Daff Owen/Hiraeth

Oddi ar Wicidestun
Cyfaill Mewn Taro Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Canu a Chantorion


XI. HIRAETH

AETH pethau ymlaen yn hwylus y dyddiau nesaf, y Cantwr yn dechreu mwmian canu wrth ei waith, a Daff yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd am dorri glo. Cyn hir teimlai'r llanc ei fod o ryw ddefnydd gwirioneddol bellach, a chafodd yr hyfrydwch o glywed yn ddamweiniol ei bartner yn ei ganmol i'r glowr yn y talcen nesaf atynt.

Pan ddaeth dydd Sadwrn estynnodd D.Y. swllt yn fwy iddo nag y cytunwyd, a balchach oedd y llanc am hynny na dim am mai teyrnged y Cantwr i'w werth ydoedd. Rhoddodd hyn galon newydd ynddo, a dechreuodd weled nad oedd ei ddyfodol mor dywyll ag y tybiasai beth amser yn ôl.

Pan yn ymadael â'i gilydd brynhawn Sadwrn, a Daff a'i hur yn ei law, trodd y Cantwr ato eilwaith, a gofynnodd yn garedig,—"Ble wyt ti mynd 'fory, D.O?"

"Wel, Baptist own i yn yr hen le, ac 'rwy'n credu yr af i gapel y Baptist yma hefyd. Fe fydd mam yn falch o hynny."

"Ble ma' dy fam, machan i? 'Weta'st ti ddim amdani o'r blân. 'Rown i'n cretu i Mr. Jones 'wed. nag o'dd ddim tad na mam gen't ti."

"Eitha gwir, D.Y. Beth own i'n feddwl mai dyna'r lle y carai mam i fi fynd iddo pe bai hi byw."

"Well done! D.O.! Diain i! 'rwyt ti'n well na fi i hewl! 'Stica di, dyna'r ffordd! A chofia hyn— Baptist wy' inna' he'd pan elo'n bwsh! Ond dyna'r gwaetha,' rhaid cael pwsh lled gryf i'm siort i. Good bye, Butty bach!"

Yr oedd yr holl fyd yn wyn i Ddaff yn awr, a cherddodd i'w lety fel un oedd yn berffaith feistr ar ei ffawd.

Bore Sul a ddaeth—y Saboth cyntaf i'r hogyn fod y tu allan i Gwmdŵr erioed. Dyna'r rheswm efallai iddo fod yn fwy hiraethus am yr hen le y dydd hwn nag y bu drwy'r wythnos yn gyfan.

Pan gyda'i fam gartref, arferai hi ei alw ef i godi ar foreau Saboth mewn amser da iddo fynd i'r capel yn brydlon, ond, rywfodd neu'i gilydd (efallai am mai hynny oedd arfer ei thŷ), anghofiodd ei letywraig alw'r "coliar bach" (fel y galwai hi ef) cyn deg, ac felly, rhy hwyr ydoedd i fynd i gapel y bore hwn. Ond er mai yng nghegin ei lety yr oedd Daff, hedai ei feddwl i'r hen lannerch, a chlywai eto gloch y llan yn denu'r ffyddloniaid o lawer ffermdy a bwthyn i rodio llwybrau'r wlad tuag ati. Gwelai yr hen ysgolfeistr, a'i ddau lyfr du dan ei fraich, yn ei throedio hi i'r gwasanaeth yn ei esgidiau blucher, ei het silc, ddisglair, a'i frock—coat hir, yn union fel pe bai yn mynd on parade, ys dywedai y gwron hwnnw ei hun. Ie, gwelai hefyd ei fam fach, ar ôl trwsio ei phlentyn gyda phob manylrwydd, yn ei thrwsio ei hun gan gylymu rhubanau ei bonet o dan ei gên fel y weithred olaf cyn cloi ohoni'r drws a mynd i'r defosiwn.

Mor bell yn ôl yr ymddangosai y pethau hyn i'r llanc trist, ac mor annhebig eu gweld byth mwy. O feddwl am ei fam daeth y syniad iddo mai dyma'r dydd y byddai'n well iddo ysgrifennu at ei hanner- brawd yn Winnipeg—y brawd na welsai ei wyneb erioed. Ac am mai dieithr iawn iddo a fyddai'r Ysgol Sul heb adnabod neb ynddi, penderfynodd baratoi'r llythyr y prynhawn hwn. Efallai, pwy a wyddai, y deuai i adnabod rhyw aelod o'r ysgol cyn y Saboth wedyn.

Felly ar ôl cinio aeth at y llythyr. Dywedodd wrth ei frawd am farwolaeth sydyn ei fam, a charedigrwydd pawb yn yr amgylchiad. Rhoddodd fanylion y trengholiad a'r angladd, a diweddodd gyda chyfrif manwl o werthu yr ychydig gelfi ac o dalu'r mân ddyledion. "And here I am (ebe fe, gan roddi ei gyfeiriad yn llawn), trying my very best to earn my own living, and keep myself respectable." Dim un gair am bosibilrwydd methiant, nac ychwaith awgrym am gardod neu help o unrhyw fath.

Gosododd y llythyr y naill ochr i'w anfon i ffwrdd brynhawn trannoeth, ac aeth yn ôl ei fwriad i gapel y Bedyddwyr i wasanaeth yr hwyr. Yr oedd y lle yn orlawn, ac ymhlith cynifer o bobl nid oedd neb yn sylwi ar y llanc gwylaidd a eisteddai ar sedd uchaf yr oriel, sef "sêt y cwmpni" (chwedl rhai).

Deubeth yn neilltuol a dynnodd sylw Daff y noson honno y wedd ddwys ar wyneb y pregethwr, a'r canu ardderchog gan y dorf. Gwnaeth un fel y llall argraff fawr arno, yn fwy efallai am fod ei feddwl ef ei hun mewn cywair i'w derbyn ar y pryd.

Yn nhywyllni ei ystafell fechan ar ôl ymneilltuo i gysgu y noson honno, clywai o hyd ac o hyd ddylif mawl y dorf yn curo ar ei glyw hyd oriau mân y bore, gyda'r geiriau bendigedig:—

"O! santeiddia f' enaid, Arglwydd,
Ym mhob nwyd ac ym mhob dawn,
Rho egwyddor bur y nefoedd
Yn fy ysbryd llesg yn llawn,
N'ad fi grwydro, N'ad fi grwydro
Draw nac yma o fy lle."


Hepiodd am ychydig, yna clywai lais unigol- llais mwyn benywaidd yn canu'r un peth, ac mewn rhyw hanner breuddwyd gwelai mai ei annwyl fam ei hun ydoedd.