Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)/Amcan a lle Dafydd Jones
← Y Llenor a'i Oes | Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785) gan Owen Gaianydd Williams |
Pwy ydoedd → |
II. AMCAN A LLE DAFYDD JONES.
Anhawdd gwneuthur cyfiawnder â llafur llenyddol Dafydd Jones, heb hefyd roddi trem ar ansawdd foesol a chymdeithasol Cymru yn ei amser ef. Canys yr oedd llafur llenyddol ei ddosbarth ef yn cael ei benderfynu i raddau pell gan chwaeth lenyddol a chrefyddol ei oes. Ceir dynion yn gweithio am fod ynddynt nerth bywyd; proffwydi yn meddu neges neillduol, a rhaid yw ei thraethu, pa un bynnag a ddeallir ac a fwynheir hi gan eu cydgenedl ar y pryd a'i peidio. Eraill,
llai galluog, ond nid llai gonest, llenorion marchnad ydynt, ac angen y farchnad i raddau pell a benderfyna natur eu gwaith. Nid sarhad mo hyn. Mae'r llenorion ymarferol yr un mor wasanaethgar i gymdeithas a'r bobl fawrion, yr angylion a ehedant yng nghanol y nef o ran eu meddwl, ond a ymguddiant yn eu celloedd o ran eu cyrff. Hwy yw gweision y werin, a'r werin yn ei amser ef oedd y dosbarth anghennog. Y werin bobl a esgeuluswyd, pan y dylasent gael y sylw pennaf. Yn lle cysegru goreu eu gallu a'u doethineb er eu dyrchafu, sefydlodd y llenorion pennaf gymdeithasau er diddanu eu gilydd, gan adael y bobl gyffredin at drugaredd yr annoeth a'r diddawn. Bardd yr ychydig oedd Goronwy Owen. Am yr ychydig y cofiodd Rhys Jones o'r Blaenau
Blaenau yn ei "Orchestion Beirdd." Hulio bwrdd y bobl gyffredin a wnaeth Dafydd Jones a Hugh Jones Llangwm. A chanwr baledi'r tafarnau a'r ffeiriau, boddhawr y gwamal a'r ofergoelus, oedd Elis y Cowper. Canu cân ei galon a wnaeth Goronwy Owen, fel bwrw had i'r ddaear, heb un sicrwydd yr argreffid ei gywyddau byth, heb son am gael cymaint a ffranc am ei lafur. Yr oedd
Dafydd Jones lawer nes i fwrdd y cyfnewid; rhaid oedd iddo fyw ar lafur ei ddwylaw. Hyn oedd hanes ei ddosbarth. Rhaid oedd trefnu eu llafur llenyddol yn ol eu hamgylchiadau. Nid elw chwaith oedd eu cymhelliad, canys profasant lawer rhy fynych chwerwder a siomedigaeth colled. Yr oedd eu hanfanteision yn fawrion, a'u mwynderau yn ychydig. Fel ei holl gydoeswyr o'i ddosbarth, felly hefyd Dafydd Jones—ei anfanteision yn fawrion; a thegwch a'i waith yw ei farnu yng ngoleu'r rheiny.
Ni chyfoethogwyd ein llenyddiaeth na'n barddoniaeth oreu. Ond arloesodd y tir. Cyflenwodd ryw angen, a deffrodd anghenion uwch. Wrth roddi arlwy ar fwrdd cyffredin ei oes, cymhellodd hwy i bethau uwch a rhagorach. A darllenwyr pethau cyffredin un oes, yn fynych, yw tadau a mamau cewri yr oes ddilynol. Amcanodd yn dda; ac yn ol ei allu a'i fanteision gweithiodd yn rhagorol. Nid ydym wrth hyn yn cau ein hunain allan rhag beirniadu ei amcanion. Yn hytrach fel arall, tueddir ni i roddi ein dyfarniad yn ei erbyn, sef nad ymarferol i ŵr o ddysgeidiaeth gyffredin, o amgylchiadau lled isel, ac yng nghanol cymaint o anfanteision, oedd cysegru ei fywyd mor llwyr i wasanaethu llenyddiaeth ei oes a'i genedl. Ar yr un pryd rhaid cofio'r ysbryd a feddiannai ddynion. Yr ysbryd gwladgar a llengar hwnnw a barodd i lawer obeithio yn erbyn gobaith, a llafurio yng nghanol dyrysni heb wangalonni. Hauasant heb obaith medi o ffrwyth eu llafur yn na'r byd hwn.
