Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Calenig i Gymdeithas Lenyddol y Bala

Oddi ar Wicidestun
Ellis Roberts (Eos Meirion) Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Mary Jones, merch fechan Mr. a Mrs. Jones, Liverpool House, Dolgellau

CALENIG
I GYMDEITHAS LENYDDOL
Y BALA, ION. 12, 1853.

HAWDDAMOR i lenorion—y Bala,
Eirian belydr Meirion;
Mawreddawg ladmeryddion,
Dorf hardd, geir yn y dref hon.

Treiddgar iawn wiwgar enwogion—doethaidd,
O deithi'r hen Frython,
Yma sydd, daw mwy o son
Am eu drychawl ymdrechion.

Da beunydd yw'ch dybenion—unfrydawl,
Iawn frodyr heddychlon,
Cynnyddfawr, llwyddfawr, a llon,
Ddwysgu deg ddysgedigion.

Cawraidd bwysleiswyr cywrain—dir ydych,
Rydd d'rawiadol adsain,
Caiff pob gair, mawrair mirain,
Briodawl, gysonawl sain.

Nid diffaith goegwaith na gwegi—halog,
A heliwch yn wersi;
Ond gwaith iawn o goeth yni
Awduron breinlon eu bri.


Ewch y'mlaen drwy wych ymlyniad—grymus,
Yn myg rwymau cariad,
Lleufer mawr o'ch llafur mâd
Ga eraill yn gu wawriad.

Seithwell na doethwys Athen—dwys gydiwch
Mewn dysgeidiaeth drylen;
Boed pynciau eich llyfrau llên
Yn oleu a diniwlen.

Ymgyrhaedd am y gorau—a wneloch,
Yn ol eich talentau,
Ceir gweld llachar, glodgar, glau,
Urdduniant eich heirdd ddoniau.

Dilwgr a fo'r frawdoliaeth—heb goledd,
Bygylawg ddadleuaeth,
Nac aelod mewn ffregod ffraeth,
Flin yru am flaenoriaeth.

Cain addfwyn feib cynnyddfawr—a fyddoch,
A rhyfeddol glodfawr;
Gwyliwch yn ffel hyd elawr,
Fwy fwy, rhag chwyddo'n V fawr.

Yn bybyr, arwyr eirian,—dihalog,
Y deloch yn fuan;
Parch hynod, a chlod achlân,
Ennilloch o hyn allan.

Athrawon doethion a da—synwyrol,
Sy'n awr yn y Bala,
Michael a John union, a
Llewelyn, bri holl Walia.


Nodiadau

[golygu]