Ysbryd graslon, rho i mi
Gwedd
← O! Dduw, rho im dy Ysbryd | Ysbryd graslon, rho i mi gan Thomas Toke Lynch a Howell Elvet Lewis (Elfed) |
Diddanydd anfonedig nef → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
257[1] Ysbryd pob Gras
77. 77. 77.
1 YSBRYD graslon, rho i mi
Fod yn raslon fel Tydi:
Dysg im siarad yn dy iaith,
Boed dy ddelw ar fy ngwaith:
Gwna i holl addfwynder f'oes
Ddweud wrth eraill werth y groes.
2 Ysbryd geirwir, rho i mi
Fod yn eirwir fel Tydi:
Trwy'r doethineb oddi fry
Gwna fi'n dirion ac yn gry';
Gwna fi'n frawd i'r gwan a'r trist,
Er mwyn dangos Iesu Grist.
3 Ysbryd grymus, rho i mi
Fod yn rymus fel Tydi:
Dysg im gonero lle mae dyn
Yn rhy egwan wrtho'i hun;
Yn dy obaith dwg fi 'mlaen
Trwy beryglon llif a thân.
4 Ysbryd sanctaidd, rho i mi
Fod yn sanctaidd fel Tydi:
Ynof pob rhyw ras cryfha,
Dysg im fyw i bethau da;
Ac i'r Duw a'th roddodd Di,
Ysbryd perffaith, canaf fi.
Thomas Toke Lynch
Cyf: Howell Elvet Lewis (Elfed)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 257, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930