Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Adgyfodiad y Saint

Oddi ar Wicidestun
Adgyfodiad Crist Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Gofal Duw am y Saint

ADGYFODIAD Y SAINT

FE welir cyrff y saint
Yn ddysglaer fel y wawr,
Yn d'od i'r lan o'r bedd,
Pan gano'r udgorn mawr;

Cânt etifeddu teyrnas Dduw
Ar ddelw hardd eu Prynwr byw.

Mor hawddgar fydd eu gwedd
O flaen yr orsedd fry,
A mynwes lawn o hedd,
Yn lân, ogonedd lu;
Mwynhant lawenydd pur dilyth
Yn Ngwynfa, na ddybena byth.

O, wynfydedig rai,
Annhraethawl fydd eu braint,
Heb bechod nac un bai,
I gyd yn berffaith saint;
Yn rhoi heb dawl ryglyddawl glod
I'r Gwr a'u carodd cyn eu bod.


Nodiadau

[golygu]