Neidio i'r cynnwys

Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)/Pwy ydoedd

Oddi ar Wicidestun
Amcan a lle Dafydd Jones Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)

gan Owen Gaianydd Williams

Bywyd a Buchedd

III. PWY OEDD DAFYDD JONES?

Y fath hud rhyfedd sydd yn nhroadau hanes. Nid rhyfedd i'r hen Gymry gwladgar weu eu hadgofion yn fabinogion rhamantus, ond swynol a thlysion er hynny. Adroddent newidiadau araf oesau eu tadau fel pe wedi digwydd yn eu hamser a'u hoes hwy eu hunain. Yr oedd eu dychymyg heb ei ddofi gan ddysg, na'i feichio hyd lesgedd gan helyntion bywyd. Yr oedd ffeithiau hanes eu hamser fel cymylau'r awyr, yn nofio mewn gorffennol dilan, difynydd. Gwedi hynny y profwyd y gwir mai goreu cof, cof llyfr. Llyfrau'r wlad oedd cof y trigolion; ac os nad oedd y goreu, yr oedd barod a defnyddiol. thuedd byw'n barhaus yng nghwmni chwedlau arwrol oedd troi'r genedl yn genedl o arwyr. Yn araf newidiodd pethau. Daeth y wasg i ysgafnhau baich cof, a rhoddi mwy o waith i ddeall segur. A daeth digwyddiadau cymdeithasol yn gerrig llamu'r anialwch hwn—cartref hud oesau coll. Am ganrifoedd bu'r genedl yn byw i amcanion gwleidyddol. Rhyfeloedd, a son am ryfeloedd, oedd y post amser wrth yr hwn y rhwymid y rhes digwyddiadau eraill,—"Y peth a'r peth cyn neu wedi rhyw ryfel neu alanas llywodraeth. A bywyd masnach oedd ysbail rhyfel. Bu Llundain a'i Thŵr brenhinol, ei helyntion gwladol a chrefyddol, er pelled oedd pryd hwnnw, bron yn bob peth bywyd y wlad. Tu ol i lenni'r ffau wleidyddol honno y genid cynlluniau'r codi i fyny a'r taflu i lawr; a'r wlad fawr amgenach na rhyw fantais, yn bod at wasanaeth y rhai enillent y gamp yn y lotri wleidyddol. Treuliodd Cymru gannoedd o flynyddoedd o fywyd ofer. Gwir iddi fod beth mwy sefydlog na Lloegr; yr oedd ddigon toriaidd i aros wrth yr un post, er dioddef o achos hynny. Yr oedd yn y wlad ychydig fawrion yn clodfori'r brenin, ac ychydig feirdd yn eu clodfori hwythau. Yr oedd y beirdd a'r gwleidyddwyr fel rheol yng nghwmni eu gilydd; a chyfangorff y bobl y tu allan i'r cylch, heb fawr fwy amcan i'w bywyd na chynnal eu teulu a thalu'r rhent. Bu gwerin y wlad fyw a marw bron fel eu hanifeiliaid. Hyn oedd hanes Cymru am ddegau o flynyddoedd wedi amser Dafydd ab Gwilym a Thudur Aled. Mae'r newid yn fawr, ond fyrred y tymor y dygwyd yr oll oddi amgylch,—dim ond megis doe. Prydain heddyw, nid yw onid cynnyrch dadblygiad un oes. Gwelodd Victoria o'i gorsedd bron fwy o newid na'i holl flaenoriaid ynghyd. Mae cyfnewidiadau lawer fel yn hwyhau amser, a dynion yn rhyfeddu eu bod wedi byw cyhyd, ac yn cofio pethau mor wahanol.

