Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Gwallt gwyn hen gyfaill

Oddi ar Wicidestun
Cofgolofn Dafydd Ionawr yn mynwent Dolgellau Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Mynediad y Bardd mewn cwch i Abermaw

GWALLT GWYN.
A gyfansoddwyd wrth edrych ar hen gyfaill.

Yn ben coch y bu'n cychwyn—ac eilwaith
Fe'i gwelwyd yn felyn,
Gwyddys fod gwallt y gwiwddyn,
Hawdd i ni weld, heddyw'n wyn.

E rydd hyn arwydd hynod—tra eglur,
Mai trigle y beddrod
Yw'r fan cei'n bur fuan fod,
Dy yrfa sydd bron darfod.


Nodiadau

[golygu]