref hyd ganol nos.

Trannoeth, ac ef eto heb ddod adref, cododd yr holl ardal i chwilio amdano, ac ymwelwyd â'r celloedd mwyaf unig yn y creigiau a'r coedwigoedd am filltiroedd oddiamgylch dan y dybiaeth y gallai fod yn ymguddio ynddynt.

Bore Llun a ddaeth, a Glyn eto heb ei gael. Ychydig a ddaeth i'r ysgol o gwbl y bore hwnnw, ac wedi holi pawb yn fanwl, barnodd y ficer a'r ysgolfeistr mai gwell oedd i'r plant hynaf uno gyda'r ardalwyr yn y chwilio, ac i'r rhai lleiaf fynd adref.

Hynny a fu, ac yr oeddynt ar fedr gwneuthur yr un peth fore dydd Mawrth drachefn, gan mai yn ofer y chwiliwyd drwy gydol dydd Llun, pan estynnwyd ilythyr i dad y llanc fod ei fab ar y pryd gyda'i frawd ym Merthyr yn fyw ac yn iach fel arfer. Y gwir oedd i Lyndŵr, o weled galanastra'r ddrwm, fod yn rhy lwfr i wynebu'r plisman; ac felly, cilio a wnaeth drwy Flaen-y-Glyn, ac i lawr drwy Gwmtâf at ei frawd, a letyai ar y pryd ym Mhenrhewlgerrig, ac a weithiai ym Merthyr fel glowr.

Ymhen dwy neu dair blynedd ar ôl hyn, cyfarfu Daff yn ddamweiniol â Glyn yn stesion Pontypridd, a phan yn aros ei drên yn y man hwnnw, adroddodd yr olaf, gydag asbri mawr, am y modd y bu arno ar ddiwrnod rhyfedd ffêst y Farmers gynt.

"Fachgen!" ebe fe, "ti wyddot i mi, ar ôl i Dwm Ddwl rolio'r ddrwm i lawr i'r lôn, redeg ar ei hol. Y funud honno yr oedd gwartheg y Dyffryn yn croesi'r heol i fynd o un cae i'r llall, a chrash! dyna brif ornament y band yn erbyn ochr yr hen fuwch goch fwyaf, gan yrru ofn enbyd ar yr hen greadur, oblegid 'doedd hi erioed wedi bod mewn brass band, wyddost. Dechreuais innau 'werthin dipyn bach, wrth weld yr hen gochen yn ei phrancio hi, ond diaist i! y foment nesaf gosododd yr hen fileines ei throed ynddi, ac fe wyddwn wrth y sŵn fod yr hen big drum out of action. A'r un funud fe wyddwn fod 'y nhroed innau ynddi hefyd, yn waeth na'r hen fuwch, pe delai rhywun i wybod!

"Fachgen! dyna lle roedd fix! To be, or not to be!' ys dywedai yr hen Sergeant 's lawer dydd. Ped elwn i â'r hen ddrwm yn ôl yn fy mreichiau, chredsa' neb fi mai yr hen fuwch a wnaeth y damage, ac, wrth gwrs, y fi a gawsai'r bai. Ar y llaw arall, pe gadawswn hi yno, a chilio, sign of guilty conscience a fyddai hynny hefyd. A phan yn pendroni beth a wnawn i, ces gipolwg ar yr hen Smart yn siarad â thi ar ben yr hewl, a wel, 'rown i mor smart ag yntau am unwaith. 'Roedd ei weld yn ddigon, fe setlodd hynny'r fix ar unwaith. Fe redais, gan blygu gyda bôn y berth am beth ffordd, ac wedi mynd ddigon pell fe godais yn f'union, a mynd adre, fel mae'r Beibl yn dweud, ar hyd ffordd arall.'

"Cuddiais yn yr ardd am awr neu ddwy, ond pan welais y plisman yn mynd i'n tŷ ni, credais mai nghrogi a gawswn, man lleia', ac i ffwrdd â fi, fel ag yr oeddwn, at Shoni 'mrawd i Ferthyr. A dyna'r lle 'rwy' eto, yn ennill dwy bunt yr wythnos ac yn half-back i'r Cyfarthfa Crusaders hefyd, diolch i'r hen fuwch! Ha! Ha! Daff! Rho dy law!