Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc/Abergele a Phensarn

Oddi ar Wicidestun
Cynwysiad Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc

gan Francis Jones, Abergele

O'r adeg yr Adeiladwyd y Capel cyntaf

METHODISTIAETH YN ABERGELE

GAN Y PARCH. FRANCIS JONES.

PENNOD I

Cyn Adeiladu y Capel.

ER mai y Methodistiaid Calfinaidd yw yr enwad Ymneillduol hynaf yn Abergele, nid yw eu hanes hwy, o leiaf yn y dref, yn ymestyn ymhellach yn ol na blynyddau diweddaf y ddeunawfed ganrif. Oherwydd rhyw reswm—yspryd erledigaethus y trigolion fel yr ymddengys—byddai y pregethwyr Ymneillduol pan yn ymweled â'r amgylchoedd hyn yn wastad yn osgoi y dref. Yr oedd profiad yr efengylwyr yn y parthau hyn yn ddiau yn gyffelyb i'r hyn oedd ymron yn mhob man arall, fod y cyd-gasgliad o ddynion digrefydd a geid yn y trefi yn eu gwneyd yn hyfach a mwy ymosodol na'r rhai fyddai yn byw yn yr ardaloedd. A dywedir fod Abergele yn yr adeg hono yn hynod am ei hannuwioldeb. Hyd yn nod yn nechreu y ganrif ddiweddaf yr oedd yr ymladdfeydd a gymerai le ar y ffeiriau yn fwystfilaidd. Pan y byddai yr ymladdfa yn parhau yn hir, neu yn debyg o barhau felly, symudai yr ymladdwyr a'r cwmni i'r cae sydd yn mhen gorllewinol y dref—"Cae y Bee;" ac y mae rhai yn awr yn fyw sydd yn cofio un o'r ymladdfeydd hyny yn terfynu yn angeuol. Pa bryd y beiddiwyd wynebu ar y dref gan bregethwr Ymneillduol nid yw yn hysbys; ond myn traddodiad mai un o bregethwyr y Methodistiaid Calfinaidd oedd, ac mai yn y Tanyard sydd yn bod eto, ar ochr ddwyreiniol Water Street, y cynhaliwyd yr odfa. Nid yw yn hysbys gan bwy nac yn mha le y pregethwyd gyntaf yn y gymydogaeth, chwaith. Sonir yn Methodistiaeth Cymru (iii. 272) am ymweliad o eiddo y Parch. William Davies, Castellnedd, a'r Bettws, yr hwn a ddaeth yno ar daer wahoddiad dau wr ieuanc o'r lle hwnw, sef Edward Evans a Copner Williams —yr olaf y cyfreithiwr wedi hyny o Ddinbych—y rhai a aethant i Gymdeithasfa y Bala yn bwrpasol i geisio cyhoeddiadau pregethwyr i'r ardaloedd hyn. Ond er iddo ddyfod, rhwystrwyd Mr. Davies i bregethu gan waith perchenogion tâs o frigau coed y safai ef yn ei chysgod, yn ceisio ei dymchwel arno, a thrwy hyny gythryblu ei feddwl yn ormod iddo fyned rhagddo. Dywedir hefyd i'r ddau wr ieuanc gael addewidion gan amryw eraill, ond nid oes gwybodaeth pwy oeddynt na pha bryd y daethant. Rhaid fod ymweliad Mr. Davies rywbryd wedi iddo ymadael â'r Eglwys Sefydledig, yr hyn a wnaeth tua 1773 neu 1774, a chyn 1781, oblegid y flwyddyn hono y bu ef farw. Crybwyllir yn Nghofiant y Parch. John Davies, Nantglyn, y bu Mr. Davies yn yr ardaloedd hyn tua 1779 neu 1780, pryd y pregethai ar y geiriau. "Yr hwn a osododd Duw yn iawn," &c., a'r pryd y cafodd efe "gymorth i roddi ei hun i'r Arglwydd i fyw a marw, ac am byth." Y tebyg yw mai dyna yr adeg yr ymwelodd a'r Bettws hefyd. Y mae sicrwydd modd bynag, y dechreuwyd pregethu gyda mwy neu lai o reoleidd-dra yn ffermdy y Nant Fawr tua'r adeg hono. Y mae yn amlwg y camarweiniwyd awdwr Methodistiaeth Cymru wrth ei hysbysu mai yn y Bryngwyn—ty bychan tua haner y ffordd rhwng Abergele a'r Bettws—y pregethwyd, ac yr arferid pregethu gyntaf yn yr ardaloedd hyn. Fel arall y dywedid wrth rai sydd eto yn fyw gan hen bobl oedd yn cofio hyny. "Yr oedd y seiat yn y Bryngwyn, a'r pregethu yn y Nant Fawr," meddent hwy. Ac â hyn y cytuna yr hyn a ddywedir yn y Drysorfa am 1847, t.d. 388, yn nghofiant merch i'r William ac Anne Jones oedd yn byw yno ar y pryd. Hwynthwy, meddir yno, "a agorasant eu ty gyntaf o bawb yn y cymydogaethau hyn i groesawu achos y Methodistiaid Calfinaidd." Yr oedd dau reswm dros drefnu i'r pregethu fod yn y Nant Fawr ac i'r cyfarfod eglwysig fod yn y Bryngwyn. Ty bychan oedd y Bryngwyn, tra yr oedd y Nant, fel y mae eto, yn dy eithriadol helaeth. Heblaw hyny, yr oedd Thomas Roberts, y gwr a gartrefai yn y Bryngwyn, yn aelod Eglwysig proffesedig, tra nad oedd William Jones, y Nant, felly y pryd hwnw o leiaf, na'r wraig chwaith, hyd y gwyddis, er eu bod yn bobl tra bucheddol. Naturiol, gan hyny, oedd i'r moddion gael eu trefnu fel y gwnaed. Y Nant Fawr yn ddiau, oedd cartref y moddion cyhoeddus, a'r Bryngwyn y cyfarfod eglwysig. Ymhlith y rhai a ddeuent i'r Nant i bregethu, y mynychaf oedd yr ymroddgar Edward Parry, o Frynbugad, ger Tanyfron, Llansannan. Tymhor ei weinidogaeth ef oedd o 1760 hyd 1784, pryd y bu farw. Yr oedd efe, heblaw bod yn rhagori ar y nifer fwyaf o'r pregethwyr lleygol a gyd-oesent âg ef mewn diwylliant a doniau gweinidogaethol, yn rhagori hefyd yn ei awyddfryd am ddwyn ei gymydogion a'r wlad oll hyd y gallai ef ei chyrhaedd, i dderbyn a chredu yr efengyl. Mae yn sicr gan hyny, yr ystyriai ef y Nant a'r amgylchoedd hyn yn rhan arbenig o'i ofalaeth, yn enwedig gan y tybir yr elai William Jones yn achlysurol i Frynbugad i'r pregethau, ac fod Thomas Roberts, fel y crybwyllwyd eisoes, yn aelod o'r eglwys oedd yn cyfarfod yno.

