Daff Owen/Brutus o Lywel

Oddi ar Wicidestun
Gamaliel y Pentre Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Brutus o Rufain


III. BRUTUS O LYWEL

YMHEN chwarter awr ymhellach clywodd y weddw glwyd y cwrt bach o flaen y tŷ yn agor yn chwyrn, a gwaedd lawen yn canlyn,—

"Mam ! Mam ! Dyma fe, mam! Y brithyll goreu yn yr afon! Ac i chi mae e' i gyd! Fe ddwedes i wrth Glyn fod eich pen blwydd chi fory, ac mae e'n folon i chi ei gael. Glyn gwelodd e' gynta' yn y dŵr llonydd o dan Ynys yr Allt, ond iefa, Glyn?"

"Ie," medde hwnnw, "a dyna drafferth gawsom ni i'w ddal e', Mrs. Owen. Ond, rwy'n falch bod eich pen blwydd 'fory. Fe dda'th mewn pryd i'r dim, on'd do fe?"

"Na, nid yfory, fechgyn—wythnos i yfory ddwedes i, Dafydd. Ond diolch i chi'ch dau yr un peth yn union."

Ni alwai Mrs. Owen "Daff " ar ei mab byth, er y gwnâi pawb arall hynny.

"Dafydd! Pwy ych chi'n feddwl sydd wedi bod yma'n gofyn amdanoch chi !? Mr. Foster, y meistr!"

"Beth wy' i wedi 'i wneud 'nawr? Oedd e'n gâs, mam?"

"Nag oedd o gwbwl. Ond mater arian oedd ganddo, 'rwy'n siwr, achos yr oedd yn sôn am ryw Cash, neu Cashes heblaw Brutus o Lywel."

"Brutus o Lywel! 'Roedd hwnnw wedi marw cyn 'y ngeni i, mam!"

Oedd, machgen i, ond yr oedd dy dad yn ei gofio'n dda.

Wn i yn y byd yn wir beth oedd ym meddwl Mr. Foster, ond 'roedd yn serchog ryfeddol, beth bynnag, ac yn dweud y gwelai di 'fory am y peth. Trueni mai un fraich sydd ganddo!"

"Trueni'n wir! Glyw di, Glyn? Pe baech chi, mam, ond teimlo pwysau honno ambell waith, chi 'wedech ei bod yn un yn ormod. On' wnelai hi, Glyn?"

"Nawr, fechgyn, peidiwch â siarad fel'na. Colled fawr yw colli braich, yn enwedig i ddyn mor ffein â'r Sergeant. Arhoswch i gael tamed o fwyd gyda Dafydd, Glyn Rhaid eich bod ymron starfo, y ddau hwlcyn difeddwl!" (Hyn gyda gwên.)

"Na, dim thenciw, Mrs. Owen, rwy'n ddigon diweddar yn mynd adre fel y mae hi heb aros dim ymhellach. Rhaid i fi fynd."

Ac ymaith ag ef.

"Mam!" ebe Daff eilwaith ar ôl mynd o Lyndŵr allan, "Dwedwch wrtho i pwy oedd y Brutus o Lywel yma rych chi'n sôn amdano?"

"Wel, machgen i, weles i yrioed mohono, ond yr oedd gan dy dad olwg fawr arno, achos eglwyswr oedd e', ac eglwyswr oedd Brutus hefyd. Mae'n debig bod Brutus wedi bod yn rhywbeth arall cyn bod yn eglwyswr, ac yr oedd iddo lawer o elynion am iddo newid. Ond yr oedd barn uchel gan dy dad amdano drwy y cwbwl. Yn wir, 'rwy'n credu ei fod yn falch dy fod ti yn Ddafydd Owen hefyd fel Brutus ei hun, er mai ar ôl Dafydd 'y mrawd i y cest di dy enw.

A chofia hyn, Dafydd—dyn da oedd dy dad. Mae'n wir ei fod yn llawer hynach na mi, ac wedi bod yn briod cyn i mi erioed ei gyfarfod, ond mi 'roedd e'n barchus iawn ohono i yn wastad, a chofia, ni all gwraig weddw dlawd byth anghofio hynny, na—ddim byth! Ac mi 'roedd dy frawd hynaf yr un peth hefyd er mai llysfam o'wn i iddo fe."

