Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Pleserau'r byd

Oddi ar Wicidestun
Gwerthfawredd duwioldeb Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Crist, Bara y Bywyd

PLESERAU'R BYD

PE caem bleserau pena'r byd,
A'i holl brif olud euraid,
Ni wnaent weinyddu un llesâd
Na dim gwellâd i'r enaid.

Y pethau gorau fedd y byd,
Nid ynt i gyd ond gwagedd;
Ond cyfoeth gras trwy ddwyfol Iawn
Sydd oll yn llawn o sylwedd.

Gan hyny, na adawed neb
Yr enaid heb wirionedd;
Ond mynwn drysor pur dilyth,
A bery byth heb ddiwedd.


Nodiadau

[golygu]