David Williams y Piwritan/Pregeth. Diarhebion iv. 23

Oddi ar Wicidestun
Y Seiat fawr yn Lerpwl David Williams y Piwritan

gan Richard Thomas, Bontnewydd

PREGETH.



"CADW DY GALON YN DRA DIESGEULUS."

Diarhebion iv. 23.

Y MAE'R bywyd naturiol yma a'i holl weithrediadau yn dibynnu ar y galon. O'r galon y mae'r gwaed yn derbyn ei ysgogiad yn barhaus yn ei gylch rediad trwy'r holl gorff. Daw yn ôl i'r galon i dderbyn cynhyrfiad newydd drachefn a thrachefn. Felly y mae'r bywyd moesol yma, a holl weithrediadau'r bywyd hwnnw, yn dibynnu ar y galon mewn ystyr foesol. Y galon, y rhywbeth rhyfedd hwnnw o'n mewn sydd yn ffynhonnell ein holl serchiadau, ein teimladau, ein dymuniadau, a'n hamcanion. Rhyw fath o babell cyfarfod ydyw i feddyliau, myfyrdodau, a dychmygion; ac oddiyno y mae meddyliau fel yn cael eu hanfon allan yn weithrediadau o bob math, ac yn dychwelyd megis i'r galon yn feddyliau i gael cynhyrfiad newydd i fynd allan yn weithrediadau drachefn.

Wel, "cadw dy galon yn dra diesgeulus."

I. NI A GAWN AIR YN BRESENNOL AR BWYSIGRWYDD Y GADWRAETH YMA.

Ni allwn lai na theimlo yn awr ar funud o ystyriaeth fod y cadw hwn yn rhyw gadw o bwys mawr iawn. Fe ellid dweud llawer ar gadw'r galon rhag ei therfysgu gan drallodion y byd—"na thralloder eich calon;" ond cadw'r galon rhag ei halogi gan yr hyn sydd ddrwg sydd gennym yn awr.

(a) Y mae'r cadw hwn yn bwysig am y bydd pob cadw arall yn allanol yn aflwyddiannus heb gadw'r galon o fewn. Y mae'r gadwraeth allanol yma i fod hefyd—gwneud llwybrau uniawn i'n traed, a chadw ein ffyrdd rhag pechu. "Gan fod a'ch ymarweddiad yn onest ymysg y cenhedloedd." "Ymddygwch yn addas i efengyl Crist." "Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o'ch genau chwi." Y mae'r cadw allanol yma i fod—y geiriau, y gweithredoeau, a'r ymddygiadau. Ond nid yn y fan yma y mae'r wyliadwriaeth flaenaf i fod. Beth i'w feddwl a beth i beidio ei feddwl sydd yn bwysig. Nid trafferthu'n bennaf i geisio cau ar y drygioni sydd i mewn yn y galon rhag torri allan yn ddrygioni yn y fuchedd. Ni ddown ni ddim i ben â hi fel hyn. Fe fydd y drafferth yn aflwyddiannus pan mae'r galon fel yn llawn hyd yr ymyl o lygredigaeth mewn meddyliau a myfyrdodau. Y mae'n colli drosodd yn union trwy ryw ysgydwad lleiaf, megis, gan demtasiynau oddi allan. Clywch chi eiriau ein Gwaredwr, "O helaethrwydd y galon y llefara y genau. Y dyn da o drysor da ei galon a ddwg allan bethau da." Gofalu am fod yn dda, ac fe ofala y bod am y gwneud. Gofalu y bydd yr hyn sydd yn y galon yn drysor da, ac nid bod o hyd yn treio cadw'r hyn sydd i mewn rhag dod allan. Ond allan y daw mewn rhyw ffurf neu'i gilydd. Clywch eto: "Y dyn drwg, o drysor drwg ei galon, a ddwg allan bethau drwg." Nid yr un pethau drwg a ddygir allan gan bawb o'r un trysor drwg. O Jeriwsalem golch dy galon oddiwrth ddrygioni fel y byddech gadwedig." Dyma'r gorchymyn cyntaf, a'r gorchymyn mawr. "Pa hyd y lletyi o'th fewn goeg amcanion"—neu ofer feddyliau. Pa hyd? Dyma i chwi eiriau yr Arglwydd Iesu eto ar hyn: "O'r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan"—a dyfod allan a fynnant. Ofer fydd yr ymdrech i gadw meddyliau drwg i mewn oni wneir ymdrech hefyd i'w mar— weiddio oddi mewn. Fe sonnir yn y Llyfr hwn am "ffynnon wedi ei chymysgu â gofer budr," a meddai'r Gwaredwr: "yr holl ddrwg bethau hyn" wedi iddo enwi rhyw restr ddu iawn o bechodau, "yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod oddi mewn allan o'r galon."