Mae cant a hanner o flynyddoedd er pan drigai Dafydd Jones yn Nhrefriw, a dim ond cant a hanner. Mor agos a phell! Mae'r mynyddoedd fel o'r blaen, er holl raib yr ystormydd fu'n ymladd eu brwydrau ar eu llethrau, yn unig fod tô arall o goed yn sefyll rhyngddynt a'r gwaethaf, a phlant y drydedd neu'r bedwaredd genhedlaeth yn bugeilio'r defaid. Mae'r goedwig oedd ar y dyffryn yn faes aredig. Rhedeg mae'r afon tua'r môr, ac fel bywyd yn ymgolli yn ei amcan, ond yn gwneyd llawer gwasanaeth ar y daith. Bu Lewis Morris yn holi am enwau ei "gleisiaid," ac yn chwenych ciniaw o'r "brwyniaid a wnaeth Sant Ffraid." Treiglo mae'r afon; ond aros mae'r bryniau, a bron wedi blino yn cynefino a thô ar ol tô o ddynion yn chwareu ar eu llethrau, ac wedi oes ferr yn cilio a diflannu. Yn amser Dafydd Jones nid oedd yr holl wlad namyn nentydd tawel, mynyddoedd distaw, cartref ychydig wladwyr tawel, os nad tlawd. A Threfriw ei hun, nid oedd namyn "Caer-drws-nant," yn sel y mynyddoedd, ac yn gwylio dros drigolion y nentydd. Y pryd hwnnw yr oedd Llanrhychwyn fwy ei bri na Threfriw, megis hen ddinas fach yn cadw mewn cof ddull o fyw hanner cuddiedig yr hen dadau. Yn yr oes hen honno, yr oedd ambell gapel bach, diaddurn, yn cael eu codi draw ac yma, a dyrnaid o addolwyr ofnus a thlawd. Ceid ysgol uwchraddol ar gyfer pob sir; yn hapus yr oedd felly yn y rhan hon o'r Gogledd. A cheid ambell dwrr o blant yn ymgynnull yn hen ysguboriau'r tafarnau i ddysgu Cymraeg, o dan athrawon Gruffydd Jones: ac ambell un arall, a fedrai ar lyfr, a ddilynai eu hesiampl. Nid oedd oes y rheilffordd a'r pellebyr eto wedi gwawrio. Traul anfon llythyr oedd chwe cheiniog, a rhaid oedd teithio deng milltir i'w roddi dan sel cerbyd Llundain. Gwlad y cymanfaoedd, a hen wlad y cymanfaoedd, y diwygiadau a'r colegau, y gelwir Cymru heddyw. Ond yr oedd gwawr ei bore heb dorri'r adeg hon. Yr oedd y wlad fel heb ddeffro, a chymdeithas fel heb esgor ar ei bywyd ei hun. Cerddi'r ffair ac almanaciau'r flwyddyn oedd newyddiaduron y wlad. A chlochydd Trefriw oedd prif argraffydd Gogledd Cymru.

Profedigaeth ambell un a gais ysgrifennu cofiant yw gormod hanes. Yma prinder hanes yw'r trallod. Mae'r mân hanesion sy'n esbonio cymaint ar gymeriadau dynion wedi eu colli, ac wedi eu colli am byth. Y pryd hwnnw nid oedd ein llenorion wedi dechreu'r arfer hwylus. o groniclo eu hanes eu hunain, na chwaith wedi ymroi i'r gwaith o ysgrifennu cofiantau eu gilydd. Eu harfer hwy oedd canu clod y naill y llall pan yn fyw, a chanu un cywydd goffa. Cadw eu gwaith, ac nid eu hanes, oedd bwysig yn eu golwg. Bu gan y Diwygiad Methodistaidd law amlwg yn nwyn i fod yr arfer o ysgrifennu hanes a chofiantau.

Ac nid balchder mo hyn, ond ffurf ar ddyledswydd grefyddol. Trwy'r Diwygiad cafodd Cymru ddynion ag yr oedd elfennau eu cymeriad a ffeithiau eu bywyd yn gyfryw fel yr oedd cydwybod gwlad yn teimlo mai colled oedd eu colli.

