Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc/Y Pregethwyr fu yma yn Cartrefu

Oddi ar Wicidestun
Yr Ysgol Sabbothol Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc

gan Francis Jones, Abergele

Blaenoriaid

PENNOD V.

Y Pregethwyr fu yma yn Cartrefu.

GAN fod hanes pob un o'r rhai hyn eisoes yn argraffedig, nid oes achos am nemawr mwy yn y nodiadau canlynol na choffa amser ac yspaid eu cysylltiad a'r lle ac a'r eglwys hon.

THOMAS LLOYD.—Brodor o Gyffylliog ydoedd efe. Ganwyd ef yn 1776. Yn 1794 agorodd Ysgol Ddyddiol yn Llansantsior. Safle ei ysgoldy yno oedd y man y mae Mausoleum teulu Kinmel arno yn awr. Tra yno yr ymunodd â'r eglwys fechan yn y Bryngwyn, ac ymhen dwy neu dair blynedd dechreuodd bregethu. Symudodd, a'i ysgol gydag ef, i Abergele yn 1799, ac yma ar ol hyny y cartrefodd. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn y Bala, Mehefin 15, 1819. Oherwydd ei ddyledswyddau ynglyn a'r ysgol ni theithiodd ond ychydig i bregethu ar hyd a lled y dywysogaeth; ac am y 25 mlynedd diweddaf ei oes, ni theithiodd ddim o gwbl. Nid ei deithiau ac nid ei dalentau a'i gwnaeth ef yn wr mor gyhoeddus, ond ei lafur dyfal, maith a llwyddianus fel ysgolfeistr, a'i gymeriad crefyddol, diarebol lednais a phur. Mae yn debyg na welodd Abergele neb erioed o'i mewn yn llai ei frychau nag ef, na neb a fu o fwy o wasanaeth i'r achos crefyddol. Wrth weddio drosto yn ystod ei waeledd diweddaf, adroddir i un o'r brodyr—yr hynod William Mark—ddweyd yn symledd ei galon, "O! Arglwydd, cofia ein brawd, dy was, yn ei gystudd, a maddeu iddo ei bechodau, os oes ganddo bechodau hefyd. Ni wyddom ni am neb a chan lleied o honynt ag ef. Pa fodd bynag ni wn i ddim." Ac ysgrifenai y Parch. Henry Rees am dano yn y Traethodydd (1853. 231—260), "Mi a'i hanrhydeddwn ef fel tad: mi a'i hoffwn ef fel yr hoffir plentyn bychan diddichell; a thra y glynai fy enaid wrtho fel brawd anwyl, eto yr oeddwn yn teimlo rhyw fodd fel pe buasai honi brawdoliaeth a'r fath wr yn honi gormod o gydraddoldeb." Dioddefodd lawer oddiwrth amrywiol anhwylderau, ond yr hyn a derfynodd ei oes oedd cancer yn y wyneb. Daeth ei fywyd defnyddiol i ben Gorphenaf 15. 1848, yn y Bryndedwydd, yn y Street Uchaf, ac efe yn 72 mlwydd oed. Claddwyd ef yn y fynwent blwyfol, mewn hiraeth mawr a chyffredinol am dano, a gosodwyd cofadail hardd ar ei fedd.

HENRY REES. Wedi dechreu pregethu yn Ebrill. 1819, daeth yma i fod dan addysg y Parch. Thomas Lloyd yn Gorphenaf yr un flwyddyn, a bu yma hyd Mehefin, 1821. Yna aeth i'r Amwythig i ddysgu rhwymo llyfrau; ond fel y dywedai ei frawd, y Parch. William Rees am dano, "Y llyfrau yn hytrach a'u rhwymodd ef." Gwelodd y brodyr perthynol i'r eglwys fechan oedd yno ei werth, a gwahoddasant ef i roddi heibio ei alwedigaeth, a dyfod yn weinidog iddynt hwy, yr hyn a wnaeth nes y symudodd i Liverpool yn 1837. Ordeiniwyd ef yn 1827. Bu farw yn y Benarth, ger Conwy, Chwefror 18, 1869, yn 72 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llandysilio, Mon. Efe yn ddiau, a chymeryd ei holl ragoriaethau i ystyriaeth, oedd y pregethwr efengyl perffeithiaf a welodd Cymru erioed.

