Neidio i'r cynnwys

Datguddiwyd dirgelion i maes

Oddi ar Wicidestun
Gwnaed concwest ar Galfaria fryn Datguddiwyd dirgelion i maes

gan William Williams, Pantycelyn

Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

226[1] Meddyliau Trugaredd a Gras.
88. 88. D.


1 DATGUDDIWYD dirgelion i maes,
Dirgelion cuddiedig i'r byd,
Meddyliau trugaredd a gras
I'r pennaf bechadur i gyd,
A gloed mewn addewid sydd gref,
Na welir fyth fythoedd ei hail,
O ddyfnder y ddaear i'r nef,
Mor gywir, mor sicir ei sail.


2.Y gallu a'r anrhydedd a'r clod,
Y moliant a'r parch yn gytûn,
O'r nefoedd i'r ddaear gaiff fod
Yn gyfan i'm Harglwydd ei Hun;
Aed sŵn dy farwolaeth i maes,
O'r dwyrain luosog i'r de;
Helaethed terfynau dy ras
Mor bell ag y cyrraedd y ne'.

3.Aed sain Haleliwia i'r lan,
Trwy'r awyr anfeidrol ei maint;
Cymysged caniadau rhai gwan
A thyrfa luosog o saint:
Ni gawsom gan' cymaint â'r byd,
Can' cymaint drachefen â hyn,
Can' cymaint â'r nefoedd i gyd,
Brynhawngwaith ar Galfari fryn.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 226, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930