Neidio i'r cynnwys

Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)/Bywyd a Buchedd

Oddi ar Wicidestun
Pwy ydoedd Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)

gan Owen Gaianydd Williams

Barddoniaeth Dafydd Jones

IV. BYWYD A BUCHEDD.

Ym mlynyddoedd casglu a chyhoeddi'r Flodeugerdd, ceir amryw awgrymiadau am amgylchiadau'r casglydd. Yr oedd adeg ei lwyddiant llenyddol, a thymor ei galedi, yr un adeg yn ei hanes.

Bu felly hefyd i lawer eraill. Cyhoeddi'r Flodeugerdd, yn ol ei farn ef, oedd ei orchest-gamp, ac yn hyn ni chamgymerodd. Ond: fe fu baich y gwaith a baich y teulu bron ormod i'w ysgwyddau. Colled o ugain punt fu cyhoeddi'r Flodeugerdd. Oddeutu'r adeg hon, ysgrifennodd Lewis Morris ato lythyr, yr hwn, oherwydd ei gyfeiriadau a'i werth llenyddol, a adysgrifenwn,—

"Dewi henfardd, hardd, hirddysg
Chwiliedydd beunydd am bysg.

"Llundain, Hydr. 14, 1757.

Dyma eich Llythyr yn achwyn ar gŵn Caer, chwiwgwn oeddynt erioed. Mi welais Awdl a wnaeth L. Glyn Cothi iddynt, am dorri ei dŷ, a dwyn ei eiddo.

Dacw Ronwy fardd yn myn'd i Virginia i ganu i'r Indiaid, ac i fwytta Tobacco, ac i gael vnghylch 300l, yn y flwyddyn am ei boen, dan esgus bod yn feistr rhyw ysgol fawr sydd yno. Felly mid rhaid iddo wrth Subscribers.

Gwr gwann iawn oedd Mr. Wynne Cynhafal, na fedrai gael mwy nag un Subscriber i Ronwy, nac yr un (Duw'n helpio) i Dafydd Sion. Ni wyr yr Hwch lawn mo wich y wag. Wele hai, ni cha'r mwya' ei arian ond edrych arnynt a'u teimlo, ac yna marw fel anifail, a'i enw gyd âg ef, felly planhigion y ddaear a flagurant y bore, ac a wywant brydnhawn. Ond nid felly Gwilym Wynn, canys Bardd yw efe; ond, odid, Bardd a fo da wrth fardd arall. Gwr o'r mwynaf yw Gwilym, ond ei fod ddiog iawn am ddangos ei dalent, yr hon sydd odidog.

Gwell i chwi brintio rhyw Ysgafnbethau a Hanes y Gwragedd, &c., yn yr Amwythig, neu rywle yn eich cymdogaeth na myn'd i ymhel a phrintwyr Llundain, eisiau na byddech eich hunan yn canlyn arnynt. Ni thal i chwi brintio dim yn y Werddon; oblegid bydd yn anodd eu cael i Frydain Fawr, oblegid y Cyfreithiau sydd yn erbyn hynny, a'r Swyddogion yn eu dâl pan ddelont drosodd.

Diolch am yr englyn i Syr Gruffudd Llwyd. Mi a adwaen gastell Dinorwig yn Llanddeiniolen; ond nid wyf yn cofio un llys arall yno.

Do, chwi gollasoch un llythyren yn yr Englyn; sef, Treuliw yn lle Treuliwr, ac y mae'r braich ddiweddaf yn rhy hir o sillaf; fe ddylasai ddywedyd,

'Pen trin treuliwr gwin a gwyrdd.'

Mab oedd y Syr Gruffudd Llwyd yma i Rys ap Ednyfed Vychan, a wnaed yn Varchog gan y Brenin Edward y 1af, am ddyfod â'r newydd iddo i Ruddlan o enedigaeth y Tywysog Edward ynghastell Caernarfon; a chwedi hynny a droes yn erbyn y Saeson.

