Defnyddiwr:AlwynapHuw/Pwll Tywod

Oddi ar Wicidestun
Defnyddiwr:AlwynapHuw/Pwll Tywod

gan AlwynapHuw


wedi'i gyfieithu gan Cyfieithydd
golygwyd gan Golygydd
ail ran
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Teitl (testun cyfansawdd)

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Awdur
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Llyfr
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Testun
ar Wicipedia



.

BRUT
y
TYWYSOGION.

CYF. 1.
Rhodri Mawr.
Hywel Dda
Llywelyn ab Seisyll.
Gruffydd ab Llywelyn.
Bleddyn ab Cynfyn.
Rhys ab Tewdwr.
Gruffydd ab Cynan
Gruffydd ab Rhys
Owen Gwynedd.
Owen Cyfeiliog.
Yr Arglwydd Rhys.



SWYDDFA "CYMRU." CAERNARFON.

YSGRIFENNWYD Brut y Tywysogion tua diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac yn ol pob tebyg yn mynachdy Ystrad Filur yng Ngheredigion. Cronicl hanes y Cymry yw, o gwymp teyrnas y Brytaninid, pan fu farw Cadwaladr Fendigaid yn 680, hyd fin cwymp tywysogaeth anibynnol y Cymry, pan laddwyd Llywelyn y Llyw Olaf, yn 1282.

Ceir cipolygon ar brif arwyr y Cymry,— megis Hywel Dda. Llywelyn ab Seisyll, Gruffydd ab Llywelyn, meibion Bleddyn ab Cynfyn. Gruffydd ab Cynan, Gruffydd ab Rhys. Owen Gwynedd, Owen Cyfeiliog, yr Arglwydd Rhys. Llywelyn Fawr, a Llywelyn y Llyw Olaf. Gwelir y gwahanol genhedloedd dyfod yn cyrraedd Cymru—y Saeson, y cynhedloedd duon, ac yn enwedig y Normaniaid a'r Ffleminiaid. A rhoir ambell air i ddweyd am ddyfodiad y mynachod gwynion i'r wlad. Ceir ambell drem, hefyd ar y werin a'i dioddef a'i hamynedd, yn enwedig yng Ngheredigion a Dyfed.

Cyfnod y tywysogion yn unig ddarlunnir yn y cronicl llawn a dyddorol hwn. Cyn hynny, yr oedd ysbryd ymherodraeth Rhufain megis yn teyrnasu arnynt o hyd; wedi hynny, cododd y werin i groesawn Owen Glyndŵr. Yn eu cestyll a'u hymladd a'u hela, rhai dyddorol oeddynt; tywysog, castell a mynachlog oedd tri hanfod bywyd llenyddol, llwyddiannus. difyr. Siaradent bron yr un Cymraeg drwy Gymru, anrhydeddid athrylith yn ogystal a grym. Gwelir nod uchaf eu gwareiddiad yn rhyddiaith y Mabinogion ac yng nghywyddau Dafydd ab Gwilym. Cedwir Brut y Tywysogion mewn cyfrol o lawysgrifau a elwir yn Llyfr Coch Hergest, eiddo Coleg yr lesu, yn Llyfrgell y Bodleian, Rhydychen. Cyhoeddwyd ef yn 1860 gan y Master of the Rolls, dan olygiaeth Ab Ithel çyda dyfyniadau o lawysgrifau ereill,—dwy lawysgrif yr Hengwrt, llawysgrif Cotton a Llyfr Basing. Yn 1890 cyhoeddwyd ef drachefn, dan olygiaeth fwy manwl ac ysgolheigaidd Syr John Rhys a Dr. J. Gwenogfryn Evans. At yr argraffiad diweddaf yr a'r hanesydd a'r ysgolor.

A dyma argraffiad bychan newydd ar gyfer y llenor a'r werin, fel y gallo'r anysgedig ddarllen croniclau hynaf ei wlad. Newidiwyd ychydig ar yr iaith, er hynny nid cymaint ag a newidir ar lyfr Saesneg o'r un oed i'w wneud yn ddealladwy. Gadawyd ychydig hen eiriau da sydd erbyn hyn wedi cilio o Gymraeg ein dyddiau ni; ond esbonnir hwy ar ddiwedd yr ail gyfrol.

Cymer y gyfrol hon ni at yr Arglwydd Rhys, pan yn dywysog ieuanc yn dinistrio cestyll y Normaniaid, a'i haul ar godi. Yn y gyfrol nesaf[1] cawn weled tywysog Cymreig y canol oesoedd yn ei rym a'i urddas mwyaf yn Llywelyn Fawr. Yna gwelir achosion cwymp y tywysogion a chlirio lle i fywyd y werin rydd ddadblygu.


OWEN EDWARDS.


BRUT Y TYWYSOGION.




I.

Colli Teyrnas y Brytaniaid.

[i. Yr Eing! a'r Saeson oedd wedi goresgyn gwastadeddau Britannia yn ymosod ar fynyddoedd ei gorllewin. Offa rhwng Hafren a Gwy. ii. Y cenhedloedd duon yn ymosod o ochr y môr; marw Rhodri Mawr a Hywel Dda. iii. Diffyg undeb; ymdrech Llewelyn ab Seisyllt a Gruffydd ab Llewelyn. iv. Y Normaniaid yn dod.]

 EDWAR ugain mlynedd a whechant oedd oed Crist pan fu y farwolaeth fawr drwy holl ynys Prydain. Ac o ddechreu byd hyd yna ydoedd blwydd yn eisieu o bedwar ugain mlynedd ac wyth cant a phum mil. Ac yn y flwyddyn honno y bu farw Cadwaladr Fendigaid, fab Cadwallon, fab Cadfan, brenin y Brytaniaid, yn Rhufain, y deuddegfed dydd o Fai, megis y proffwydasai Fyrddin cyn na hynny wrth Wrtheyrn Gwrtheneu. Ac o hynny allan y colles y Brytaniaid goron eu teyrnas, ac yr enillodd y Saeson hi.

Ac yn ol Cadwaladr y gwledychodd. Ifor, fab Alan frenin Llydaw, yr hon. a elwir Brytaen Fechan; ac nid megis brenin, namyn megis pennaeth neu dywysgog. A hwnnw a gynhelis lywodraeth ar y Brytaniaid wyth mlynedd a deugain; ac yna y bu farw.

Ac yna yn ol yntau y gwledychodd Rhodri Molwynog, Ac yn oes hwnnw y bu farwolaeth yn Iwerddon. Ac yna y crynodd y ddaear yn Llydaw. Ac yna y bu glaw gwaed yn Ynys Prydain ac Iwerddon. 690[1] oedd oed Crist yna. Ac yna y dymchwelodd y llaeth a'r ymenyn yn waed; a'r lleuad a ymchwelodd yn waedol liw.

700. Bu farw Elffryt, frenin y Saeson.

710. Bu farw Pipin Fwyaf, brenin. Ffreinc. Ac yna cyn oleued oedd y nos a'r dydd. Ac yna bu farw Osbric, brenin y Saeson. A chysegrwyd eglwys Llan Fihangel.

720. Yr haf tesog. Ac yna bu farw. Beli fab Elfin. A bu frwydyr Heilin yng Nghernyw, a gwaith Garthi Maelog, a chad Pencoed yn Neheubarth; ac yn y tair brwydr hynny y gorfu y Brytaniaid.

