David Williams y Piwritan/I'r Bryniau'n ôl, 1894—1920
← Lerpwl, 1876—1894 | David Williams y Piwritan gan Richard Thomas, Bontnewydd |
Yn y pulpud → |
VII.
I'R BRYNIAU'N OL.
1894—1920.
Yr oeddys yn arfer dywedyd mai dyn gwlad oedd David Williams, a rhyfedd oedd gan lawer iddo er ioed ymdaro mor wych, a llwyddo mor amlwg, yn ninas Lerpwl. Pan gyfarchai Gymry a oedd yn byw'n feunyddiol ynghanol ffrwst a ffwdan bywyd tref ni fedrent hwy lai na theimlo bod awel y mynyddoedd yn chwarae ar eu meddyliau yn null ac ymadroddion y proffwyd hwn. Ni fu i nag ysgol na dim arall glipio dim ar adenydd ei ddawn. Gwladwr ydoedd yn myned i Pall Mall, ac yr oedd yn gymaint dyn gwlad yn dyfod oddiyno.
Rhyw gymysg deimladau a geir, fel rheol, pan fo un yn mudo, a meddyliau amryw a dieithr yn ymgronni, ac ymgroesi hefyd, yn ei fynwes. Yn nwfn ei galon fe hiraethai am lonyddwch a thawelwch gwlad; ond ei brofiad ef, fel llawer un arall, ydoedd fod newid cylch y nesaf peth i newid byd.
Estynnodd ei babell mewn man hyfryd ddigon sef ym Mhenmorfa, ar gwr Dyffryn Madog, ac fel hyn y disgrifia'r Parch. Morris Thomas, M.A., yn fyw a diddorol y fro hynod honno—Bethel a Phenmorfa. Penmorfa,— pentref nid anenwog ei hanes a'i draddodiadau. Dyma'r lle cyntaf yn Sir Gaernarfon i Howel Harris roi ei droed i lawr arno ar ol croesi'r Traeth Mawr o Feirion, y dydd diweddaf o Chwefrol, 1741. Penmorfa oedd pentref enwocaf Eifionydd yn y ddeunawfed ganrif. Nid oedd y fan y saif Porthmadog a Thremadog arni'n awr namyn traethell lom a orchuddid yn fynych gan lanw'r môr. A lle bach tlawd iawn oedd Cricieth, heb ynddo ond ychydig fwthynnod to gwellt a breswylid gan bysgodwyr hanner gwar. Saif Penmorfa ar lethr bryn of bobtu'r ffordd sy'n arwain o Dremadog i Benygroes a Chaernarfon. O'r tu cefn iddo cyfyd yr Alltwen yn syth fel rampart, a rhyngddo a'r môr y mae Moel y Gest. Awn am dro i fyny'r pentref, a chyfeiriwn i gymdogaeth Bethel. Ar y dde i ni, lle saif tŷ new ydd a shop yn awr, yr oedd yna dafarn unwaith—Y Ty Mawr, ac yno y ganwyd John Jones, Tremadog, yr hen weinidog enwog, ac un a fu'n Llywydd Cyfarfod Misol Sir Gaernarfon am lawer o flynyddoedd cyn ei rannu. Ychydig yn uwch i fyny ar y chwith y mae'r tŷ y bu ei gyd-frawd-yng-nghyfraith, Michael Roberts am ysbaid tua dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cadw ysgol, a rhai o feibion mwyaf bonheddig Eifionydd yn ddisgyblion iddo. Oddi tanom, yn agos i Blas y Wern, y mae Cwt Defaid -man genedigol Edward Samuel (1674—1748), person Llangar. Efe oedd y nesaf at Elis Wyn mewn gallu llenyddol yn y Gogledd.[1] Dyma awdur "Bucheddau'r Apostolion a'r Efengylwyr." Cyfieithodd nifer o lyfrau crefyddol o'r Saesneg, ac yr oedd hefyd yn fardd o fri.