Cyfiawnder a'u coffadwriaeth yw esbonio eu hymdrechion hunanaberthol yng ngoleu un o ddwy ffaith—eu cariad at lenyddiaeth ynddi ei hun, neu eu cariad at lesoli eu gwlad. Credaf mai'r cyntaf yw'r eglurhad goreu ar fywyd a theimladau Goronwy Owen.
Gwir y carodd ei Fon gu à chariad angerddol. Ond prin y gellir ei osod allan fel gwr a garodd ei wlad, a garodd Gymru gyfan. Hiraethu a wnaeth am gongl glyd, uwchlaw angen, ym Mon, i ganu teimladau byw ei galon. Yr oedd Ieuan Brydydd Hir, ei gydoeswr tlawd a thrallodus, lawer mwy gwladgar. Nid canu cywyddau, er iddo wneyd hynny, ond codi Cymru, codi ei wlad, a geisiodd efe. Fel cylch ei hoffder, yr oedd cylch ei lafur lawer eangach. Fe allai na feddai Dafydd Jones mo'r meddwl cryf ei ddoniau i garu llenyddiaeth er ei mwyn ei hun. Cariad at wlad, a math o ddawn lengar, oedd ei ysbrydiaeth ef. Ceir amlygiadau o'r cariad hwn yn torri allan yn awr ac eilwaith, pan ofidiai oherwydd tuedd Seisnig yr Eglwys, a dibrisdod gwreng a boneddig o'r Gymraeg. Carai a pharchai y rhai a garent Gymru a'i hiaith.
Gynt, cefnogwyd ein llenyddiaeth a'n llenorion gan fawrion y wlad, pan oedd—ent hwy eu hunain lenorion, a llenorion Cymreig. Hyn sydd fawl cywir gorffen—nol gwyn, a chlod priodol tir arglwyddi'r amser gynt. Tystia cywyddau clod a chywyddau coffa y molai'r beirdd bobl oedd garedig iddynt. A hwn, fe aliai, yw'r esboniad cywiraf ar y ffaith fod cymaint o waith ein hen feirdd, a chymaint o lawysgrifau hanes, yn llyfrgelloedd ein plasau. Pa fodd bynnag, braint a gollwyd yw erbyn heddyw. Ond er colli Arthur, cadwyd ei fri; a gwrendy cenedl am ei swn yn deffro.
Yng nghyfnod Dafydd Jones yr oedd y croesaw hwn yn cilio, os nad wedi cilio o'r wlad. Yr oedd perthynas cymdeithasol, gwreng a bonheddig, i raddau pell wedi newid. Peidiodd y bonheddig a bod yn noddwr llafurwr ei dir; o ganlyniad peidiodd y llafurwyr a bod iddo yntau yn deulu." Bellach nid arglwydd, ond tir arglwydd, oedd un; ac nid deiliaid, ond tenantiaid, oedd y lleill. Pan ddaeth "teulu" y mawrion i olygu yn unig rai o'u gwaed hwy eu hunain, diflannodd cadeiriau'r beirdd oddi ar yr aelwydydd; a daeth eu croesaw yn ddyledswydd wladol os nad cardod bersonol. Bu Ieuan Brydydd Hir yn byw mewn trallod ac angen ar gardodau olaf yr arfer hon. Syr Watkyn Wyn a'i cynorthwyodd am amser, gwedi hynny'r Paul Panton o Blas Pentraeth, yr olaf hwn yn ei helpio ar yr amod fod ei holl ysgrifeniadau a'i ysgriflyfrau i fyned yn eiddo'r Paul Panton ar ei farwolaeth.
Er daed yr amod o du'r boneddwr, dogn tloty a roddwyd i sicrhau'r pwrcas.
Ni fanteisiodd Dafydd Jones hyd yn oed i'r graddau y gwnaeth Ieuan Bry—dydd Hir ar hen arfer dda'r dyddiau gynt. Yr oedd Ieuan yn llenor yn ol anianawd y mawrion, yn ysgolhaig gwych yng Nghymraeg, Saesneg, a'r Lladin, yn fardd coeth, ac yn hanner addoli trysorau eu llyfrgelloedd. Os prin fuont yn eu nawddogaeth iddo ef; pa wedd y gellid disgwyl iddynt noddi gwr cyffredin ei ddysg a'i ddawn fel Dewi Fardd? Nid oedd fardd o'u dosbarth nac i'w dosbarth. Syndod i'r Morrisiaid ei arddel fel y gwnaethant, os teilwng galw ei ganmol a'i wawdio bob yn ail yn arddel hefyd.
