Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Crist, Bara y Bywyd

Oddi ar Wicidestun
Pleserau'r byd Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Cymmod drwy Grist

CRIST, BARA Y BYWYD

Myfi yw Bara'r Bywyd,
Medd Crist, y Meddyg da,

Yr hwn sy'n dyfod ataf,
Newynu byth ni wna;
A'r hwn sy'n credu ynof,
Ni wna sychedu chwaith,
Caiff yfed dyfroedd bywiol
I dragwyddoldeb maith.


Nodiadau

[golygu]