Mi wyddwn fy hun, ped fuasai Hywel Gwaederw yn tewi â sôn, fod y pysg yn afon Gonwy; ac nid y pysg sydd arnaf fi eisiau, ond eu henwau a'u hanes, trwy na bawn yna i gael cinio o frwyniaid a wnaeth Santffraid. Ymofynwch pa sawl enw sydd ar Leisiedyn, o sil y gro neu sil y gog, hyd at eog, yn wryw ac yn fenyw; ac a elwir un rhyw o'r Gleisiaid yna yn Benllwyd? a'r lleill yn Chwiwell, Carnog, Maran, Adfwlch, Gaflaw, Gwynniad hâf, Gwynniaid y gog, Brithyll mor, neu Brithyll brych, Silod brithion, brith y gro; a pha enwau eraill sydd yna ar y rhyw yma o bysgod heblaw hyn.

Nid oes yma ddim amser i roi i lawr ond hyn o'r Brygawthen yma; felly nos da'wch, a chofiwch fi at bawb o'r ffyddloniaid; sef y Beirdd rhadlon, diniwed, a garo eu gwlad, a'i hen gofion.

Eich gwasanaethwr,

LEWIS MORRIS."

Ni hoffwn i neb pwy bynnag synied yr amcanwn gwtogi clod teilwng y Morrisiaid. Parod ydym i roddi iddynt amgenach na'r clod traddodiadol presennol. Clod yw hwn a ddaeth i lawr oddi wrth ysgol o ddynion, Iolo Morgannwg ac Owen Myfyr, a welsant eu hunain fawredd eu gwaith, a lewed eu hymdrechion. fuont. O glod traddodiad ni raid ei ragorach. Ond paham na wyddom trosom ein hunain? Pa bryd y cred llenorion yr oes hon, a gweithredu ar y grediniaeth honno, nas gellir ysgrifennu hanes llenyddiaeth Gymreig y ddeunawfed ganrif heb fod hyddysg yn llythyrau'r Morrisiaid? Esgeuluswyd eu holl waith yn fawr gan eu cofiantwyr diweddaf. Er y pethau hyn, rhaid fydd ysgrifennu aml ddarn o feirniadaeth finiog am danynt. hwythau. Mae'r megis y gwnaethant hwy i eraill yn gorfodi dynion i wneuthur felly iddynt hwy.

Mae'r llythyr uchod yn dinoethi'r drwg ddifwynodd feirniadaeth Lewis Morris, sef gwawd a diystyrrwch, yn codi o deimladau clwyfedig, teimladau glwyfwyd nid o achos, ond o falchder ei ysbryd ef ei hun. Camolodd "Ronwy," ond gwawdiodd ef hefyd. Yr oedd ysmygu yng Nghymdeithas y Cymrodorion yn fwy pechod yn ei olwg na chanu clod puteiniaid o'r tu allan. A phan gyhoeddir llythyrau'r Morrisiaid fe welir fod colli eu ffafr yn gymaint achos yng ngyrru Goronwy i alltudiaeth yr America ag oedd ei dlodi a diystyrrwch yr eglwys.

Mae llythyren ac ysbryd yr epistol hwn yn awgrymu hanes. Pan yn ysgrifennu at uwchradd ei oes, aeth Lewis Morris o'i ffordd i wawdio Dafydd Jones. Ond os dibwys Dewi Fardd yn ei olwg, ysgrifennodd ato lythyr teilwng o hono ei hun. A chyhoeddwyd y llythyr hwnnw fel rhan o gasgliad o'i weithiau yn ei oes ef ei hun. A gyhoeddwyd ef heb yn wybod iddo? Prin. Pwnc yr ohebiaeth oedd cyhoeddi'r "Flodeugerdd;" fe allai fod Dafydd Jones wrth ymholi am argraffydd, yn anuniongyrchol yn ceisio ei nawdd i'r gwaith. Ar y pryd nid oedd ganddo lyfr arall yn cael ei ddarparu. Cadarnheir hyn gan y cyfeiriad wneir at hela subscribers. Daeth y Flodeugerdd allan ymhen blwyddyn a hanner, ac nid gormod hyn o amser yn yr oes honno i gasglu nifer gymedrol o enwau.