Prin yw'r hanes am Ddafydd Jones yn ein llyfrau safonol; prin ymhob man o ran hynny. Yr un ychydig hanes geir yn Eminent Welshmen" Williams, yn "Enwogion Cymru," ac yn y "Gwyddoniadur;" yr un yw eu clod, a'r un yw eu camgymeriadau. A hyn yw aflwydd hanes llenyddiaeth Gymreig, un camgymeriad a ddaw yn fuan yn gamgymeriad llawer. Oherwydd gwell gennym yfed y goferydd nac ymdreulio i gerdded y ffordd i lygad y ffynnon.

Ni wnaeth Ieuan Glan Geirionnydd a ddylasai i gadw yn wyrdd goffadwriaeth Dafydd Jones. Croniclodd Ieuan hanes gwledydd pell a phobl ddieithr i Gymru ei wlad. Dyddorodd ei ddarllenwyr â hanes anifeiliaid gwâr a gwyllt. Ond er ei fod wedi ei eni mewn rhandir swynol i fardd Cymreig, yn swn hudol draddodiadau am Lywelyn a'r ymroddgar Syr Thomas Williams, ni chofiodd gadw'n fyw hanes ei bobl ei hun. Yn ei amser ef yr oedd llawer o hanes Dafydd Jones ar gof gwlad. Gwelodd Ieuan, ei fab Ismael Dafydd, a chanodd iddo englynion coffa, gan deitlo'r tad yn Dafydd Sion Dafydd, yr enwog henafiaethydd."[1] Felly cafodd pob cyfleustra hamdden teg i fyned heibio, a'r llwch lonydd i guddio ei goffadwriaeth.

Yr oedd i Ddafydd Jones amrywiol enwau. Anhawdd cael gŵr mwy amrywiol ei enwau, os nad ei ddoniau hefyd. Ar y cyntaf galwai ei hun yn "Dafydd Jones, Antiquary." Ond ei arfer yn rhan olaf ei oes oedd "Dafydd Jones, Dewi Fardd;" ac yn fynych "Dewi Fardd" yn unig. Wrth rai o'i weithiau ceir Dewi ap Ioan.[2] Mae'n debyg mai ei enw llafar gwlad yn Nhrefriw oedd Dafydd Sion Dafydd; i raddau pery felly o hyd. Ei enw fel llenor heddyw yw Dafydd Jones o Drefriw. A pho fwyaf o ymchwil wneir i lenyddiaeth y ddeunawfed ganrif, mwyaf amlwg y daw'r enw hwn o hyd. Enw yw sy'n ennill ei safle. Ymddengys mai Lewis Morris a'i cyfenwodd Dewi Fardd, a balch oedd o'r bedydd barddol hwn. Ceir y nodiad canlynol yn y "Cydymaith Diddan," tud. 176,—" Dewi Fardd y'm cyfenwai Lewis Morris, Yswain, fi ymhlith beirdd." Hawdd gweled fod Lewis Morris yn frenin cylch neilltuol o feirdd yn ei amser, a fod ei ffafrau megis eu heinioes iddynt. Mewn llythyr ato, dyddiedig Hyd. 14, 1757, geilw'r un gŵr ef yn Dafydd Sion."—" Gŵr gwann iawn oedd Mr. Wynne Cynhafal, ni fedrai gael mwy nag un subscriber i Ronwy, nac yr un (Duw'n helpio) i Dafydd Sion."[3] Llywelyn Ddu yn ddiau biau'r clod neu'r anghlod o'i alw "Bardd y Blawd Ceirch," yr hwn geir yn "Account of Manuscripts Dafydd Ellis, Criccieth." A chofnodwr enwau'r "Account" oedd y Llywelyn Ddu. A bu Goronwy ddaed a'i alw "Bardd y Blawd."