EMRYS EVANS.—Ganwyd a magwyd ef yn Mronyberllan, gerllaw y dref hon. Dechreuodd bregethu yn 1837, pan yn 26ain oed, ac yr oedd wedi ei ddewis yn flaenor er's rhyw gymaint cyn hyny. Symudodd ymhen nifer o flynyddoedd o Fronyberllan i'r Llwyni, ac oddiyno i Cotton Hall, ger Dinbych. Bu am yspaid wedi dechreu pregethu dan addysg Dr. Edwards a Dr. Charles yn Athrofa y Bala, ac — efe oedd un o'r myfyrwyr cyntaf; a dywedai Dr. Edwards am dano ddydd ei gladdedigaeth na bu neb yn y sefydliad hwnw a enillodd iddo ei hun fwy o barch. Ordeiniwyd ef yn 1840. Bu farw, Mai 10, 1882, yn 71 mlwydd oed, wedi bod yn un o weinidogion mwyaf cymeradwy Sir Ddinbych am 45 mlynedd. Efe oedd Llywydd Cymdeithasfa y Gogledd am 1878.

JOHN FOULKES.—Ganwyd ef yn Henllan yn 1803. Dechreuodd bregethu pan tua 18 oed. Bu yn byw yn y Bontuchel a'r Bettws cyn symud i Abergele. Daeth yma yn 1837. Ordeiniwyd ef yn 1838. Bu yn cadw masnach dilledydd (draper) am ysbaid; ac ar ol rhoi y fasnach i fyny bu yn cartrefu yn Tanygoppa, gerllaw y dref, hyd 1847, pryd y symudodd i Liverpool. Ymadawodd oddiyno drachefn i Ruthin yn 1862, lle y bu farw, Ebrill 20, 1881, yn 78 mlwydd oed. Y mae ei fedd yn mynwent blwyfol Abergele. Ysgrifenodd ef gryn lawer i'r wasg yn ei ddydd; a bu yn Ysgrifenydd y Gymdeithasfa o 1831 hyd 1838.

JOSEPH EVANS.—Brodor oedd ef o Ddinbych. Galwyd ef, fel y crybwyllwyd eisoes, i fod yn fugail ar yr eglwys hon; ond wedi ymsefydlu yn y lle, bu raid iddo ymhen mis neu bum' wythnos ddychwelyd adref i farw. Cymerodd hyny le Mehefin 11, 1860, ac efe yn 26 oed. Yr oedd efe yn wr ieuanc o gymeriad nodedig o brydferth.

HUGH HUGHES, PENSARN. Symudodd oddiyma i Liverpool, ac yno y bu farw.

WILLIAM ROPERTS.—Ganwyd ef yn ardal y Carneddi, Arfon Dechreuodd bregethu pan tuag 20 oed. Bu am ddwy flynedd yn Athrofa y Bala. Ar ol hyny bu yn cadw ysgol yn ardal Salem, ger Llanrwst, ac wedi hyny yn gwneyd yr un gwaith, ac yn gofalu am yr eglwys yn Nhywyn, Dyffryn Clwyd. Yn 1860 galwyd ef yn fugail ar yr eglwys yn Abergele, yn olynydd i Mr. Joseph Evans. Ordeiniwyd ef yn 1861. Coffawyd eisoes am y gwaith da a wnaeth efe yma ac mewn manau eraill. Yr oedd efe yn ddiau yn wr da, llawn o ffydd, ac o'r Ysbryd Glan, a llawer o bobl a chwanegwyd i'r Arglwydd drwyddo. Bu farw Gorphenaf 20, 1886, yn 57 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent blwyfol Abergele.

HUGH HUGHES, BRYNHYFRYD. Gwr oedd efe a ystyrid yn ddiamheuol yn un o gedyrn y pulpud. Ganwyd a magwyd ef yn Llanrwst. Yr oedd yn fab i'r pregethwr da, sylweddol a chymeradwy, Mr. David Hughes, o'r dref hono, ac yn ŵyr o du ei fam i bregethwr cymeradwy arall, sef Mr. Humphrey Edwards, Bala. Bu am dymor gweddol faith yn ei ieuenctyd dan addysg y Parch. Thomas Lloyd. Dechreuodd bregethu pan tua 23 oed. Ordeiniwyd ef yn 1828. Yr oedd natur a gras wedi cytuno i'w addurno a chymhwysderau eithriadol at waith y weinidogaeth. Llanwodd le mawr, a hyny am oes faith, yn ei Gyfarfod Misol ei hun; ac, o ran cymhwysderau, gallasai lanw lleoedd anrhydeddusaf y Gymdeithasfa. Ond ni fynai. Er ei waethaf y gosodwyd ef yn Gadeirydd y Gymdeithasfa am y blynyddoedd 1859—60. Bu farw Chwefror 1, 1860, yn 74 oed, a chladdwyd ef yn mynwent capel y Methodistiaid yn Llanrwst.