730. Bu frwydyr ym Mynydd Carn.

740. Bu farw Beda offeiriad. Ac yna bu farw Owen, brenin y Pictiaid.

750. Bu brwydyr rhwng y Brytaniaid a'r Pictiaid yng ngwaith Maesydog, a lladdodd y Brytaniaid Dalargan, brenin. y Pictiaid. Ac yna bu farw Tewdwr fab Beli. A bu farw Rhodri, brenin y Brytaniaid; ac Edbald, brenin y Saeson.

760. Bu brwydr rhwng y Brytaniaid a'r Saeson yng ngwaith Henffordd. A bu farw Dyfnwal fab Tewdwr.

770. Symudwyd Pasg y Brytaniaid, drwy orchymyn Elbod, gŵr i Dduw. Ac yna bu farw Ffernfail fab Idwal; a Chubert abad. A bu distryw y Deheubarthwyr gan Offa frenin.

780. Diffeithiodd Offa frenin y Brytaniaid yn amser haf.

790. Daeth y paganiaid gyntaf i Iwerddon. A bu farw Offa frenin; a Meredydd, brenin Dyfed. A bu frwydyr yn Rhuddlan.

800. Lladdodd y Saeson Garadog, brenin Gwynedd. A bu farw Arthen brenin Ceredigion. A bu diffyg ar yr haul. A bu farw Rhein frenin; a Chadell, brenin Powys; ac Elbod, archesgob Gwynedd.

810. Duodd y lleuad ddydd Nadolig. A llosged Mynyw. A bu farwolaeth yr anifeiliaid ar hyd ynys Prydain. A bu farw Owen fab Meredydd. A llosged Deganwy o dân myllt. A bu frwydyr rhwng Hywel a Chynan; a Hywel a orfu. Ac yna bu daran fawr; a gwnaeth lawer o losgfâu. A bu farw Tryflin fab Rhein; a llas Griffri, fab Cyngen, o dwyll Elise ei frawd. A gorfu Hywel o Ynys Fon, a gyrrodd Gynan ei frawd o Fon ymaith, gan ladd llawer o'i lu; ac eilwaith gyrrwyd Hywel o Fon. Bu farw Cynon frenin; a diffeithiodd y Saeson fynyddoedd. Eryri, a dygant frenhiniaeth Rhufoniog, A bu waith Llan Faes. A diffeithiodd Cenwlf frenhinaethau Dyfed.



PENMAEN MAWR.

820. Distrywiwyd castell Deganwy gan y Saeson. Ac yna dwg y Saeson frenhiniaeth Powys yn eu meddiant A bu farw Hywel.

830 Bu diffyg ar y lleuad yr wythfed. dydd o fis Rhagfyr. A bu farw Satubin, esgob Mynyw.

810. Gwledychodd Meurig esgob ym Mynyw. A bu farw Idwallon. A bu gwaith Cetyll. A bu farw Merfyn. A bu waith Ffinant. A llas Ithel, brenin Gwent, gan wyr Brycheiniog.

850. Llas Meurig gan y Saeson, a thagwyd Cyngen gan y cenhedloedd, a diffeithiwyd Mon gan y cenhedloedd duon. A bu farw Cyngen, brenin Powys, yn Rhufain. A bu farw Ionathal, tywysog Abergele.

860. Gyrrwyd Cadweitheu ymaith. A bu farw Cynan Fant Nifer. A diffaethiwyd Caer Efrog yng nghad Dubcynt.

870. Bu cad Cryn Onnen, a thorred. Caer Alclud gan y paganiaid. A boddes Gwgawn, fab Meurig, brenin Ceredigion. A bu waith Bangolau, a gwaith Menegyd ym Mon. A bu farw Meurig, esgob bonheddig a chymerth Lwmbert esgobaeth Fynyw. A boddes Dwrngarth frenin Cernyw. A bu waith duwSul ym Mon; a llas Rhodri a Gwriad ei frawd gan y Saeson. A bu farw Aedd fab Mellt.

880. Bu waith Conwy, i ddial Rhodri o Dduw.

890. Bu farw Subni, y doethaf o'r Ysgotiaid. Ac yna daeth y Normaniaid duon eilwaith i Gastell Baldwin. A bu farw Heinuth fab Bledri. Ac yna daeth Anarawd i ddiffeithio Ceredigion ac Ystrad Tywi. Ac yna diffeithiodd y Normaniaid Loegr, a Brycheiniog, a Morgannwg, a Gwent, a Buallt a Gwynllwg. Ac yna diffygiodd bwyd yn Iwerddon; canys pryfed o nef a ddigwyddodd, ar waith gwadd, a deu-ddant bob un, a'r rhai hynny a fwytaodd yr holl ymborth, a thrwy ympryd a gweddi y gwrthladdwyd. Ac yna bu farw Elstan frenin, ac Alfred frenin Iwys.

900. Daeth Igmwnd i Ynys Fon, a chynhaliodd faes Rhos Meilon. Ac yna llas mab Merfyn gan y genedl, a bu farw Llywarth fab Hennyth, a llas pen Rhydderch fab Hennyth dduw-gwyl Bawl. A bu waith Dineirth, yn yr hwn y las Maelog Cam fab Peredur. Ac yna dilewyd Mynyw. A bu farw Gorchwyl esgob; a bu farw Corfog, brenin ac esgob holl Iwerddon, gŵr mawr ei grefydd a'i gardod. Mab i Gulenan a las o'i fodd mewn brwydr. A bu farw Cerwallt, fab Mureson frenin Lnangesy, o geugant ddiwedd. A bu farw Asser, arch esgob ynys Prydain, a Chadell fab Rhodri.

910. Daeth Other i ynys Prydain. Bu farw Anarawd fab Rhodri brenin y Brytaniaid. A diffeithiwyd Iwerddon a Mon gan bobl Dulyn. A bu farw Edelfilled frenhines. A las Clydog fab Cadell gan Feurig ei frawd. A bu farw Nereu esgob. A bu waith y Dinas Newydd.

920. Aeth Hywel Dda frenin, fab Cadell, i Rufain. A bu farw Elen.

930. Llas Gruffydd ab Owen gan wyr Ceredigion. A bu ryfel Brun. A bu farw Hennyrth fab Clydog a Meurig ei frawd. A bu farw Edelstan, brenin y Saeson.

940. Bu farw Abloyc frenin. A Chadell fab Arthfael a wenwynwyd. Ac Idwal fab Rhodri, ac Elised ei frawd, a las gan y Saeson. A bu farw Lwmbert, esgob Mynyw a fu farw. Ystrad Clwyd a ddiffeithiwyd gan y Saeson, A Hywel Dda fab Cadell frenin, pen a moliant yr holl Frytaniaid, a fu farw. A Chadwgan fab Owen a las gan y Saeson. Ac yna bu waith Carno, rhwng meibion Hywel a meibion Idwal.

950. Diffeithiodd Iago a Ieuaf, meibion Idwal, Ddyfed ddwy waith. Ac yna bu farw Dyfnwal a Rhodri, meibion Hywel. Ac yna bu lladdfa fawr rhwng meibion Idwal a meibion Hywel yng ngwaith Llanrwst. A llas Hir Mawr ac Anarawd gan y bobloedd; meibion oedd y rhai hynny i Wriad. Ac wedi hynny. diffeithiwyd Ceredigion gan feibion Idwal. A bu farw Edwyn fab Hywel, a boddes Haeardwr fab Merfyn. A las Congalch brenin Iwerddon, a Gwgawn fab Gwriad. A bu yr haf tesog. A bu dirfawr eira fis Mawrth, a meibion Idwal yn gwledychu. A diffeithiodd meibion Abloce Gaer Gybi a Lleyn.