Pwy oedd ei rieni, a pha le ei ganwyd, sydd i raddau'n ddirgelwch. Ceir un awgrym am ei fam, sef fod Sion Dafydd Las yn ewythr iddo gefnder ei fam. Bardd teulu Nannau, a brodor o Lanuwchlyn, oedd y Sion Dafydd hwnnw. Bu farw yn 1694, wedi cefnu ei driugain oed; a ganwyd Dafydd Sion Dafydd ym mhen deuddeng mlynedd gwedi. Mae'r gwahaniaeth mewn amser yn lled chwithig, ond gall fod y berthynas er hynny. Cofnododd Dafydd Jones naw o gywyddau y Sion Dafydd Las yn un o'i ysgriflyfrau,[4] ond nid yw hyn un prawf o'i berthynas.

Yn ei enw ei hun ceir awgrym am ei dad, sef mai Sion Dafydd oedd ei enw. Yn ol arfer yr amseroedd, daeth cyfenw ei dad iddo ef yn enw priodol, ac enw priodol ei dad iddo yn gyfenw. A chadarnheir hyn gan ei waith yn galw ei hun yn Dewi ab Ioan. Dywed Gwilym Lleyn mewn nodiad lled amwys,—

"Wyr iddo (Dafydd Jones), mab i Ismael Dafydd, yw Mr. John Jones, argraffydd, Llanrwst, yr hwn a ymestynodd yn ol i'w hen daid i gael ei ddau enw."[5]

Felly nid Sion Dafydd, fel yr awgrymir gan yr enw Dafydd Sion Dafydd, ond John Jones, oedd enw tad Dafydd Jones. Os hyn a amcanodd Gwilym Lleyn osod allan, rhaid y camgymerodd. Yr oedd math o reoleidd-dra yn newidiad yr enwau, a buasai'r newid beth mwy rheolaidd pe rhagluniaeth y nefoedd wedi caniatau i Ddafydd Jones ei ddymuniadau. Wele'r rhestr,—

Sion Dafydd.
Dafydd (Jones) Sion.
Ismael Dafydd.
John Jones.

Fel y gwelir, enw ei hen daid a chyfenw ei daid oedd gan John Jones Llanrwst. Danghosodd Dafydd Jones awydd calon am gael yr enw Sion Dafydd yn y teulu; enwodd ddau o'i blant felly, ond buont feirw yn ieuainc. Mae'n debyg, yn ol yr enw, mai Dafydd Jones oedd y bachgen hynaf. Ni lwyddais i gael un crybwylliad am frawd na chwaer. Syndod i raddau iddo dewi a son am en genhedlaeth; gall, o ran hynny, fod yr holl ddirgelion ynghadw yn rhywle, ac eu ceir pan ddeuir o hyd i'w holl ysgriflyfrau.

Pa bryd ei ganwyd sydd i raddau'n anhawdd ei benderfynu, oherwydd gwahaniaeth dyddiadau. Ni cheir un cofrestriad o fedyddio yng nghofrestri Trefriw a Llanrhychwyn. Felly gobaith gwan gwaredigaeth o gofrestr eglwys, am na wyddis pa le i'w cheisio. Mewn hen ysgriflyfr o waith Dafydd Jones, ym meddiant y Parch. R. Jenkyn Jones, M.A., Aberdâr, ceir y cofnodiad canlynol, a hynny yn gofnodiad yn llawysgrifen Dafydd Jones ei hun, yn ol a ddeallwn,[6]

"Dafydd Jones a anwyd yn y flwyddyn 1703, dydd Mawrth, mis Mai 4 dydd, yr haul yn 2A arwydd y Tarw a'r lleuad yn newid 4ydd, 8A. 4 mynyd o'r prydnawn. Ei eni ef yn y bore nghylch 11 ar gloch. Y lleuad yn 30 oed."