Yn y goleu hwn, nid yw y cyfeiriad at "brintio ysgafn bethau" a Hanes y gwragedd" namyn gwawdiaeth gudd. Rhyw fodd lledchwith o awgrymu pa beth yn ol ei fedr a ddylasai gyhoeddi—ei fedr yn ol syniad Lewis Morris am dano.

Er ein bod yn darllen yn o helaeth rhwng llinellau'r llythyr hwn, fe allai fwy nac sydd i'w ddarllen, mae'r ddwy linell gywydd yn poeni peth ar ein cywreinrwydd. Gadawn i'r darllennydd gymeryd y gair "hirddysg" yn y wedd a farno oreu. Ond a yw "hardd" fwy na chellwair barddonol? Un "tirion, Ilonydd," ac felly nid dyn bychan bywiog,. oedd Ismael Dafydd yn ol Ieuan Glan Geirionnydd. A da y gwyddai ef. ydyw Lewis Morris yn awgrymu mai un hardd, ac felly dyn o faintioli da ac ymddanghosiad prydferth, oedd Dafydd Jones? Hyn sydd wir, yr oedd rhai o'r hiliogaeth felly, a gall eu bod hwy yn meddu hyn o dystiolaeth am eu gwreiddyn.

Y flwyddyn nesaf oedd 1758. Wele'r dodrefn gwaith yr oedd Dafydd Jones yn ymdroi rhyngddynt,—cwnstabl a chlochydd Trefriw; cadw ysgol; cywiro'r wasg yn nygiad allan y Flodeugerdd;" casglu enwau tanysgrifwyr; gwerthu llyfrau; casglu ac adysgrifennu gweithiau hen feirdd a hen draddodiadau,—a'r oll er cynnal "rhawd" o blant. A rhwng yr oll yn ol yr uchod yn chwilio "beunydd am bysg." Ond mae gronyn o ffaith o dan law bardd yn ymchwyddo'n fynydd ambell waith. Felly gall nad oedd y chwilio "beunydd am bysg" yn rhan mor bwysig o'i fywyd wedi'r oll, os nad oedd ei fywyd wyrth o brysurdeb. A phe gwir opiniwn Gwilym Lleyn, treuliai oes o amser yn y tafarnau yn gwagedda yn ol arfer y dyddiau hynny.

Yn haf 1759 ymsefydlodd Ieuan Brydydd Hir yn Nhrefriw. Dyddiodd ei lythyr cyntaf oddi yno Tach. 29, 1759. Wele i Ddafydd Jones o'r diwedd gymydog oedd iddo hefyd gydymaith. Yr oedd Ieuan yn llosgi gan dân y deffroad newydd y deffroad llenyddol yn ddolen o'r gadwen honno gychwynodd yn y Morrisiaid a Goronwy trwy Owen Myfyr a Iolo Morgannwg hyd Lyfrgell Genedlaethol ein dyddiau ni.

Amser o waith caled o chwilio llyfrgelloedd ac adysgrifennu eu trysorau oedd ei arhosiad yn Nhrefriw. Felly hefyd Dafydd Jones. Yr oedd y ddau wedi dechreu ar eu gwaith yn hollol ar wahan i'w gilydd, yn neilltuol felly Dafydd Jones, yr oedd ef hynach yn y gwaith na Ieuan. Eto nid ydym yn awgrymu fod Ieuan ddyledus am gyfeiriad ysbryd ei waith i Ddafydd Jones. Yn rhai o lythyrau'r Prydydd Hir cawn gyfeiriadau dyddorol at Ddafydd Jones a'i amgylchiadau. Wrth ysgrifennu at Rhisiart Morus, os nad hyn oedd amcan yr ysgrifennu, dadleuai trosto gan ddywedyd,—

