Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Anerchiad i Meurig Ebrill, gan Gutyn Ebrill

Oddi ar Wicidestun
Anerch i Mr. John Davies, Utica, America Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Priodas Mr. Robert Pugh, a Miss Anne Jones

ANERCHIAD I MEURIG EBRILL,
GAN GUTYN EBRILL.

MEURIG EBRILL, pill o'm pen—a ganaf
I dy geinwech awen;
Doniau Nudd ge'st ti dan nen
I ganu heb un gynen.


ANERCHIAD I GUTYN EBRILL,
GAN MEURIG EBRILL

I Gutyn, heb goeg watwor,—y gyraf
Rai geiriau yn rhagor,
Ni wnaf erwin gyfri'n gör
Deg wiwddyn da'i egwyddor.

Nid poen i mi wneud pennill—yn gonglog
Ag englyn tri-deg-sill,
I'r bardd bach llwybreiddia'i bill,
Tan wybren, Gutyn Ebrill.

Heddyw y'th daer wahoddaf—i'm hannedd,
Am hyny'r ymbiliaf;
Tyred yn hardd, brif—fardd braf,
Gutyn, trwy goedwig ataf.

Cuchiog mae'r Gaua'n cychwyn—a'r barug
Drwy'r boreu sydd glaerwyn,

Ac etto ni wna Gutyn
Deri'i gorff gan eira gwyn.

Gwell fy sut pan ddel Gutyn—a fyddaf,
' Rwy'n rhyw feddwl, gwed'yn;
Brysia ddyfod, ddewrglod ddyn,
Gonest, cyn dechreu'r Gwanwyn.

Pan ddelych, geinwych ganwr,—cei luniaeth,
Cei le yn y parlwr;
Cei eistedd fel cu westwr,
Cei fyd da, cei yfed dwr.

Dyfydd fel glân bendefig—iach hylwydd,
A chalon garedig;
Cei fyw'n ddestl, heb dymhestl dig,
Am oriau yn nhŷ Meurig.

Dyna'n o gwta, Gutyn,—ti weli,
It waelaidd wyth englyn,
Etto toc ti gei at hyn
Gydiedig wyth gwawdodyn.


GUTYN EBRILL ETTO.

Cyn y Pasc rhaid canu pill—teg etto
I ti, Gutyn Ebrill,
Cadwynawg, banawg bennill,
Yn gerddgar, seingar, bob sill.

Da'r haeddit, awdwr rhwyddwych,—difalais,
Gael dy foli'n fynych;
Manwl bryddestydd mwynwych
Gwiw iawn wyt, ag awen wych.


Canu i "Lythyrdoll Ceiniog "—a wnaethost
Yn eithaf godidog;
Cei wobr mawr iawn, a llawn llog,
Am ragorwaith mor gaerog.

Dos rhagod, cei glod yn glau—o ethryb
Dy uthrawl bryddestau,
Ca'r Brython bylon fwynhau
Diddanawl ffrwyth dy ddoniau.


Nodiadau

[golygu]