Un o'r prif anhawsderau oedd cyflwr isel crefydd. Prin yr oedd y Diwygiad Methodistaidd eto wedi gosod ei ol ar Ogledd Cymru, tra'r Eglwys Wladol of dan lwch segurdod, a'r offeiriadon yn cysgu'n drwm. Amhosibl esgusodi'r Eglwys esgeulusodd y rhan fwyaf elfennol mewn addysg fydol a chrefyddol, sef dysgu'r bobl i ddarllen. Honnir mai un o brif achosion ei llesgedd oedd ei thlodi. Hyn sydd ffaith amlwg, gweithiodd rhai offeiriaid a gweinidogion tlodion yn wych er deffro a chodi'r wlad i fywyd uwch. Ni bu tlodi yn eu hachos hwy yn ddigon i'w hatal rhag ymdrechu.
Dioddefai'n dost hefyd oddi wrth y dwymyn Seisnig. Cwynai Dafydd Jones yn ei ragymadrodd i'w "Gydymaith Diddan" mai pedwar Sais oedd esgobion Cymru. A thrachefn, yn ol llythyrau y Prydydd Hir, "yr oedd personiaid o Saeson hollol yn cael eu penodi i fywioliaethau o Fflint i Fon." A pha flas gaffai estroniaid ar bethau Cymreig? A llesgaodd bywyd o achos y diflasdod. Felly yr oedd y nerth hwn, a allesid droi er llwyddo llenyddiaeth ymhlith y cyffredin, yn gorwedd yn farw. A bu orfod ar lenyddiaeth y wlad drigo'r mannau lle caffai groesaw, y fath honno o oes ag yr oedd y clochyddion yn amgenach llenorion na'u meistriaid.
Darn arall o hanes prudd yr amseroedd hyn ydoedd anwybodaeth y bobl, a'u hanallu i ddarllen. Rhaid aros mewn syndod uwch ben y ffaith anwadadwy fod cyfangorff y genedl yn hollol anysgedig, hyd yn oed yn analluog i ddarllen iaith eu haelwydydd. Pa le yr oedd eu gwaredwyr, y rhai a ofidient o'u hachos? Teimlodd y Morrisiaid i'r byw angen Cymru am Feiblau; ond gadawsant y mater o ddysgu'r werin i'w darllen i eraill. Methais weled un crybwylliad yn holl lythyrau y Morrisiaid na Goronwy Owen at ysgolion Gruffydd Jones o Landdowror. Ceir un crybwylliad byrr yn un o lythyrau'r Prydydd Hir. Rhaid y gwyddent am danynt; canys bu'r ysgolion hyn mewn llawer cymdogaeth yn y Gogledd, a llawer gwaith yn eu tro mewn rhai cymdogaethau. Gwawdiasant y "Gwahanyddion hyntiog a thrystiog," er eu gofid a luosogent yn y tir. A rhaid y safasant o hir bell, gan wylied yn amheus lafur un o'r gwyr eglwysig goreu a welodd Cymru. Paham na ddeallasant fod y math hwn o addysg yn hanfodol angenrheidiol er llwyddiant llenyddiaeth yn gyffredinol?
Yr oedd Dafydd Jones fel yn canfod yr anhawsder, a meddyliodd geisio ei symud. Canys hyn oedd un o amcanion cyhoeddi'r "Cydymaith Diddan." Fel llawer o lyfrau'r amser hwnnw, ceir y wyddor ar ei ddechreu, ac amcanwyd ei wneyd mor "ddiddan" nes peri i ddynion ei ddarllen o "ran digrifwch yr ymadrodd." Er ei fod yn "Gydymaith Diddan," ac yn ddifai fel y cyfryw, prin y bu'n foddion i ddysgu pobl i ddarllen.