"Efe a aeth i ffynhonnell y dyfroedd," meddai'r hanes am Eliseus, wedi iddo ddod i Jericho rywbryd, a gwyr y ddinas yn cwyno wrtho ynghylch y dwfr. "Wele atolwg," medda nhw, "ansawdd y ddinas, da ydyw fel y mae fy arglwydd yn gweled. Y mae yma bob peth yn ddigon dymunol yn y dref yma, ond 'does dim posib yfed y dwfr sydd gennym, dim posib, wir. Ond y dyfroedd sydd ddrwg," medda nhw. "Dygwch i mi phiol newydd," meddai'r proffwyd, "Dowch a phiol newydd i mi, a dodwch ynddi halen," ac y maent hwythau yn gwneud hynny. "Ac efe a aeth at ffynhonnell y dyfroedd," glywch chi," efe a aeth at ffynhonnell y dyfroedd." Nid trotian o seston i seston, a thrin y pipes, a threio rhyw ffiltro dipyn ar y dwfr yn y ffrydiau. Na, na, na, ddeuthai o byth i ben â hi felly. "Efe a aeth i ffynhonnell y dyfroedd, ac a fwriodd yr halen yno, ac felly," glywch chi, "ac felly yr iachawyd y dyfroedd." Yr ydych yn gweld yr addysg: "cadw dy galon yn dra diesgeulus." Y ffordd lwyddiannus i iachau'r dyfroedd yn y ffrydia, sef y fuchedd a'r ymarweddiad ydyw bwrw yr halen i ffynhonnell y dyfroedd. Y mae'n bosibl, heb hyn, newid cwrs y ffrwd o'r naill sianel i'r llall, ei stopio i redeg y ffordd yma, atal rhyw bechodau gwarthus; ond fe fyn redeg ryw ffordd arall, a hwyrach cyn hir dorri dros yr argae i redeg yn yr un ffordd eilwaith. Heb inni gadw'r galon fe fydd pob cadw arall yn aflwyddiannus.

(b) Y mae'n bwysig hefyd oblegid mai anghymeradwy gyda Duw ydyw pob cadw arall. Meddyliwch am funud, y mae meddylfryd mwyaf cuddiedig y galon yn hysbys iddo Ef. Duw, adnabyddwr calonnau pawb, ydyw Ef. "Mi a wn," meddai'r Arglwydd wrth dŷ Israel (Esec. xi. 5), "mi a wn y pethau sydd yn dyfod i'ch meddwl chi bob un o honynt," Diar annwyl, y Duw anfeidrol sanctaidd yn gwybod y pethau sy'n dyfod i dy feddwl. Beth? wel, "oni chwilia Duw hyn allan, canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon. Ger ei fron Ef gallwn ddywed- yd "gosodaist ein hanwiredd ger dy fron, a'n dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb." "Canys," medda rhyw air yn y Beibl yma, "canys yr Arglwydd sydd yn chwilio'r holl galonnau, ac yn deall pob dych. ymyg meddyliau" (1 Cron. xxviii. 9).

Heblaw hynny, y mae'r meddyliau llygredig yn bechodau mor wrthun yn ei olwg Ef a'r gweithredoedd mwyaf cyhoeddus. Ni bydd gweithredoedd allanol, sydd yn dda ynddynt eu hunain, yn gymeradwy ger ei fron oni bydd y galon yn uniawn. "Nid fel yr edrych dyn," meddai'r Arglwydd wrth Samiwel, pan anfonwyd o i Fethlehem i ddewis' un o feibion Jesse i'w eneinio i fod yn frenin ar Israel, "Nac edrych ar ei wynepryd ef," pan oedd Samiwel yn edrych ar Eliab, un o feibion mwyaf golygus Jesse, ac yn meddwl mai hwnnw oedd y brenin i fod. "Na, nid hwna," medda Duw, "nac edrych ar ei wynepryd ef, nac ar uchter ei gorffolaeth, canys gwrthodais ef, oherwydd nid edrych Duw fel yr edrych dyn." Y mae golygiad da o ran buchedd a chymeriad yn wrthodedig ganddo os bydd y galon o'i lle, ac i'r graddau y bo dyn yn cael ei sancteiddio—yn cael ei wneud yn debyg i Dduw—y mae'n dyfod i edrych fel yr edrych Duw arno'i hun,—edrych ar ei galon ei hun yn gyntaf peth.