Rhyw filltir yn uwch i fyny, wedi dringo'r holl ffordd, deuwn i gymdogaeth Bethel. Ar y chwith, rhyngom a Phentrefelin, y mae Cefnymeysydd Isa, cartref Elis Owen, hen lanc o lenor, bardd, ac athro. Gwnaeth ef fawr wasanaeth yn ei ddydd fel noddwr ac ysgrifennydd Cyfarfod Ysgolion Eifionydd. Hysbys i lawer yng Ngwynedd ydyw hanes Cymdeithas Lenyddol Cefnymeysydd, lle bu meithrin meibion ddaeth yn wyr amlwg mewn llên a chân, ac yn golofnau mewn byd ac eglwys.
Ar y dde, yn llechu yng nghysgod craig gwelwn. hen blasty, Y Gesail Gyfarch, a fu'n breswyl yn y dyddiau gynt i rai o deuluoedd mwyaf pendefigaidd Eifionydd. Merch y Gesail oedd mam y Dr. Humphrey Humphreys (1648-1712), Esgob Bangor a Henffordd, noddwr Elis Wyn, Edward Samuel, William Wynn, ac eraill. Hwyrach mai'r dyn mwyaf dylanwadol a blaenllaw yng Ngogledd Cymru yn nechrau'r ddeunawfed ganrif oedd Humphrey Humphreys. Yr oedd yn adnabyddus trwy Gymru a Lloegr, ac yr oedd yn fugail ffyddlon, yn arweinydd doeth, a Chymro trwyadl."[2]
Bu'r Esgob yn byw yn y Gesail Gyfarch am flynyddoedd, ac ym mynwent Penmorfa y claddwyd ei wraig.
Ychydig yn nes i'r Gogledd, heb inni symud cam, gallwn weled y Clenennau, ac nid oes enwocach tŷ yn Eifionydd na hwn. Dyma gartref Syr John Owen (1600-1666), arweinydd plaid y brenin Siarl I. yn Sir Gaernarfon yn amser y Gwrthryfel Mawr. Enillodd y dyn bach gwrol ac ymladdgar amryw frwydrau dros y Brenin, ond fe'i gorchfygwyd yntau gan filwyr y Senedd ar y Dalar Hir rhwng Llandegai ac Aber, a chymerwyd ef yn garcharor. Er ei ddedfrydu i golli ei ben, rhywsut cafodd faddeuant a rhyddid, ac yn y Clenennau y bu farw.
Rhwng y Gesail a'r Clenennau y mae ffordd yn troi o'r briffordd, sydd yn ein harwain i gyfeiriad Cwmystrallyn. Wedi cerdded rhyw filltir ar hyd hon, deuwn i Ynys Pandy, cartref Gruffydd Shôn, yr hen bregethwr Methodist. Ato ef y daeth John Elias, yn llanc deunaw oed, i weithio'i grefft, ond a'i olwg yn fwy ar "yr alwedigaeth nefol" nag ar waith gwehydd. Dyma'r pryd y daeth yn aelod eglwysig, ac yma y dechreuodd bregethu. Ar lan yr afon o flaen y Clenennau y mae bwthyn bach sydd erbyn hyn yn prysur adfeilio. Ei enw yw Clwt y Ffelt, a dywedir mai yma y traddododd John Elias un o'i bregethau cyntaf. Ond anghofiasom yr Eglwys a mynwent y plwy, gorweddant o'r golwg mewn pantle dwfn ac unig, dan gysgod coed uchel, ac ni ellir eu canfod nes dyfod ohonom o fewn ychydig latheni iddynt. Yr oedd yr Eglwys a Thy'nllan unwaith ar y ffordd fawr rhwng Penmorfa a Phentrefelin. Y mae amryw sy'n fyw heddiw yn cofio Ty'nllan yn dafarn a brawd i Thomas Hughes, Machynlleth, yn byw yno. Treuliodd yr hen bregethwr enwog hefyd rannau o'i oes faith o dro i dro yn Nhy'nllan, ac yng nghwr y fynwent gerllaw y mae'n huno'i hun ddiweddaf. Yma hefyd gorwedd John Jones, Tremadog, a heb fod nepell oddiwrtho yntau y mae tŷ hir gartref Syr John Owen. Nid oes ond lled yr eglwys rhwng gorweddle'r hen bregethwr Methodist ag eiddo'r hen filwr brenhinol. Rhyfedd meddwl iddo, ar ol oes gyffrous a therfysglyd, ac osgoi o hono'r bloc yn Llundain, ddod i orffwys yn nistawrwydd Llan Penmorfa.