Mae llawer o ddelw Dafydd Jones ar yr uchod, sef ei gyfeiriadau seryddol a'r manylder yn nesgrifio amser y geni. Eto yr ydym yn ameu y cofnodiad. Un elfen dieithr ynddo yw "Dafydd Jones a anwyd," pan yn ddieithriad yr arferai Dafydd Jones, pan yn adrodd pethau o'r fath am dano ei hun, gyfeirio ato ei hun yn y person cyntaf. Hefyd nid ydym yn rhoddi llawer o bwys ar gofnodion y llyfr, oherwydd ceir ynddo gofnodiad o'r fath hyn," Achau ei fab Ismael Dafydd a fu farw 1735." Mae'r cofnodiad olaf hwn yn amhosibl, oherwydd ni anwyd i Ddafydd Jones blentyn hyd 1739, ac ni anwyd Ismael am dros ugain mlynedd.

Mae cân o'i eiddo yn y Blodeugerdd yn dwyn yr enw "Odlau'r Oesoedd." Yn honno ceir y pennill rhyfedd a ganlyn,

"O'r holl oesau, hon yw'r ola,
Oer ddifwyna, ar ddaiar fane;
Er ys pum mil, seith gant rhigil
Sydd ar sigil, dreigl dranc:
Wyth o flwyddi, sydd heb amau
Hir faith adde, yw'r fath oed;
1708 mis Mawrth 25
Mawrth ugeinfed, dydd y pumed
Hyn o rified, i ni a roed;
Nis gwyr dynion nac Angylion
Na'r Mab tirion ond y Tad:
Y daw rhyfedd, derfyn diwedd
Ar bob mawredd, lwysaidd wlad.
Rheitiau gorchwyl, i ni ddisgwyl
Am ein harwyl yma yn hy;
Gan fyw'n dreulgar, drwy bur alar
Cyn mynd i garchar, daiar du."

Wedi darllen yr uchod drachefn a thrachefn nid oes gennyf ond un eglurhad arno, sef mai am ei oes ei hun a'i oedran y canai, ac mai dyddiad ei enedigaeth yw'r dyddiad ar ymyl y ddalen. Gwir mai enw o farddoniaeth aneglur yw'r pentwr y cloddiwn ein ffaith allan o hono, ac fod gwrthod gosodiad y CYMRU yn ymddangos yn hyfdra a diffyg barn, gan ei fod yn dwyn holl nodweddion tebyg i gronicliad gan Ddafydd Jones ei hun. Y pethau tebyg hynny yw'r achos ein bod yn ymdrafferthu cymaint, yn lle gosod i lawr yn syml yr hyn a ystyriwn yn wir ffeithiau hanes. Bellach dyma hwynt. Yn ol y cofrestriad eglwysig geir ym Mangor, bu farw Dafydd Jones Hyd. 20, 1785. Drachefn, yn ol carreg ei fedd, claddwyd ef Hyd. 26, 1785, yn 77ain mlwydd oed. Rhaid felly mai yn 1708 ei ganwyd. Yn y goleu hwn yr ydym yn gwrthod cofnodiad yr ysgriflyfr a chredu cofnodiad y pennill, yr hwn gadarnheir gan y garreg fedd.

Tueddir ni i wrthod y syniad ei fod yn enedigol o Drefriw, eto ni feddwn fawr reswm dros ein tuedd. Pa bryd y daeth yno ac o ba le? Rhaid ei adael i ymchwilydd arall. Credaf mai ei gartref cyntaf yno, ac olaf hefyd, oedd Tan yr Yw, ac arferai ysgrifennu Trefriw yn "Dref-yr-Yw." Mae'r Yw" yno o hyd, fe allai heb ymddangos lawer hynach, yn taflu eu cysgodion ar ei fedd ac ar wyneb ei hen gartref. Y ffurf hon sydd ar yr enw yn rhai o'r hen gofrestriadau eglwysig, ond nid oes fawr goel i'w rhoddi ar orgraff y cofrestriadau, am y ceir ynddynt hwy Drefruw," a rhai dulliau eraill hefyd. Mae'r chwedlau o ba le y daeth yn lluosog. "O'r Deheudir " ac o Ysbyty Ifan" yw'r tybiau mwyaf cyffredin. A gellir ychwanegu, er lluosogi tybiau, ardal Llanuwchlyn.

