Neidio i'r cynnwys

Diddanydd anfonedig nef

Oddi ar Wicidestun
Ysbryd graslon, rho i mi Diddanydd anfonedig nef

gan John Jenkins (Gwili)

O! Sancteiddia f'enaid, Arglwydd
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
John Jenkins (Gwili)

258[1] Y Diddanydd Arall
86. 84.

1 DIDDANYDD anfonedig nef,
Fendigaid Ysbryd Glân!
Hiraethwn am yr awel gref,
A'r tafod tân.

2 Erglyw ein herfyniadau prudd
Am brofi o'th rad yn llawn;
Gwêl a oes ynom bechod cudd
Ar ffordd dy ddawn.

3 Cyfranna i'n heneidiau trist
Orfoledd meibion Duw;
A dangos inni olud Crist
Yn fodd i fyw.

4 Am wanwyn Duw dros anial gwyw
Dynolryw deffro'n llef;
A dwg yn fuan iawn i'n clyw
Y sŵn o'r nef.

5 Rho'r hyder anorchfygol gynt
Ddilynai'r tafod tân;
Chwŷth dros y byd fel nerthol wynt,
O! Ysbryd Glân.

John Jenkins (Gwili)



Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 258, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930