Neidio i'r cynnwys

Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)/Y Diwedd

Oddi ar Wicidestun
Fel casglwr hen ysgrif-lyfrau Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)

gan Owen Gaianydd Williams

XIII. Y DIWEDD.

Yn nhu dalen 99 yr ydym yn datgan ein barn am "Wasg Lewis Morris," gan addaw ysgrifennu gair ym mhellach am y cyfryw. Diau mai hen Wasg y Lewis Morris oedd Gwasg Bodedyrn, ac i honno yn ei thro ddod i Drefriw. Aeth o Drefriw i Lanfyllin. A pha le wedi hynny?

Ym mhapurau'r Morrisiaid, yn yr Amgueddfa Brydeinig, daethom ar draws dalen brintiedig deifl beth goleu ar Wasg Caergybi, a pha fodd y cododd Lewis Morris argraff-wasg yno. Ym Mawrth, 1735, anfonodd y Llewelyn Ddu allan—Proposals, for erecting by Subscription a printing press at Llanerchymedd in the Isle of Anglesea." Yr amcan oedd codi gwasg er cynorthwyo "John Rhydderch o'r Mwythig, yr hwn oedd yn Llanerchymedd er 1731." Yr oedd Sion Rhydderch, meddai'r ddalen, "wedi myned yn dlawd a digartref yn ei henaint." Efe oedd i olygu'r wasg, ac yr oedd yr elw i fyned at ei gynnal. Ond wedi ei farw yr oedd yr elw i gael ei ddefnyddio er codi a chynnal "Ysgol Rad" yn y lle.

Yr oedd y Wasg "in great forwardness And will be ready to work at Midsummer next." Mewn gair, yr oedd yn barod wedi cael ei phrynnu. Yna daeth yr anffodion. Ni lwyddodd Lewis Morris i sefydlu cwmni na chael cyfraniadau. Ac yn Nhachwedd 1735 bu farw John Rhydderch. Felly y Wasg feddyliodd Lewis Morris sefydlu er budd yr hen Almanaciwr oedd yr un y treiodd ei law arni ei hun, a digon posibl mai John Rhydderch argraffodd Dlysau yr Hen Oesoedd."

Ar t.d. 22 ceir cyfeiriad at ddistawrwydd y Morrisiaid parth Ysgolion Griffith Jones yn y geiriau canlynol: Methais weled un crybwylliad yn holl lythyrau y Morrisiaid na Goronwy Owen at Ysgolion Griffith Jones Llanddowror. Ar y pryd yr oeddwn wedi darllen rhai degau o'u llythyrau yn yr Amgueddfa Brydeinig ac mae'r uchod wir yn ol y rhai hynny. Erbyn hyn, mae llawer ychwaneg wedi eu cyhoeddi, ac mewn rhai o'r llythyrau ceir cyfeiriadau canmoliaethus at yr ysgolion, er fod tôn amheus mewn rhai eraill. Er y canmol, mae'n achos i synu ato iddynt roddi i'r ysgolion leied cefnogaeth.

Trwy ryw amryfusedd, gollyngasom dros gof gofnodi tri llyfr a gyhoeddodd yn un gyfrol yn 1740, sef—

1. "Y Nefawl Ganllaw, neu'r Union Ffordd i Fynwes Abraham."

2. "Myfyrdodau Wythnosawl, sef Myfyrdod ar bôb Diwrnod yn yr Wythnos, yn enwedig ar Amser Grawys. Ynghyd â Cholectau, Gweddiau."

3. Cyngor yr Athraw i Rieni, Ynghylch Dwyn eu Plant i Fynu."

Cydrwymwyd y tri llyfr yn un gyfrol, oddeutu 150 t.d. Y cyfieithydd oedd Lewis Anwyl, "gweinidog plwyf Yspytty Ifan," wedi hynny Abergele. Canodd Dafydd Jones wyth o englynion "Mawl i'r Llyfr" a'r Cyfieithydd, maent i'w gweled ar gefn ei wyneb-ddalen gyntaf.

CAERNARFON:

CWMNI'R CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.),

SWYDDFA CYMRU."

Nodiadau

[golygu]