Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Gwerthfawredd duwioldeb

Oddi ar Wicidestun
Ymrysoniadau Ysbryd Duw Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Pleserau'r byd

GWERTHFAWREDD DUWIOLDEB

DUWIOLDEB sydd yn fuddiol iawn,
A chanddi'n gyflawn hefyd
Addewid sicr o'r bywyd sydd,
A'r hwn a fydd mewn eilfyd.

Duwioldeb sydd yn elw mawr,
Mae'n drysor gwerthfawr beunydd,
Boddlonrwydd a thangnefedd gwiw
A ddyry i'w meddiannydd.


Nodiadau

[golygu]