960. Llas Idwal fab Rhodri. A llas meibion Gwynn. A diffeithiwyd y Tywyn gan y bobloedd. A bu farw Meurig fab Cadfan, a Rhydderch esgob, a Chadwallon fab Owen. Ac yna diffeithiodd y Saeson, ac Alfryd yn dywysog iddynt, frenhiniaethau meibion Idwal. A llas Rhodri fab Idwal, a diffeithiwyd Aberffraw. Ac wedi hynny delis Iago fab Idwal Ieuaf fab Idwal, ei frawd, a charcharwyd Ieuaf, ac wedi hynny ei croged. Ac yna diffeithwyd Gwyr gan Einion fab Owen; a diffeithiodd Marc fab Harold Benmon.

970. Diffeithiodd Gothrie fab Harold Fon, ac o fawr ystryw darostyngodd yr holl ynys. Ac yna cynhullodd Edward brenin y Saeson ddirfawr lynges hyd yng Nghaer Lleon ar Wysg. A gwrthladdwyd Iago o'i gyfoeth, a gwledychodd Hywel drwy fuddugoliaeth. A chlefychwyd Meurig fab Idwal, a bu farw Morgan. Ac yna bu farw Edgar, brenin y Saeson. Ac aeth Dwawallon, brenin Ystrad Clwyd, i Rufain. A bu farw Idwallon fab Einion. Ac eilwaith y diffeithiodd Einion Wyr. A diffeithiwyd Llwyn Celynog Fawr gan Hywel fab Ieuaf a'r Saeson. Ac yna daliwyd Iago. A gorfu Hywel fab Ieuaf, a goresgynwys Iago. A las Idwal. Ac wedi hynny diffeithiodd Cystenyn fab Iago a Gotbric fab Harold Leyn a Mon: ac wedi hynny llas Cystenyn fab Iago gan Hywel fab Ieuaf yn y frwydyr a elwir gwaith Hirbarth.


980. Diffeithiodd Gotbric fab Harold Ddyfed a Mynyw. A bu waith Llanwenog. Ac yna diffeithwyd Brycheiniog a holl gyfoeth Einon fab Owen gan y Saeson, ac Alfryd yn dywysog arnynt. A Hywel fab Ieuaf ac Einon a laddodd lawer o'i lu. Ac yna llas Einion fab Owen drwy dwyll gan uchelwyr Gwent. A bu farw bonheddig esgob. A lladdodd y Saeson Hywel fab Ieuaf drwy dwyll. A llas Ionafal fab Meurig, a Chadwallon fab Ieuaf a'i lladdodd. Cadwallon fab Ieuaf drwy fuddugoliaeth a oresgynnwys ei gyfoeth, nid amgen nag ynys Fon, a Meirionnydd a holl wladoedd Gwynedd o ddirfawr ystryw a challter a ddarestyngodd. Ac yna ysbeiliwyd Llywarch ab Owen o'i lygaid. A diffeithiodd Gotbric fab Harold, a'r llu du ganddo, ynys Fon. A dallwyd dwy fil o ddynion, a'r dryll arall onaddunt. a ddug Meredydd fab Owen gyd ag ef i Geredigion a Dyfed. Ac yna bu farwolaeth ar yr holl anifeiliaid yn holl ynys. Prydain. Ac yna bu farw Ieuaf fab Idwal, ac Owen fab Hywel. A diffeithiodd y cenhedloedd Lanbadarn a Mynyw a Llanilltyd a Llanforgan a Llandudoch. Ac yna llas mab Abloce. A thalodd Meredydd, yn deyrnged i'r cenhedloedd duon, geiniog o bob dyn. A bu dirfawr farwolaeth ar y dynion rhag newyn. Llas Owen fab Dyfnwal. Diffeithiodd Meredydd Faesyfed.

990. Diffeithiodd Edwin fab Einon ac Eclis fawr, tywysog y Seis oddiar foroedd y dehau, holl frenhiniaethau Meredydd, nid angeu Dyfed, a Cheredigion, a Gwyr, a Chylweli; ac eilwaith cymnerth wystlon o'r holl gyfoeth: a'r drydedd waith diffeithiodd Fynyw. A Meredydd a huriodd y cenhedloedd a ddaethant yn eu hewyllys gydag ef, a diffeithiodd wlad Forgan; a Chadwallon ei fab a fu farw. Yna dwg meibion Meurig gyrch byd yng Ngwynedd, a diffeithiwyd ynys Fon gan y cenhedloedd dduw-Iau Dyrchafael. Yna bu dirfawr newyn yng nghyfoeth Meredydd. A bu frwydr rhwng meibion Meurig a Meredydd yn ymyl Llangwm, a gorfu feibion Meurig: ac yno llas Tewdwr fab Einon. Ac yna diffeithiwyd Manaw gan Yswein fab Harold. A llas Idwal fab Meurig. A diffeithiwyd Arthmarcha. A llosged a dibobled Mynyw gan y cenhedloedd; a llas Morgeneu esgob ganddynt. A bu farw Meredydd fab Owen, y clodforusaf frenin y Brytaniaid.

1000. Diffeithiwyd Dulyn gan yr Ysgotiaid. A gwledychodd Cynan fab Hywel yng Ngwynedd. A diffeithiodd y cenhedloedd Ddyfed. A bu farw Morgan fab Gwyn, ac Ifor Porth Talarthi. Ac wedi hynny llas Cynan fab Hywel. A dallwyd Gwliach a Gwriad.

1010. Diffeithiwyd Mynyw gan y Saeson, nid amgen gan Eutris ac Ubis. A bu farw Haearndrud, mynach o Enlli. Ac yna daeth Yswein fab Harold i Loegr, a gyrrodd Eldryd fab Edgar o'i deyrnas, a gwledychodd yn ei gyfoeth, yn yr hwn y bu farw yn y flwyddyn honno. Ac yna cyffroes Brian, brenin holl Iwerddon, a Mwrchath ei fab, a lliaws o frenhinoedd ereill, yn erbyn Dulyn, y lle yr oedd Sitruc fab Abloce yn frenin. Ac yn eu herbyn daeth gwyr Largines, a Mael Mordaf yn frenin arnaddynt, ac ymarfoll a orugant yn erbyn Brian frenin. A huriodd Sitruc gant yn erbyn Brian frenin, ac yna huriodd Sitruc longau hirion arfog, yn gyflawn o wyr llurygog, a Derotyr yn dywysog arnaddynt. Ac wedi bod brwydyr rhyngddynt, a gwneuthur aerfa o bob tu, llas Brian a'i fab o'r naill du, a thywysog y llongau a'i frawd a Mael Morda


MYNACHLOG BASIN.

frenin o'r tu arall. Ac yna llas Owen fab Dyfnwal. Ac yna goresgynodd Cnut fab Yswein frenhiniaeth Loegr a Denmarc a Germania. Ac yna llas Aedan fab Blegywryd, a'i bedwar meib, gan Lywelyn fab Seisyll. A llas Meurig fab Arthfael.