"Yn y cyfamser, dyma Dewi Fardd yn deisyf araf ysgrifenu atoch yng nghylch y llyfrau a ddanfonodd ef atoch i Lundain. Y mae yn deisyf cael gwybod pa gyfrif o naddynt a werthwyd. Y mae mewn eisiau cael y peth y mae'r byd hwn yn unfryd yn ymewino am danynt, sef arian. Atolwg gadewch iddo gael gwybod a oes modd na gobaith iddo gael gwared oddi wrthynt mewn amser gweddus, sef yw hynny, oddi yma i Galan Mai o'r eithaf. Os ydych yn tybied nad oes modd yn y byd i'w gwerthu, nid oes dim i'w wneuthyr ond danfon am danynt yn ol i'r wlad drachefn, lle y mae gwedy gwerthu'r cyfan er ys dyddiau; ond y mae ef yn gobeithio y byddwch mor fwyn a dyweyd o'i blaid, wrth y Cymmrodorion, i'w ysgafnhau ef o'r baich hwn. Pa fodd bynnag, y mae yn ymholi arnoch am ateb allan o law, a rhyw hanes o honynt. A minau, yr hwn wyf dyst golwg o'i gyflwr a'i ansawdd ef yma, wyf ym dymuned yr un peth.[1]

Ym mhen pump neu chwech wythnos mae cenadwri fwy galarus fyth yn cael ei hanfon i'r un fan. Ai ofni colled oddi ar law'r Llundeinwyr diofal, ynte gwir wasgfa oedd yr achos, anhawdd penderfynu. Gall fod elfen o'r blaenaf yn y gŵyn, oherwydd fod un o'r arweinwyr i ryw amcan wedi ei chollfarnu gyda'r fath rwysg dialw am dano. A chan ei bod wedi ei llwyr werthu yn y wlad, os oedd gweddill, doeth oedd eu cael i'r farchnad cyn tewi o'r galw am danynt.

"ANWYL GYFAILL.—Myfi a ysgrifenais lythyr atoch es dyddiau yng nghylch llyfrau Dewi Fardd ac ni chefais i nac yntau yr un ateb gennych. Dyma fi yn dod unwaith drachefn i'ch blino. Ertolwg, byddwch mor fwyn, er trugaredd, a golygu gronyn tuag at werthu ei lyfrau, oherwydd dyma ef dan gwynfan yn deisyf arnaf ysgrifenu atoch. Pur helbulus yw Dewi druan, â gwraig a rhawd o blant bychain ganddo, sef chwech neu saith. Y mae yn achwyn bod arno ddyled, ac eisiau modd i dalu ei ardreth; ac am hynny y mae yn gobeithio yr ystyriwch wrtho. Dyma fi, yn ol fy addewid, yn ysgrifenu atoch, ac nid oes geny.f ddim ychwaneg i'w wneythyr."[2]

Mae'r rhawd plant bychain yn wir cyson a'r hanes am eu rhif, ond mae'r "bychain" air oddef ei esbonio. Yr oedd ganddo chwech o blant, a chredu fel y dylid, fod Sion ei gyntafanedig wedi marw; o herwydd yr oedd ganddo bellach Sion arall yn y teulu. Nid oeddent mor "fychain" ac y mynn Ieuan i ni gredu, o leiaf ni ddylasent fod. Yr oedd Elizabeth yn 19 mlwydd oed; Jane yn 17; Ann yn 14; Catrin yn 10; Sion yn 7; ac Ismael yn 4.