Dyma'r fro o fawr hanes y daeth David Williams. iddi i fyw.
Y mae'n dra thebyg mai perswad Robert Rowland, Y.H., a'i tynnodd ef, David Williams, i'r ardal hon. Yr oedd y gŵr hwnnw wedi ymneilltuo o'r Banc, ac yn ddyn o gryn ddylanwad. Prynodd Mr. Rowland y Plas Isa, ac yr oedd hwnnw yn ddau dy, ac wrth sicrhau tenant i'r ail, fe gaed gweinidog i'r cylch. Ni alwyd mohono'n fugail ar unwaith, ond gofynnwyd iddo mewn cylch cyfrin weithredu fel y cyfryw am £12 y flwyddyn. Toc fe sicrhawyd ei wasanaeth ym Methel, eglwys arall y daith, ond y mae'n debyg na ofynnwyd iddo ymgymryd a "bagad gofalon bugail" yno, namyn dod i fyny unwaith yn yr wythnos i gadw Seiat.
Yr oedd y tŷ y preswyliai ynddo wrth ei fodd, ac yn wynebu codiad haul. O'i flaen y mae gardd helaeth a pherllan. Treuliai yntau gryn dipyn o amser i gerdded yn ôl a blaen ar hyd ei rhodfeydd, a gweithiai beth ynddi, ond dim llawer. Dyma seibiant a thawelwch teml anian, o gyrraedd pob mwstwr anesmwyth.
Edrydd pobl yr ardal fel y byddai'r gŵr da yn bwyta yn ddefosiynol afal neu ddau cyn brecwast bob bore, mor fanwl-ofalus y byddai cyn myned i orffwys y nos yn ymlwybro at bob drws i weled ei fod wedi ei gloi; a gweled, yn bennaf dim, fod y tân wedi ei lwyr ddiffodd; fel y byddai, hefyd, yn dechrau paratoi ar gyfer ei daith y Sul yn gynnar dydd Gwener trwy dynnu ei ddillad o'r drôr a'u taenu'n ofalus ar y gwely.
Fe fu Mr. W. T. Williams, yr Ysgolfeistr, yn gydymaith cu iddo yn ystod yr amser yr oedd ym Mhenmorfa, a chan fod yr hen frawd yn dra ofnus y nos, fe gymerid ei ofal ganddo ar nosweithiau tywyll. Nid profi'r ysbrydion a wneid ar y ffordd anghysbell, ond bod yn angel gwarcheidiol i'w cadw draw.
Yn ôl a ddywed Mr. William Parry, yr arweinydd canu, ni chanai David Williams fawr yn ystod yr oedfa, ond wedi'r bregeth ymollyngai fel llifeiriant a'i lais yn llenwi'r capel. Braidd na fyddai yn ffrwydro hyd at fynd a'r gân oddiar y codwr canu —ac, yn wir, yn amlach na pheidio, byddai'n tueddbennu at fynd allan o diwn yn yr hwyl.
