Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Mynediad y Bardd mewn cwch i Abermaw

Oddi ar Wicidestun
Gwallt gwyn hen gyfaill Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Blwydd yn lladd dwyflwydd

MYNEDIAD
Y BARDD MEWN CWCH I ABERMAW.

DAETHOM yn hawdd hyd Fawddach—dan hwbian
Heibio Aberamffrach;
Yn bwyllig ni gawn bellach
Laniaw yn Abermaw bach.


Nodiadau

[golygu]