Nid mor ieuainc, na mân chwaith mae'n debyg; gallasai tair o honynt yn yr oes honno fod yn ceisio gwneyd rhywbeth er ennill eu bara. Pa fodd bynnag, yr uchod yw'r ddadl dros werthu'r llyfrau. Ym mhen y ddeufis ceir cyfeiriad arall at y llyfrau fel a ganlyn,—

"ANWYL GYFAILL,—Mi a dderbyniais yr eiddoch o'r degfed o'r mis yma a da iawn yw hyny genyf o achos neges Dewi Fardd, yr hwn oedd yn barod i ddeisyf arnaf ysgrifenu y tryd—ydd llythyr atoch. You are to send David Jones his books back by the Chester waggon, and return the money in hand to Mr. John Williams at Gwydir, near Llanrwst. He is the Duke of Ancaster's steward there."[3]

Mae "return the money in hand to Mr. John Williams at Gwedir," yn dangos yn lled amlwg lle yr oedd y llaw oedd yn gwasgu, arian y nenbren chwedl yr hen bobl, sef y rhent, heb eu talu. Yr oedd eu dull o fasnachu'n drwyadl ddigon, "steward" Dafydd Jones yn Llundain yn anfon yr arian yn uniongyrchol i steward Duc Ancaster yng Nghymru. A phwy na wel yn hyn awydd gonest am gael ei hun yn rhydd o afaelion poenus dyled? Yn rhagymadrodd y Cydymaith Diddan ceir dwy linell o goffadwriaeth yr amseroedd hyn, wedi eu hysgrifennu yn 1766. Mae swn gofid ynddynt y pryd hwnnw, a rhaid y buasent fwy felly pe'n cael eu hysgrifennu yn eu hamser priodol eu hun,—

"Ym gael fy ngholledu uwch ugain punt, am Lyfr y Blodeugerdd; a chyda hyny ddigwydd i mi ddirfawr glefyd."

Rhwng popeth, nid rhyfedd ei fod yn dioddef oddi wrth y "Coler Du," y pruddglwyf, gan son fod terfyn ei einioes bron yn y golwg.

Pa bryd y bu Gwen Jones ei wraig farw, ni welais gofnodiad; ond rhaid y digwyddodd rhwng 1765 a 1770. Yn un o'r ysgriflyfrau fu yn ei feddiant ceir y llinellau canlynol,—

"Y mae fy nghalon i cyn drymed
Ac na fedrai brofi tamed
Nag yfed chwaith un math o ddiod
O wir alar am fy mhriod. D. J."


"Dod ymgais Duw nid angen
Am Ne i minne Amen. D. J."[4]

< Anhawdd rhoddi fawr o hanes ei gysylltiadau cymdeithasol yn yr amser hwn. Yn ol Goronwy bu ef ac Elis y Cowper yn ymladd gornest farddol â beirdd Mon. Rhaid yr adwaenai'r Cowper yn dda, oherwydd nid oedd mwy na thair milltir rhwng Trefriw a phen cadlys y Cowper; ac yn nyddiau olaf Dafydd Jones bu peth ymwneyd masnachol rhyngddynt â'u gilydd. Yn ol Goronwy Owen, eu cydoeswr, yr oedd y ddau o'r un dosbarth o feirdd. Prin y gwyddai Goronwy o ba ddosbarth yr oeddynt, gan ei fod ef yn estron i fywyd Cymru hyd yn oed cyn ei fyned i'r America. Yr oedd Dafydd Jones, er barn Goronwy, lawer gwell bardd nac Elis Roberts y Cowper, a llawer nes i ddosbarth y Morrisiaid fel llenor. Pwy ond hwy a'i gwnaeth yn aelod o Gymdeithas y Cymrodorion?

O leiaf nis gallasai neb ei aelodi yn y Gymdeithas honno yn groes i'w hewyllys. Ac OS oedd "Dafydd o Drefriw," fel ei galwyd gan Oronwy,[5] yn ddim amgenach nag Elis y Cowper, rhaid nad oedd rhan o Gymdeithas y Cymrodorion o radd a bonedd uchel iawn, ac fod llawer math o ddynion yn aelodau o honi. Ond gall mai cellwair wedi colli ei ddiniweidrwydd yw'r darn hwn o feirniadaeth.

