Diliau Meirion Cyf I/Anerch i Lenorion y Brithdir
← Dau Of yn gweithio | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Y Parch E. Davies (Eta Delta) → |
ANERCH I LENORION Y BRITHDIR,
DOLGELLAU.
LLAWN o aidd ydyw llenyddion—gwiwlwys
Broydd Gwalia'r awr'on;
Adrodd gwaith prif—feirdd heirddion
Geir braidd yn mhob lle ger bron.
Dibrin rhoddir da wobrau—llawn addurn
I'r llenyddion gorau;
Pur o hyd y mae'n parhau
Emwrys iawn ymrysonau.
Milwaith y mawr ganmolir—llenorion
Llon eirioes y Brithdir;
Canfod eu gwell nis gellir
O Fon deg i Fynwy dir.
Gorwych a da ddiguraw—eu clywir
Yn cloiawg bwysleisiaw;
Eu llais ac amnaid y llaw
Naturiol sy'n cyd-daraw.
Llywyddu mewn dull addas—ragorawl,
Y mae'r gwr o Wanas,
A llun hardd yn llawn urddas,
A bri, heb ddim coegni cas.
Da eithaf gwedi'i ethawl—a'i godi
I'r gadair lywyddawl,
Dangosodd, a hònodd hawl
Llâd 'reithydd llywodraethawl.
Ymwriwch, lanciau mirain,—a gawriwch,
Nes bo'ch geiriau madiain
Yn cyrhaedd a dawn cywrain,
Radau myg, i Rydymain.
Eich gweled gyda'ch gilydd—mor odiaeth,
Mawr ydyw'r llawenydd;
A'ch gwaith campus hoffus sydd
Yn glodus hyd ein gwledydd.
Eich cyflym awgrym wiwgreth—a daeno
Hyd wyneb Llanfachreth;
Drwy hyn, heb fymryn o feth,—daw'r ardal
Yn llawn o'r dyfal ddarllenwyr difeth.