Daff Owen/Ymrwymiad Newydd

Oddi ar Wicidestun
Cymorth y Gwan Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Abraham Lincoln


XXXVI. YMRWYMIAD NEWYDD

NOSON i'w chofio am byth ydoedd honno ar frig y Chilcoot. Er gwaethaf y tân yn y radell haearn, yr oedd yn oer eithafol. Heblaw hynny, rhuthrai'r gwynt drwy adwy y Pass gyda nerth mawr, ac er gosod y babell yn y man mwyaf cysgodol posibl, dwywaith yn ystod y nos y gorfuwyd ar y tri ddal â'u holl egni yng nghyrrau eu tŷ gwydn i'w achub rhag cynddaredd yr ystorm.

Ac er eu bod wedi gosod sachau llwythog ar ei odreon i'w gadw yn ei le, amhosibl oedd cysgu serch hynny, gymaint oedd eu hofn a'u pryder yn ei gylch. Oblegid hwn oedd i fod yn annedd nosol i'r ddau ŵr ieuanc hyd nes cyrraedd Dawson, ac o'i golli ymha le y gellid cael un arall? A pha beth a fyddai eu cyflwr hwythau hebddo yn wyneb oerni'r nos?

Ac am ben hyn oll, yn eu hymyl yn griddfan a siarad yn syfrdan yn ei iaith ei hun yr oedd yr hen Indiad. Gwaeddai ar ambell eiliad fel ellyll, ac yna ymlonyddai drachefn i gwynfan a siarad wrtho ei hun. Rhwng y cwbl, ac er cymaint y lludded, ni chysgwyd eiliad gan yr un o'r tri. Eu hunig obaith oedd bod gwaethaf llwybr y Chilcoot ar ben. Ymhen diwrnod arall, cludent eu heiddo cyn belled a'r gors fawr, a gobeithient, cyn machlud haul yr ail ddiwrnod, gyrraedd Llyn Bennett ei hun, pan fyddai cytundeb Daff yn dyfod i ben.

O'i chymharu â lludded y ddydd cyntaf, hawdd oedd y daith o'r Pass i'r gors. Ymdroai'r llwybr ar y gorwaered, ac nid oedd agos mor serth â'r dyfod i fyny yr ochr arall. Y prif berigl bellach oedd llithro i'r pyllau llaid, a oedd yn lluosog ar ddeutu'r llwybr. Unwaith y digwyddodd hynny i Ddaff, a bu cryn orchwyl i'w gael ef a'i bwn yn ôl i'r heol iawn drachefn.

Cysgwyd yn dda wrth y Gors Fawr, ac yn gynnar y pedwerydd dydd tarawyd ar y llyn ei hun-y tri yn ddianaf, a'r eiddo oddieithr ychydig o fân golledion, yn ddiogel yn ymyl y babell ar lan y dwfr. Y noson honno talwyd i Ddaff y swm oedd ddyledus iddo, ac ychydig dros ben. Rhoddodd yntau ddangosiad amdanynt, a phan feddyliai ef fod ei fusnes â'r ddau ŵr boneddig ar ben boddlonwyd ef yn fawr gan gynnig neilltuol o du Mr. Bradbury.

"Beth yw'ch cynlluniau am y dyfodol, Owen?" ebe hwnnw.

"Wel, syr," ebe yntau.'Does obaith imi gyrraed dDawson am nad oes gennyf ymborth fel sy gennych chwi, foneddigion. Af yn ôl oddiyma i Ddyea, cariaf ychwaneg o lwythi os cyflogir fi, ac wedi hynny dychwelaf i Vancouver cyn dêl y gaeaf i gau popeth."

"A garech chi fynd i Ddawson?

"I hynny y deuthum allan, syr, ond beth 'wy'n well os na allaf symud cam?"

"Nid yw mor dywyll â hynny 'chwaith. Yr ydym wedi cydweithio'n rhagorol cyn belled, a bydd angen gwasanaeth un dyn arnom ninnau o hyn ymlaen.

Heblaw hynny, mae yn ein stoc ddigon o ymborth i dri yn ôl gofynion manylaf y Llywodraeth. Mewn gair, os gall Mr. St. Clair a minnau daro'r fargen â chi am fil o ddoleri a bwyd gaea dyna'r cynnig i chwi. Ystyriwch y peth heno, a rhowch wybod bore fory. Os cydsyniwch â'r telerau fe lofnodwn ar unwaith, a bydd popeth yn deg a rheolaidd o'r ddeutu. Yna fe wynebwn y gogledd yn galonnog cyn gynted ag y gallwn osod bad wrth ei gilydd."

"Diolch i chwi, foneddigion, a pha un bynnag a dderbyniaf y cynnig ai peidio, balchiaf yn eich meddwl da amdanaf."

"O'r gore. Nos Da!"

Ni chuddiai Daff oddiwrtho'i hun mai bywyd caled a gynigiai'r gogledd iddo. Profodd beth ohono eisoes, a gwaeth, wrth bob hanes, a fyddai po bellaf yr âi. Gwelsai ddigon o bobl ar y trail yn dychwelyd i Dyea heb fod wedi cyrraedd y Klondyke o gwbl. Wedi trechu ohonynt erchyllterau'r Skagway a'r Chilcoot yr oedd rhaeadrau y dyfroedd uchaf wedi eu trechu hwythau.

Mynnai pob milltir o'r daith ei tholl mewn bywydau dynol, ac wedi colli o rai teithwyr eu cyfeillion ar y ffordd, hawdd oedd i ambell un golli ei reswm yn ôl llaw, ac i lawer mwy golli eu dewrder ysbryd, a gwangalonni ar y ffordd.

Beth a ddeuthai o'r bobl oedd mor hyawdl ar y llong am eu mesurau a'u trefniadau i ennill yr aur? Cyfarfu Daff â dau ohonynt ar y Chilcoot yn wynebu'n ôl i Dyea, ac yn crymu fel hen ddynion, a gwelsai wrth y Gors Fawr un arall wedi ei glymu ar sled rhag gwneuthur ohono niwed iddo'i hun ac i eraill. Ond yr oedd ef hyd yn hyn yn gryf ac iach gyda doleri'r Chilcoot yn ei logell ac addewid am fil arall atynt, heb sôn am gynhaliaeth gaeaf cyfan ar y Klondyke yn ychwanegol. Pa fodd y gallai ef ddal ei ben i fyny yn Vancouver heb ymdrechu i'r eithaf, a pha fodd y gallai ef egluro yn Frazer's Hope fod un gyfraith fechan, a honno dros amser yn unig, wedi peri iddo droi yn ei ôl.