Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Anerch i Mr. John Davies, Utica, America

Oddi ar Wicidestun
Ellis Roberts (Eos Glan Wnion) Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Anerchiad i Meurig Ebrill, gan Gutyn Ebrill

ANERCH I MR. JOHN DAVIES
UTICA, AMERICA
Mab Mr. John Davies, Llyfr—rwymydd, Dolgellau.

Y GWARAIDD rywiog wron—drwy gariad,
'Rwy'n gyru yrawr'on
O wlad bell y llinell hon
I'th anerch mewn iaith union.

Diystryw mewn gwlad estron—Amerig,
Dros y moroedd meithion,
Duw Iôr a rano dirion
Einioes hir i fy nai Siôn.

Draenog o ddyn dirinwedd—wnaeth anfon
Noeth ynfyd anwiredd;
D'wedai it gael, mewn gwaeledd,
O'r byd dy hebrwng i'r bedd.

Dedwydd a hyfryd ydyw—dy rywiog
Fad rïaint diledryw,
A'th frawd destl, hyddestl, heddyw,
'Nol gwybod dy fod yn fyw.


Minnau o wraidd fy mynwes—wy'n manwl
Ddymuno heb rodres
Yn rhwydd iť bob llwydd a lles,
Fy llariaidd gyfaill eres.


Nodiadau

[golygu]