Am y gwir gredadun, er bod ganddo ofal am ymddwyn yn addas i Efengyl Crist, ac am i'w oleuni lewyrchu gerbron dynion, y mae'i ofal a'i drafferth bennaf gyda'i galon o'r tu fewn. Y mae'n hiraethu a dyheu, "O na byddai'r galon lygredig yma sydd gini yn fwy sanctaidd, O na byddai'r galon galed yma yn fwy tyner, y galon falch yma yn fwy gostyngedig, fy nghalon ddaearol yma yn fwy nefolaidd ac ysbrydol ei meddylfryd a'i myfyrdodau." Ei ddymuniad blaenaf gerbron Duw—

"Boed fy nghalon iti'n demel
Boed fy ysbryd iti'n nyth,"

a'i drafferth grefyddol bennaf ef pan fo yn ei le ydyw ceisio trefnu ei galon annhrefnus i fod yn rhyw gysegr bychan i Arglwydd nef a daear breswylio ynddi. O, dyma ymdrech y bywyd duwiol yma: cadw'r galon heb ei halogi gan feddyliau annheilwng a fyddo'n ei hamghymwyso i ddal cymundeb â Duw. "Yr ydw i yn ei gwneud yn fater cydwybod," meddai'r Thomas Fuller, pan ofynnwyd iddo ac efe'n ddyn ieuanc ar adeg ei ordeiniad, a oedd efe wedi derbyn yr Ysbryd Glân. "Alla i ddim ateb y cwestiwn yna," meddai, "a ydw i mewn gwirionedd wedi derbyn yr Ysbryd Glân. Ond gallaf ateb fy mod i'n arfer gwneud mater cydwybod o'm meddyliau dirgelaidd." Yr oedd hynyna yn ddigon, a 'doedd dim eisio rhagor o helynt efo fo. Gyfeillion, a ydyw yn "fater cydwybod" gennym, nid yn unig beth i'w siarad a beth i'w wneud, ond beth i'w feddwl. (c) Y mae'r cadw hwn ar y galon yn bwysig, eto, oherwydd y prysurdeb diorffwys sydd yng nghalon dyn-lluosogrwydd meddyliau sydd yma yn amlder fy meddyliau o'm mewn." Fe gyflawnir yma lawer iawn o dda neu ddrwg. Heblaw bod drwg feddyliau ac ofer feddyliau yn bechodau, fe fyddant yn llawer iawn o bechodau-" mor fawr fydd eu swm hwynt." Y fath dorf ddirif sydd yn myned i mewn ac allan mewn un wythnos, ie, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo mewn un diwrnod yn fynych. Wel, os gadewir i holl feddyliau a dychmygion y galon yn ddiwahardd a diddisgyblaeth i weithredu anwiredd y fath swm dirfawr a weithredir ganddynt mewn pedair awr ar hugain. "Os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch."

(d) "Cadw dy galon yn dra diesgeulus," y mae hyn yn bwysig, oblegid ei fod yn waith mawr a fydd heb ei wneud oni wneir o gennym ni ein hunain. 'Does dim help daearol i'w gael o'r tu allan at y cadw hwn. Nid ydi'r hyn fydd ynddo'i hun yn bwysig i'w wneud ddim mor hynod o bwysig i ni feddwl amdano os gellir disgwyl i eraill ei wneud drosom ni, neu ei wneud mewn rhan drosom ni. Nid peth fel yna ydyw cadw'r galon. Y mae'n waith mawr tragwyddol ei ganlyniadau, ond yn waith sydd yn sicr o fod heb ei wneud oni wneir o gennyt ti dy hunan. Fe all dyn gael shopkeeper i gadw'i shop, a housekeeper i gadw'i dŷ, a book—keeper i gadw'i lyfrau, ond all neb gael yr un heartkeeper ar y ddaear i gadw'i galon.