I ŵr o amgylchiadau. a moddion Dafydd Jones, rhaid fod cyhoeddi llyfrau yn flinderus a dielw, er ei fod yn teithio'r wlad ei hunan i'w gwerthu. Ond caletaf y gwaith, mwyaf y clod. Yr oedd yr argraffwasg am ran gyntaf ei oes ymhell, yng Nghaer neu'r Amwythig yr oedd yr agosaf. Yr argraffwyr yn ddim amgenach na bwngleriaid, felly yr oedd cywiro'r wasg yn orchwyl pwysig. A pha faint bynnag o newyn llyfrau oedd yn y wlad, rhaid oedd dioddef ei arteithiau o ddiffyg moddion i'w prynnu. Felly nid rhyfedd fod canu cerddi ceiniog eu pris yn arfer mor gyffredin; dygent rywfaint o elw, tra'n llawer llai anturiaeth na chyhoeddi llyfrau. Gwelir yn amlwg oddi wrth amryw o'i lyfrau y rhaid fod ei drafferthion yn fawr, ei dreuliau personol yn drymion, ac yntau heb fawr foddion i ymgynnal danynt. Ceir ei ragymadrodd i'r Cydymaith Diddan" wedi ei leoli a'i ddyddio—
"Caer Lleon, o'm stafell,
Ar Graig yr Hewl beeth.
Chwefror 7, 1766."
Trigai ar y pryd yn Nhan yr Yw, Trefriw; ac yn ol a ysgrifennodd Ieuan Brydydd Hir am dano, Ion. 14, 1761, yr oedd yn meddu "rhawd o blant bychain, sef chwech neu saith ... yn achwyn bod arno ddyled, ac eisiau modd i dalu ei ardreth."[1] Yr eglurhad ar y lle yr ysgrifennodd ei ragymadrodd yw ei fod yno'n cywiro'r wasg." A rhaid fod hynny'n drafferth gostus i ŵr yn meddu amryw blant, a'i amgylchiadau ariannol yn gyfryw nes methu o hono "dalu am ei nenbren."
Fel yr awgrymasom, yr oedd Dafydd Jones yn gydoeswr a'r Diwygiad Methodistaidd." A thyna'r cyfan.[2] Rhaid y gwelodd olion ei ddylanwad ar fywyd moesol y De; y gwelodd y gwanwyn ysbrydol hwn yn dechreu gweddnewid agwedd foesol a deallol y Gogledd. Bywyd newydd oedd hwn a gododd, nid o ddeall na gwladgarwch y llawer, ond o gydwybod yr ychydig. A methaf weled ei fod o un gwahaniaeth o ba safle nac o ba raddau eu dysg; canys gradd, ac unig radd diwygiwr, yw enaid wedi ei danio. Ystyried cyflwr ysbrydol a chymdeithasol y wlad fu'r achos o hono. Nid oedd yr holl weithwyr yn gweithio yn yr un drefn, er ei fod yr un gwaith ac yn cyrraedd yr un amcan. Y modd i wella'r wlad yn ol syniad Gruffydd Jones oedd dysgu'r bobl i ddarllen, a rhoddi iddynt lenyddiaeth grefyddol dda. Credai Harris mewn deffro eu cydwybodau mewn odfaon, a'u diddanu mewn seiadau. A bu odfaon Rowland yn foddion i ddeffro ysbryd defosiynol, a dwyn dynion i brofi blas tangnefedd yr efengyl. Canlyniad diamheuol gweithgarwch y pleidiau oedd codi llawer ar y wlad yn ysbrydol, moesol, a deallol. Nid codi rhagorach beirdd a choethach llenorion a wnaeth y diwygiad; ond mewn amser, creu tô newydd o ddarllenwyr. Beirniadu ac erlid y Diwygiad Methodistaidd a wnaeth beirdd a llenorion goreu yr amseroedd hynny. Nid oeddent yn deall gwerth y gwaith, a gall fod eu balchder beth anfantais iddynt ei farnu'n deg. Yr oeddent yn fath o gymdeithas a'i gwaith ar ei chyfer, sef gwerthfawrogi a chadw math neilltuol o farddoniaeth a llenyddiaeth, ac ystyrient hwy, fel yr offeiriaid, "y cyffro newydd" fel newydd beth afreolaidd ac annuwiol. Llenyddiaeth y Diwygiad oedd Holwyddoregau Gruffydd Jones, gweithiau John