Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Diolchgarwch am у rhodd

Oddi ar Wicidestun
I ofyn Ysgyfarnog gan Thomas Hartley, Ysw Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Caseg Ddu Capt. Anwyl, Brynadda, Dolgellau

DIOLCHGARWCH AM Y RHODD.

Eich teg hoff anrheg, heb ffael,—iawn d'wedyd,
Nad ydoedd yn orwael,
Yma gefais i'm gafael
Ar g'oedd, a gwych oedd ei chael.

Mi gefais am ei gofyn—loew geinach
O law gannerth ddichlyn
Y bardd hael, e barodd hyn
Lawenydd i wael annyn.

Glân geinach holliach oedd hi—gu ddilwgr
A ddaliwyd gan filgi;
Yn ei gwar y cydiai'r ci,
Treiddiodd ei ddannedd trwyddi.

Yr heliwr dewr a hylaw—yn nwydwyllt
A neidiodd i'w chipiaw

O'i safn gerth, a'i lyfnferth law,
Ar hoewgais, cyn ei rhwygaw.

Ac yna gyru'r geinach—a wnaethoch
Yn eitha' dirwgnach,
Yn anrheg hardd i'r bardd bach,
Llwyd ofydd, sy'n lled afiach.

'Roedd arni gig lawn digon—hawdd addef,
I ddeuddeg o ddynion;
Ar air, bu'r plant a'r wyrion
Ryw hyd yn gwledda ar hon.

Minnau ar eiriau'r awr'on—diolwch
A dalaf o'm calon
I'r hedd ynad, pen llâd llon,
Mawreddog, am ei roddion.


Nodiadau

[golygu]