Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc/O'r adeg yr Adeiladwyd y Capel cyntaf

Oddi ar Wicidestun
Abergele a Phensarn Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc

gan Francis Jones, Abergele

O 1848 hyd 1908

PENNOD II

O'r adeg yr Adeiladwyd y Capel cyntaf hyd ddiwedd oes y Parch. Thomas Lloyd.

HEBLAW y Bryngwyn a'r Nant Fawr, yr oedd gan yr ychydig Fethodistiaid yn Abergele a'r gymydogaeth, fan- cyfarfod yn y dref hefyd cyn adeiladu yma un capel. Ond ymddengys mai yr unig foddion crefyddol a gynhelid ynddo oedd cyfarfod gweddio, a hyny o bosibl yn unig yn achlysurol, weithiau ar y Sabboth, ac weithiau ar nosweithiau'r wythnos Eto gwneid cymaint o ddefnydd o hono, fel, er mai ty anedd ydoedd, yr adnabyddid ef gan bawb wrth yr enw "y Ty Cwrdd." Safle y ty oedd ar yr ochr orllewinol i Heol y Capel, ychydig yn is na haner y ffordd o waelod yr heol i'r capel presenol. Y gwr a gartrefai yno ar y pryd oedd un o'r enw Hugh Jones. Wedi crybwyll ei enw ef, anhawdd peidio cyfeirio at asbri yn gystal a chrefyddolder ei ysbryd. Yr oedd efe yn rhywfaint o fardd—o leiaf yn gynganeddwr. Ryw dro, pan yn dymuno cael awrlais newydd, anfonodd archiad am dano at Mr. Richard Griffith, Awrlais-wneuthurwr, Dinbych, tad yr hybarch Archdderwydd Clwydfardd, yn y geiriau canlynol:—

Yn dda cywira ddeiol—y bysedd
A'i bwysau'n briodol,
Un gonest yn ei ganol,
A'i ben yn iawn, heb bin yn ol.

Adeiladwyd y capel cyntaf yn Abergele yn 1791, ar dir a gafwyd ar delerau manteisiol, gan wr o'r enw Hugh Pierce, a ddaethai yma o Henllan. Ac y mae yn deilwng o'i gadw mewn cof mai gan yr un gwr y cafodd y Wesleyaid yn 1804, a'r Annibynwyr yn 1842, dir i adeiladu eu capelau cyntaf hwythau. Ymhen yn agos i chwe' blynedd—— a phaham yr oedwyd cyhyd tybed?—yr ydym yn eu cael yn ei gofrestru yn ol y gyfraith yn lle addoli. A ganlyn sydd gopi o'r cais ac o'r cadarnhad:—

"To the Right Reverend Lord Bishop of St. Asaph—

This is to Certify that we whose Names are hereunto subscribed being some of his Majesty's Protestant Dissenting Subjects together with Others of the Same Persuasion do intend to Meet for Religious Worship at a Chapel Called Chapel Street Ucha, in the Township of Gwrych, in the Parish of Abergele, in the County of Denbigh, and Desire the same to be Recorded.

JOHN HUGHES.
JOHN GRIFFITHS.
WILLIAM JONES.
JOHN JONES.
THE MARK X OF DAVID ROBERTS.
JNO. HUGHES.

Entered of Record in the publick episcopal Registry of Saint Asaph the 15th day of June, in the year of our Lord, 1797.
JOHN JONES, Dep. Regr."

Y cyfleusdra a'r llonyddwch y gwelai a roddid iddo yn y capel hwn yn ddiau a arweiniodd y Parch. Thomas Lloyd i symud ei ysgol o Llansantsior i'r dref yn 1799. Mor fuan ag yr ymunodd efe â'r Methodistiaid yn y Bryngwyn, aeth y son am hyny i glustiau y gweinidog plwyfol a Mr. Hughes, Kinmel, tad Arglwydd Dinorben, yr hwn oedd yn byw gerllaw-dau o noddwyr yr ysgol; a chafodd y crefyddwr ieuanc brawf yn dra buan mai nid boddhaol ganddynt hwy ac eraill a fuasent hyd yma yn gefnogwyr iddo, oedd y cam a gymerasai. Ac i ddyfnhau ei gamwedd, ymhen dwy flynedd neu ychydig yn rhagor, beiddiodd yr ysgolfeistr ddechreu pregethu. Y canlyniad o hyn oedd i'r ddau foneddwr a enwyd, ac amryw eraill oeddynt yn gyfeillion iddo hyd yma gilio oddiwrtho, a deallodd yntau mai gwell fyddai iddo symud. Ond i ba le? Nid oedd Abergele yn fan deniadol iawn i ysgolfeistr Ymneillduol, yn enwedig i un oedd hefyd yn rhyfygu pregethu heb urddau esgobol. Yn y flwyddyn 1794, bum' mlynedd cyn hyn, yr oedd gwr o'r enw y Parch. Richard Jackson, M.A.. wedi ei benodi yn ficer y plwyf. Ac yr oedd ef, yn enwedig yn nechreu ei drigias yma, yn Eglwyswr cul ac erlidgar. Prawf o hyny yw y gwrthsafiad a wnaeth unwaith, yn dra buan wedi dod yma i fyw, i'r Parch. Rowland Hill, M.A., Llundain, i bregethu yn y man y saif y Town Hall arno yn awr—Odyn Frág y pryd hyny. Ond yn Mr. Hill cafodd ei drech ymhob ystyr. Pan y gorchymynai y Ficer iddo dewi, Pwy ydych chwi?" gofynai y gwr dieithr.