Bunyan, "Patrwn y Gwir Gristion," "Llyfr y Tri Aderyn," yng nghyd a llyfrau da eraill, y rhai yn bennaf oedd gyfieithiadau o'r Saesneg. Er i Williams Pant y Celyn ddwyn i arfer fesurau newyddion a barddoniaeth newydd yn ei emynnau, parhau i ganu'r mesurau carolau anwastad eu cyhyrau, a cheisio efelychu Huw Morus, a wnaeth y beirdd bach a ymnoddent o dan gysgodion eu rhagorach. Pa fodd na welodd Lewis Morris werth Holwyddoregau Gruffydd Jones ac emynnau Williams sydd hollol anesboniadwy. Yr unig gyfathrach fu rhwng y ddwy blaid ydoedd gwaith Rhisiart Morys yn cynorthwyo Peter Williams yn nygiad allan Feibl 1770. A cheisiodd y Prydydd Hir, yn fwriadol neu anfwriadol, greu rhagfarn ym meddwl Rhisiart Morys yn erbyn Peter Williams, pan yr ysgrifenna,—
"Y Pedr Williams yna sydd yn argraffu y Beibl yng Ngharfyrddin, nid yw meddynt i mi yng Ngharedigion, ond ysgolhaig sal a phur anghyfarwydd yn y Gymraeg. Un o gynghorwyr, neu ddysgawdwr y Methodistiaid ydyw."[3]
"Am y Beibl Cymraeg â Nodau. y mae arnaf ofn na ddaw byth allan, ac nad yw'r dyn ychwaith ag sydd yn cymmeryd y gorchwyl yn llaw gymhwys i'r gwaith. Ei enw yw Peter WilIrams: un o'r Methodyddion ydyw. Ni fedr ddim iaith iawn, na'i hysgrifenu chwaith, megys y mae rhai llyfrau a ysgrifenodd yn tystio."[4]
Mae'r uchod, mewn un wedd, yn feirniadaeth deg, gyson a'r dystiolaeth oedd gerbron; oblegid yr oedd Peter Williams wedi cyhoeddi cyn hyn lyfr, nad oedd fawr gamp ar ei Gymraeg, na chysondeb yn ei orgraff. Nid ffrwyth barn, ond rhagfarn, oedd ei alw yn un "o'r Methodyddion." Pa wahaniaeth o ba "yddion" yr oedd, os ceid trwyddo argraffiad o'r Beibl at wasanaeth gwlad ddifeiblau? Er y darogan, profodd ei hun gymhwysach nag y syniodd y Prydydd Hir am dano; canys daeth ei Feibl allan ogystal ei ddiwyg, a dweyd y lleiaf, a'r Beiblau a'i blaenorodd. Ac erbyn hyn, mae wedi dod yr argraffiad mwyaf poblogaidd o unrhyw argraffiad ar wahan i argraffiadau'r Gymdeithas Feiblau.
Amlwg yw na ddylanwadwyd ar Ddafydd Jones gan y Diwygiad mewn unrhyw fodd. Canodd lawer o ganiadau crefyddol, ond yr oeddynt oll yn null y carolau, neu ynteu yn ol iaith a meddwl
"Canwyll y Cymry." Gall mai'r esboniad yw ei berthynas, o'r fath ag oedd, â'r Morrisiaid, a'u dylanwad arno, yn neilltuol felly ei syniadau uchel am Gymdeithasau Llundain, a'i ymroddiad i weithio yn y cyfeiriad a roddasant hwy i weithgarwch dros y genedl.
Yn cydfyw ac yn cydweithio â'r Deffroad crefyddol, yr oedd math o ddeffroad cenedlaethol a gwladgarol. Math o ryddfrydiaeth grefyddol, a'i hwyneb ar gymdeithas i'w chreu o newydd o ran ysbryd a threfniadau crefyddol, oedd un; tra'r llall yn ddeffroad ceidwadol, cadw a mawrygu hen geinion llenyddol oedd ei hanwyl-waith.
Pobl yn edrych yn ol oeddent, gan sugno asbri i'w calonnau o feddwl a bri'r gorffennol. Yn 1751 sefydlwyd cymdeithas enwog y Cymrodorion, gwaith yr hwn yn bennaf oedd codi o'r tyrrau llwch bob peth Cymreig mewn barddoniaeth, llenyddiaeth, ag hanesiaeth. Yr un modd yn 1771, sefydlwyd cymdeithas y Gwyneddigion, a'i hamcan hithau oedd eu cyhoeddi, er na wiriodd ei hamcan erioed.
