Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Cofgolofn Dafydd Ionawr yn mynwent Dolgellau

Oddi ar Wicidestun
Priodas Mr. Robert Pugh, a Miss Anne Jones Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Gwallt gwyn hen gyfaill

COFGOLOFN DAFYDD IONAWR,
YN MYNWENT DOLGELLAU.
A wnaed ar draul y Parch. J. Jones, M.A. Borthwnog.

EURFYG gofgolofn erfawr—gre' foddawg,
Ar fedd Dafydd Ionawr,
Gywrain wych, a geir yn awr,
O galedfain gwiw glodfawr.

Cofgolofn bardd, hardd yw hon—llawn addurn,
Lle noddir gweddillion
Corff mawr arwr craff Meirion—lladmerydd,
Mwyn dêr awenydd yn min dw'r Wnion.

Gwir enwog bur gywreinwaith—neud ydyw
Nodedig o berffaith;
Ni welir un manylwaith
Cadarnach na choethach chwaith.

Diodid, er mor glodadwy,—gwelir
Y golofn safadwy,
Mydrau'r bardd mâd profadwy
Sydd ganmil a milfil mwy.


Ei chweg gain wiwdeg ganiadon—gorwych,
A gerir gan Frython
Tra rhed dw'r, tra rhua tòn,
A'r môr wrth odre Meirion.

Mewn bri, fel meini mynawr,—hyd foreu
Adferiad o'r dulawr,
Y gu lefn ferth golofn fawr,
Bydd yna uwch bedd Ionawr.


Nodiadau

[golygu]