Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw
Gwedd
← Datguddiwyd dirgelion i maes | Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw gan Thomas Jones, Dinbych |
Pa feddwl, pa 'madrodd, pa ddawn → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
227[1] Prynwr Byw.
88. 88. D.
1.MI wn fod fy Mhrynwr yn fyw,
A'm prynodd â thaliad mor ddrud ;
Fe saif ar y ddaear, gwir yw,
Yn niwedd holl oesoedd y byd :
Er ised, er gwaeled fy ngwedd,
Teyrnasu mae 'Mhrynwr a'm Brawd;
Ac er fy malurio'n y bedd,
Ca'i weled Ef allan o'm cnawd.
2.Wel, arno bo 'ngolwg bob dydd,
A'i daliad anfeidrol o werth;
Gwir Awdwr, Perffeithydd ein ffydd,
Fe'm cynnal ar lwybrau blin serth:
Fy enaid, ymestyn ymlaen,
Na orffwys nes cyrraedd y tir,
Y Ganaan dragwyddol ei chân,
Y Sabbath hyfrydol yn wir.
Thomas Jones, Dinbych
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 227, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930