Yna dychmygodd neb un Ysgot yn gelwydd ei fod yn fab i Feredydd frenin, a mynnodd ei alw ei hun yn frenin. A chymerth gwyr y deheu ef yn arglwydd ac i deyrnas, a henw un Rhein. Ac yn ei erbyn rhyfelodd Llywelyn fab Seisyll, goruchel frenin Gwynedd, a phennaf a chlodforusaf frenin o'r holl Frytaniaid. Yn ei amser ef y gnotai hynafiaid. y deyrnas ddywedyd fod ei gyfoeth ef, o'r môr bwygilydd, yn gyflawn o amlder da a dynion, hyd na thebygid bod na thlawd nac eisiwedig yn ei holl wladoedd, na thref wag na chyfle diffyg. Ac yna dug Rhein Ysgot lu yn ddilesg; a herwydd defod yr Ysgotiaid, yn falch syberw, annog a wnaeth ei wyr i ymladd, ac yn ymddiriedus addaw a wnaeth iddynt mai ef a orfyddai. Ac ymgyfarfod a orug yn eofn a'i elynion, ac hwyntau yn wastad ddiofn a orusant y chwyddedig drahaus anogwr hwnnw. Ac yntau yn hy ddiofn a gyrchodd y frwydyr, ac wedi gweithio y frwydyr a gwneuthur cyffredin aerfa o bobtu, a gwastad ymladd, drwy lewder y Gwyndyd, yna y gorfuwyd Rein Ysgot a'i lu. A herwydd y dywedir yn y ddibareb" Annog dy gi ac nac erlid," ef a gyrchodd yn lew eofn, ac a giliodd yn waradwyddus o lwynogol ddefod. A'r Gwyndyd yn llidiog a'i hymlynodd, drwy ladd ei lu a diffeithio ei wlad, ac ysbeilio pob man, a'u distryw hyd y Mars, ac nid ymddanghoses yntau byth o hynny allan. A'r frwydr honno a fu yn Aber Gwili.

Ac wedi hynny daeth Eilad i ynys Prydain, a diffeithiwyd Dyfed, a thorred Mynyw. Ac yna bu farw Llywelyn fab Seisyll; a chynhaliodd Rhyddereli fab Iestin lywodraeth y Deheu. Ac yna bu farw Morgeneu esgob. A llas Cynan fab Seisyll.

1030. Llas Rhydderch fab Iestin gan yr Ysgotiaid. Ac yna cynhaliodd Tago fab Idwal lywodraeth Gwynedd wedi Llywelyn fab Seisyll. A Hywel a Meredydd, feibion Edwin, a gynhalasant lywodraeth y Dehau. Ac yna bu waith Hiraethwy rhwng meibion Edwin gan feibion Cynau. A Charadog fab Rhydderch a las gan y Saeson. Ac yna bu farw Cnut fab Yswein, frenin Lloegr a Denmarc a Germania; ac wedi ei farw ef y ffoes Eilaf hyd yn Germania. Ac yna delis y cenhedloedd Feurig fab Hywel, a llas lago frenin Gwynedd; ac yn ei le yntau gwledychodd Gruffydd fab Llywelyn ab Seisyll, a hwnnw, o'i ddechreu hyd y diwedd, a ymlidiodd y Saeson a'r cenhedloedd ereill, ac a'u lladdodd, ac a'u difaodd, ac o luosogrwydd o ymladdau a'u gorfu. Y frwydyr gyntaf a wnaeth yn Rhyd y Groes ar Hafren, ac yno y gorfu ef. Y flwyddyn honno y dibobles ef Lanbadarn, ac y cynhelis ef lywodraeth Deheubarth, ac y gwrthladdodd Hywel fab Edwin o'i gyfoeth. Ac yna bu farw Henrim, esgob Mynyw. Ac yna bu waith Pencader, a gorfu Ruffydd ar Hywel, a delis ei wraig, ac-a'i cymerth yn wraig iddo ei hun.

1040. Bu frwydr Pwll Dyfach, ac yno y gorfu Hywel y cenhedloedd a oeddynt yn diffeithio Dyfed. Yn y flwyddyn delit Gruffydd gan genhedloedd Dulyn. Ac yna bu farw Hywel fab Edwin, brenin gwlad Forgan, yn ei henaint. Ac yna meddyliodd Hywel fab Edwin ddiffeithio Deheubarth, a llynges o genedl Iwerddon gydag ef, ac yn ei erbyn y gwrthwynebodd iddo Ruffydd ab Llywelyn. Ac wedi bod creulawn frwydr a dirfawr aerfa ar lu Hywel a'r Gwyddyl yn Aber Tywi, y digwyddodd Hywel ac y llas; ac yna gorfu Ruffydd. Ac yna bu farw Ioseff, esgob Teilo, yn Rhufain. A bu dirfawr dwyll gan Ruffydd a Rhys, meibion Rhydderch, yn erbyn Gruffydd fab Llywelyn. Ac yna digwyddodd amgylch saith ugeinwyr o deulu Gruffydd, drwy dwyll gwyr Ystrad Tywi, ac i ddial y rhai hynny y diffeithiodd Gruffydd Ystrad Tywi a Dyfed. Ac yna bu dirfawr eira duw-Calan Ionawr, a thrigodd hyd wyl Badrig. A bu ddiffaith holl Ddeheubarth.

1050. Pallodd llynges o Iwerddon yn dyfod i Ddeheubarth. Ac yna lladdodd Gruffydd fab Llywelyn Ruffydd fab Rhydderch. Ac wedi hynny cyffroes Gruffydd ab Llywelyn lu yn erbyn y Saeson, a chyweirio byddinoedd yn Henffordd; ac yn ei erbyn cyfodes y Saeson, a dirfawr lu ganddynt, a Rheinwlff yn dywysog arnynt: ac ymgyfarfod a orugant, a chyweirio byddinoedd, ac ymbarotoi i ymladd; a'u cyrchu a wnaeth Gruffydd yn ddiannod, a byddinoedd cyweir ganddo; ac wedi bod brwydyr chwerwdost, a'r Saeson heb allel goddef cynnwrf y Brytnaiaid, a ymchwelasant ar ffo, ac o ddirfawr laddfa y digwyddasant. A'u ymlid yn lud a wnaeth Gruffydd i'r gaer, ac i mewn y doeth, a dibobli y gaer a wnaeth, thorri, a llosgi y dref; ac oddyna, gyda dirfawr anrhaith ac ysbail, ymchwelodd i'w wlad yn hyfryd fuddugol. Ac yna daeth Magnus fab Harold, brenin Germania, i Loegr, a diffeithiodd frenhiniaethau y Saeson, a Gruffydd frenin y Brytaniaid yn dywysog ac yn gynhorthwy iddo. Ac yna bu farw Owen fab Gruffydd.