Os honno oedd cartref ei fam, nid amhriodol ceisio ei blwyfo yntau yno. Ni welais neb yn credu ei fod yn enedigol o Drefriw, a gall fod yr anghrediniaeth hon yn ddarn cywir o hanes. Eto mae awgrymiad neu ddau yn tueddu, yn bendant o ran hynny, i brofi ei fod enedigol o sir Gaernarfon. Yn ei gofrestriad fel aelod o Gymdeithas y Cymrodorion[7] nodir ef fel un genedigol o sir Gaernarfon.

Mae peth pwys i'w roddi ar y cofrestriad, oherwydd yr oedd aelodau'r gymdeithas yn selog, nid yn unig dros Gymru, ond dros eu hardaloedd—eu rhannau anwylaf hwy o honi. Yr oedd llawer o gydymgais iach rhwng y siroedd am anrhydedd.

Medd traddodiad, ond bloesg ei wala, mai teiliwr oedd wrth ei alwedigaeth. Ond clochydd Trefriw" ddywed cofrestriad y gymdeithas. Ni raid dadleu, gallasai fod y ddau. Dyddorol hefyd fod clochydd Trefriw yn aelod o Gymdeithas y Cymrodorion, a hynny pan oedd Lewis Morris yn gofalu am ei hanrhydedd; y gymdeithas y pechodd Goronwy gymaint wrth drin dybaco yn un o'i chynulliadau. Fel mae amser yn nychu rhagfarn i'w fedd, ac yn codi gwir fawredd i'r orsedd,—heddyw mae Goronwy yn fwy o anrhydedd i'r Gymdeithas nac a fu'r Gymdeithas iddo ef; ac am ei gynorthwyo, gwawdiodd y syniad o roddi cardod hyd yn oed iddo i dalu ei longlog i dir alltudiaeth. A phan ddaw pob peth ynghyd, bydd clochydd Trefriw yn fwy anrhydedd i'r Gymdeithas nac o anfri. Beth bynnag oedd ei alwedigaeth, amhosibl y rhoddai fawr amser iddi er cael trwyddi foddion cynhaliaeth. Tueddir fi i gredu y meddai ryw foddion cynhaliaeth ar wahan i'w enillion. Gwir fod ei amgylchiadau'n gwasgu; hawdd y gallasent wneyd er iddo feddu ychydig foddion ar wahan i unrhyw alwedigaeth gyffredin, megis clochydda neu gadw ysgol, oblegid collai gymaint o'i amser i lenydda, i chwilio'r wlad am hen ysgrif-lyfrau, ac i adysgrifennu'r rhai hynny. Wrth fwrw golwg dros lafur ei oes, y llyfrau gasglodd, a gyhoeddodd, ac a ail ysgrifennodd, rhaid dweyd iddo weithio yn galed, pe hyn yn unig a wnaeth.

Cafodd well manteision addysg na chyffredin ei oes. Yr oedd yn ysgolhaig da yn yr oes honno. Medrai ysgrifennu Saesneg. Yr oedd ei lawysgrifen yn gelfydd a thlos, agos bod yn gampwaith felly. Bu'n ysgolfeistr, er yr addefwn nad yw hynny un prawf o ysgolheigdod, mewn oes yr oedd bod yn hen sowldiwr yn un cymhwysder i gadw ysgol.

Ail ysgrifennodd lawer o hen lawysgrifau y ddwy a'r tair canrif blaenorol iddo, a rhai o honynt yn nodedig anhawdd. Yr oedd hyn ynddo ei hun yn ysgolheigdod gwerth ymfalchio ynddo.

