Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Gofal Duw am y Saint

Oddi ar Wicidestun
Adgyfodiad y Saint Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Cyfraith Duw—Barn y duwiol am dani

GOFAL DUW AM Y SAINT

TYDI, O Arglwydd grasol, yw
Fy nghadarn Dduw a 'Ngheidwad;
Dy ofal mawr am danaf sydd
Bob nos a dydd yn wastad.

Ar wely'r nos, pan hunwyf fi,
Wrth d'archiad di, Iehofa,
Angylion nef fy ngwylio wnant,
Amgylchant fy ngorweddfa.

Y bore hefyd, pan ddeffro'f,
Yn anghof ni'm gollyngi,
Cyfranu 'rwyt bob mynyd awr
Dy roddion gwerthfawr imi.


Yn oriau'r dydd, fy Nuw, Iôr da,
Trugarog a thosturiol,
Er mor annheilwng ydwyf fi,
Fy nawdd wyt ti'n wastadol.

Yn amyneddgar, megys Job,
Yn wyneb pob cyfyngder,
Dysgwyliaf beunydd wrth dy borth
Am gymhorth o'r uchelder.

Mil mwy eu gwerth i'm henaid mau
Na'r holl drysorau bydol
Yw darpariadau iach eu sawr
Efengyl fawr dragwyddol.

Tra byddwyf yn yr anial maith,
Boed nerthol waith dy Ysbryd
Yn tywys f'enaid heb lesgâu
Hyd uniawn lwybrau'r bywyd.

Ac wedi cyrhaedd pen y daith,
Drwy ffydd a gobaith hefyd,
Dwg f'enaid fry i gael mwynhad
O geinfyg wlad y gwynfyd.


Nodiadau

[golygu]