Aeth, meddir, o Benmorfa i bregethu i Lerpwl, yn ol ei fynych arfer, a bu tro go ddigrif. Lletyai gyda chyfeillion caredig, ac nid oedd ond ychydig o gerdded o'r Stesion i'r tŷ. Mynnai mab y teulu mai ef oedd i fyned i gyfarfod y pregethwr i'r orsaf, a chydsyniodd y tad i hynny. Ond cyn cychwyn fe ofalodd y bachgen am chwilota am hen dop côt i'w dad, a sicrhau hen gap wedi gweld dyddiau gwell, a tharawodd hwy dan ei gesail i fyned i'r Stesion. Pan glybu swn y tren yn dod i mewn rhoes. y ddiwyg am dano. Yn y munud dyma'r pregethwr a'i ysgrepan trwy borth y Stesion, a'r dyn ieuanc yn moesymgrymu iddo yn ol arfer porter, "Carry your bag, Sir?" meddai. "No, No, thank you," atebai David Williams yn bur bendant. Ond dal i daergrefu a wnai'r "porter," gan gydgerdded â'r pregethwr, a hanner cymryd y bag o'i law, a'i sicrhau yr âi ag ef yn ddiogel i'w lety. Rhwng bodd ac anfodd, fe ollyngwyd y bag iddo, a chydgerddwyd yn ddigon del am ran o'r ffordd. Ond, a hwy yn myned heibio pen un heol go gul-dyma'r "porter yn cymryd y goes fel milgi a David Williams yn edrych yn ddifrifol arno ef a'r bag yn diflannu! Safai'n syn a hurt yr olwg arno yn ystyried y sefyllfa, ond "beth a wnai drwstan" ond myned ymlaen am y llety? Pan ddaeth i'r drws yn drwblus ei feddwl yr oedd yno wraig siriol yn ei gyfarch; ond buan y daeth allan hanes yr anffawd. "Welais i rioed y fath beth," meddai; "wn i ddim beth ddaeth drostai; mi rois fy mag i ryw lefnyn tua'r Stesion yna i'w gario, ac y mae'r creadur wedi dianc, a mynd a fo, a welai byth mono fo." "O," meddai'r wraig hynaws (weithian yn deall y tric), "peidiwch a phoeni, gewch chi weld y daw o i'r golwg." "Na ddaw wir, welwch chi, yr oedd golwg rêl lleidar arno fo," oedd yr ateb.
Yr oedd yn ŵr annwyl gan bobl Penmorfa, a phrisid ei wasanaeth yn fawr yn ystod y pedair blynedd y bu yno. Meddyliai yntau'r byd o rai o'r bobl.
Pan ddaeth ar ol hynny i angladd Edward Richard (am dano ef y dywedir iddo gael braw pan dde- allodd mai nofel oedd Rhys Lewis, a pheidio a derbyn y Drysorfa oherwydd hynny), tystiolaeth David Williams tan wylo am dano ef oedd "mi fuaswn yn byw efo fo fil o flynyddoedd heb ofni ei wg." Er ei fyned i'r wlad i fyw rhaid fyddai cael Davil Williams i lenwi pulpudau Lerpwl yn bur gyson, ac fe fyddai ei enw ymhlith pregethwyr y Sulgwyn yn un sefydlog. Y mae'n debyg mai'r tri mwyaf poblogaidd a welwyd yn y Seiat Fawr oedd Joseph Thomas, Evan Phillips, a David Williams. Bu'r ddau olaf gyda'i gilydd droeon. David Williams a osodid i siarad ar ol y siaradwr Saesneg yn gyffredin, ac fe ddechreuai à rhywbeth tebyg i hyn: "Wel, gyfeillion bach, mae'n dda gan ynghalon i'ch gweld chi unwaith eto yn y fan yma, ac rydwy'n meddwl fod yn dda gynoch chitha fy ngweld inna. Mae arnai hiraeth garw yn y wlad acw am danoch chi yn amal iawn—oes wir, gyfeillion bach." Dro arall wedi iddo fynegi ei chwithtod am ei hen gylch dywedai, "Wn i ddim wir i be'r eis i oddiyma erioed."
Dro arall dywedai, "Y mae rhyw hen adnod fach yn Llyfr y Diarhebion yn fy vexio i bron—' Gŵr yn ymdaith o'i le ei hun sydd debyg i aderyn yn cilio o'i nyth.' Bron nad wyf yn teimlo dipyn bach fel yna wedi dod yma brynhawn Gwener, ac y mae'n dda gennyf gael gweld yr hen nyth—hen nyth go lew hefyd, a phe buaswn i yn ieuengach, does dryst yn y byd na buaswn yn treio ail gyweirio fy nyth yn eich mysg. Welais i neb gwell na chi yn y wlad acw, os cystal. Wel, peidiwch chi, bobl y wlad, a dweud dim am yr os' yna. Does dim eisiau dweud dim o gyfarfod fel hwn 'rwan. Yr wyf yn sefyll ato—os cystal.'"
