Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Caseg Ddu Capt. Anwyl, Brynadda, Dolgellau

Oddi ar Wicidestun
Diolchgarwch am у rhodd Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Cwynfan y Bardd pan ladratawyd ei arfau ef a'i weithwyr

CASEG DDU CAPT. ANWYL,
BRYNADDA, DOLGELLAU,
Yr hon a elwid Gipsey, ac a gyrhaeddodd yr oedran o 37

GIPSI yn wisgi wnai waith—tair caseg,
Tra ceisiodd, ar unwaith;
Heb orphwys bu fyw'n berffaith
Droediog, sionc, dri deg a saith.

Carlamai, neidiai'n ofnadwy—ysgafn,
Pan wisgid ei chyfrwy;
Nid ofnai, hi dreiddiai drwy
Goedwig 'run fath ag adwy.


Er ei hanferth nerth dinych—byw iawndrefn,
A'i buandra hoewwych,
Yn gyflawn oed rhoed mewn rhych
I fraenu—llen fireinwych.


Nodiadau

[golygu]