Ceir y sylwadau canlynol gan Wilym Lleyn,[6]

"Yr oedd Hugh Jones, Llangwm, Dafydd Jones o Drefriw, ac Elis Roberts, y Cowper, yn gyfoeswyr, ac yn gyfeillion gwresog. Crach brydyddion oedd y tri, a hoff iawn o gwmni Syr John Heidden; a'r tri yn fath o ddigrifwyr; canent yn ddigrifol a chellweirus, yn ol fel y byddai y cwmni, ac yn aml gwnaent wawd o bethau crefyddol. Y mae eu gwaith yn gymysg o bob athrawiaeth, a llawer o sawr Pabaidd ar garolau Hugh Jones."

Mae'r sylwadau uchod yn gryfion, a meiddiaf ddatgan barn eu bod anghywir a disail. Amcenais er y dechreu gadw fy marn rhag troi'n rhagfarn o blaid nac yn erbyn ; ond teg yw rhoddi i bawb ei gymeriad moesol a llenyddol ei hun, os mewn modd yn y byd y gellir hynny. Pell ydym o gyhuddo Gwilym Lleyn ddim ond camgymeriad mewn barn, ond yn unig nad da ffurfio barn galed uwch ben defnyddiau prin.

Ni ddywedaf air yn erbyn "crach-brydyddion," a chaniatau fod graddau rhwng "crach-brydyddion." Rhaid fuasai i Wilym Lleyn addef hyn, os darllennodd weithiau Dewi Fardd ac Elis y Cowper. Gwir na chanodd Dafydd Jones fawr, os dim, gwir farddoniaeth; ac nad oedd llawer o'i gerddi yn ddim amgen na syniadau crefyddol lled gyffredin wedi eu gosod ar gân. Ond onid oes degau o ddynion, nad ystyrrir yn grach-brydyddion, yn euog o'r un anfadwaith? Yr oedd ei iaith ambell waith yn anghywir ac anystwyth, yn cynnwys llawer o eiriau salw a degau o ffurfiau gwerinaidd. Hyn hefyd oedd hanes beirdd ei oes. Ceir toraeth o eiriau gwerinaidd gan Huw Morus; a diolch am danynt, er fod gormod o honynt mewn ambell gân. Hefyd, canent yn ddigrifol a chellweirus sydd saeth ar antur. Methais, er chwilio'n ddyfal, weled yr elfen ddigrifol a chellweirus yng ngweithiau Dafydd Jones, oddigerth rhyw gyfeiriad achlysurol. Credaf fod ei natur yn amddifad o'r elfen ddymunol hon. Ymddengys rhai o nodweddion arddull Twm o'r Nant, yr arddull roddodd gymaint bri ar y bardd hwnnw ac yntau arni hithau, yng nghân "Ymddiddan y Gwragedd" yn y "Cydymaith Diddan." Nid digrifol honno, ond miniog. A faint o'r min oedd waith ei awen ef anhawdd penderfynu; ei thrwsio a wnaeth.

Yr un yw ein barn parth gwawdio pethau crefyddol. Yn yr oll welsom, nid oedd y duedd leiaf i'r wedd honno o ganu. Eithr yn hollol i'w gwrthwyneb, canodd lawer o fân ganeuon crefyddol, fel pe'n canu ei brofiad ar y pryd. Yn hyn yr oedd beth tebyg i'r Diwygwyr Methodistaidd, sef canu ambell brofiad. Ond yn ei fesurau cadwai at y drefn eglwysig, heb ddangos un arwydd o gynefindra â'r mesurau oedd yn dod i arfer trwy'r Diwygiad. Os oedd rhyw fai, ac yr oedd bai, tuedd ei lyfrau oedd bod yn ofergoelus grefyddol. A thrwy funud o ystyriaeth gwelir yn amlwg nad mynych y ceir neb ofergoelus grefyddol yn gwawdio ei ofergoelion ei hun. Oherwydd mae ofergoeledd fel rheol yn camddefnyddio rhai o deimladau goreu dyn, sef ei barch i bethau crefyddol.