Cwynai unwaith oblegid ei drefnu i siarad tua diwedd y Seiat: "Yr wyf yn cael cam mawr gennych, hefyd, y naill dro ar ol y llall fel hyn, ddim yn rhoi lle imi ddweud gair nes mae fy mrodyr wedi dweud pob peth. Ond nid wyf yn un o bobl y mawr—gam, y byddai Richard Humphreys yn son am danynt. Mi geisia loffa tipyn, fel y darfu i Ruth ym meysydd Boaz. Fe gafodd gennad i loffa tipyn o'r tywysennau, a synnwn i ddim na ddarfu iddi gymryd ambell dywysen o'r ysgubau hefyd. Mi geisiaf innau loffa tipyn, a chwi faddeuwch imi am gipio ambell dywysen o'r ysgubau a gawsoch."
Llanwnda
Yr hyn a barodd iddo anesmwytho ym Mhenmorfa ydoedd anhawster a gododd mewn perthynas i'r tŷ y preswyliai ynddo.
Yr oedd yn ardal Llanwnda, rhwng "Clynnog lonydd" a thref Caernarfon, a rhwng Carmel a'r môr, gyfeillion cu iawn i David Williams, sef Mr. a Mrs. Thomas Williams, Gwylfa. Llawer gwaith y mynnodd Mr. Williams gael gweinidog Crosshall Street i le fel Penygraig am Saboth, yn gwbl ar ei draul ei hun, o hiraeth am ei glywed.
Daeth hanes tŷ cyfleus yn y fro y gellid ei sicrhau i Ddavid Williams fyw ynddo, a chan fod y fangre ddymunol hon yn bur gyfleus a chanolog iddo, yno y penderfynodd symud. Fe fu ychydig amser yn aelod ym Mryn'rodyn; ond y gwir oedd, mai ar ei ffordd i gapel newydd a adeiledid yng Nghlanrhyd yr oedd y gŵr hynaws—dyna'r arfaeth yn siwr, yn y Nef a'r ddaear hefyd.
Ynglŷn â'r capel hwn, y grym ysgogol ydoedd. sel ddiball a haelfrydedd dibrin Mr. a Mrs. Williams. Rhoed yn y bobl galon i weithio, a chafwyd adeilad hardd a chasglu eglwys o tua 80 ar drawiad, megis, —pobl gan mwyaf o gyrion cynulleidfaoedd y capelau oddiamgylch.
Pregethodd David Williams—am y tro cyntaf o bulpud Glanrhyd ar Orffennaf 6, 1899, a'r mis wedyn, fe gaed yma'n flaenoriaid, Thomas Williams, Gwylfa; William Jones, Bodaden; William Griffith, y Maen Gwyn; a Jethro Jones.
Gŵr trigain a thair oedd David Williams pan ddechreuodd eglwys Glanrhyd ei gyrfa, ac fe roddai asbri ieuenctid yr eglwys nwyf ac ynni ynddo yntau. Fe ddaeth yno i siglo crud yr Achos, a theg ydyw dweud iddo roddi ei wasanaeth gwerthfawr yn gwbl ddi—dal trwy gydol y blynyddoedd.
Ymhen rhai blynyddoedd, y mae yn newid. ei annedd a symud i dŷ newydd gerllaw. Yr enw a ddyry ar y tŷ hwnnw ydyw "Y Bryniau —enw'i hen gartref yn Edern, ac un o'r geiriau cyntaf y buasai, pan oedd blentyn, yn ceisio'u hysgrifennu â'i law ei hun. Y mae am orffen ei rawd fel David Williams Y Bryniau," ac felly y gwnaeth. Pwy, ac efe wedi cerdded i gymdogaeth y pedwar ugain mlynedd, nad oes rhyw Fryniau maboed yn dyfod yn ol i'w brofiad?
Gŵr gwan ei nerfau ac ofnus ei deimlad ydoedd. ef bob amser. Fe'i blinid gan bethau go fach, ac fe wyddai'i wrandawyr cyson hynny'n eithaf da, oblegid byddai hyd yn oed agor ffenestr, neu godi blind weithiau, yn achlysur bwrw cerydd llym ar ben y blaenoriaid a eisteddai'n ddefosiynol odditano, a hwythau yn gwneud gwar i dderbyn y cwbl.