A 'does dim cymorth o'r tu allan i ni ein hunain i'w gael at y cadw yma—cymorth dynol ydwi'n feddwl, 'does dim help dynol, daearol, o'r tu allan. Y mae rhyw fath o gadwraeth o'r tu allan ar fuchedd dyn a'i ymarweddiad allanol gan amgylchiadau, a chan ddynion eraill y cylch cymdeithas y mae dyn yn troi ynddo, a rhyw ddylanwad a math o orfodaeth arno i ymddwyn fel hyn neu wneud fel arall. Y mae ofn dyn, a pharch cymdeithas yn dylanwadu ar hunangariad dyn. Y mae ofn dyn yn dwyn magl," medda rhyw air. Wel, fel y mae ofn dyn yn dwyn magl ar lwybrau rhinwedd a chrefydd, felly hefyd, yn fynych iawn, y mae ofn dyn yn maglu a rhwystro llawer ar bobl ar lwybrau pechod yn gyhoeddus. "Ond yn guddiedig," medda'r hanes am Joseff o Arimathea. Yr oedd yntau yn ddisgybl i'r Iesu, ond "yn guddiedig rhag ofn yr Iddewon." Felly, ar y llaw arall, y mae llawer dyn yn ddisgybl ffyddlon i'r diafol, ym meddiant Satan, yn was i bechod, ond yn guddiedig, er hynny, rhag ofn ryw Iddewon, sef y gymdeithas y mae'n troi ynddi ac am gael ei barchu ganddi. Y mae ofn y bobl a cheisio gogoniant dynion. yn gosod rhyw fath o gadwraeth ar ddyn o ran ei fuchedd allanol. Y mae o'n cael ei orfodi rhywsut i actio yn well nag o'i hun mewn gwirionedd. Ond y mae fel arall gyda golwg ar feddylfryd y galon. Dyma eiddo'r dyn ei hunan yn cael eu cuddio o olwg pawb dan rhyw gyfar trwchus na all yr ymyrrwr mwyaf busnesgar na'r enllibiwr mwyaf maleisus yn y wlad ddim gweld trwyddo. Y mae rhyw wahanlen dywyll yn cysgodi'r galon fel na eill neb, ia'r dyn sydd yn siwr o wybod gyntaf bob drwg am bawb, na eill hwnnw ddim cymaint à symud cwr y wahan— len hon unwaith mewn blwyddyn i wybod beth sydd yn mynd ymlaen yn y galon.

II. Y MODD I GARIO ALLAN Y GADWRAETH.

Y mae o'n gadw pwysig iawn, ond O, y mae o'n anodd. Pa fodd y mae cadw'r galon, yn dra diesgeulus?

(a) Wel, yn un peth ei gwneud yn arferiad cyson i droi i mewn, megis, yn fynych i edrych beth sydd yn mynd ymlaen yn y galon. Gweled beth y mae'r galon yn ei wneud ar y pryd. Y mae llawer dyn yn gwybod yn well sut y mae pethau yn mynd ymlaen yn yr Aifft, ac Affganistan, a gwledydd pell, nag am yr hyn sydd yn mynd ymlaen yn ei galon ei hun. Y mae'n rhaid troi llygad yr enaid i mewn yn fynych. Mor annrhefnus y mae hi'n mynd yn yr ysgol, lle mae lliaws o blant direidus, pan fo'r meistr wedi troi'i gefn am beth amser. Y fath swn a rhedeg a gweiddi, dim cymaint ag un yn ei le a chyda'i wers. Ond y funud y mae'r meistr i mewn yn ôl, y fath osteg rhyfeddol o sydyn a distawrwydd—pawb i'w le am y cynta' ac at ei wers.

Wel, fel yna y mae meddyliau'r galon yma yn mynd yn afreolus a dilywodraeth pan na fyddo'r enaid yn rhyw warchod gartref. Pan mae'r gydwybod yn bresennol, megis, yn effro ac yn gwylio mor wahanol ydyw popeth yma!

(b) Peth arall gwrthod ofer feddyliau yn gystal a drwg feddyliau. Dyma un o benderfyniadau da yr hen Esgob Beveridge: "Yr ydwi'n penderfynu, trwy gymorth gras Duw, bod mor ofalus rhag lletya o'm mewn ofer feddyliau ag y bydda i o ofalus i gadw draw ddrwg feddyliau." A glywch chi un arall o'r saint: Meddyliau ofer a gasheais." Parod ydyw y rhain i ryw growdio yn lluoedd i mewn i'r galon, yn enwedig ar oriau hamdden, fel mai'r amser y bydd dyn heb ddim i'w wneud yn bur fynych ydyw'r amser y bydd yn fwyaf prysur. Y mae'r galon yn brysur, ond O, brysurdeb diles ydyw,—galluoedd yr enaid yn cael eu treulio ar ofer a gwag feddyliau, a meddyliau sydd mor ffol y buasai ar ddyn gywilydd eu dweud hyd yn oed wrtho'i hun. Dydd freuddwydion nad ydynt dda i ddim ar gyfer y byd hwn na'r byd a ddaw. Y mae ofer feddyliau, heblaw eu bod yn anghymwyso dynion i bob da, yn arwain i ddrwg feddyliau.