Yma ceisiwn nodi safle Dafydd Jones, fel llenor neu fardd, pa un bynnag o'r cymeriadau hyn a haeddai. Fel y nodasom, ni fu un cysylltiad rhyngddo â'r Diwygiad na'i lenyddiaeth. Yr oedd lawer amgenach yn ei waith a'i gysylltiadau na baledwyr y ffair a'r gwylmabsant. Eto yr oedd pob peth a gyfansoddodd ac a gyhoeddodd islaw cael eu noddi gan y cymdeithasau uchod. Er fod ei waith felly, yr oedd efe ei hun yn aelod o'r cymdeithasau hyn. Yn rhagymadrodd y "Cydymaith Diddan" dywed,—
"Y mae yn Llundain Gymdeithas o Gymry a elwir Cymmrodorion, ac yn y wlad hefyd, yn coleddu Brithoneg: ac y mae ymbell Bapur Crynhodeb, sef y Clwb yn Gymraeg."
Mewn nodiad ar waelod y ddalen ceir,—
"Fe ddarfu iddynt fy enwi yn un ohonynt, y gwaelaf o'r cwbl."
Mae'r nodiad hwn yn hollol gywir, oherwydd ceir ei enw yn rhestr gyntaf Cymdeithas y Cymrodorion, yr hon gyhoeddwyd yn 1762.[5] Pa fath bynnag fardd neu lenor ydoedd, yr oedd yn aelod o Gymdeithas y Cymrodorion, cymdeithas yr eiddigeddodd Lewis Morris gymaint dros ei hurddas, cymdeithas nad oedd holl dalent Goronwy Owen ddigon o iawn drosto yng ngolwg Llywelyn Ddu am iddo ysmocio yn un o'i chyfarfodydd. Fel y cyfeiriasom eisoes, ei barchu a'i amharchu bob yn ail a wnaeth Lewis Morris, a hynny yn hollol anheg rai gweithiau. Wrth ysgrifennu at Edward Richard, Ystrad Meurig, geilw Lewis Morris y Flodeugerdd yn,—
"Un o erthyliaid basdardaidd Dafydd Jones, y ffwl i borthi ei wagedd ei hun, a lanwodd y Llyfr a'i brydyddiaeth ddiles ei hunan."
Mae'r donioldeb gwrachiaidd hwn, nid yn unig yn anheilwng o Lewis Morris, ond yn anghywir fel ffaith a beirniadaeth. Oblegid, o'r 189 o ddarnau barddonol a geir yn y Blodeugerdd, ni cheir ond y nifer cymedrol o 9 o waith Dafydd Jones. Os diles ei farddoniaeth, gallasai longyfarch ei hun yn wyneb ei feirniad, llu o gywyddau'r hwn sy'n llygru y neb a'u darlleno, y maent rhy faswaidd i gael eu cyhoeddi gan neb yn yr oes hon. Felly nid oes fawr bwys i'w roddi ar wên na gwg y Lewis Morris. Ond er ei feirniadu o hono ef arwed, gohebai âg ef yn achlysurol, ac ysgrifennodd ato rai llythyrau campus yn ol ei arfer.
Rhaid fod syniadau Ieuan Brydydd Hir lawer uwch am dano; ac, heb os, beth gonestach. Pan yn ysgrifennu at Risiart Morus i'w annog i ddwyn allan lyfrau neilltuol, megis "Y Llwybr Hyffordd i'r Nefoedd," dywedai,—
"Os yw'r drafferth yn rhy fawr i chwi olygu y wasg yn y cyfryw orchwyl dyma Dewi Fardd o Drefriw a wnai y tro, tan eich golygiad chwi, gystal a neb a adwaen i. Yr wyf yn ei enwi ef yn benodol, oherwydd mai dyn geirwir, gonest ydyw, a mwy o wybodaeth yn yr iaith na nemawr o'i radd a'i alwad, er iddo gael llwyr gam gan Stafford Prys yn Amwythig, yr hwn ni argraffai mo'i lyfr modd ag yr oedd ef yn ewyllysio, namyn fel y gwelai ef yn dda ei hunan, herwydd y dywawd Dewi i mi tan daeru, y medrai ef argraffu Cymraeg mor gywir neu gywirach nag yntau."[6]