1060. Digwyddodd Gruffydd fab Llywelyn, pen a tharian ac amddiffynnwr y Brytaninid, drwy dwyll ei wyr ei hun. Y gŵr a fuasai anorchfygedig cyn na hynny, yr awr hon a adewid mewn glynnau difeithion, wedi dirfawrion anrheithiau, a difesuredigion fuddugolaethau, ac aneirif oludoedd aur ac ariant a gemau a phorfforolion wisgoedd. Ac yna bu farw Ioseff, esgob Mynyw. A bu farw Dwnchath fab Brian yn myned i Rufain. Ac yna meddyliodd Harold frenin Denmarc ddarostwng y Saeson; yr hwn a gymerth Harold arall, fab Godwin iarll, iarll a oedd frenin yna yn Lloegr, yn ddirybudd ddiarf, ac o ddisyfyd ymladd drwy wladol dwyll a'i trewis i'r llawr oni fu farw. A'r Harold hwnnw, a fuasai iarll yn gyntaf, trwy greulonder wedi marw Edward frenin a enillodd yn anyledus uchelder teyrnas Lloeger. A hwnnw a ysbeiliwyd o'i deyrnas a'i fywyd gan Wilym bastard, tywysog Normandi, cyd bocsachai a'r fuddugoliaeth cyn na hynny. A'r Gwilym hwnnw, drwy ddirfawr frwydyr, a amddiffynnodd deyrnas Loeger o anorchfygedie law a'i fonheddicaf lu. Ac yna bu waith Mechen, rhwng Bleddyn a Rhiwallon feibion Cynfyn, a Meredydd ac Ithel feibion Gruffydd. Ac yna digwyddodd meibion Gruffydd; Ithel a las yn y frwydyr, a Meredydd a fu farw o annwyd yn ffo. Ac yno llas Rhiwallon fab Cynfyn. Ac yna cynhelis Bleddyn fab Cynfyn Gwynedd a Phowys, a Meredydd fab Owen fab Edwin a gyuhelis Ddeheubarth.

1070. Llas Meredydd fab Owen gan Garadog fab Gruffydd fab Rhydderch o'r Ffreinc, ar lan afon Rymni. Ac yna llas Macmael Nimbo clodforusaf a chadarnaf frenin y Gwyddyl, o ddisyfyd frwydr; y gŵr a oedd aruthr wrth ei elynion, a hynaws i giwdawdwyr, a gwâr wrth bererinion a dieithriaid. Yna diffeithiodd y Ffreinc Geredigion a Dyfed, a Mynyw a Bangor a ddiffeithiwyd gan y cenhedloedd. Ac yna bu farw Bleiddud esgob Mynyw, a chymerth Sulien yr esgobawd. Yna eilwaith diffeithiodd y Ffreinc Geredigion. Ac yna llas Bleddyn fab Cynfyn gan Rys ab Owen, drwy dwyll drwg ysbrydolion benaethau ac uchelwyr Ystrad Tywi; y gŵr a oedd, wedi Gruffydd ei frawd, yn cynnal yn ardderchog holl deyrnas y Brytaniaid. Ac yn ei ol yntau gwledychodd Trahaearn fab Caradog ei gefnder ar deyrnas y Gwyndyd, a Rhys ab Owen a Rhydderch fab Caradog a gynhalasant Ddeheubarth. Ac yna ymladdodd Gruffydd fab Cynan wyr Iago a Mon, a lladdodd y Gwyndyd Gynwrig fab Rhiwallon. Ac yna bu frwydyr yng Nghamddwr rhwng Goronw a Llywelyn meibion Cadwgan a Charadog fab Gruffydd gydag hwynt, a Rhys fab Owen a Rhydderch fab Caradog gyda'r rhai hynny hefyd. Yn y flwyddyn honno y bu brwydr Bron yr Erw, rhwng Gruffydd a Thrahaearn. Ac yna llas Rhydderch fab Caradog gan Feirchion fab Rhys fab Rhydderch ei gefnder drwy dwyll. Ac yna bu frwydr Gwenotyll rhwng meibion Cadwgan a Rhys fab Owen a Rhydderch fab Caradog, y rhai a orfuant eilwaith. Ac yna bu frwydyr Pwll Gwdyg, ac yna gorfu Trahaearn, brenin Gwynedd, a dialodd waed Bleddyn fab Cynfyn drwy rad Duw, yr hwn a fu waraf a thrugarocaf o'r brenhinoedd: ac nid argyweddai i neb oni chodid; a phan godid, o'i anfodd y dialai yntau ei godiant; gwâr oedd wrth ei geraint, ac amddiffynnwr amddifaid a gweinion a gweddwon, a chadernid y doeth, ac anrhydedd a grwndwal yr eglwysau, a diddanwch y gwladoedd, a hael wrth bawb; aruthr yn rhyfel a hygar ar heddwch, ac amddiffyn i bawb. Ac yna y digwyddodd holl deulu Rhys, ac yntau yn ffoadur, megis carw of nog ymlaen y milgwn drwy y perthi a'r creigiau. Ac yn niwedd y Awyddyn llas Rhys ap Hywel ei frawd gan Garadog ab Gruffydd. Ac yna gedewis

Sulien ei esgobawd, ac y cymerth Abraham.


UWCHBEN Y GELYN.

Ac yna dechreuodd Rhys ab Tewdwr wledychu. A diffeithiwyd Mynyw

yn druan gan y cenhedloedd, a bu farw Abraham esgob Mynyw, a chymerth Sulien yr esgobawd eilwaith. Ac yna bu frwydr ym Mynydd Carn, ac yna llas Trahaearn fab Caradog fab Gruffydd wyr Iago, a'r Ysgotiaid gydag ef yn gynhorthwy iddo. A llas Gwrgeneu fab Seisyll drwy dwyll gan feibion Rhys Sais. Ac yna daeth Gwilym bastard, brenin y Saeson a'r Ffreinc a'r Brytaniaid, wrth weddio, drwy bererindod i Fynyw.


ii.
Y Barwniaid Normanaidd.

[Marw William I. a Rhys ab Tewdwr. Ymdrech rhwng y barwniaid Normanaidd oedd yn ceisio ennill tir yng Nghymru, y tywysogion Cymreig oedd yn amddiffyn eu gwlad ac yn ymladd â'u gilydd, a brenin Lloegr oedd yn coisio estyn ei deyrnwialen dros dywysog a barwn. Prin y daw Gruffydd ab Cynan i'r golwg, meibion Bleddyn ab Cynfyn wibia o'n blaenau yn y bennod hon. Ymadawiad Robert Belesmo a dyfodiad y Fflandrwys.]

1080. Gedewis Sulien ei esgobawd y drydedd waith, a chymerodd Wilffre hi. Ac yna bu farw Gwilym fastard, tywysog y Normaniaid a brenin y Saeson a'r Brytaniaid a'r Albanwyr, wedi digon o ogoniant a chlod y llithredig fyd yma, ac gogoneddusion fuddugoliaethau ac rhydedd o oludoedd; ac wedi ef y gwledychodd Gwilym Goch ei fab. Ac yna gwrthladdwyd Rhys fab Tewdwr o'i gyfoeth a'i deyrnas gan feibion Bleddyn fab Cynfyn, nid amgen Madog a Chadwgan a Rhirid; ac yntau a giliodd i Iwerddon. Ac yn y lle wedi hynny cynhullodd lynges ac ymchwelodd drachefn. Ac yna bu frwydyr Llych Crei, a llas meibion Bleddyn, a rhoddes Rhys ab Tewdwr ddirfawr swllt i'r llyngheswyr, Ysgotiaid a Gwyddyl, a ddaethent yn borth iddo. Ac yna dygpwyd ysgrin Dewi yn lladrad o'r eglwys, ac ysbeiliwyd yn llwyr yn ymyl y ddinas. Ac yna crynodd y ddaear yn ddirfawr yn holl ynys Brydain. Ac yna bu farw Sulien esgob Mynyw, y doethaf o'r Brytaniaid, ac ardderchog o grefyddus fuchedd, wedi clodforusaf ddysgeidiaeth ei ddisgyblion a chraffaf ddysg ei blwyfau, y pedwar ugeinfed flwyddyn o'i oes, a'r unfed eisieu o ugain o'i gysegredigaeth nos galan Ionawr. Ac yna torred Mynyw gan genedl yr ynysedd. A bu farw Cadifor fab Collwyn. A Llywelyn a'i fab a'i frodyr a wahawddasant Ruffydd fab Meredydd, ac yn ei erbyn yr ymladdodd Rhys ab Tewdwr ac a'i gyrrodd ar ffo, ac yn y diwedd ei lladdodd.