(c) Dyma gyfarwyddyd arall: Rhaid gochel yr achlysuron i ofer a drwg feddyliau—y pethau o'r tu allan sydd yn achlysuro meddyliau anghymeradwy a'u dwyn i galon dyn. Rhaid gwylio y ffyrdd, y passages, rhywsut, y mae meddyliau nad ydynt dda yn ymlwybro ar hyd—ddynt, megis, yr amgylchiadau y byddwn ynddynt, y gymdeithas y byddwn yn troi. ynddi, y llyfrau a ddarllenwn, synhwyrau'r corff, ac yn enwedig y clyw a'r golwg. Os ydyw ymadroddion drwg yn llygru moesau da y maent yn sicrach. fyth o lygru meddyliau da. "Edrychwch beth a wrandawoch," medd un gair, ac un arall, "troi ymaith y llygaid rhag edrych ar wagedd." Y mae un o'r hen Biwritaniaid yn dweud fod synhwyrau'r corff yn fath o ffenestri, a bod meddyliau yn cripio i mewn trwyddynt i'r galon. Rhaid ydyw cadw gwyliadwriaeth fanwl ar y ffenestri hyn. O mor brysur ydyw'r galon yma. Y mae'r ofer feddwl yn mynd yn feddwl llygredig, ac y mae hwnnw'n awgrymu rhyw feddwl drwg arall. Y mae'r meddwl drwg yn casglu ato gyfeillion. Y mae un o athronwyr yr oes yn dweud mai un gwahaniaeth rhwng y dyn da a'r dyn drwg ydyw hyn, nid nad oes yn y dyn da lawer o'r hyn sydd ddrwg o ran nwydau a chwantau a thymherau, ond ei fod yn gofalu am droi attention y meddwl. oddiwrth y pethau sy' ddrwg at y da a'r pur.

Rhaid gochel yr achlysuron allanol i ddrwg feddyliau. Fe fyddai'n eithaf peth inni deimlo rhyw fath o anymddiried ynom ein hunain trwy adnabyddiaeth o dwyll y galon. Glywch chi air yr Ysgrythur Lân yma: "Y neb a ymddiriedo yn ei galon ei hun sydd ffol." Yn wir yr ydwi'n meddwl y cewch chi fod hyn yn wir, y mwyaf gwan i wrthsefyll temtasiwn ydyw'r parotaf i'w ddodi ei hun mewn temtasiwn.

(d) Rhaid gwrthwynebu'n benderfynol ac â'n holl nerth y cynygion cyntaf oll a wneir gan ddrwg feddyliau am le yn y galon. Cynhyrfu holl ymadferthoedd yr enaid yn eu herbyn pan fônt yn ymrithio gyntaf gerbron y galon. "Pan ddisgynai yr adar ar y celaneddau." Abraham yn aberthu, a rhyw adar ysglyfaethus yn mynd i ddisgyn ar yr ebyrth. Ond "pan ddisgynnai yr adar ar y celaneddau, yna Abraham a'u tarfai hwynt" yn y munud, nid wedi iddyn nhw ddisgyn, ond pan y bydde nhw yn disgyn. Fe fyddai Abraham yno yn y munud yn eu tarfu nhw. O, gyfeillion, pan mae'r adar ysglyfaethus hyn, llygredig a drwg feddyliau o bob math, pan mae nhw yn rhyw ddisgyn ar y galon, dyna'r amser i'w tarfu nhw, i'w "showio" nhw i ffwrdd, ac nid wedi iddynt ddisgyn. Casglwn ynghyd holl nerth ein natur mewn ymdrech deg yn erbyn y cynygion cyntaf. Y maent yn cael eu danfon gan y diafol fel rhagredegwyr i baratoi'r ffordd i bethau eraill gwaeth na hwy eu hunain. Edrychwch pan ddêl y gennad hwnnw i mewn," medda Eliseus wrth yr henuriaid rheini, pan oedd brenin Israel yn cynllunio i'w ddifetha. "A welwch chwi," medda gŵr Duw, "a welwch chwi fel yr anfonodd mab y llofrudd hwn i gymeryd ymaith fy mhen i—mae o am dorri mhen i, 'does dim dowt, ac y mae ganddo ryw gennad, digon diniwed yr olwg arno, yn dyfod o'i flaen ef. Edrychwch gan hynny," meddai, "edrychwch pan ddêl y gennad i mewn. Ceuwch y drws, a deliwch ef wrth y drws, onid ydyw trwst traed ei Arglwydd ar ei ol ef." Pan mae'r gwrthwynebwr diafol, y lleiddiad dyn hwn, a'i fryd ar ddifetha enaid trwy feddyliau llygredig, y mae ganddo ryw gennad o feddwl ofer i'w anfon o flaen y drwg feddwl i baratoi'r ffordd. Edrychwn, gan hynny, pan ddel y gennad i mewn ceuwn y drws, a daliwn ef wrth y drws. Os daw hwn i mewn anodd iawn fydd cadw'r llall allan—y nesaf peth i amhosibl. Tendiwn y gennad, gyfeillion, ceuwn y drws. "Onid ydyw trwst traed ei arglwydd ar ei ol ef?"