Wele ddwy farn dau a'i hadwaenai yn dda. Eu cysoni a thynnu un casgliad teg am ei safle fel bardd a llenor i'n pwrpas presennol sydd anhawdd. A'r anhawsder pennaf yw, yn y rhagolwg ar yr un peth ei condemnid gan un ac ei cymeradwyid ef gan y llall. Rhaid addef fod Lewis Morris yn feirniad craff, er fod math o deimladau brwd balch yn peri iddo fod yn neilltuol lawdrwm ar bersonau ambell waith. Yn bennaf condemnio iaith ei brydyddiaeth a wnai'r Llywelyn Ddu, ac i ieithydd mor loew a meistrolgar yr oedd gweithiau Dewi Fardd yn israddol a chyffredin. Camgymeriad ar ei ran ef oedd eu gosod allan fel prydyddiaeth ddiles." Canys yr oedd lles barddoniaeth y ddau yn eu dysgeidiaeth foesol. Yn yr ystyr hon yr oedd barddoniaeth gyffredin Dewi Fardd yn llawer mwy llesol na chywyddau aflan ei feirniad, y rhai a ymddanghosasant, er syndod, ymhen llai na phedair blynedd, yn y "Diddanwch Teuluaidd," a'u hawdwr eto'n fyw. Drachefn, barn garedig yw eiddo'r Prydydd Hir. Wrth drigo yn Nhrefriw daeth i ddeall amgylchiadau gwasgedig Dafydd Jones, a ffurfiodd gyfeillgarwch âg ef. O hyn cymhellai ef i swydd y cai ychydig elw ariannol am ei chyflawni. Amlwg yw, oddi wrth weithiau llenyddol Dafydd Jones, nad oedd ieithwr o'r radd ei gosodid allan gan y Prydydd Hir. Pa faint bynnag o gam a gafodd oddi ar law Stafford Prys, ni ragorodd ef ei hun arno pan yr ymgymerodd â'r gwaith o argraffu. Canys yr oedd y llyfrau a ddaeth allan o wasg Trefriw lawer gwaeth eu horgraff a'u hargraff na rhai gwasg yr Amwythig. phrofant nad oedd Dewi Fardd gwbl fedrus i gywiro'r wasg, heb ryw Risiart Morus i'w gywiro yntau.
O fwrw golwg frysiog o'r fath hon dros ei amgylchoedd, gwelir nad oedd amgylchiadau Dafydd Jones yn galonogol na manteisiol i waith llenyddol. Ni chafodd y nodded arferol gan lenorion goreu'r oes, oherwydd na chafodd yr addysg honno a'i gwnelai'n ffafrddyn yn eu golwg. Er fod y llenyddiaeth a gyhoeddodd lawer uwchlaw baledau cyffredin ei oes, a'r llenyddiaeth a gydredai â'r baledau, nid oedd yn codi at safon lenyddol llenyddiaeth ei amser. Oherwydd hyn ni chafodd yr ychydig gymorth ariannol a roddai Cymdeithasau'r Cymrodorion a'r Gwyneddigion, os oedd eu cefnogaeth hefyd rywbeth amgenach na geiriau caredig. Yr unig reswm a ellir roddi dros ei waith a'i lafur ydoedd ei wladgarwch. Ar un llaw yr oedd uwchlaw canwyr baledi'r ffeiriau, heb deimlo o ysbryd y Diwygiad, eto heb fod o'r dosbarth neillduol o lenorion, er ei holl gyfathrach â hwynt. Ond er na feddai eu dawn a'u safle, yr oedd ei wladgarwch fel yr eiddynt hwythau. A bu was ufudd yr ysbryd hwn yn ol ei allu, a llwyddodd yn fawr.
Yn y bennod hon yr ydym wedi ceisio bwrw golwg dros ei anfanteision, nodweddion ei amser, ei gysylltiad â phrif lenorion ei amser. Er wedi crybwyll ei safle fel llenor, bardd, a henafiaethydd, yr ydym wedi ei gadael yn ben agored. A chaiff y darllennydd yn gyntaf farnu ei safle yn ol natur a swm ei waith. Canys gwaith dyn a ddylai yn bennaf roddi iddo safle.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Gweithiau Ieuan Brydydd Hir. Llythyr 9.
- ↑ Clywsom, wedi ysgrifennu'r uchod, fod yn y Cwrt Mawr lythyr o waith Dafydd Jones ei hun, yn dweyd iddo fod mewn cysylltiad â'r Methodistiaid, ond i'w gyfeillion ei wawdio nes iddo eu gadael.
- ↑ Llythyr 35, Gorff. 22ain, 1767.
- ↑ Llythyr 27, Chwef. 4ydd, 1767.
- ↑ Additional MSS. 15059.
- ↑ Llythyr 19, Gorff. 7, 1764.