Methasom weled cofnodiad am ei briodas. Ond yng nghofrestriad bedyddiad y plant nodir ei wraig fel Gwen. Os ad—eryn a ehedodd o'i fro oedd ef, o bosibl mai bro ei gymar a'i denodd. Gall ei bod hi yn un o frodorion Trefriw. Syndod na welodd yn briodol ei henwi. Er iddo gadw rhestr fanwl o'i blant a gofalu am hysbysu mai ei blant ef Dafydd Jones oeddynt, ni soniodd air am eu mham. Hawdd y gallasai roddi iddi'r deyrnged hon o barch; o herwydd rhaid y bu iddo'n wraig dda. Ar ysgwyddau pwy ond ei hysgwyddau hi y syrthiodd gofalon y teulu pan dramwyai ef y wlad yn ei ymweliadau llenyddol? Tueddir fi i gredu, pa le bynnag y priododd, mai'r lle bu fyw gyntaf oedd Trefriw, a Than yr Yw yn Nhrefriw. Yno y bedyddiwyd ei blant, a cheir rhagymadrodd un o'i lyfrau wedi ei leoli "Tan yr Yw, Mai 4, 1745." Mae'n debyg iddo briodi yn niwedd 1737, neu ddechreu 1738. Ganwyd ei blentyn cyntaf Chwefror 27, 1738—9, fel y cofnoda ef yr amgylchiad.

Wele gopi o gofrestr ei blant, copi o gofrestr yn ei lawysgrifen ef ei hun ar un o ddail gwynion "Cydymaith yr Eglwyswr yn ymweled a'r Claf." Ar ben wyneb ddalen yn y llyfr y mae wedi ei ysgrifennu ganddo hefyd,—"David Jones a Biau'r Llyfr 1754." Ysgrifennir hi air yn air a nod am nod fel ei ceir yn ol llaw yr hen lenor doniol.

OEDRAN FY MHLANT I DAFYDD JONES.

1 Sion, a Anwyd Nos Fawrth ynghylch ii, ar y 27 o fis Chwefror, yn y flwyddyn 1738-9, ar Dydd Cyntaf o oed y Lleuad. Ar Haul yn Arwydd y Pysc, 17.

2 Elizabeth, a Anwyd ynghylch 3 o'r Boreu Ddydd Mercher, Awst 25, 1742. Oed y Lleuad oedd 6. Yr Haul yn Arwydd y Forwyn, 14.

3 Jane' a Anwyd fis Chwefror, y 12 dydd at 10, o'r Boreu Dydd Mawrth, yn y flwyddyn 1741. Oed y Lleuad 22. Yr Haul yn 32 radd o Arwydd y Pysc.

4 Ann, a Anwyd fis Rhagfyr, y 7 Dydd at 10, o'r bore, Dydd Llun. Oed y Lleuad 17. Haul yn Arwydd y Saethydd 26. Y flwyddyn 1747. Llun.

5 Catrin, a Anwyd Ddydd Iau ar 3 o'r Boreu yn Mis Mawrth y 7 dydd, 1751. Oed y Lleuad 22. Yr Haul yn y 26 gradd o Arwydd y Pysc

7 Ismael, a Anwyd ynghylch 3 o'r Prydnhawn o fis Rhagfyr 30. Dydd Gwener. Oed y Lleuad 20. Yr Haul yn Arwydd yr Afr 1758. Neu Fachlud Haul.

6 Sion, a Anwyd ynghylch 4 ar gloch y bore Ddydd Iau, Medi 5, 1754, Oed y Lleuad 19. yn Arwydd y Forwyn.

Wele hefyd gofnodiad eu bedyddio, ond wedi ei thalfyrru, o gopi a gawsom o swyddfa cofrestru Eglwys Gadeiriol Bangor,—

  • 1. John the Son of David Jones, and Gwen his wife, was baptized the 28 Feb., 1739.
  • 2. Elizabeth. . . " . . .". . . 25 August, 1742.
  • 3. Jane . . . " . . .". . . 12 Feb., 1744.
  • 4. Ann . . . " . . .". . . 13 Dec., 1747.
  • 5. Cathrine . . . " . . .". . . 8 March, 1751.
  • 6. John . . . " . . .". . . 8 Sept., 1754.
  • 7. Ismael. . . . " . . .". . . 1 January, 1758.