ROBERT ROBERTS.—Daeth yma yn 1864 trwy briodi merch y Parch. H. Hughes, Brynhyfryd. Ganwyd ef yn Prion. Dechreuodd bregethu yn 1844. Wedi bod am rai blynyddau yn y Bala, cychwynodd Ysgol Ramadegol yn Rhyl. Ordeiniwyd ef yn 1853. Yn 1855 derbyniodd wahoddiad i fugeilio eglwys Seion, Llanrwst, lle y bu hyd 1862 yn ddedwydd a defnyddiol; ond oherwydd stad ei iechyd rhoddodd ei fugeiliaeth yno i fyny, a symudodd i ddechreu i'w hen gartref yn Prion, yna i Gonwy, o'r hwn le y daeth i'r dref hon. Yn 1875 derbyniodd alwad eglwys. Salem, Dolgellau, i ddyfod yn fugail iddi, lle y bu hyd ddiwedd ei oes. Bu farw yn dra disymwyth yn Aberystwyth, Medi 23, 1889, a chladdwyd ef yn mynwent Salem, Dolgellau. Ni charodd neb erioed ei enwad yn fwy nac y carai ef Fethodistiaeth; a gwnaeth ei ran i berffeithio ei holl drefniadau. Ysgrifenodd a chyhoeddodd gyfrol ar Elfenau Methodistiaeth. Bu am flynyddau yn Ysgrifenydd Athrofa y Bala; a pharotoi Hanes y Coleg yr oedd pan ddaeth y diwedd. Fel pregethwr yr ydoedd yn feddylgar a choeth, ac eto yn ymarferol; a derbyniodd bob swydd ac anrhydedd oedd gan ei Gyfundeb i'w roddi iddo.

NATHANIEL CYNHAFAL JONES, D.D.—Ganwyd ef yn Gellifor, Llangynhafal, yn 1832. Dechreuodd bregethu yn 1859. Ordeiniwyd yn 1866. Bu yn weinidog yn Adwy'rclawdd, Penrhyndeudraeth, Llanidloes, ac Engedi, Colwyn Bay. Yr oedd ef, heblaw bod yn bregethwr rhagorol, yn llenor a bardd o gryn fri. Golygodd argraffiad newydd o weithiau Williams, Pantycelyn. Cyhoeddodd hefyd gyfrol o farddoniaeth ar Fywyd Iesu Grist," ac amryw lyfrynau llai. A bu yn olygydd y Drysorfa am bum' mlynedd. Yn Hydref, 1902, rhoddodd ei fugeiliaeth i fyny yn Ngholwyn Bay, a symudodd i gartrefu i Abergele, ac oddiyma drachefn i Flaenau Ffestiniog yn Mai, 1905, lle y bu farw y 14 o Ragfyr dilynol, a chladdwyd ef yn mynwent capel y Methodistiaid yn Abergele. Gwr anwyl iawn oedd efe. O ran nodwedd ei feddwl tebygai yn fawr i'w hoff Ddyffryn Clwyd, eang, ffrwythlawn a phrydferth. Yn 1889 anrhydeddodd Prifysgol Wooster, Ohio, ef a'r gradd o D.D.

ROBERT AMBROSE JONES.—Brodor oedd ef o Abergele. Ganwyd ef yn 1851. Dechreuodd bregethu yn 1868. Wedi bod dair neu bedair blynedd yn y Bala, dychwelodd adref i ddilyn ei efrydiau ac i bregethu ar y Sabbothau. Ei hoff waith oedd astudio ieithoedd. Gallai siarad y Ffrancaeg a'r Germanaeg gyda graddau o hwylusdod; a meddai gydnabyddiaeth helaeth â'r Ysbaenaeg a'r Italaeg. Darllenai lawer ar lenyddiaeth y Cyfandir. Yr oedd yn gymeriad hollol ar ei ben ei hun Ysgrifenai mewn orgraff, a phregethai mewn arddull gwahanol i bawb arall. Araf y cyfansoddai Cymerai drafferth fwy na mwy yn enwedig gyda'i bregethau. Ordeiniwyd ef yn 1883 Yn 1885 symudodd i Swyddfa Mr. Gee, Dinbych, lle y bu am ddwy flynedd. Wedi hyny bu yn weinidog yn y Tabernacl, Rhuthyn; Trefnant, a Rhydycilgwyn. Bu farw yn y lle olaf a enwyd Ionawr 7, 1906.