1090. Llas Rhys ab Tewdwr, brenin Deheubarth, gan y Ffreinc a oedd yn preswylio Brycheiniog. Ac yna digwyddodd teyrnas y Brytaniaid. Ac yna ysbeiliodd Cadwgan fab Bleddyn Ddyfed yr eilddydd o Fai. Ac oddyna, ddeufìs wedi hynny, amgylch calan Gorffenna, y daeth y Ffreinc i Ddyfed a Cheredigion, y rhai a'i cynhaliasant eto, ac a gadarnhaesant y cestyll ar holl dir y Brytaniaid. Ac yna llas y Moel Cwlwm ab Dwnchath, brenin y Pictiaid a'r Albaniaid gan Ffreinc, ac Edward ei fab. Ac yna gweddiodd Margaret frenhines, gwraig y Moel Cwlwm, ar Dduw drwy ymddiried ynddo, wedi clybod lladd ei gŵr a'i mab, hyd na bei fyw hi yn y farwol fuchedd yma; a gwrando a orug Duw ei gweddi, canys erbyn y seithfed dydd y bu farw.

Ac yna aeth Gwilym Goch, brenin, yr hwn cyntaf a orfu ar y Saeson o glodforusaf ryfel, hyd yn Normandi, i gadw ac i amddiffyn teyrnas Robert ei frawd, yr hwn a athoedd hyd yng Nghaersalem i ymladd â'r Sasiniaid a chenhedloedd ereill anghyfiaith, ac i amddiffyn y Cristionogion, ac i haeddu mwy o glod. A Gwilym yn trigo yn Normandi, y gwrthladdodd y Brytaniaid lywodraeth y Ffreinc, heb allel goddef eu creulonder, a thorri y cestyll yng Ngwynedd, a mynychu anrheithiau a lladdfâu arnynt. Ac yna dug y Ffreinc luoedd hyd yng Ngwynedd, a'u cyferbynnu a orug Cadwgan fab Bleddyn, a'u cyrchu a gorfod arnynt, a'u gyrru ar ffo a'u lladd o ddirfawr laddfa. A'r frwydyr honno a wnaethpwyd yng Nghoed Yspwys. Ac yn niwedd y flwyddyn honno y torres y Brytaniaid holl gestyll Ceredigion a Dyfed, eithr dau, nid amgen Penfro a Rhyd y Gors. A'r bobl a holl anifeiliaid Dyfed a ddygant ganddynt, a gadaw a wnaethant Ddyfed a Cheredigion yn ddiffaeth.

1092. Diffeithodd y Ffreinc Gwyr a Chydweli ac Ystrad Tywi, a thrigodd y gwladoedd yn ddiffaeth. A hanner y cynhaeaf y cyffroes Gwilym frenin lu yn erbyn y Brytaniaid, ac wedi cymryd o'r Brytaniaid eu hamddiffyn yn y coedydd a'r glynnedd, ymchwelodd Gwilym adref yn orwag heb ennill dim.

1093. Bu farw Gwilym fab Baldwin, yr hwn rwndwaliodd gastell Rhyd y Gors. Ac yna gwrthladdodd Brytaniaid Brycheiniog a Gwent a Gwenllwg arglwyddiaeth y Ffreinc. Ac yna cyffroes y Ffreinc lu i Went, ac yn orwag heb ennill dim yr ymchwelasant, ac eu llas yn ymchwelyd drachefn gan y Brytaniaid yn y lle a elwir Celli Carnant. Wedi hynny y Ffreinc a gyffroasant lu y Brytaniaid, a meddwl diffeithio yr holl wlad; heb allu cwblhau eu meddwl, yn ymchwelyd drachefn, eu llas gan feibion Idnerth fab Cadwgan, Gruffydd ac Ifor, yn y lle a elwir Aber Llech. A'r ciwdadwyr a drigasant yn eu tai yn dioddef yn ddiofn, er fod y cestyll eto yn gyfan, a'r castellwyr ynddynt Yn y flwyddyn honno y cyrchodd Uchtryd fab Edwin a Hywel fab Goronw, a llawer o benaethau ereill gyda hwynt, ac ymladd o deulu Cadwgan fab Bleddyn gastell Penfro, a'u hyepeilio o'u holl anifeiliaid, a diffeithio yr holl wlad, a chyda dirfawr anrhaith yr ymchwelasant adref.

1094. Diffeithiodd Geralt ystiwart, yr hwn y gorchymynasid iddo ystiwardiaeth castell Penfro, derfynau Mynyw. Ac yna yr eil waith cyffroes Gwilym frenin Lloegr aneirif o luoedd a dirfawr feddiant a gallu yn erbyn y Brytaniaid. Ac yna gochelodd y Brytaniaid eu cynnwrf hwynt, heb obeithio ynddynt eu hunain, namyn gan osod gobaith yn Nuw, creawdwr pob peth, drwy ymprydio a gweddio a rhoddi cardodau a chymryd garw bennyd ar eu cyrff. Gan ni lefasai y Ffreinc gyrchu y creigiau a'r coedydd, namyn gwibio yng ngwastadion feusydd. Yn y diwedd, yn orwag yr ymchwelasant adref, heb ennill dim. A'r Brytaniaid yn hyfryd ddigrynedig a amddiffynasant eu gwlad.

1095. Cyffroes y Ffreinc luoedd y drydedd waith yn erbyn Gwynedd, a dau dywysog yn eu blaen, a Hu iarll Amwythig yn bennaf arnynt. A phabellu a orugant yn erbyn ynys Fon. A'r Brytaniaid, wedi cilio i'r lleoedd cadarnaf iddynt o'u gnotedig ddefod, a gawsant yn eu cyngor achub Mon. A gwahodd atynt wrth amddiffyn iddynt, llynges ar for o Iwerddon, drwy gymryd eu rhoddion a'u gwobrau gan y Ffreinc. Ac yna gedewis Cadwgan fab Bleddyn a Gruffydd fab Cynan ynys Fon, a chiliasant i Iwerddon, rhag ofn twyll eu gwyr eu hunain. Ac yna daeth y Ffreinc i mewn i'r ynys, a lladdasant rai o wyr yr ynys. Ac fel yr oeddynt yn trigo yno, daeth Magnus brenin Germania, a rhai o'i longau ganddo, hyd ym Mon; drwy obeithio caffel goresgyn ar wladoedd y Brytaniaid. Ac wedi clybot o Fagnus frenin y Ffreinc yn mynych feddylio diffeithio yr holl wlad, a'i dwyn hyd ar ddim, dyfrysio a orug i eu cyrchu. Ac fel yr oeddynt yn ymsaethu, y naill rai o'r môr a'r rhai ereill o'r tir, brathwyd Hu iarll yn ei wyneb,ac o law y brenin ei hun yn y frwydyr y digwyddodd. Ac yna gadewis Magnus frenin, trwy ddisyfyd gyngor, derfynau y wlad. A dwyn a orug y Ffreinc oll, a mawr a bychan, hyd ar y Saeson. Ac wedi na allai y Gwyndyt oddef cyfreithiau a barnau a thrais y Ffreinc arnynt, cyfodi a orugant eilwaith yn eu herbyn, ac Owen ab Edwin yn dywysog arnynt, y gŵr a ddygasai y Ffreinc gynt i Fon.