Ar fore Sul yn Nwyran, Môn, yr oedd o'i flaen nifer o enethod yn prysur ysgrifennu'r hyn a ddywedid. "Cadwch yr hen bapurach yna, da chi," meddai, "a gwrandewch yn reit lonydd," ac yna'n troi at y blaenoriaid, "doedd dim sens ynoch chitha yn rhoi rhyw griw fel hyn o flaen dyn yn y fan yma." Y nos Sadwrn cynt, deuai yn y cerbyd oddi wrth y Stemar bach, a digwyddai fod yno borchell bach ar ei daith o farchnad Caernarfon. Ymddengys bod y porchellyn hwnnw, nid yn unig yn deithiwr afreolaidd yn syniad David Williams, ond yn bur afreolus a mawr ei swn. Dealled y darllenydd mai mochyn o Sir Gaernarfon ydoedd, ac nid un o frodorion yr ynys. Fodd bynnag, i lawr o'r cerbyd yr aeth y pregethwr cyn gynted ag y safodd. Nid oedd yn dygymod â chwmni'r mochyn. "Ddoi ddim pellach efo'r gwr yma," meddai, gan roddi pwyslais braidd yn sgornllyd ar y gŵr yma." Cyn yr addawai fyned i'r lle hwnnw wedyn rhaid oedd rhoddi sicrwydd y caffai gerbyd heb fochyn y tro nesaf.
Yr oedd yn ddeddfol o fanwl, ac ni fedrai gadw'i ofal rhag mynd ohono'n bryder poenus iddo ef ei hun, ac yn rhywbeth digrif i eraill.
Noson bwysig oedd honno pan dorrid ei wallt, noson wedi'i threfnu trwy ymgynghoriad â'r brawd William Jones. Aiff y barbwr yno i'r funud erbyn saith o'r gloch, a chyn gynted ag yr â drwy'r drws gwêl fod yno baratoi a threfnu gofalus wedi bod. Y mae'r ystafell wedi'i thrawsnewid—aeth y bwrdd o ganol y llawr i'r gongl draw am holiday, a'r cadeiriau hwythau ar wasgar yn yr encilion. Wedi cymryd eu lle ar ganol y llawr y mae cadair freichiau braff, hyhi a'r meistr sydd i fod yn y canol heno. Yn o fuan, y mae David Williams yn "ymshapio," chwedl yntau, i ddyfod dan yr oruchwyliaeth. Eistedd i lawr yn Fethodistaidd, a rhy orchymyn i Martha Williams, ei chwaer, ddal y gannwyll y naill ochr, ac i Mary'r forwyn ddal un yr ochr arall, ac, wrth gwrs, yr oeddynt i fod yn reit lonydd, a dal yn ddigon uchel. Yn llaw'r gŵr biau'r gwallt y mae drych bychan fel y gallo wylio'r operation, a rhoi'r cyfarwyddiadau angenrheidiol wrth fyned ymlaen. Y mae pobl y canhwyllau yn sefyll mor llonydd a mud â delwau, ac y mae'r barbwr o'r tu ol yn dechrau clipian ei siswrn; ond rhaid iddo fod yn bwyllog ac edrych yn ystyriol, oblegid y mae'r drych yn y fan acw. Gwedi iddo dacluso'r gwegil, daw i'r brig, ac yn awr dyma orchymyn pendant gan y perchennog:
Ia wir, torrwch o'n reit gwta yn y fan yna, William Jones, dydi o ddim yn beth da bod gormod o wres ar yr ymenydd welwch chi," a dilynir y cyfarwyddyd i fodlonrwydd hollol. Ond dyma ran bwysicaf y gwaith ar ol, sef bargodi wrth y ddwy glust, oblegid anodd iawn ydyw cael y ddwy fargod yn berffaith wastad a chymesur. Yn awr y mae'r drych yn bwysig. "Chredai ddim nad ydi hon dipyn bach yn uwch," meddai gan daro'i law ar y dde, "torrwch dipyn bach ar y llall, da chi, William Jones." Ufuddheir ar unwaith. "Yr ydwi just a meddwl fod y llall yn uwch yrwan," meddai drachefn-"tipyn ar hon eto." Ac felly yr â pethau ymlaen; ond, wedi hir dreio, ac aml dorri, fe gyrhaeddir y cymesuredd gofynnol. Y mae breichiau'r merched druain wedi cyffio ers meityn, a derbyniant yn garedig a diolchgar yr awgrym fod yr oruchwyliaeth ar ben. Nid ymhoffai mewn march, ac ni fentrai ar ei ol mewn cerbyd hyd oni chai sicrwydd ei fod yn un hywaith a llonydd.