Yr oedd y Thomas Roberts hwn yn wr nodedig am ei yni naturiol, yn gystal a chrefyddolder ei ysbryd, ac yn haeddu cael coffa un ffaith ymhellach am dano. Pan na byddai pregethwr yn y Nant nac unman yn ei ardal ef ei hun, cerddai fore Sabboth erbyn naw o'r gloch i Frynbugad —pellder o tuag wyth milldir, ac yn gyffredin i'r Bontuchel, deg milldir yn mhellach, erbyn dau, ac i'r Dyffryn, chwech neu saith milldir i gyfeiriad arall, erbyn chwech; yna adref, wedi teithio o leiaf 37 milldir; a byddai wrth ei orchwyl bore Llun mor gynar a neb yn y fro. Dechreuwyd cynal y cyfarfod eglwysig yn ei dy ef yn dra chynar; ryw gymaint o leiaf cyn 1778, am y gwyddis mai dyna y flwyddyn yr ymunodd Mr. Thomas Edwards, Llanelian—Thomas Edwards y pregethwr o Liverpool, wedi hyny—â'r eglwys fechan yn y lle. Yr oedd y Bryngwyn yn fan canolog i'r aelodau oedd ar wasgar yn Llanelian, Llysfaen, Bettws, Llansantsior, ac Abergele, i gyfarfod ynddo; a dyma fu eu hunig fan cyfarfod am flynyddau lawer. Y mae enwau amryw o aelodau yr eglwys fechan hon eto ar gael. Heblaw. y Thomas Roberts oedd yn byw yn y ty, diau fod John Griffith, "gwr craff a llygadog," a ddaeth yma o Adwy'r Clawdd, ac Edward Evans a Copner Williams, o'r Bettws, yn mysg y rhai cyntaf; yna Thomas Edwards (Liverpool), John Hughes, (Mansfield Street, Liverpool); Robert Parry, Llansantsior; Thomas Lloyd—wedi hyny y gweinidog a'r ysgolfeistr " y mae ei enw a'i goffadwriaeth mor adnabyddus a pheraroglaidd; John Hughes, Penybryn; Thomas Jones, Tanyrogof; ac o bosibl Thomas Jones ac eraill o deulu y Nant Fawr. Ymddengys mai John Griffith a olygid yn flaenor y gymdeithas. Nis gellir bod yn hollol sicr am yr amser y peidiwyd a defnyddio y Bryngwyn fel man y cyfarfod eglwysig. Ond y mae yn sicr mai yno y cyfarfyddid am flynyddoedd wedi adeiladu y capel yn y dref. Yn y Bryngwyn yr oedd yr eglwys pan ymunodd Mr. T. Lloyd â hi yn 1796, er fod y capel wedi ei adeiladu yn y dref yn 1791. Ond yr oedd yr eglwys yn y Bryngwyn, mae'n amlwg erbyn hyn wedi dyfod yn ddigon lliosog i ymranu yn dair o wahanol gymdeithasau yn yr ardaloedd cylchynol—un yn nhref Abergele, arall yn Nhy'nycoed, Llanelian, y ty y traddododd y Parch. Henry Rees ei bregeth gyntaf ynddo, a'r llall mewn ty anedd o'r enw Court Field, yn y Bettws, lle y cartrefai Evan a Margaret Evans, hi yn ferch i Twm o'r Nant. Flynyddau yn ddiweddarach yr adeiladwyd yno gapel gan Mr. David Roberts, Bodrochwyn ganol, ar ei draul ei hun, ar anogaeth y Parch. John Davies, Nantglyn (Meth. Cym., iii. 279).


Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Abergele
ar Wicipedia

Nodiadau[golygu]