1096. Ymchwelodd Cadwgan fab Bleddyn a Gruffydd fab Cynan o Iwerddon. Ac wedi heddychu â'r Ffreinc onaddynt, rhan o'r wlad a achubasant Cadwgan fab Bleddyn a gymerth Geredigion a chyfran o Bowys, a Gruffydd a gafas Fon.

Ac yna llas Llywelyn fab Cadwgan gan wyr Brycheiniog. Ac aeth Hywel fab Ithel i Iwerddon.

Y flwyddyn honno bu farw Rhychmarch Ddoeth, mab Sulien esgob, y doethaf o ddoethion y Brytaniaid, y drydedd flwyddyn a deugain o'i oes, y gŵr ni chyfododd yn yr oesoedd cael ei gyffelyb cyn nag ef, ac nid hawdd credu na thebygu cael ei gyfryw wedi ef; ac ni chawsai ddysg gan arall erioed eithr gan ei dad ei hun. Wedi addasaf anrhydedd ei genedl ei hun, ac wedi clodforusaf ac adnewyddusaf ganmol y cyfnesafion genhedloedd, nid amgen Saeson a Ffreinc a chenhedloedd


DYFFRYN EDEYRNION AC EGLWYS CORWEN.

ereill o'r tu draw i for, a hynny drwy gyffredin gwynfan pawb yn dolurio eu calonnau, y bu farw.

1097. Llas Gwilym Goch, brenin y Saeson, yr hwn a wnaethpwyd yn frenin wedi Gwilym ei dad. Ac fel yr oedd hwnnw ddyddgwaith yn hela gyda Henri, y brawd ieuaf iddo, a rhai o'r marchogion gyda hwynt, ei brathwyd â saeth gan Wallter Turel, marchog iddo, o'i anfodd; pan oedd yn bwrw carw, y medrodd y brenin ac a'i lladdodd. A phan welas Henri ei frawd yntau hynny, gorchymyn a orug corff ei frawd i'r marchogion a oedd yn y lle, ac erchi iddynt wneuthur brenhinol arwyliant iddo. Ac yntau a gerddodd hyd yng Nghaer Wynt, yn y lle yr oedd swllt y brenin a'i frenhinolion oludoedd. Ac achub y rhai hynny a orug. A galw ato holl dylwyth y brenin, a myned oddiyno hyd yn Llundain a'i goresgyn, yr hon sydd bennaf a choron ar holl frenhiniaeth Lloeger. Ac yna y cydredasant ato Ffreinc a Saeson i gyd, ac o frenhinol gyngor y gosodasant ef yn frenin yn Lloeger. Ac yn y lle cymerth yntau yn wraig briod iddo Fahallt ferch y Moel Cwlwm, brenin Prydain, o Fargaret frenhines ei mam. A honno drwy ei phriodi a ansodes ef yn frenhines; canys Gwilym Goch ei frawd ef yn ei fywyd a arferasai o ordderchadau, ac wrth hynny y buasai farw heb etifedd. Ac yna yr ymchwelodd Robert, y brawd hynaf iddynt, yn fuddugol o Gaersalem.

A bu farw Tomas, archesgob Caer Efrog. Ac yn ei ol yntau dynesodd Gerard, a fuasai esgob yn Henffordd cyn na hynny, a derchafodd Henri frenin ef ar deilyngdod a oedd uwch yn archesgob yng Nghaer Efrog. Ac yna cymerth Anselm archesgob Caint drachefn ei archesgobawd drwy Henri frenin, yr hwn a adawsai yn amser Gwilym Goch frenin, o achos anwiredd hwnnw a'i greulonder, gan na welai ef hwnnw yn gwneuthur dim yn gyfiawn o orchymynnau Duw, nac o lywodraeth frenhinol teilyngdod.

1098. Bu farw Hu Fras, iarll Caer Lleon ar Wysg, ac yn ei ol dynesodd Roger ei fab, cyn bei bychan ei oed. Ac eisoes y brenin a'i gosodes yn lle ei dad, o achos maint y carai ei dad. Ac yn y flwyddyn honno y bu farw Gronw fab Cadwgan ab Owen mab Gruffydd.

