Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc/Llanddulas

Oddi ar Wicidestun
Llysfaen Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc

gan Thomas Williams, Brynydon


golygwyd gan Francis Jones, Abergele
Pen Bryn Llwyni a'r Morfa

BEULAH, LLANDDULAS.

GAN Y DIWEDDAR MR. THOMAS WILLIAMS, BRYNYDON, GYDAG YCHWANEGIADAU GAN Y GOLYGYDD.

ADEILADWYD y capel cyntaf i'r Methodistiaid yn yr ardal hon yn 1844—5, ar brydles o un mlynedd ar hugain, a phunt yn y flwyddyn o ground rent. Cafwyd cynorthwy rhad gan amryw o'r ffermwyr cymydogaethol i gario defnyddiau ato, ac felly nid oedd y draul ond oddeutu trigain punt. Wedi i'r brydles ddod i ben telid ardreth o bum' punt y flwyddyn; a gwnaed hyny am namyn un deugain mlynedd.

Y prif symudydd ynglyn â'r capel hwn oedd Robert Roberts, o'r Geuffos,—mab i'r gwr o'r un enw ac o'r un lle y coffeir am dano yn rhestr blaenoriaid Abergele. Yr oedd efe wedi cael mwy o fanteision addysg na'r cyffredin yn y dyddiau hyny; yn wr cadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yn dduwinydd da. Efe am flynyddau oedd yr unig flaenor. Yn gydweithwyr âg ef yr oedd John Jones, o'r Bryngwyn, ger Plasnewydd: Robert Hughes, o'r Lodge, Tanyrogo: a John Hughes, Fforddhaiarn. Bu J. Jones a R. Hughes yn arwain y gân am flynyddoedd, y naill yn niffyg y llall. Y mae un arall na ddylid myned heibio iddi heb wneyd coffa parchus am ei henw, sef Mrs. Hughes, Ty Ucha; modryb chwaer ei fam i'r diweddar Barch. Thomas Gee. Dinbych. Yr oedd hi yn foneddiges wir grefyddol, wedi cael diwylliant uwch, ac yn rhagori mewn nerth meddwl ar y lliaws o'i chymydogion. Yr oedd hefyd yn dra haelionus a gwir ofalus am yr achos yn ei holl ranau. Yn y Ty Ucha y lletyai y pregethwyr bob amser. "Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth." Yr oedd ei phriod hefyd yn wr dichlynaidd ei foes, ac yn wrandawr cyson, ond ni bu erioed yn aelod eglwysig.

Dyma y prif rai fu yn cychwyn achos y Methodistiaid yn Llanddulas. Cyn adeiladu capel Beulah arferai Robert Roberts a Mrs. Hughes fyned i gapel Llysfaen; a'r pryd hwnw cynhelid cyfarfodydd gweddio ar adegau yn y Ty Ucha.

Tua'r adeg yma daeth gwr o'r enw Edward Williams, a fuasai yn gadben gwaith mwn, o Gilcen, i fyw gyda'i fab yn y Pant, sydd yn awr yn adfeilion, ger Garthgogo. Bu hefyd yn gynorthwy sylweddol i'r achos yn Llanddulas. Yn gymaint a bod Beulah yr adeg hono, ac am lawer blwyddyn ar ol hyny, sef o 1845 hyd 1874, yn daith Sabbothol gydag Abergele, ac na cheid ond un bregeth bob Sabboth, a hono am ddau o'r gloch, gofynid yn achlysurol i Edward Williams roddi gair o gyngor. Yr oedd efe wedi bod yn pregethu yn gymeradwy am flynyddau, ond wedi ei atal oherwydd yfed i ormodedd. Eithr yn y Diwygiad Dirwestol yn 1835 adferwyd ef i fod yn llwyr ymwrthodwr, ac yn areithiwr gwresog ar Ddirwest; ond nid ymddengys y gwnaeth gais o gwbl am gael ail ddechreu pregethu. Oherwydd hyny, geiriau gochelgar Robert Hughes, y Lodge, wrth ei gyhoeddi ef fyddent, "Heno, bydd Edward Williams yn dweyd gair neu ddau." Yma dylid crybwyll mai Mr. Henry J. Roberts, Manchester House, Abergele, a gymerai y drafferth yn ddidraul i bawb ond efe ei hun, i gludo y pregethwr o'r dref i Llanddulas ac yn ol, tra y bu y ddau le yn daith.