WILLIAM ROWLANDS.—Ganwyd ef yn nhy capel y Ty-mawr, Mon, yn y flwyddyn 1837. Dechreuodd bregethu yn Nowlais, Morganwg, tua'r flwyddyn 1860. Bu am ysbaid yn Ngholeg Trefecca, ac wedi hyny yn y Bala. Yn ganlynol i hyn bu yn cartrefu mewn amryw fanau—Llangristiolus, Llanarmon yn Iâl, lle yr oedd pan ordeiniwyd ef yn 1873; yna am ychydig amser yn Bontuchel, o'r hwn le y symudodd i'r Tywyn, Abergele, tua'r flwyddyn 1886, lle y treuliodd weddill ei oes. Cymeriad tawel ydoedd: Ni pharai glywed ei lef yn yr heol." Meddianai fesur nid bychan o arabedd, ac yr oedd yn gofiadur rhagorol. Cofiai ymddiddanion, sylwadau a dyddiadau gyda rhwyddineb. Yr oedd yn ysgrythyrwr cadarn, yn dduwinydd da, ac yn bregethwr buddiol, a chafodd rai odfeuon tra grymus. Chwech neu saith mlynedd cyn diwedd ei oes cafodd darawiad o'r parlys, ac analluogwyd ef i fyned o amgylch megis cynt. Bu farw Mai 13, 1906, pan ar fin cyraedd ei naw a thrugain oed, a chladdwyd ei weddillion yn mynwent capel Abergele.

Am y gweddill o'r pregethwyr sydd yn awr, ac wedi bod mewn cysylltiad a'r Methodistiaid yn y dref hon, gan eu bod yn aros hyd yn hyn," nid ymhelaethir am danynt hwy.

——————

ELLIS W. EVANS, M.A.—Ganwyd ef yn Liverpool, ac yno y dechreuodd bregethu yn 1864. Ordeiniwyd ef yn 1873. Bu yn fugail yr eglwys Saesnig yn Mhensarn o 1880 hyd 1902.

FRANCIS JONES.—Ganwyd ef yn Llangadfan, Sir Drefaldwyn. Dechreuodd bregethu yn 1855. Ordeiniwyd yn 1860. Bu yn weinidog cyn dyfod yma yn Bethesda (Blaenau Ffestiniog), Aberdyfi, a'r Waenfawr. Ymsefydlodd yma yn Hydref, 1883.

EDWIN PETER JONES, B.A.—Mab yw efe i'r Parch. Francis Jones. Ganwyd ef yn Aberdyfi. Dechreuodd bregethu yn Abergele yn 1890. Ordeiniwyd ef yn 1896. Bu yn weinidog am ddwy flynedd yn eglwys Hermon, Llandegai; ac o Ionawr, 1897, hyd Medi, 1904, yn eglwys Saesneg Princes Road, Upper Bangor. Oddiyno symudodd i Blasnewydd, Caerdydd.

EDWIN ROWLANDS.—Genedigol o'r dref hon. Dechreuodd bregethu yn 1893. Ordeiniwyd ef yn 1898 i fyned yn Genhadwr i Fryniau Lushai, India.

JOHN KNOWLES JONES.—Ganwyd ef yn Mangor. Dechreuodd bregethu yn 1887. Ordeiniwyd ef yn 1900. Daeth yma y waith gyntaf trwy briodi yn 1896. Bu yn cartrefu yn Rhyl o 1897 hyd 1906, ac yn fugail yn Warren Road am chwech mlynedd o'r cyfnod hwnw. Yn y flwyddyn olaf a enwyd daeth i gartrefu i Abergele drachefn.

JOHN HENRY DAVIES.—Brodor yw ef o'r Trallwm, Swydd. Drefaldwyn. Dechreuodd bregethu yn 1888. Ordeiniwyd yn 1897. Ei fugeiliaeth gyntaf oedd Ewloe Green a Northop Hall. Bu yno o 1895 hyd 1906, pryd y symudodd i gymeryd. gofal yr eglwys Saesneg yn Mhensarn.


Nodiadau[golygu]