1100. Bu anghytundeb rhwng Henri frenin a Robert iarll Amwythig ac Ernwlff ei frawd, gŵr a gafas Ddyfed yn rhan iddo, ac a wnaeth gastell Penfro yn fawrfrydus. A phan gigleu y brenin eu bod yn gwneuthur twyll yn ei erbyn, megis y daeth y chwedl aruynt y galwodd ato i wybod gwirionedd am hynny; a hwythau, heb allel ymddiried i'r brenín, a geisiasant achos i fwrw esgus. Ac wedi gwybod onaddynt adnabod o'r brenin eu twyll ac eu brad, ni feiddiasant ymddangos gerbron ei genddrycholder ef. Achub a orugant eu cadernid, a galw porth o bob tu iddynt, a gwahodd atynt y Brytaniaid a oeddynt. darestyngedigion iddynt yn eu meddiant, ac eu penaethau, nid amgen Cadwgan, Iorwerth, a Meredydd, feibion Bleddyn fab Cynfyn, yn borth iddynt. Ac eu horfoll yn fawrfrydig anrhydeddus iddynt at orugant, ac addaw llawer o dda iddynt, at rhoddi rhoddion, a llawenhau eu gwlad o ryddid. Ac yng nghyfrwng hynny cadarnhau eu cestyll, a'u cylchynu o flosydd a muroedd, a pharotoi llawer o ymborth, a chynnull marchogion, a rhoddi rhoddion. iddynt. Robert a achubodd bedwar castell, nid amgen Arwndel, a Blif, a Bryg, ynglyn a'r hwn yr oedd yr holl dwyll, yr hwn a rwndwalasai yn erbyn arch y brenin, ac Amwythig. Eruwlff a achubodd Benfro ei hun. Ac wedi hynny cynnull lluoedd a orugant, a galw y Brytaniaid i gyd, a gwneuthur ysglyfaethau, ac ymchwelyd yn llawen adref. A phan oeddid yn gwneyd y pethau hynny, y meddyliodd Ernwlff heddychu â'r Gwyddyl, a derbyn nerth ganddynt. Ac anfon a wnaeth genhadau hyd yn Iwerddon, nid amgen Gerald ystiwart a llawer o rai ereill, i erchi merch Mwrchath frenin yn briod iddo. A hynny a gafas yn hawdd, a'r cenhadau a ddaethant i eu gwlad yn hyfryd. A Mwrchath a anfones ei ferch, a llawer o longau arfog gyda hi, yn nerth iddo. Ac wedi ymddyrchafel o'r ieirll mewn balchder o achos y pethau hynny, ni chymerasant ddim heddwch gan y brenin. Ac yna y cynhullodd Henri frenin lu bob ychydig, ac ynghyntaf cylchynodd gastell Arwndel drwy ymladd â hi. Ac oddyna y cymerth gastell Blif, a hyd yng nghastell Bryg, ac ymhell oddiwrtho y pabellodd. A chymryd cyngor a orug pa fodd y darostyngai ef y ieirll, neu y lladdai, neu y gwrthladdai o'r holl deyrnas. Ac o hynny pennaf cyngor a gafodd anfon cenhadau o'r Brytaniaid, ac yn wahanredol at Iorwerth fab Bleddyn, a'i wahodd a'i alw ger ei fron, ac addaw mwy iddo nag a gaffai gan y ieirll, a'r cyfran y perthynai ei gael o o dir y Brytaniaid. 'Hynny a roddes y brenin yn rhydd i Iorwerth fab Bleddyn tra fai byw y brenin, heb dwng a heb dâl. Sef oedd hynny, Powys a Cheredigion a hanner Dyfed,—canys yr hanner arall a roddasid i fab Baldwin,—a Gwyr a Chydweli. Ac wedi myned Iorwerth fab Bleddyn i gastell y brenin, anfon a oruc i anrheithio cyfoeth Robert ei arglwydd. A'r anfonedig lu hwnnw gau Iorwerth, gan gyflawni gorchymyn Iorwerth, a anrheithiasant gyfoeth Robert ei arglwydd drwy gribddeilio pob peth ganddynt, a diffeithio y wlad, a chynnull dirfawr anrhaith ganddynt o'r wlad. Canys y iarll cyn na hynny a orchymynasai roddi cred i'r Brytaniaid, heb debygu caffael gwrthwyneb ganddynt, ac anfon ei holl hafodydd a'i anifeiliaid a'i oludoedd i blith y Brytaniaid, heb goffau y sarhadau a gawsai y Brytaniaid gynt gan Rosser ei dad ef, a Hu brawd ei dad. A hynny oedd guddiedig gan y Brytaniaid yn fyfyr. Cadwgan fab Bleddyn a Meredydd ei frawd oeddynt eto gyda'r iarll, heb wybod dim o hynny. Ac wedi clybot o'r iarll hynny, anobeithio a oruc, a thebygu nad oedd dim gallu ganto o achos myned lorwerth oddiwrtho, canys pennaf oedd hwnnw o'r Brytaniaid, a mwyaf ei allu ; ac erchi cynghrair a orug fel y gallai, ai heddychu â'r brenin, ai gado y deyrnas o gwbl.

Yng nghyfrwng y pethau hynny yr aeth Ernwlff a'i wyr yn erbyn y wraig a'r llynges arfog a oedd yn dyfod yn borth iddo. Ac yn hynny y daeth Magnus frenin Germania eilwaith i Fon; ac wedi torri llawer o wŷdd defnydd, ymchwelyd i Fanaw drachefn. Ac yna, herwydd y dywedir, gwneuthur a orug tri chastell, a'u llenwi eilwaith o'i wyr ei hun, y rhai a ddiffeithiasai cyn na hynny. Ac erchi merch Mwrchath o'i fab, canys pennaf oedd hwnnw o'r Gwyddyl, a hynny a gafas yn llawen, a gosod a orug ef y mab hwnnw yn frenin ym Manaw. Ac yno y trigodd y gaeaf hwnnw. Ac wedi clybod o Robert iarll hynny, anfon cenhadau a orug ar Fagnus; ac ni chafas ddim o'r negesau.

Ac wedi gweled o'r iarll ei fod yn warchaedig o bob parth iddo, ceisio cennad a ffordd gan y brenin i adaw ei deyrnas. A'r brenin a'i caniataodd. Ac yntau, drwy adaw pob peth, a fordwyodd hyd yn Normandi. Ac yna yr anfones y brenin at Ernwlff, i erchi iddo un o'r ddeupeth, ai gadaw y deyrnas a myned yn ol ei frawd ai ynte a ddelei yn ei ewyllys ef. A phan gigleu Ernwlff hynny, dewisaf fu ganto fyned yn ol ei frawd. A rhoddi ei gastell a orug i'r brenin, a'r brenin a ddodes warcheidwaid ynddo.

Wedi hynny heddychu a orug Iorwerth â'i frodyr, a rhannu y cyfoeth rhyngddynt. Ac wedi ychydig o amser y delis Iorwerth Feredydd ei frawd, ac ei carcharodd yng ngharchar y brenin. A heddychu a wnaeth â Chadwgan ei frawd, a rhoddi Ceredigion a rhan o Bowys. Ac oddyna myned a wnaeth Iorwerth at y brenin, a thebygu i'r brenin gadw ei addewid wrtho. A'r brenin, heb gadw amod ag ef, a ddug o ganddo Ddyfed, ac a'i rhoddes i neb un farchog a elwid Saer; ac Ystrad Tywi a Chydweli a Gwyr a roddes i ITywel a Gronw. Ac y cyfrwng hwnnw y delit Gronw fab Rhys, a bu farw yn ei garchar.

1101. Wedi dyrchafel o Fagnus frenin Germania hwyliau ar ychydig o longau, diffeithio a orug derfynau Prydain. A phan welas y Prydeinwyr hynny, megis morgrugion o dyllau gogofâu y cyfodasant yn gadoedd i ymlid eu hanrhaith. A phan welsant y brenin ac ychydig o nifer gydag ef, cyrchu yn eofn a orugant, a gosod brwydyr yn ei erbyn. A 'phan welas y


brenin hynny, cyweirio byddin a orug, heb edrych ar amlder ei elynion a bychaned ei nifer yntau, oherwydd moes yr Albanwyr, drwy goffhau ei aneirif fuddugoliaethau gynt, cyrchu a orug yn anghyfleus. Ac wedi gwneuthur y frwydr, a lladd llawer o boptu; yna, o gyfarsagedigaeth lluoedd ac amider niferoedd ei elynion, y llas y brenin.

Ac yna y gelwit Iorwerth fab Bleddyn i Amwythig drwy dwyll cyngor y brenín, ac y dosbarthwyd ei ddadleuoedd a'i neg- esau. A phan ddaeth of, yna yr ymchwel- odd yr holl ddadleu yn ei erbyn ef, ac ar hyd y dydd y dadleuwyd ag ef, ac yn y di- wedd y barnwyd yn gamlyrus. Ac wedi hynuy ci barnwyd i garchar y brenin, nid oherwydd cyfraith, namyn oherwydd meddiant. Ac yna y pallodd eu holl obaith a'u cadernid a'u hiechyd a'u di- ddaawch i'r holl Frytaniaid.

1102. Bu farw Owen fab Edwin drwy hir glefyd. Ac yna ystores Ricart fab Baldwin gastell Rhyd y Gors, a gyrrwyd Hywel fab Gronw ymaith o'i gyfoeth, y gŵr a orchymynasai Henri frenin geid- wadaeth Ystrad Tywi a Rhyd y Gors. Ac yntau a gynhullodd anrheithiau, drwy losgi tai, a diffeithio haeach yr holl wlad-


Nodiadau[golygu]

  1. O hyn allan rhoir y blynyddoedd yn ffigyrau yn lle geiriau fel eu ceir yn Llyfr Coch Hergest.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.