Diliau Meirion Cyf I/Mary Jones, merch fechan Mr. a Mrs. Jones, Liverpool House, Dolgellau
Gwedd
← Calenig i Gymdeithas Lenyddol y Bala | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Job xiv → |
MARY JONES,
Merch fechan Mr. a Mrs. Jones, Liverpool House Dolgellau.
MAIR seirian, O mor siriol—a thelaid,
Yw'th olwg serchiadol;
Mae'th ruddiau mwyth ireiddiol,
A'u lliw'n deg fel meillion dol.
Mair ddestlus foddus ni fu—dewr eneth
Dirionach yn Nghymru;
Dy fam a'th dad ceinfad cu
Fywiogant wrth dy fagu.