O gymharu'r ddwy restr uchod, gwelir fod rhai o'r plant wedi eu bedyddio ar ddydd eu genedigaeth, ac eraill yn ebrwydd gwedi; arfer gyffredin yn yr amseroedd hynny. Ymddengys nad ysgrifennodd ef ei restr yn y llyfr uchod ar y pryd, ond ei hadysgrifennu mewn amser dilynol, ac wrth wneuthur hynny rhoddodd y seithfed yn lle'r chweched. Ond mae'r manylder a'r manylion rhyfedd a rydd yn profi ei fod yn copio o ryw gofnodiad a wnaeth ar y pryd.

Fel yr awgrymasom, yr oedd Dafydd Jones yn awyddus am gadw yr enw Sion a Sion. Dafydd yn y teulu, oherwydd henwodd ddau o'i blant ar yr enw hwn. Ei blentyn hynaf oedd fachgen, a galwodd ei enw Sion. Ni welsom gofnodiad ei farwolaeth ef. Galwodd ei fachgen cyntaf wedi'r pedair merch drachefn yn Sion. Er ei hoffder o'r enw, enw anffodus fu yn hanes ei deulu, oherwydd yn un o'r hen ysgriflyfrau ceir y cofnodiad prudd a ganlyn,—

"Hydref 19 neu'r hen gyfrif o'r mis 8 i clwyfodd Sion Dafydd o'r frechwen ac a bar—haodd hyd y 29 neu 18, o'r hon y bu farw ac a gladdwyd Nos Galan Gaia y 31 1762. 8 oed oedd ef."

Hefyd,—

"Fe ddigwyddodd i Sian ei chwaer freuddwydio, Nos Fawrth 22 o fis Mawrth yn y flwydyn 1763 weled ar fedd Sionyn Dafydd dri blodyn Lili wrth eu gilydd megis yn rhes a hi a welodd yno hefyd fwysi arall o ddail a elwir Blodau'r Gwr Ifainc."[8]

Na feier hyn o ofergoeledd, mae hiraeth o hyd yn coelio ambell freuddwyd. Ac mae rhai o enwogion Cymru heddyw yn cael eu swyno gan bethau oferach na "thri blodyn lili" yn tyfu ar fedd bachgen wyth oed a gladdwyd bum mis yn flaenorol.

Gwelir mai Ismael Dafydd, yr unig un o'r bechgyn a dyfodd i faint, yr hwn ddilynodd ei dad fel cyhoeddydd ac argraffydd llyfrau, oedd yr ieuengaf o'r torllwyth plant. Ganwyd ef oddeutu amser cyhoeddi'r Blodeugerdd. Yr oedd yn 27ain pan fu farw ei dad, a phan fu yntau farw claddwyd ef ym meddrod ei dad. Mae'n debyg fod Dafydd Jones, fel llawer yn ei oes, yn gwylio'r planedau, gan gredu'n ofnus ei fod fater o bwys pa un oedd "planed y plentyn." Yr oedd yr "Haul yn arwydd yr afr" pan anwyd Ismael. Ond fel ofergoelion yn gyffredin, nid oedd un broffwydoliaeth am ddyfodol y bachgen, canys nid oedd fawr debygolrwydd yn yr Ismael hwn i'r Ismael cyntaf. Gŵr Ilariaidd ydoedd, gwelir hynny'n amlwg yn englynion hir aeth Ieuan Glan Geirionnydd,—

"Ai gorph tirion llonydd,
Mewn carchar is âr y sydd."


Nodiadau

[golygu]
  1. Geirionydd, tud. 161.
  2. Caerdydd MS. 84. Ph. 8393.
  3. Diddanwch Teuluaidd, tud. 184.
  4. Caerdydd MSS. 8393.
  5. Llyfryddiaeth y Cymry, tud. 450.
  6. CYMRU, Medi, 1903.
  7. Additional MSS. Amgueddfa Brydeinig, 15059.
  8. Amgueddfa Brydeinig MSS. 17973, t.d. 20.