Da ydyw ymladd â drwg feddyliau pan fyddont wedi dod i mewn ac yn terfysgu'r enaid. "O ble y doist ti dywed," medda'r morwyr rheini wrth Jona ynghanol y dymhest1 fawr honno. "A Jona a aethai i waered i ystlysau y llong." A dyma rai o'r morwyr i lawr ato fo ac yn ei lusgo fo i fyny i'r dec, yn bur ddiseremoni hefyd, ac yn dechrau i gwestiyno fo am yr achos o'r ystorm ofnadwy, gan led awgrymu mai efo oedd yr achos. "Beth yw dy gelfyddyd di?" medda nhw. "Beth ydi dy grefft di, dywed, ac o ba le y deuthost ti?" Glywch chwi gymaint o gwestiynau y mae nhw yn eu pentyrru arno fo druan cyn iddo fo gael treio ateb yr un ohonyn' nhw. "Beth yw dy gelfyddyd di?" "O ba le y deuthost?" "Pa le yw dy wlad, ac o ba bobl wyt ti?" Yr oedd o dros y bwrdd yn ddigon clir â'r llong ymhen ychydig iawn o funudau. Y mae yn dda gwneud fel yna pan mae tymestl nid bychan yn curo ar yr enaid a chydwybod euog yn terfysgu. Beth? Wel, edrych beth yw yr achos. A oes peidio a bod rhyw anwiredd cuddiedig i waered yn ystlysau'r llong. Rhaid llusgo rhyw chwant pechadurus i'r dec, megis, a'i gwestiyno, Beth ydi dy gelfyddyd di? Beth yw dy grefft ti? O ba le y deuthost ti dywed? Pa le yw dy wlad, ac o ba bobl wyt ti? Pwy yw dy dylwyth di? a ffling iddo, a thros y bwrdd ag o, ar unwaith. Y mae hynyna yn dda; ond gwell o lawer, a haws ei wneud, ydyw cadw'r drws. Os daw y drwg feddyliau i mewn unwaith fydd hi ddim mor hawdd eu taflu allan ag oedd i'r morwyr fwrw Jona allan o'r llong.