Dywedasom mai un bregeth a gaem yma bob Sabboth, ond nid anfantais o bob cyfeiriad oedd hyny. Oherwydd ein cysylltiad â'r dref, yr oedd yr un hono yn fynych gan rywun o brif bregethwyr y Cyfundeb. Hwyrach y dylasem fod wedi dweyd cyn hyn mai y Parchn. Henry Rees a John Hughes (hynaf), Liverpool, fu yn gweinyddu yn agoriad y capel hwn, pryd y traddodai Mr. Rees ei bregeth ryfeddol ar "werthfawr waed Crist," gydag arddeliad neillduol. Ac heblaw hyny, os un odfa a gaem, bu hyn yn achlysur i godi tô o ddarllenwyr a gweddiwyr cyhoeddus na chawsid eu cyffelyb oni buasai yr angenrhaid a osodid arnynt i ymbarotoi trwy fyfyrdod ac ymarferiad. Dau amlwg ymysg y cyfryw oedd David Davies, y Gadlas, a David Hughes, y Cwymp.

Yn 1874, modd bynag, gwnaed cyfnewidiad yn nhrefn y daith. Yr oeddys er's tro cyn hyny yn cael pregethwr i fod yma yn unig, tuag un Sabboth o bob mis. Ond yn y flwyddyn a nodwyd, trwy ganiatad a chynorthwy arianol y Cyfarfod Misol, anturiwyd i ymysgar oddiwrth Abergele, ac ymgysylltu yn daith gyda Llysfaen, fel ag i gael dwy odfa bob yn ail Sabboth. Yn daith gyda'r Bettws y buasai Llysfaen hyd hyny, ac yn cael un odfa bob Sabboth gan y sawl fyddai yn pregethu yno. Yr oedd amryw deuluoedd parchus yn perthyn i Beulah yr adeg yma, ac agorodd saith o honynt eu drysau ar unwaith i letya y pregethwyr—pob teulu ei fis. Yn wir, yr oedd yr achos yn ei holl ranau y blynyddoedd hyny yn dra lewyrchus. Trwy ymroad a medr Mr. J. T. Jones, yn awr o Bodaled, Rhyl, yr hwn yn wr ieuanc gweithgar oedd yn byw yma ar y pryd. Beulah, Llanddulas, oedd un o'r lleoedd cyntaf os nad y cyntaf oll yn yr amgylchoedd hyn i ymgymeryd ag astudio cerddoriaeth yn ol cyfundrefn y Tonic Sol—ffa. A thrwy y symbyliad a dderbyniwyd oddiwrth ieuenctyd y lle hwn, y cymhellwyd Llysfaen, Colwyn a'r Bettws i wneyd yr un peth.

