Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Adgyfodiad Crist

Oddi ar Wicidestun
Diarhebion ix Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Adgyfodiad y Saint

ADGYFODIAD CRIST

Y TRYDYDD dydd yn hardd ei wedd,
Cyfododd Crist yn fyw o'r bedd;
Ac ymddangosodd heb ddim braw
I'r gwragedd duwiol oedd gerllaw.

Ac wedi hyny'n nghwr y wlad,
Gorddiwes wnaeth ddau ddysgybl mâd,
Ac iddynt yr eglurodd ef
Ddirgelwch arfaeth fawr y nef.

Onid oedd raid i'r Iesu gwyn
Wynebu'r holl arteithiau hyn,
Ac esgyn fry goruwch y llawr
I ganol ei ogoniant mawr?

Ac wedi i'r dydd yn mhell hwyrhau,
Pan oedd y drysau oll yn nghau,
Daeth Crist i mewn i'r 'stafell deg
Lle'r ymgynnullai'r unarddeg.

Eu cyfarch wnaeth yn siriol iawn
A'i dangnefeddol ddwyfol ddawn,

A llawenhau wnaent hwythau'n awr
Am adgyfodi'r Ceidwad mawr.

Addewid iddynt a roes ef,
Pan yr esgynai fry i'r nef,
Caent eu bedyddio â nefol dân,
Sef gweithrediadau'r Ysbryd Glan.

Cyflawnodd ei addewid fawr,
Ar ddydd y Sulgwyn daeth i lawr,
Fel nerthol wynt yn rhuthro'n gry',
Nes i'w effeithiau lenwi'r tŷ.

"Ewch a phregethwch," ebai ef,
" I bob creadur dan y nef,
" Cyhoeddwch yr efengyl hon
" Dros holl derfynau'r ddaear gron.

"Pob un a gred, cadwedig fydd,
" Trwy fywiol wir effeithiau ffydd; "
Mynegu'n llawn un dawn nid oes
Anfeidrol haeddiant gwaed y groes.

Gwynebu wnaethant ar wahan
I holl gyffiniau'r byd achlân,
A lluoedd lawer yn mhob gwlad
A gredodd eu hymadrodd mad.


Nodiadau

[golygu]