"Ficer y plwyf," atebai yntau. "Felly yn wir," meddai y gwr o Lundain. "Rhyfedd iawn"; a chan droi at y gynulleidfa, ychwanegai, "A welwch chwi, fy nghyfeillion, yr wyf fi yma yn ceisio dweyd gair am a thros yr Arglwydd Iesu Grist, a dyma wr sydd yn proffesu bod yn was i Grist yn fy ngorchymyn i dewi." Mewn cywilydd, ac hwyrach gyda ias o euogrwydd cydwybod, troes y Ficer ymaith, ac yn ei ol i'w letty i Dyddyn Morgan. Ceisiodd hefyd aflonyddu ar odfa a gynhaliai y Wesleyaid ar yr heol yn ddiweddarach, tua 1802 neu 1803. Ond er y medrai ambell wr ei gywilyddio, nid oedd ef, a'r rhai a gydymdeimlent ag ef, yn gyfryw y gallai Mr. Lloyd ddisgwyl nemawr ffafrau ar eu llaw. Eto yr oedd y dref yn safle ganolog a manteisiol i gael ysgolheigion ac yr oedd yma gapel, a chroesaw iddo ef wneyd defnydd o hono. Yma y daeth, ac yma y cartrefodd wedi hyny yn fawr ei barch a'i ddefnyddioldeb am naw mlynedd a deugain gweddill ei oes.

Mewn rhan yn ddiau oherwydd yr achles a'r ymgeledd a roddwyd i'r achos trwy weinidogaeth a dylanwad personol Mr. Lloyd, aeth y capel cyntaf yn fuan yn rhy fychan. Helaethwyd ef yn 1808, a thrachefn yn 1833, ac y mae yn aros hyd yn awr fel y gwnaed ef y pryd hyny; a chynhelir Ysgol Sabbothol a moddion nosweithiau canol yr wythnos ynddo. Daeth yr eglwys yn ddigon cref yn 1836 (Meh. 2, 3) i gynal cyfarfod a elwid ar y pryd yn Gymdeithasfa. Nid y Gymdeithasfa Chwarterol reolaidd chwaith, canys yn y Bala ymhen y pymthegnos y cynhelid hono. Ond "Cymdeithasfa" ydyw yr enw a roddir arni yn yr adroddiad a anfonodd Mr. Emrys Evans, a adnabyddid yn ddiweddarach fel y Parch. Emrys Evans, i'r Drysorfa (1836 t.d. 284). Pregethid, oddieithr am 6 bore yr ail ddydd, yn yr awyr agored yn Nghae bach y Gwindy—y cae y mae New Street yn awr yn myned trwyddo. Y gweinidogion oeddynt William Brown. Mynwy; Hugh Edwards, Llandderfel: Rees Jones, Lledrod; Isaac Williams, Llanbrynmair; William Roberts, Amlwch: Cadwaladr Owen, Dolyddelen; Richard Jones, Bala; William Morris, Carmel (Rhuddlan yn ddiweddarach), a Roger Edwards, Wyddgrug. Ac ymhen pedair blynedd a haner, sef Ion. 6, 7, 8. 1841, cawn fod Cymdeithasfa Chwarterol yn cael ei chynal yma; ac un arall drachefn, Rhagfyr 22 a'r 23, 1842, ymhen llai na dwy flynedd, a sonir llawer am hono hyd heddyw gan y rhai sydd yn fyw o'r sawl oedd ynddi, oherwydd yr odfa ryfedd a gafodd y Parch. Hugh Jones, Llanerchymedd, 6 o'r gloch fore y diwrnod olaf. Er fod y Parch. Henry Rees, ac eraill o oreuon pregethwyr y Cyfundeb yn y Gymdeithasfa, am bregeth y Parch. Hugh Jones yn benaf, os nad yn unig y sonid ar ol i'r cyfarfodydd fyned heibio. O'r adeg hono ymlaen, cymerodd y frawdoliaeth yn Abergele y cyfrifoldeb yn eu tro o gynal y Gymdeithasfa pa bryd bynag y rhoddwyd iddynt y fraint o'i derbyn.


Nodiadau[golygu]