Teimlai Sioned Owen ei bod yn ddyletswydd arbennig arni i siarad fel hyn am ei gŵr wrth ei hunig fab ei hun, am y rheswm nad oedd ef erioed wedi gweld ei dad, a chael ei ymgeledd. Gwraig dawel ofalus oedd hi, a'i holl fyd yn troi o gylch yr amddifad a adawyd iddi.

"Ei hunig wastraff," ys dywedai hi, "oedd prynu ambell faled," ffurf o wastraff nad oedd yn cwtogi llawer ar ei henillion prin, ond a roisai iddi fyd o gysur.

"A oedd Brutus yn sgrifennu petha', mam?"

"Oedd, machgen i, fe ysgrifennodd lawer, a phethau da oedden' nhw hefyd. Fe glywes dy dad yn dwedyd hynny lawer gwaith.'

"Ai fe 'sgrifennodd y Bachgen Main,' mam?

"Diar mi! Nage, am wn i, pam 'rwyt ti'n gofyn?"

"Na'r 'Ferch o Blwyf Penderyn'?"

"Nage! Mae honno'n hen iawn, w'ost di."

"Na 'Ffarwel i Langyfelach'?"

"Nage! rhyw sowldiwr wnaeth honno, medden nhw."

"Nag Anfon Lythyr, Deio Bach'?"

Nage'n siwr ! Ond aros di funud i mi gael chwilio am y gân ei hun. Dyma hi—Gan John Jones, Llangollen,—a chân iawn yw hi hefyd. 'Rwy'n crio bob tro y darllena i hi. Clyw fel y mae'n dweud !

Megais fachgen hoff ac annwyl
Ar fy mron mewn trafferth mawr,
Deio, ti yw'r bachgen hwnnw
Nas gwn ymhle yr wyt yn awr.
Maith yw'r amser er y'th welais,
Machgen annwyl, wyt ti'n iach, ?
Os nad elli ddyfod trosodd,
Anfon lythyr, Deio Bach!

Caled yw fy nhamaid bara,
Ie, caled iawn a phrin,
Tra mae 'mhlentyn, mi obeithiaf,
Gyda'i fara gwenith gwyn,
Pan f'och di, fy annwyl blentyn.
Wrth dy ford heb nych na nam,
Os nad yw yn ormod gofyn,
Cofia damaid gwael dy fam.'


Wn i yn y byd a fydd fy Neio Bach i yn anghofio 'i fam fel y llanc diofal hwn?"

"Na! ddim byth, mam! Wedi i fi ddechre gweitho rhaid i chi ddod i gadw tŷ i fi—tŷ gwell na hwn—ac yna fe fyddwn gyda'n gilydd am byth bythoedd."

Daeth tawelwch rhyngddynt am ennyd, yna trodd y fam at ei bachgen a'i gusanu yn annwyl.

"Ond pam rwyt ti'n gofyn cymaint am Brutus heno, machgen i?

"Fel hyn, mam—os oedd nhad yn adnabod Brutus yn dda, fe ddylwn innau wybod rhywbeth amdano hefyd. 'Dwy' i ddim am ddangos i mishtir 'fory nad wy'n gwybod dim am y dyn mawr 'roedd nhad yn ei nabod. Dyna i gyd. Ydych chi'n siwr, mam, nad oedd e'n gâs am i mi beidio â'i weld heno?"

"Eitha' siwr, Dafydd, achos 'r oedd yn serchus iawn, iawn. Ond rhag ofn mod i wedi camsynied, rho'r brithyll iddo'r peth cynta' bore 'fory. Dwed wrth Glyndŵr am hynny, ac fe gaf finnau frithyll arall cyn dydd 'y mhen blwydd. Y mae wythnos gyfan eto cyn hynny w'ost."

"Alright, mam! fe ddala i un mawr arall cyn hynny, ac 'rwy'n siwr y bydd Glyn yn eitha' belon hefyd. Trwmp iawn yw e' fel chithe, mam."

Gwenodd Sioned Owen yn foddhaus ar ei chymeriad yng ngolwg y plant, ac aeth allan i'w gardd gyda chalon ysgafnach nag a brofodd ers tro.