Casgliad cyffelyb yw'r datganiad amheus am ei gymeriad moesol—ei fod yn hoff o gwmni Syr John Heidden. Hwn yw'r cymeriad roddodd llenorion y ganrif ddiweddaf i Elis Roberts y Cowper; a oedd y cymeriad a ffurfiodd y Cowper iddo ei hun waethed a'r un ffurfiwyd iddo gan eraill sydd amheus. Amcanai yn ei epistolau rhyfedd wneyd daioni, a dylasai geisio byw y daioni a amcanai i eraill fyw.

Ni welais un crybwylliad yng ngweithiau neb o'i gydoeswyr fod Dafydd Jones yn feddwyn cellweirus. Yr oedd Goronwy, Ieuan, ac eraill, yn euog o hyn. A chafodd eu brodyr lawer o flas ar edliw iddynt eu pechodau, onid e gallasent fod brinnach yn y gwaith o ddannod. Os cawsant flas ar ddannod y bai hwn i'r goreugwyr, pa achos tewi gawsant yn Nafydd Sion? Sonnir am ei dlodi gan Ieuan Brydydd Hir, ond yn dyner a pharchus; galwyd ef yn Fardd y Blawd gan Oronwy; trwyn surodd rhywrai wrtho, a galwodd Lewis Morris ef yn "ffwl." A phe yn euog o feddwi, diau y buasai'r yswain o Geredigion wedi ei gyfenwi'n "ffwl meddw." Mae'r cyhuddiad hwn yn neilltuol anghyson â'r lle roddodd i ddarnau dirwestol yn ei lyfrau. Mae yn y "Cydymaith Diddan" areithiau dirwestol da, a hynny pan nad oedd dirwest ar faner nac eglwys na chymdeithas. Hefyd mae'r un mor anghyson â'i ganeuon moesol, yn arbenigol felly y broffes o'i grefydd a wna yn rhagymadrodd y "Flodeugerdd," "Cydymaith Diddan," a "Histori'r Iesu Sanctaidd." Os gwir gosodiad Gwilym Lleyn, rhaid ei fod yn rhagrithiwr o'r fath waethaf, a fod ei ragymadrodd i'r Flodeugerdd yn ymylu ar fod yn gabledd annuwiol.

Bu'n darogan am flynyddoedd ei fod yn agos i'w ddiwedd. Pan dan ei faich, ac ambell saeth yn ei galon, carai son am y bedd. Bu fyw, er baich a chwyn, hyd onid oedd yn 77 oed. Claddwyd ef Hydref 20, 1785. Gorwedd ei weddillion o fewn ychydig lathenni i'w hen gartref, Tan yr Yw. Wele gopi o eiriau cofeb ei fedd,—

Yma y claddwyd Dafydd Jones
Tan yr Yw. Henafiaethydd, &c., c. c. c.
Claddwyd Hyd. 26 1785 yn 77 oed.

Hefyd
Dafydd Jones, mab Ismael Davies, Bryn Pyll, o Jane ei wraig,
Tach. 30 1789 yn y 6ed flwydd o'i oed.


Hefyd

Y dywededig Ismael Davies, Argraphydd
Tach. 22 1816 yn y 60ed flwydd o'i oed

Wele ni gwedi pob gwaith,—yn dri llesg,
A wnaed o'r llwch unwaith,
Mewn bedd, ond dyrnfedd fu'n taith
Lle chwelir ni'n llwch eilwaith.


Nodiadau

[golygu]
  1. Llythyr 8, Rhag. 3ydd, 1760.
  2. Llythyr 9. Ion. 14, 1761.
  3. Llythyr 10, Mawrth 21, 1761.
  4. Additional MSS. Amgueddfa Brydeinig, Press Mark 17973.
  5. Gronoviana, Llythyr 33.
  6. Llyfryddiaeth y Cymry, tud. 450.