Yr oedd ei ofal am ei chwaer yn un tyner iawn, ond y tâl am hynny ydoedd goddef cryn dipyn o "stiwardio," ac aml gerydd yn y fargen.
Flynyddoedd rai cyn iddo noswylio fe ballai'i olwg yn raddol, ac fe fu am gyfnod go fawr heb fedru darllen o gwbl. Llawer cymhelliad a roes ar i'w wrandawyr "roddi adnodau'r Beibl yn sownd yn eu cof." Dyna a wnaeth ef ei hun-daliodd i drysori ar hyd ei oes faith. Medrai adrodd yn ddifeth epistolau cyfain, ac yr oedd y Salmau ac Efengyl Ioan yn ddiogel yng nghuddfa ei feddwl, ac o chollodd ei olwg, ni chollodd ei borfa.
Daeth cysgod yr hwyrddydd yn drymach, drymach, ac fe welwyd y corff a fuasai gynt yn hoywgadarn yn graddol ymddatod. Dyfod iddo yntau a wnaeth y diwedydd y soniodd gymaint am dano wrth gynulleidfaoedd Cymru a Lerpwl. Fe'i gollyngwyd i fro Nef a thangnef ei Arglwydd ar drothwy dydd yr Atgyfodi, sef nos Sadwrn y Pasc, 1920. Aethpwyd a'i weddillion i orwedd ym mynwent. Brynrodyn gerllaw. Preifat oedd yr angladd, a gwasanaethwyd gan y Parchn. William Williams, Llanwnda; John Jones, Brynrodyn; a John Owen, M.A., Caernarfon.
Rhannodd y rhan fwyaf o'i eiddo rhwng yr eglwysi y bu iddo ryw fath o gysylltiad a hwy yn ystod ei fywyd a mudiadau eraill perthynol i'r Cyfundeb.
O bydd dyn wedi cyrraedd oedran teg ac wedi'i gornelu gan lesgedd maith caiff hwnnw ddisgyn i'r bedd heb dynnu fawr o sylw ato'i hun. Yr oedd David Williams yn fwy cyhoeddus yn ei fywyd nag yn ei angau. Am dros hanner cant o flynyddoedd bu'r proffwyd hwn yn seren amlwg iawn yn ffurfafen Gweinidogaeth ei wlad a'i enw'n air teuluaidd ar aelwydydd Cymru.[3]
Er bod dros bum mlynedd ar hugain wedi rhedeg
er pan adawsai Lerpwl, glynodd y ddinas yn ei serch
tuag ato, ac nid aeth yn angof ganddi flynyddoedd
ei wasanaeth ynddi. Dyma benderfyniad a geir yng
Nghofnodion Cyfarfod Misol Crosshall Street, Ebrill 7, 1920: "Ein bod, fel Cyfarfod Misol, yn datgan ein gofid a'n galar o glywed am farwolaeth ein
hannwyl dad, y Parch. David Williams, Llanwnda,
a fu am lawer o flynyddoedd yn aelod ffyddlon ac
amlwg o'r Cyfarfod Misol hwn. Manteisiodd yr
eglwysi lawer ar ei brofiad helaeth, ei farn aeddfed, a'i ddawn neilltuol, ac yr oedd ei weinidogaeth bob
amser yn nodedig o gymeradwy a bendithiol, nid
yn unig yn y cylch hwn, ond hefyd yn y wlad yn
gyffredinol. Chwith yw meddwl na cheir clywed ei
lais mwyach, a dymunwn roddi ar gofnodion y Cyfarfod Misol ddatganiad o'n hatgofion melys am ei
Weinidogaeth a'i gymdeithas werthfawr, a'n cydymdeimlad â'i berthynasau yn eu galar."