Wrth wylio'r galon a'i chadw yn dra diesgeulus chwi gewch fwy o lonydd bob yn dipyn, gewch chi weld. "O'r pryd hwnnw," medda'r hanes yn llyfr Nehemia am ryw farchnadwyr oedd yn dyfod i Jeriwsalem i werthu pethau ar y Sabath. Yr oeddynt yn poeni calon Nehemia ac yr oedd yn methu'n lân a'u stopio nhw. Y mae yn i dwrdio nhw, a mi fedra Nehemia ddwrdio gystal â neb. "Pa beth drygionus. ydyw hwn yr ydych yn ei wneuthur, gan halogi y dydd Sabath;" ond 'doedd dim iws, yr oeddynt yno y Sabath wedyn. Beth wnaeth o i gael gwared o honyn nhw? Cau y dorau, "a phan dywyllasai pyrth Jeriwsalem cyn y Sabath yr erchais gau y dorau, ac a orchymynais nad agorid hwy hyd wedi y Sabath, a mi a osodais rai o'm gweision wrth y pyrth." Wel, a ddaeth yr hen farchnadwyr yno wedyn ai do? Do, mi ddeuthon yno; ond y maent yn methu a dyfod i mewn cael y dorau wedi'u cau i fyny yn reit sownd. Ac wedi methu a dyfod i mewn fel yna y mae nhw'n blino dyfod yno i dreio toc iawn. Unwaith neu ddwy y deuthon' nhw, medd yr hanes. "Felly," glywch chi, "felly y marchnadwyr a gwerthwyr pob peth gwerthadwy a letyasant o'r tu allan i Jeriwsalem" unwaith neu ddwy wedi gweld nad oedd modd dyfod i mewn. Y mae nhw'n blino dyfod yno i dreio. "O'r pryd hwnnw," medda'r hanes, "o'r pryd hwnnw ni ddeuthant ar y Sabath mwyach."

Gwnawn ninnau fel yna efo'r drwg feddyliau a'r ofer a'r gwag feddyliau yma o bob math, y marchnadwyr hyn sydd am wneud y galon-a ddylai fod yn deml i'r Ysbryd Glân-yn dy marchnad i Satan a phechod. Ceuwn y dorau, gyfeillion, oblegid ofer fydd dwrdio'r hen feddyliau drwg yma. "Pa beth drygionus yw hyn yr ydych yn ei wneuthur" aflonyddu a therfysgu fy nghalon?" Medr yr hen feddyliau aflywodraethus yma oddef cael eu dwrdio, ac mi ddôn wedyn, a wedyn, tra caffont ddrws agored. Archwn gau y drws yn eu herbyn hwy. Rhaid gwrthwynebu'n gryf a phenderfynol eu cynygion cyntaf.

(e) Un peth arall tuagat gadw'r galon rhag yr hyn sy' ddrwg ydyw gwneud ymdrech i'w llanw yn wastad â'r hyn sydd dda. 'Does dim modd gwylio'r pyrth yn ddigon gofalus, na chau y drws yn ddigon clos na ddaw y rhain i mewn os bydd lle iddynt. Meddyliau! Meddyliau!! Diar annwyl, fe ymwthiant i mewn yn rhyfedda 'rioed na wyddoch chi pa sut os bydd y galon yn wag. Er eu hymlid allan dônt yn ôl drachefn. "Y mae yn ei gael yn wag," medda rhyw air am y dyn yr aethai'r ysbryd aflan allan ohono, ond mor fuan y mae o'n dyfod yn ol. "Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r hwn y deuthum allan, ac y mae yn ei gael yn wag wedi ei ysgubo a'i drwsio, ond yn wag, yn wag, ac ar unwaith dyma'r ysbryd aflan yn ôl, a saith eraill gwaeth nag ef ei hun gydag ef.

O gyfeillion, ofer fydd pob ymdrwsio a threfnu os bydd y galon yn wag. Os cedwir hwy allan, dyna fydd yn rhaid fod yn rheswm: "Am nad oedd iddynt le yn y llety "-holl ystafelloedd y galon yn llawn o feddyliau daionus. Y mae yna ddigon o le i'n meddyliau dramwy dros hyd a lled, uchter a dyfnder cariad Crist.

Ymnerthwn yn yr Arglwydd ac yng nghadernid ei allu Ef. "A minnau," meddai Dafydd, rywbryd, "a minnau ydwyf eiddil heddyw, a'r gwyr hyn, meibion, Serfiah, sydd ry galed i mi." O dyna brofiad aml un sydd yma yn wyneb y gwaith mawr hwn, sef cadw'r galon, "a minnau ydwyf eiddil heddyw," a'r meddyliau ofer a llygredig hyn sy' ry galed i mi. Beth wnawn ni? Gwyliwn, gweddiwn, ac ymnerthwn yn yr Hwn a fedr wneud ein calon yn amddiffynfa; a than ddylanwad daionus ei Ysbryd Ef fe ddaw "y pethau sydd wir, y pethau sydd onest, y pethau sydd gyfiawn, y pethau sydd bur, y pethau sydd hawddgar, y pethau sydd ganmoladwy," i growdio allan y drwg bethau.





ARGRAFFWYD YN SWYDDFA ARGRAFFU'R CYFUNDEB, CAERNARFON.

Nodiadau[golygu]