Naturiol gan hyny yw gofyn, Pa fodd na buasai yr achos yn y lle yma yn dal ei ffordd ac yn llwyddo yn amgenach? Yr ateb yw, yn ol pob golwg ddynol, mai bychandra y capel, ac o'r diwedd ei stad adfeiliedig, oedd y prif os nad yr unig achosion. Eisteddleoedd i bedwar ugain yn unig oedd ynddo ar y cyntaf. Meddyliwyd am ei helaethu mor gynar a 1859, ymhen deg mlynedd wedi ei adeiladu; ac ymgymerodd pedair merch ieuanc a theithio yr ardaloedd o afon Clwyd hyd afon Conwy, a phellach na hyny, i gasglu at yr amcan. Diau na raid ymesgusodi am gadw eu henwau rhag myned ar goll—Miss Caroline Hughes (Mrs. William Williams, Ffynhonau, Abergele), a'i chwaer Miss. Emma Hughes (Mrs. Thomas Jones, Esmore House, Abergele), merched Mr. Robert Hughes, y Lodge; a Miss Jane Hughes (Mrs. Roberts, Llysfaen). llysferch Mr. Robert Jones, un o'r blaenoriaid, a Miss Ellen Williams (Mrs. Robert Davies), chwaer i'r blaenor adnabyddus Mr. Thomas Williams, a fu farw yn ddiweddar; a llwyddasant i gasglu swm sylweddol. Ond oherwydd anhawsder gyda'r brydles ac hwyrach rai pethau eraill, ni wnaed dim yn rhagor y pryd hwnw gyda'r capel na gosod un cor yn ychwaneg ynddo. Syn yw adrodd y buwyd am ddeugain mlynedd neu fwy yn methu cael tir i adeiladu capel newydd arno. O'r diwedd, modd bynag, yn 1904 cafwyd prydles am gan' mlynedd ond un, ar y tir y safai yr hen adeilad arno, gyda chwanegiad ato—y ground rent yn bum' punt y flwyddyn. Erbyn hyn y mae addoldy hardd, cadarn a chyfleus, gyda thy ac ystafell i gynal Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd eraill yn ystod yr wythnos wedi eu codi. y rhai a gostiodd yn agos i £1,600 Cynhaliwyd y cyfarfod agoriadol Gorphenaf y 6ed a'r 7fed, 1905. Pregethwyd ynddo y waith gyntaf nos Iau y 6ed, gan y Parch. Francis Jones, Abergele, a thranoeth gan y Parchn. Robert Williams. Tywyn; John Roberts, Warren Road. Rhyl, a D. Tecwyn Evans, B.A. (W). Y blaenoriaid a fu yma o ddechreuad yr achos hyd yn awr yw y rhai canlynol:—

YMADAWEDIG:

Mr. Robert Roberts, y Geuffos.
John Hughes, Ffordd Haiarn.
John Jones, Bryngwyn.
Robert Jones, Y Waen.
David Davies, Gadlas.
William Hughes, Bronydon.
Thomas Williams, Bronydon, 1873—1907.

Mr. Thomas Williams, yr olaf ar y rhestr uchod, yn ddiau a wnaeth fwyaf o wasanaeth i'r eglwys ac i'r ardal hon o neb o honynt. Yr oedd amlder y swyddi cyhoeddus a ddaliai yn brawf o'r ymddiriedaeth lwyr a feddai ei gymydogion ynddo fel gwladwr, ac ni siomwyd hwynt erioed ganddo. Fel crefyddwr, bu yn flaenor yn eglwys Beulah am bedair blynedd ar ddeg ar hugain, ac yn arweinydd y gân am o leiaf bymtheg ar hugain. Efe hefyd oedd ysgrifenydd yr eglwys er's blynyddau lawer, ac y mae trefnusrwydd y cyfrifon a gedwid ganddo o flwyddyn i flwyddyn o dderbyniadau a thaliadau yr eglwys, ei gofnodion destlus o'r gohebiaethau, &c., ynglyn ag adeiladaeth y capel newydd, gan gynwys y copi o'r brydles, yn ddrych lafur, gofal, medr a doethineb tra eithriadol. Colled anrhaethol i'r eglwys fechan hon, ac i ardal Llanddulas yn gyffredinol oedd marwolaeth gwr o gymeriad mor gyflawn a phur. Cymerodd hyny le yn y Royal Infirmary, Liverpool, nos Fawrth, Rhagfyr 10fed, 1907, ar ol bod dan driniaeth lawfeddygol, a chladdwyd ef yn mynwent y plwyf, Llanddulas, y Sadwrn dilynol, ynghanol arwyddion o alar diffuant.

YN AWR YN FYW:

Mr. J. T. Jones, yn awr o Rhyl. Bu yma o 1868-1875.
Edward Jones.
John Williams.
Owen Hughes.
John R. Evans.


Ceir enwau y gweinidogion a lu yma yn fugeiliaid, ynglyn a hanes Bethel, Llysfaen.


Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Llanddulas
ar Wicipedia


Nodiadau[golygu]